Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd o dan adrannau 145 a 169 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

1. Rhaglith

1.1.    Mae Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (‘Deddf 2014’) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoliadau sy’n nodi eu ffurf, y materion sydd i’w cynnwys, a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer cynnal asesiadau o sefydlogrwydd y farchnad. Nodir y materion hyn yn Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 ('y Rheoliadau’). 

1.2.    Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 mewn ffordd sy’n golygu bod rhaid llunio a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad ar batrwm rhanbarthol, gydag awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn cydweithio drwy'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae cyfansoddiad, rôl a swyddogaethau Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cael eu hegluro mewn canllawiau statudol ar drefniadau partneriaeth mewn perthynas â Rhan 9 o Ddeddf 2014

1.3.    Mae dwy ran i’r ddogfen hon: 

  • rhan 1 (penodau 2-5) sef cod ymarfer i awdurdodau lleol ar arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Mae'n nodi'r dull y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei ddefnyddio, ar y cyd â Byrddau Iechyd Lleol a phartneriaid eraill y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, i baratoi a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer ardal eu Bwrdd Partheriaeth Rhanbarthol
  • rhan 2 (pennod 6) sef canllawiau statudol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar weithio mewn partneriaeth drwy’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i baratoi ac i gyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad

Ar gyfer pwy mae’r ddogfen hon? 

1.4.    Prif gynulleidfa'r ddogfen hon yw awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, yn eu rôl fel partneriaid statudol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Fodd bynnag, bydd y ddogfen hefyd o ddiddordeb i asiantaethau a sectorau partner eraill a gynrychiolir ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gan gynnwys y trydydd sector, darparwyr gofal a chymorth, cynrychiolwyr tai, dinasyddion sydd angen gofal a chymorth a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Y bwriad yw y bydd adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cael eu cydgynhyrchu gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar batrwm rhanbarthol, ac mae'r cod a chanllawiau yn cynnwys gofynion ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid wrth eu llunio. Gwahoddir partneriaid eraill ar y Bwrdd i nodi'r gofynion yn y ddogfen hon, ac i ddefnyddio'r canllawiau hyn i lywio eu hymwneud eu hunain â llunio’r adroddiad ar gyfer eu rhanbarth. Mae rôl y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a'r trefniadau llywodraethu sy'n ymwneud ag adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad wedi'u cynnwys yn benodol yn Rhan 2.

1.5.    Mae’r cod ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol (Rhan 1) yn cael ei gyhoeddi o dan adran 145 o Ddeddf 2014, sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi codau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol sy’n gweithio mewn partneriaeth i arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, weithredu’n unol â’r gofynion yn y cod hwn. Nid yw adran 147 o Ddeddf 2014 (gwyro oddi wrth y gofynion yn y codau) yn berthnasol i unrhyw ofynion sydd yn y cod hwn, felly mae’n rhaid dilyn y cod hwn yn llawn. Mae’r cod yn disgrifio sut bydd awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau o sefydlogrwydd y farchnad, a beth sydd angen ei gynnwys yn yr adroddiadau hynny. Mae’n disgrifio sut mae adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn berthnasol i asesiadau o anghenion y boblogaeth a chynlluniau ardal, ac yn nodi’r amserlen ar gyfer cynnal asesiadau a chyflwyno’r adroddiadau.

1.6.    Mae’r canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol (Rhan 2) yn cael eu cyhoeddi o dan adran 169 o Ddeddf 2014, ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol roi sylw iddynt. Mae’r canllawiau’n ymdrin yn benodol â'r trefniadau partneriaeth ar gyfer llunio a chyhoeddi adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, a bwriedir ei ddarllen ar y cyd â'r cod ymarfer.  

1.7.    Yn y cod ymarfer a’r canllawiau statudol, mae gofyniad yn cael ei fynegi fel rhywbeth y mae’n rhaid neu y mae’n rhaid peidio ei wneud. Mae’r canllawiau’n cael eu mynegi fel ‘gellir’ a ‘ni ellir’ neu ‘dylid’ a ‘ni ddylid’. 

