Apelio, chwilio neu wneud sylwadau am benderfyniad neu hysbysiad cynllunio.
Creu cyfrif
Bydd angen i chi greu cyfrif i gyflwyno neu wneud sylwadau ar apêl.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i apelio yn erbyn:
- penderfyniad gwrychoedd uchel
- penderfyniad ar orchymyn caniatâd cadw coed
- hysbysiad ailblannu coed
- penderfyniad caniatâd sylweddau peryglus
- hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus
- hysbysiad cynnal a chadw tir
Gofynion ffeiliau
Rhaid i chi fod â chaniatâd hawlfraint i ddefnyddio unrhyw luniadau neu ddogfennau eraill.
Gallwch lanlwytho dogfennau Word, delweddau neu ffeiliau PDF hyd at 15MB. Peidiwch ag anfon dolenni gwe i’r ffeiliau, anfonwch y ffeiliau eu hunain.
Rhaid i’r holl ffeiliau:
- fod yn ddogfen, atodiad neu ddelwedd unigol
- fod ag enwau ffeiliau sy’n disgrifio beth ydynt