Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn hysbysiad ardoll seilwaith cymunedol o dan Reoliad 117, 118 neu 119.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Gallwch apelio yn erbyn gordal (Rheoliad 117) a osodwyd gan yr awdurdod sy’n casglu’r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Gallwch apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod sy’n casglu’r ardoll os ydych yn anghytuno â’r dyddiad cychwyn tybiedig a roddwyd yn yr Hysbysiad Galw am Dalu (Rheoliad 118).

Gallwch apelio yn erbyn cyflwyno hysbysiad stop Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) (Rheoliad 119).

Terfyn amser ar gyfer apelio

  • mae’n rhaid i apeliadau yn erbyn gordal (Rheoliad 117) gael eu cyflwyno o fewn 28 niwrnod o’r gordal
  • mae’n rhaid i apeliadau yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod sy’n casglu’r ardoll sy’n tybio bod y datblygiad wedi cychwyn (Rheoliad 118) gael eu cyflwyno o fewn 28 niwrnod o’r dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad
  • mae’n rhaid i apeliadau yn erbyn hysbysiadau stop CIL gael eu cyflwyno o fewn 60 niwrnod o’r dyddiad y daw’r hysbysiad i rym

 

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 27 wythnos fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:

Ar gyfer apeliadau Rheoliad 117

  • llythyr yr awdurdod casglu sy’n gosod gordal
  • hysbysiad atebolrwydd yr awdurdod casglu (os yw’n berthnasol)

Ar gyfer apeliadau Rheoliad 118

  • hysbysiad galw am dalu’r awdurdod casglu

Ar gyfer apeliadau Rheoliad 119

  • yr hysbysiad stop CIL
  • hysbysiad rhybuddio’r awdurdod casglu (os yw’n berthnasol)

Ar gyfer pob apêl

  • seiliau llawn yr apêl
  • penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad perthnasol
  • yr holl ohebiaeth arall â’r awdurdod casglu/codi tâl sy’n ymwneud â’r taliad CIL
  • cynllun safle (map Arolwg Ordnans ar raddfa nad yw’n llai na 10,000)
  • eich ffurflen apelio (os ydych yn apelio drwy’r post neu’r e-bost)

Gallwch anfon eich ffurflen apelio a’ch dogfennau at yr Arolygiaeth Gynllunio drwy’r post neu’r e-bost.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cymru@planninginspectorate.gov.uk 

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl ardoll seilwaith cymunedol.

Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 2 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon copi o’r ffurflen apelio a’r dogfennau ategol at y partïon â buddiant (gan gynnwys yr awdurdod casglu).

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth yw’r dyddiad dechrau, beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 27 wythnos fel arfer pan fydd eich apêl wedi dechrau.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.