Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn cais am addasu neu ryddhau rhwymedigaeth gynllunio (A106).

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Mae’r awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau i addasu neu ryddhau rhwymedigaethau cynllunio o dan A106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mae apeliadau i addasu neu ryddhau rhwymedigaeth gynllunio yn Apeliadau A106B.

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad:

  • os ydych yn anghytuno ag ef;
  • os na wnaed penderfyniad o fewn y terfyn amser a bennwyd

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae’r broses A106B yn dilyn egwyddorion rheoliadau apelau 2017 .

Gallwch anfon eich ffurflen apelio a’ch dogfennau at yr Arolygiaeth Gynllunio drwy’r post neu’r e-bost.

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Cymru@planninginspectorate.gov.uk

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl A106B.

Mae’n rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais gwreiddiol (‘partïon â buddiant’) fod apêl wedi cael ei chyflwyno, a’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau.

Ar ôl i chi apelio

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, fel arfer.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.