Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae 30% o bobl wedi cael apwyntiad gyda meddyg teulu ers mis Ebrill 2020. Roedd 91% o'r rhai a gafodd ymgynghoriad dros y ffôn yn fodlon â'r gofal a gawsant, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst. Mae 14% o bobl wedi cael apwyntiad ysbyty ers mis Ebrill 2020. Yn y cyfnod hwnnw, roedd 82% o apwyntiadau ysbyty yn rhai wyneb yn wyneb.

Dywedodd 33% o bobl fod eu hiechyd yn dda iawn, a 46% fod eu hiechyd yn dda.

Mae 4% o bobl yn ofalwyr, ac mae 3% yn ddefnyddwyr gofal. Dywedodd 82% o bobl sydd wedi cael gofal cymdeithasol ers dechrau mis Ebrill fod y gwasanaethau cymorth yn ardderchog neu'n dda.

Dywedodd 13% o bobl eu bod yn credu eu bod wedi cael COVID-19 (y coronafeirws) ar ryw adeg, lefel debyg i’r hyn ydoedd ym mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst 2020.

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod canran y bobl a ddywedodd eu bod yn meddwl eu bod wedi cael y coronafeirws yn lleihau bob mis, o 17% ym mis Mehefin i 13% ym mis Medi.

Smygu

Dywedodd 11% o bobl eu bod yn smygu ar hyn o bryd. Dywedodd 31% o smygwyr eu bod wedi bod yn smygu mwy nag arfer yn y tri mis diwethaf, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst. Dywedodd 42% o smygwyr eu bod wedi smygu’r un faint ag arfer yn y tri mis diwethaf a dywedodd 27% eu bod wedi smygu llai nag arfer.

Image
Mae Siart 2 yn dangos, yn 2019-20, fod 17% o bobl yn dweud eu bod yn smygu ar hyn o bryd, gyda chanrannau is yn cael eu hadrodd yn arolygon misol 2020.

 

Dywedodd 28% o smygwyr eu bod wedi ceisio rhoi’r gorau i smygu yn y tri mis diwethaf, i fyny o 19% ym mis Awst.

Gweithgarwch corfforol

Dywedodd 13% o bobl eu bod yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst a mis Gorffennaf.

Dywedodd 86% o bobl eu bod wedi bod allan am dro yn yr wythnos ddiwethaf, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst a mis Gorffennaf.

Dywedodd 61% bobl eu bod wedi bod yn actif am o leiaf 150 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst a mis Gorffennaf ac i fyny o 53% yn 2019-20. Mewn gwrthgyferbyniad, dywedodd 24% o bobl eu bod wedi bod yn actif am lai na 30 munud yn ystod yr wythnos flaenorol, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst a mis Gorffennaf ac i lawr o 33% yn 2019-20.

Cyflogaeth

Mae 56% o bobl yn gweithio am dâl. Mae 3% o aelwydydd yn cynnwys rhywun sydd ar ffyrlo, i lawr o 6% ym mis Awst.

Mae 66% o weithwyr yn cytuno bod y coronafeirws wedi achosi problemau yn eu bywyd gwaith.

Y sefyllfa waith

Dywedodd 36% o weithwyr eu bod yn gallu gwneud y rhan fwyaf o’u gwaith, neu eu gwaith i gyd, gartref, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst (37%).

Ymdeimlad o gymuned

Mae 75% o bobl yn cytuno: eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch. Mae hyn wedi cynyddu o 52% yn 2018-19.

Biliau

Mae 3% o bobl yn mynd ar ei hôl hi gyda biliau, neu’n cael trafferth yn gyson i dalu biliau, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst.

Mae 6% o bobl wedi trefnu seibiant ad-dalu ar gyfer benthyciad neu fil, canran debyg i’r hyn ydoedd ym mis Awst.

Credyd Cynhwysol

Dywedodd 8% o bobl eu bod wedi cael taliadau Credyd Cynhwysol yn y tri mis diwethaf.

Dywedodd 4% eu bod wedi cael bwyd o fanc bwyd oherwydd diffyg arian neu wedi bod eisiau cael bwyd o fanc bwyd.

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhaliwyd cyfweliadau ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan o’r blaen yn Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn cyfweliad wyneb yn wyneb.  Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai'r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi fel Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer (llythyr cadarnhau). Y tro diwethaf i'r ystadegau hyn gael eu cynnal oedd asesiad llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016. Mae'r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Scott Armstrong
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 36/2020