Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths ac Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru yn annog busnesau bwyd a diod yng Nghymru i gynllunio ar gyfer Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Byddan nhw'n rhybuddio busnesau bwyd a diod i baratoi ar gyfer yr amrywiaeth eang o heriau fydd yn ein hwynebu ar ôl Brexit, waeth a ydyn nhw'n allforio i'r UE neu beidio, mewn llythyr ar y cyd sy'n cael ei anfon at fusnesau heddiw.

Gallai'r heriau a'r newidiadau hynny gynnwys ffynonellau deunyddiau crai, rheoliadau, cyfnewid arian, llif arian neu bolisi tollau.

Mae'r llythyr ar y cyd yn rhoi busnesau ar ben ffordd o ran ble i gael cyngor, arweiniad a help ac yn dangos wyth peth y gall busnesau eu gwneud i baratoi ar gyfer gadael yr UE ar 31 Hydref. 

Gallai ffynonellau cyngor gynnwys gwefan Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, llinell gymorth Busnes Cymru, gwefan Paratoi Cymru a'r Prosiect Cywain. 

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Rydyn ni'n cynghori busnesau bwyd a diod yn gryf i baratoi bob ffordd bosibl cyn y diwrnod y disgwylir i'r DU adael yr UE ar 31 Hydref. Mae llawer o gymorth, arweiniad a gwybodaeth ar gael allai helpu gyda'r heriau sy'n eu hwynebu yn y cyfnod wedi Brexit. 

"Mae'n bwysig eu bod yn sylweddoli y gallen nhw effeithio ar eu busnesau, os ydynt yn masnachu â'r Undeb Ewropeaidd neu beidio, gan ei bod yn debygol y bydd llawer o broblemau, rhai ohonynt yn annisgwyl, i ddelio â nhw.

"Rydyn ni yn y sefyllfa hon gyda'n gilydd, a dyna pam rydyn ni wedi ymuno â Bwrdd Bwyd a Diod Cymru, fel y gallwn gefnogi busnesau ym mhob ffordd posibl wrth inni baratoi i ymadael â'r UE.

Dywedodd Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Bwyd a Diod Cymru:

"Fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd y DU yn ymadael â'r UE wedi 31 Hydref. Bydd pob busnes bwyd a diod yng Nghymru yn teimlo'r effaith mewn rhyw ffordd ac rwyf am i bawb ddeall yr effeithiau hyn nawr a pharatoi cymaint â phosibl. 

"Dwi'n deall ei bod yn anodd cynllunio ar gyfer Brexit a'i fod yn broblem fawr i nifer o fusnesau, yn enwedig ein mentrau llai, ond mae'n rhaid gwneud hyn neu gallai busnesau ddioddef. 

“Mae cymorth i'w gael gyda'r cyngor sydd gennym yn ein llythyr ar y cyd, ond mae'n rhaid ichi weithredu nawr i leihau yr effaith a gaiff hyn ar eich busnesau. Dylech gynllunio ar gyfer Brexit mewn 4 cam - y gadwyn gyflenwi, rheoliadau, arian a chyngor. 

"Nid yw yr un ohonon ni'n gwybod beth fydd canlyniad Brexit, ond nid yw hynny'n esgus i beidio â chynllunio."
Halen Môn, yw un o'r busnesau sy'n paratoi ar gyfer Brexit. Mae'r cwmni, a sefydlwyd yn 1996 ac sydd ag Enw Tarddiad Gwarchodedig ar gyfer Halen Môn, wedi edrych yn drylwyr ar ei gadwyni cyflenwi ac wedi ceisio lliniaru effeithiau negyddol ar ei fusnes." 

Meddai Alison Lea-Wilson, sy'n rhedeg y cwmni:

“Mae'r UE yn bwysig iawn i ni, nid yn unig ar gyfer masnachu ond ar gyfer y marc Enw Tarddiad Gwarchodedig hefyd.”

Mae wedi annog busnesau eraill i baratoi ym mhob ffordd y gallant:

"Edrychwch ar eich cynhwysion a’ch pecynnau, a pheidiwch ag anghofio am eich peiriannau. Cadwch olwg ar y tariffau posibl a'r gofynion labelu. Mae llawer o wybodaeth ar gael, ond mae angen yr amser a'r awydd i edrych arni."

Mae Nerys Edwards yn rhedeg Syren Shellfish, cwmni pysgod cregyn sy’n prynu cynnyrch byw oddi wrth oddeutu 50 o bysgotwyr o Aberystwyth i Abertawe.

Drwy'r cyngor y mae wedi'i gael o wefannau sy'n paratoi ar gyfer Brexit, mae'n credu bod y cwmni bellach yn barod am y newidiadau a allai ddod wrth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

“Wrth lwytho pysgod cregyn byw mae amser yn hollol dyngedfennol.

“Dw i wedi cyflogi aelod arall o staff i gofnodi’r wybodaeth o swyddfa o bell, sy’n rhywbeth na allaf i ei wneud pan wyf yn glanio cynnyrch ger y cei, yn ceisio gwneud y ffigurau, graddio pysgod a’u llwytho a hithau'n arllwys y glaw.

“Dw i’n tynnu ffotograff o anfoneb pob pysgotwr, ac yn ei anfon ati drwy WhatsApp, fel y gall hi ei lanlwytho i gyfrifiadur a chreu Tystysgrif Dalfa'r DU. Mae hyn wedyn yn golygu y gallaf i gael fy Nhystysgrif Iechyd Allforio, a gall fy lori adael y cei.”

Ychwanegodd ynghylch y cyngor sydd ar gael:

“Mae'n dreth ar amser ond mae'n syndod, unwaith eich bod yn eistedd i lawr ac yn deall yr holl beth, mae’n ysgafnhau ychydig ar y pwysau oherwydd eich bod yn gwybod eich bod wedi gwneud eich gorau i baratoi.”

Ychwanegodd Lesley Griffiths:

“Mae Halen Mon a Syren Shellfish wedi gwneud yn ardderchog gan sicrhau eu bod wedi paratoi ar gyfer y dyfodol, ond mae angen i eraill wneud yr un modd fel y gall busnesau ddibynnu ar y gadwyn gyflenwi yn eu diwydiannau hwythau.”

Wyth o ffyrdd y gall busnesau baratoi ar gyfer Brexit

  1. I gael cymorth ac arweiniad edrychwch ar porth Brexit Busnes Cymru 
  2. Gallwch gael cyngor hefyd ar Linell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000.
  3. Gallwch hefyd gadw'ch bys ar byls y datblygiadau trwy ddilyn cyfrif trydar Busnes Cymru, @_busnescymru
  4. Cofrestru am daflen newyddion ddigidol Bwyd a Diod Cymru 
  5. Am gyngor personol cysylltwch â Prosiect Cywain cywain@menterabusnes.co.uk
  6. Am yr arweiniad diweddaraf am y newidiadau sy'n digwydd i fusnesau mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, ewch i wefan Paratoi Cymru
  7. Am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys am y tystysgrifau newydd sydd eu hangen edrychwch ar ar tudalennau Gov.UK ar Canllawiau Brexit a pharatoi ar gyfer newidiadau ar ffin y DU
  8. Bydd gan weithwyr o' r UE tan 31 Rhagfyr 2020 i wneud cais am statws preswylydd sefydlog. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan Paratoi Cymru