1.8.    Dylid darllen y cod a’r canllawiau hyn ar y cyd â’r cod ymarfer a’r canllawiau ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a threfniadau partneriaeth mewn perthynas â Rhan 2 o Ddeddf 2014, yn enwedig penodau 2A a B sy’n ymdrin ag asesiadau o anghenion y boblogaeth.

Ymgynghori

1.9.    Mae Adran 144B yn gosod dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ag unrhyw bersonau, fel y bo’n briodol yn eu tyb hwy, cyn gwneud rheoliadau ar faterion eraill yn ymwneud â gwasanaethau rheoleiddiedig sydd i’w cynnwys yn yr asesiad o sefydlogrwydd y farchnad. Wrth ddatblygu’r Rheoliadau a’r cod ymarfer / canllawiau statudol hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau â’i harfer o weithredu Deddf 2014 mewn ffordd sy’n ymgysylltu’n llawn â rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i'r sefydliadau a'r unigolion hynny a ymatebodd i'r ymgynghoriad ac fu’n aelodau o'r grŵp cyfeirio. 

Rhan 1  Cod ymarfer

2. Y fframwaith cyfreithiol

2.1.    Mae'r bennod hon yn crynhoi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

2.2.    Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('Deddf 2014') yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol Deddf 2014 yw: 

  • llais a rheolaeth – rhoi'r unigolyn a'i anghenion wrth wraidd eu gofal, a rhoi llais a rheolaeth iddynt dros gyflawni eu canlyniadau llesiant 
  • atal ac ymyrraeth gynnar – cynyddu gwasanaethau ataliol o fewn y gymuned i leihau achosion o anghenion hanfodol yn cael eu dwysáu
  • llesiant – cefnogi pobl i gyflawni eu llesiant eu hunain a mesur llwyddiant gofal a chymorth
  • cydgynhyrchu – annog unigolion i gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a chyflawni gwasanaethau. 

2.3.    Mae datganiad o ganlyniadau a mesurau llesiant wedi'i gyhoeddi gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 o Ddeddf 2014. Mae’r datganiad yn disgrifio'r canlyniadau llesiant cenedlaethol i bobl sydd angen gofal a chymorth ac i ofalwyr sydd angen cymorth. Mae’n adeiladu ar y diffiniad o lesiant yn Neddf 2014, ac yn disgrifio’r canlyniadau llesiant cenedlaethol mewn perthynas â phob agwedd ar fywyd unigolyn. Fe’i cyhoeddwyd i feithrin dealltwriaeth gyffredin o lesiant ar draws pob asiantaeth, er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd tuag at yr un canlyniadau. Bydd llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth yn cael ei fonitro’n flynyddol gan Lywodraeth Cymru drwy’r fframwaith canlyniadau cenedlaethol a gyhoeddwyd fis Chwefror 2019. Mae'r fframwaith, sy’n cynnwys y canlyniadau llesiant, ar gael.

Adran 144B

2.4.    Mae'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad wedi'i chynnwys yn adran 144B o Ddeddf 2014, ac fe'i mewnosodwyd gan adran 56 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('Deddf 2016’). Felly, mae adran 144B yn rhan o gyd-destun ac egwyddorion ehangach Deddf 2014, ond fe'i bwriadwyd hefyd i weithio ar y cyd â’r darpariaethau goruchwylio'r farchnad yn Neddf 2016 (nad ydynt mewn grym ar hyn o bryd).  

2.5.    Mae adran 144B yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, sy'n cynnwys asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth; unrhyw fater arall sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau rheoleiddiedig fel a ragnodir gan reoliadau; a'r effaith ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol os yw’r awdurdod yn comisiynu unrhyw wasanaethau mewn cysylltiad â'r swyddogaethau hynny. Rhaid i’r adroddiad hefyd gynnwys unrhyw gamau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol yn ystod y cyfnod dan sylw yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014, i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion os bydd darparwr wedi methu â gwneud hynny.

2.6.    Wrth iddynt lunio eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, mae adran 144B yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried yr asesiad diweddaraf o anghenion y boblogaeth a'r cynllun ardal, a luniwyd o dan adrannau 14 a 14A o Ddeddf 2014.  Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â'r Bwrdd Iechyd Lleol y cynhaliwyd yr asesiad o anghenion y boblogaeth gydag ef. 

Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021

2.7.    Ategir y dyletswyddau yn adran 144B gan y Rheoliadau. Yn ogystal ag ymdrin â materion penodol a nodir yn adran 144B, mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 fel ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol gyflawni'r swyddogaethau hyn mewn partneriaeth ar draws yr ardal a gwmpesir gan fwrdd partneriaeth rhanbarthol. 

2.8.    Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad bob pum mlynedd, gyda’r adroddiadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi erbyn 1 Mehefin 2022. Bydd yr adroddiadau'n helpu i lywio a llunio'r cynllun ardal pum mlynedd nesaf, ynghyd â'r asesiad anghenion poblogaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. 

2.9.    Mae'r Rheoliadau’n pennu y dylai'r cyfnod ar gyfer asesu digonolrwydd y gofal a’r cymorth, ac effaith comisiynu a chyllido ar y ddarpariaeth neu ar wasanaethau rheoleiddiedig, fod yn bum mlynedd ers llunio’r asesiad diwethaf o anghenion y boblogaeth. Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar fylchau, effaith a gwersi a ddysgwyd. Bydd angen hefyd i’r asesiad digonolrwydd gysylltu â’r asesiad presennol (a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar) o anghenion y boblogaeth, sy’n nodi ystod a lefel y gwasanaethau y bydd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf ac yn asesu’r digonolrwydd yn erbyn y galw ar hyn o bryd a’r hyn a ragwelir. Mae'r cod ymarfer yn cynnwys canllawiau ar yr agwedd hon ar asesiadau digonolrwydd.

2.10.    Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys Atodlen sy'n rhestru'r materion penodol y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig. Y materion hyn yw: digonolrwydd ac ansawdd cyffredinol y gwasanaethau hynny sy’n cael eu darparu, tueddiadau cyfredol neu sy’n datblygu, heriau sylweddol, ac effaith comisiynu a chyllido ar swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol.  

2.11.    Mae adran 144B yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Trosolwg o’r farchnad

2.12.    Mewnosodwyd adran 144B yn Neddf 2014 drwy gyfrwng adran 56 o Ddeddf 2016. Mae Deddf 2016 yn nodi'r system ar gyfer rheoleiddio ac arolygu'r ddarpariaeth o ofal cymdeithasol yng Nghymru. Bwriad adran 56 oedd gweithio ar y cyd ag adrannau 59 i 63 o Ddeddf 2016 sy'n darparu ar gyfer sefydlu cyfundrefn statudol i oruchwylio'r farchnad ar gyfer darparwyr gofal a chymorth rheoleiddiedig.    

2.13.    Mae sgyrsiau cychwynnol rhwng Llywodraeth Cymru, y rheoleiddiwr (Arolygiaeth Gofal Cymru) a rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a darparwyr, wedi awgrymu efallai na fydd cyflwyno cynllun trosolwg statudol o’r farchnad yn briodol nac yn gymesur ar hyn o bryd. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu fframwaith trosolwg anstatudol o’r farchnad, sy’n briodol i gyd-destun Cymru gan ddefnyddio ffynonellau gwybodaeth sydd eisoes ar gael am ddarparwyr. Bydd yr adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad a gaiff eu llunio o dan adran 144B yn rhan allweddol o’r fframwaith hwnnw. Mae cychwyn adran 144B yn golygu ei bod rhaid parhau i adolygu'r penderfyniad i beidio â chychwyn y darpariaethau trosolwg o’r farchnad yn adrannau 59 i 63. Bydd monitro effeithiolrwydd y fframwaith trosolwg o’r farchnad anneddfwriaethol yn rhan allweddol o’r broses hon o adolygu parhaus.

2.14.    Mae'r penderfyniad i beidio â gweithredu darpariaethau goruchwylio'r farchnad hefyd yn golygu na ellir cychwyn adran 144B(2)(a)(ii) ar hyn o bryd, gan ei bod yn ymdrin â darparwyr y mae adran 61 o Ddeddf 2016, nad yw wedi'i gweithredu eto, yn gymwys iddynt. Byddai adran 61 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy’r rheoleiddiwr, asesu cynaliadwyedd ariannol y darparwyr y mae’r drefn trosolwg o’r farchnad yn berthnasol iddynt; ac mae adran 144B(2)(a)(ii) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol asesu (fel rhan o'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad) i ba raddau y darparwyd gwasanaethau rheoleiddiedig mewn ardal awdurdod lleol gan ddarparwyr gwasanaethau y mae adran 61 yn gymwys iddynt. Felly, dim ond yn rhannol y gellir cychwyn adran 144B ar hyn o bryd.

3. Diben a dull gweithredu

3.1.    Mae'r bennod hon yn nodi diben adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, y dull o’u llunio drwy bartneriaeth ranbarthol, eu lle o fewn y cylch comisiynu strategol, a phwy ddylai fod yn rhan o’r broses o’u paratoi.    

Diben

3.2.    Offeryn i gynorthwyo'r Byrddau Cynllunio Ardal i gynllunio a chomisiynu gofal a chymorth o safon i'w poblogaethau yw adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad. Bydd paratoi’r adroddiadau yn gam pwysig i sicrhau bod marchnadoedd sefydlog a chadarn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ac i blant ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Bydd hynny hefyd yn hyrwyddo dulliau cynaliadwy a phartneriaeth o gyflawni hyn. Mae’r pandemig Covid-19 wedi rhoi ysgogiad ychwanegol i fesurau i sicrhau bod marchnadoedd gofal cymdeithasol yn sefydlog, ac i greu marchnad gofal cymdeithasol sy’n fwy cadarn ac amrywiol ar gyfer y dyfodol. Dylai adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad helpu'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i benderfynu ar ffurf a chydbwysedd cyffredinol y farchnad gofal a chymorth yn y rhanbarth a'u galluogi i arfer arweinyddiaeth fwy cyson a chadarn wrth reoli'r farchnad gofal cymdeithasol.

3.3.    Bydd yr adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn helpu awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i ddeall y farchnad gofal cymdeithasol yn well ym mhob ardal, yn enwedig o ran gwasanaethau rheoleiddiedig megis llety mewn cartrefi gofal, gofal cartref a maethu. Yn ogystal â disgrifio cyfansoddiad a deinameg bresennol y farchnad gofal cymdeithasol, bydd yr adroddiadau hefyd yn mynd i'r afael â materion ehangach fel tueddiadau'r farchnad, cynaliadwyedd y ddarpariaeth, risgiau i sefydlogrwydd y farchnad, a'r effaith y gall arferion comisiynu ei chael ar y farchnad. Dylai hyn eu galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus a strategol ynghylch pa wasanaethau i'w caffael neu eu trefnu dros y cyfnod o bum mlynedd a gwmpesir gan y cynllun ardal.  

3.4.    Bydd adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad hefyd yn gyfrwng defnyddiol i ddarparwyr a darpar ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig. Bydd yn eu helpu i ddeall cyflwr y farchnad yn well mewn rhanbarth penodol, ac yn cyfrannu at eu syniadau strategol eu hunain am fuddsoddi yn y farchnad honno yn y dyfodol.

3.5.    Yn gyffredinol, bydd adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad hefyd o ddiddordeb i ddinasyddion, yn enwedig unigolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a’r rheini sy’n eiriol ac yn gweithio ar eu rhan. Byddant yn helpu i wneud awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn atebol i’r poblogaethau y maent yn eu gwasanaethu, gan ddangos yn dryloyw sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio a sut mae penderfyniadau ynghylch darparu gwasanaethau’n cael eu gwneud.

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth 'y farchnad gofal cymdeithasol’?

3.6.    Ar ei ehangaf, mae'r term 'marchnad gofal cymdeithasol' yn cyfeirio at y cyd-destun y mae awdurdodau lleol, y GIG neu unigolion yn prynu gofal a chymorth oddi mewn iddo (drwy drefniadau caffael neu drefniadau eraill) i ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolyn a'i helpu i gyflawni ei ganlyniadau llesiant personol; a lle mae darparwyr gofal a chymorth yn ceisio ennill contractau neu drefnu fel arall i ddarparu gofal a chymorth i'r unigolion hynny. 

3.7.    Felly, mae'r farchnad gofal cymdeithasol yn fan cyfnewid, lle defnyddir cyllid gwladol a phreifat i sicrhau gofal a chymorth i'r unigolion hynny sydd ei angen. Weithiau, yr unigolyn ei hun sy’n cael gafael ar y gofal. 

3.8.    Mae'r farchnad gofal cymdeithasol yn amrywiol iawn, sy'n adlewyrchu'r ystod eang o anghenion gofal a chymorth a'r ffyrdd niferus y gellir eu diwallu. Mae hefyd yn farchnad sy'n esblygu wrth i anghenion a disgwyliadau newid. Gwneir llawer o ddarpariaeth drwy wasanaethau rheoleiddiedig, megis llety mewn cartrefi gofal, gofal cartref, neu faethu a mabwysiadu; ond mae amrywiaeth o fathau eraill o ddarpariaeth hefyd gan gynnwys gwasanaethau ataliol, cymorth i deuluoedd, llety gwarchod a byw â chymorth. Mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir caffael, comisiynu neu drefnu gofal a chymorth. Prynir y rhan fwyaf o'r gofal a'r cymorth gan awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd, ond mae rhai'n cael eu prynu gan unigolion sy'n defnyddio taliadau uniongyrchol neu gan bobl sy’n talu eu hunain. Mae'r farchnad gofal cymdeithasol hefyd yn unigryw yn ei hamrywiaeth o ddarparwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae'r rhain yn cynnwys cwmnïau masnachol mawr, busnesau bach a chanolig, micro-ddarparwyr, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol, ac unigolion a gyflogir fel Cynorthwywyr Personol, yn ogystal â darpariaeth awdurdod lleol 'fewnol’. 

3.9.    Gydag amrywiaeth o'r fath, gallai fod yn fwy cywir siarad am 'farchnadoedd' gofal cymdeithasol nag am un farchnad. Mae rhai o'r marchnadoedd hyn yn gweithredu drwy gystadleuaeth (e.e. cartrefi gofal i oedolion), tra bod eraill yn cael eu rheoli'n fwy (e.e. mabwysiadu). Mae defnyddio'r term 'marchnad' neu 'farchnadoedd' yn awgrymu bod elfen o ddewis i gomisiynwyr a chaffaelwyr, yn ogystal ag i unigolion, yn unol ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, er nad oes fawr o ddewis o ddarpariaeth mewn gwirionedd mewn rhai rhannau o'r farchnad. 

3.10.    Darperir llawer o ofal a chymorth y tu allan i'r farchnad yn gyfan gwbl, yn enwedig yr oriau lawer o ofal anffurfiol gan deulu neu ffrindiau. Mae asesiadau sefydlogrwydd y farchnad yn ymwneud yn bennaf â'r farchnad ar gyfer gofal a chymorth rheoleiddiedig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ('gwasanaethau rheoleiddiedig’).

Datblygu dull partneriaeth rhanbarthol

3.11.    Mae’r ddyletswydd i baratoi ac i gyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, fel y nodir yn Neddf 2014, yn perthyn i bob awdurdod lleol, ond mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflawni’r swyddogaeth hon ar batrwm rhanbarthol, er mwyn i un adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad gael ei baratoi ar gyfer pob un o saith ardal Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol Cymru.

3.12.    Wrth gyflawni'r ddyletswydd hon, rhaid i  awdurdodau lleol sicrhau bod y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn ei gyfanrwydd yn ymwneud â pharatoi'r adroddiad ac yn cymryd perchnogaeth ohono. Bydd hyn yn galluogi'r Bwrdd i gymryd trosolwg strategol o ddigonolrwydd gofal a chymorth, ac o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, ar draws y rhanbarth cyfan, a helpu i fwydo i mewn i'r cylch comisiynu strategol sydd hefyd yn cynnwys asesiadau o anghenion poblogaeth rhanbarthol a chynlluniau ardal.   

3.13.    Fodd bynnag, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad hefyd yn cynnwys asesiad o'r farchnad ar gyfer gofal a chymorth o fewn pob ardal awdurdod lleol yn ogystal ag ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ei chyfanrwydd. Bydd llawer o ddarpariaeth gofal a chymorth yn parhau i gael ei chaffael neu ei threfnu ar lefel awdurdod lleol, gan ddarparu gwasanaethau i bobl yn agos i'w cartrefi lle bynnag y bo modd yn unol ag egwyddorion Deddf 2014, felly mae'n bwysig bod gwybodaeth am y farchnad leol ar gael.   

3.14.    Drwy wneud hynny, bydd yr adroddiad yn cyfrannu at benderfyniadau rhanbarthol a lleol ynghylch comisiynu gofal a chymorth (yn enwedig gwasanaethau rheoleiddiedig, ond nid dim ond y rheini), gan gyfrannu at y cynllun ardal strategol ar gyfer ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a helpu i siapio strategaethau comisiynu lleol a rhanbarthol. Dylai'r adroddiad helpu i benderfynu pa wasanaethau sy'n cael eu comisiynu orau ar ba lefel, gan nodi yn enwedig pa wasanaethau sy'n cael eu comisiynu orau ar sail ranbarthol neu ar draws mwy nag un ardal awdurdod lleol.

3.15.    Rhaid cael cysylltiad clir rhwng yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad a’r asesiad o anghenion y boblogaeth sydd hefyd yn gorfod cael ei baratoi ar gyfer pob ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r asesiad o anghenion y boblogaeth yn nodi’r angen a’r galw am ofal a chymorth ar hyn o bryd a’r lefelau disgwyliedig, a’r ystod a’r math o wasanaethau y bydd eu hangen i ateb y galw hwnnw. Bydd yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad yn asesu digonolrwydd y gofal a'r cymorth a ddarperir i ddiwallu'r anghenion a'r galw a nodwyd drwy'r asesiad o anghenion y boblogaeth. Bydd yn disgrifio'r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig ar draws y rhanbarth ac o fewn pob ardal awdurdod lleol, ac yn asesu ei sefydlogrwydd cyffredinol. Gall y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd benderfynu cynnwys asesiad o'r farchnad ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth ehangach nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, fel cydgysylltiad mwy cynhwysfawr rhwng y ddwy ddogfen.  Gyda’i gilydd, dylai’r ddwy ddogfen roi darlun cynhwysfawr i’r rheini sy’n comisiynu gofal a chymorth, ar lefel ranbarthol a lleol, o’r galw a’r cyflenwad ar hyn o bryd ac i'r dyfodol.

3.16.    Bwriad adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yw rhoi trosolwg ac asesiad lefel uchel o ddigonolrwydd cyffredinol gofal a chymorth, a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Bydd angen o hyd i awdurdodau lleol a / neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gynhyrchu datganiadau manylach o sefyllfa’r farchnad ar gyfer gwasanaethau neu segmentau penodol rheoleiddiedig yn y farchnad gofal cymdeithasol. Bydd y rhain wedi’u cysylltu â’r bwriadau a’r blaenoriaethau comisiynu a nodir mewn strategaethau comisiynu lleol neu ranbarthol.

3.17.    Mae’r diagram isod yn dangos sut mae adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cyd-fynd â’r fframwaith comisiynu cyffredinol ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Image
3.17.	Mae’r diagram isod yn dangos sut mae adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cyd-fynd â’r fframwaith comisiynu cyffredinol ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Pwy sydd angen cymryd rhan 

