Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad ar ddatblygiad masnachol bach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau am ddatblygiadau masnachol bach, er enghraifft newidiadau llawr gwaelod fel blaen siopau a chaeadau diogelwch.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ar ddatblygiad masnachol bach os ydych yn anghytuno ag ef.

Ni chodir ffi am apelio.

Dim ond y sawl a gyflwynodd y cais sy’n gallu apelio.

Terfyn amser ar gyfer apelio

Mae’n rhaid i chi apelio o fewn 12 wythnos o’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad gan eich awdurdod cynllunio lleol. Os ydych wedi cael hysbysiad gorfodi, mae’n rhaid i chi apelio o fewn 28 niwrnod o’r hysbysiad.

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un penderfyniad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.

Bydd hefyd angen i chi anfon copi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:

  • eich cais gwreiddiol
  • hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol
  • unrhyw gynlluniau, lluniadau neu ddogfennau sy’n ymwneud â’r cais na anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol
  • eich ffurflen apelio, os ydych yn apelio drwy’r post neu’r e-bost

Peidiwch ag anfon:

  • unrhyw gynlluniau, dogfennau neu luniadau sy’n ymwneud â diwygiadau i’r cais a wnaed ar ôl y penderfyniad

Bydd hefyd angen i chi gyflwyno unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol, er enghraifft eich datganiad llawn o’r achos

Gallwch lanlwytho’r dogfennau hyn pan fyddwch yn apelio ar-lein. Neu gallwch eu hanfon at yr Arolygiaeth Gynllunio drwy’r post neu’r e-bost.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cymru@planninginspectorate.gov.uk

Gwneud sylwadau ar apêl

Ni all unrhyw un wneud sylwadau ar apêl yn erbyn penderfyniad ar ddatblygiad masnachol bach.

Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais gwreiddiol (‘partïon â buddiant’) fod apêl wedi cael ei chyflwyno.

Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn 5 niwrnod gwaith o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Darllenwch y canllaw manwl ar gymryd rhan mewn apêl.

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 8 wythnos o’r dyddiad dechrau fel arfer.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.