Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Dod o Hyd i Brentisiaeth a Rheoli Prentisiaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dod o Hyd i Brentisiaeth

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Mae'r gwasanaeth Dod o Hyd i Brentisiaeth yn cael ei ddarparu gan Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol  Llywodraeth Cymru. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. At ddibenion deddfwriaeth diogelu data berthnasol, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir.

Pan fyddwch yn cofrestru ar y gwasanaeth, bydd yr wybodaeth bersonol a rowch i ni yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddol ac ymchwil.

Pa mor hir ydym yn cadw eich data

Mae angen i chi actifadu'ch cyfrif o fewn 48 awr o gofrestru, ac ar ôl hynny byddwn yn cadw eich data at y dibenion hyn am 12 mis ar ôl i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Os nad ydych wedi actifadu eich cyfrif o fewn 48 awr neu arwyddo i mewn i'ch cyfrif am 12 mis, fe wnawn ddileu eich cyfrif yn ddiogel a dileu eich manylion personol. Bydd angen i chi gofrestru eto i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Gallwch hefyd ofyn i'ch cyfrif gael ei ddileu drwy gysylltu â'r Tîm Prentisiaethau.

Gyda phwy ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

Er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth Dod o Hyd i Brentisiaeth, gallai eich cais am brentisiaeth neu hyfforddeiaeth gael ei rannu â sefydliad hyfforddi perthnasol a chyflogwr. Efallai y bydd y sefydliadau hyn yn cysylltu â chi fel rhan o'r broses ymgeisio.

Eich hawliau unigol

Mae'r gyfraith yn rhoi hawliau penodol i chi o ran eich data, gan gynnwys yr hawl i:

  • ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth bersonol y mae’r gwasanaeth Dod o Hyd i Brentisiaeth yn ei chadw amdanoch.
  • cwestiynu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch sydd, yn eich barn chi, yn anghywir neu'n anghyflawn. Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gael cywiro gwybodaeth bersonol.
  • ofyn i'ch cyfrif gael ei ddileu.

Rhagor o wybodaeth

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio’r manwylion isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

 

Rheoli Prentisiaethau

Sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

Darperir y dangosfwrdd Rheoli Prentisiaethau gan Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. At ddibenion deddfwriaeth diogelu data berthnasol, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir.

Pan fyddwch yn cofrestru ar y gwasanaeth, bydd y wybodaeth bersonol a rowch i ni yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddol ac ymchwil.

Pa mor hir ydym yn cadw eich data

Mae angen i chi actifadu'ch cyfrif o fewn 48 awr o gofrestru, ac ar ôl hynny byddwn yn cadw eich data at y dibenion hyn am 12 mis ar ôl i chi roi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Os nad ydych wedi actifadu eich cyfrif o fewn 48 awr neu arwyddo i mewn i'ch cyfrif am 12 mis, fe wnawn ddileu eich cyfrif yn ddiogel a dileu eich manylion personol. Bydd angen i chi gofrestru eto i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Gallwch hefyd ofyn i'ch cyfrif gael ei ddileu drwy gysylltu â'r Tîm Prentisiaeth.

Gyda phwy ydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol

Er mwyn galluogi cyflwyno'r dangosfwrdd Rheoli Prentisiaeth, gellir rhannu eich swydd wag ar gyfer prentisiaeth neu hyfforddeiaeth â sefydliad hyfforddi perthnasol a chyflogwyr eraill. Efallai y bydd y sefydliadau hyn yn cysylltu â chi fel rhan o'r broses ymgeisio.

Eich hawliau unigol

Mae'r gyfraith yn rhoi hawliau penodol i chi o ran eich data, gan gynnwys yr hawl i:

  • ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth bersonol y mae’r gwasanaeth rheoli dangosfwrdd prentisiaeth yn ei chadw amdanoch.
  • cwestiynu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch sydd, yn eich barn chi, yn anghywir neu'n anghyflawn. Gallwch gysylltu â ni i ofyn am gael cywiro gwybodaeth bersonol.
  • ofyn i'ch cyfrif gael ei ddileu.

Rhagor o wybodaeth

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru drwy ddefnyddio’r manylion isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru