Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae angen nodi eich da byw y bwriedir eu hallforio i’r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth mae angen i mi ei wneud os wyf am allforio da byw i'r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen?

O 1 Ionawr 2021 ymlaen bydd allforion da byw i'r UE yn parhau, ond bydd angen ichi ddilyn rhai rheolau ychwanegol ar dagio clustiau.

Ar hyn o bryd mae'r holl dda byw yn y Deyrnas Unedig yn cael eu nodi â’r rhagddodiad 'UK' cyn rhif adnabod unigol yr anifail.  Mae’r rhagddodiad ‘UK’ yn cael ei ddefnyddio fel talfyriad ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac yn cael ei gydnabod o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Fodd bynnag, ar ôl inni adael yr UE bydd yn rhaid inni ddefnyddio ein cod gwlad dwy lythyren swyddogol gan yr ISO (Sefydliad Safoni Rhyngwladol) sef 'GB'.

Rydym yn eich cynghori i gadarnhau bod eich trefniadau adnabod yn cydymffurfio â gofynion y mewnforiwr cyn i'r anifeiliaid adael eich daliad. Hefyd bydd angen nodi da byw sy'n cael eu symud i Ogledd Iwerddon â thag GB gweledol.

Sylwer: Dylai fformat presennol tagiau’r DU barhau i gael eu defnyddio ar gyfer cofnodi genedigaethau, marwolaethau a symudiadau anifeiliaid ar EIDCymru, Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) a’r Gwasanaeth moch (eAML2).

Defaid: defnyddio tag allforio GB ychwanegol neu ddefnyddio tagiau Eid llawn gweledol ac arnynt ‘UK’ a ‘GB’

Mae defaid yn cael eu tagio ddwywaith â thagiau clust y DU. Tag adnabod electronig (EID) yw un o'r rhain ac mae un yn weledol. Rhaid nodi defaid neu ŵyn y bwriedir eu hallforio'n fyw ag EID llawn.

Mae’r diwygiadau i’r tagiau sy’n ofynnol ar gyfer defaid y bwriedir eu hallforio i’r UE fel a ganlyn:

Dull adnabod presennol Dull adnabod ar gyfer allforio
Heb gael eu nodi Defnyddio tagiau EID llawn newydd â’r rhagddodiad 'UK', rhif adnabod yr anifail ynghyd â'r ôl-ddodiad 'GB'
EID llawn Defnyddio trydydd tag (rheoli) â'r rhagddodiad 'GB' wedi’i ddilyn â rhif adnabod presennol yr anifail. Rhaid argraffu'r tag hwn a gall fod yn unrhyw liw ac eithrio melyn neu goch.
Tag lladd

I'w dynnu a'i ddisodli â thag EID llawn newydd â’r rhagddodiad 'UK', rhif adnabod yr anifail ynghyd a’r ôl-ddodiad 'GB'.
Os yw'r ŵyn yn dal i fod ar y daliad eu geni, rhaid i'r tagiau EID llawn fod yn felyn, ond ar gyfer pob oen sy'n cael ei ailnodi oddi ar y daliad ei eni, rhaid i'r tagiau EID newydd fod yn goch.

Nid oes unrhyw ofynion ynglŷn â'r math o dag gweledol a ddefnyddir (er enghraifft tagiau dolen/plygu drosodd, baner neu fotwm).

Gwartheg: defnyddio tag allforio ychwanegol, neu ddefnyddio tagiau dwbl ac arnynt ‘UK’ a ‘GB’

Mae gwartheg yn cael eu tagio ddwywaith â thagiau clust cymeradwy sy'n cynnwys y cod gwlad ‘UK’ a rhif adnabod unigol yr anifail.

Mae'r diwygiadau i'r tagiau sy'n ofynnol ar gyfer gwartheg y bwriedir eu hallforio i'r UE fel ganlyn:

Dull adnabod presennol Dull adnabod ar gyfer allforio
Heb gael eu nodi Defnyddio pâr o dagiau’r DU â’r rhagddodiad 'UK’ a rhif adnabod yr anifail. Rhaid i'r prif dag gynnwys ‘UK’ yn unig ond rhaid i'r ail dag gynnwys yr ôl-ddodiad 'GB'.
Dau dag Defnyddio trydydd tag (rheoli) â'r rhagddodiad 'GB' wedi’i ddilyn â rhif adnabod presennol yr anifail. Rhaid i’r tag hwn fod yn dag plastig wedi’i argraffu.

Nid oes unrhyw ofynion ynglŷn â'r math o dag (er enghraifft tag baner neu dag botwm).

Ni fydd angen pasbort ar wartheg mwyach wrth iddynt gael eu hallforio i aelod-wladwriaeth, a bydd angen ichi ddychwelyd pasbortau i'r BCMS o fewn saith diwrnod i'w hallforio. Mae dal angen pasbort ar wartheg sy’n symud i Gogledd Iwerddon.

Os ydych yn allforio gwartheg i'w lladd, mae angen rhewfrandio ‘L’ ar eu rhan-ôl hefyd.

Moch: rhaid i dagiau clust gweledol gynnwys ‘GB’

Fel arfer, mae moch yn cael eu nodi fesul llwyth â marc eu cenfaint, gan ddefnyddio slapfarciau dwbl (tatŵs ysgwydd). Gall rhai moch gael eu nodi yn unigol, fel arfer ag un tag clust, er enghraifft:

  • moch sy’n cael eu harddangos
  • moch sy’n cael eu symud i ganolfannau ffrwythloni artiffisial

Bydd angen tag clust neu datŵ ar foch y bwriedir eu hallforio i’r UE:

Dull adnabod presennol Dull adnabod ar gyfer allforio
Heb gael eu nodi Defnyddio tag gweledol â’r rhagddodiad 'UK' marc y genfaint, rhif yr anifail ynghyd â’r ôl-ddodiad 'GB', NEU datŵ ac arno’r rhagddodiad 'UK', marc y genfaint, rhif yr anifail â’r ôl-ddodiad 'GB'.
Tag clust neu datw Defnyddio trydydd tag (rheoli) â'r rhagddodiad 'GB' wedi’i ddilyn â rhif adnabod presennol yr anifail. Rhaid argraffu’r tag hwn.

 

Geifr

Mae nodi geifr yn electronig yng Nghymru yn wirfoddol. Ond, wrth eu hallforio, rhaid iddynt gael tag EID â’r cod gwlad ISO ‘GB’ yn ogystal â rhif adnabod unigol yr anifail.

Ble gallaf gael y tagiau hyn?

Bydd eich cyflenwr tagiau clust arferol yn gallu cyflenwi'r tagiau hyn, ond dylech ddweud wrtho eu bod ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu hallforio i'r UE.

Byddant yn argraffu'r tagiau ac yn eu hanfon atoch yn y ffordd arferol. Gallwch roi'r tagiau ar yr anifail a chofnodi eich bod wedi gwneud hynny yng nghofrestr eich daliad. Yna gellir allforio'r anifail yn y modd arferol.

Dylech ganiatáu tri i chwe diwrnod ar gyfer y broses hon, er mwyn caniatáu amser i'ch cyflenwr tagiau gynhyrchu ac anfon eich tagiau.