3.18.    Rhaid i awdurdodau lleol gydweithio, mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd Lleol a phartneriaid eraill drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, i baratoi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer ardal eu Bwrdd. Y Bwrdd yn ei gyfanrwydd ddylai fod yn berchen ar yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, gyda phob partner yn cyfrannu yn ôl yr angen. Er bod cyfran fawr o ofal a chymorth yn cael ei chomisiynu gan awdurdodau lleol (yn enwedig gwasanaethau rheoleiddiedig), mae’r farchnad gyffredinol ar gyfer gofal cymdeithasol yn ehangach o lawer ac yn fwy amrywiol na hyn. Bydd rhai gwasanaethau gofal a chymorth yn cael eu comisiynu ar y cyd â Byrddau Iechyd Lleol, a bydd gan wasanaethau addysg a thai mewn awdurdodau lleol ran i’w chwarae i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol ochr yn ochr â gwasanaethau cymdeithasol. Bydd rhai mathau o ofal cymdeithasol yn cael eu prynu gan unigolion, drwy ddefnyddio taliadau uniongyrchol neu fel unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain. Mae gan y sector gwerth cymdeithasol rôl allweddol i'w chwarae hefyd o ran darparu gwasanaethau cymorth mewn cymunedau, yn enwedig y rheini sy'n ataliol eu natur. Dylai awdurdodau lleol fynd ati mewn ffordd gyfannol i ystyried digonolrwydd y gofal a'r cymorth sy’n cael eu darparu, drwy wasanaethau rheoleiddiedig a thrwy ddarpariaeth arall, a bydd holl bartneriaid y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyfrannu at hyn. Mae canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar gael yn Rhan 2 (pennod 6) isod.  

3.19.    Rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i ymgysylltu â dinasyddion, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, rhieni plant sydd ag anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr, wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. Rhaid rhoi trefniadau addas ar waith i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal, gofalwyr ifanc a'r rhai sy'n gadael gofal. Bydd barn dinasyddion yn arbennig o bwysig wrth asesu digonolrwydd ac ansawdd gwasanaethau rheoleiddiedig er mwyn diwallu anghenion gofal a chymorth unigolion a sicrhau canlyniadau llesiant personol. Efallai na fydd angen cynnwys y cyhoedd yn uniongyrchol mewn rhannau eraill o'r adroddiad – er enghraifft, nodi pwysau neu dueddiadau'r farchnad, neu ystyried yr effaith y mae penderfyniadau comisiynu awdurdod lleol wedi'i chael ar y ffordd y maent yn arfer eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, er hyd yn oed yma dylid ceisio barn defnyddwyr taliadau uniongyrchol ac uniolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain. Bydd mecanweithiau eisoes ar waith i ymgysylltu â dinasyddion yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth, a dylai awdurdodau lleol allu defnyddio’r rhain wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad hefyd. 

3.20.    Rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn ymgysylltu ag unrhyw sefydliadau sector preifat neu drydydd sector sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth i’r boblogaeth leol, neu sydd â diddordeb yn hynny. Bydd angen gwybodaeth a data a ddarperir gan ddarparwyr gwasanaethau i greu proffil o ofal a chymorth ar lefel ranbarthol a lleol, a bydd barn darparwyr ar weithrediad y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn cyfrannu at asesiad cytbwys o sefydlogrwydd cyffredinol y farchnad. Rhaid i awdurdodau lleol sy’n darparu gwasanaethau rheoleiddiedig yn uniongyrchol hefyd gymryd camau i ymgysylltu â rheolwyr a staff, fel y bo’n briodol, wrth gynnal eu hasesiad o sefydlogrwydd y farchnad. Mae hyn yn cynnwys rheolwyr a staff y GIG lle caiff gwasanaethau eu comisiynu ar y cyd.

3.21.    Bydd gan awdurdodau lleol a chyrff y GIG yn Lloegr gyfraniad i'w wneud hefyd, yn enwedig lle mae ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ffinio ag awdurdod lleol yn Lloegr a lle ceir darpariaeth drawsffiniol sylweddol o ofal a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol gymryd camau i ymgynghori ac ymgysylltu â chomisiynwyr awdurdodau lleol a'r GIG yn Lloegr, fel y bo'n briodol.  

4. Cynnal asesiadau digonolrwydd ac asesiadau sefydlogrwydd y farchnad

4.1.    Mae'r bennod hon yn nodi'r gofynion o ran assu digononrwydd ac asesu sefydlogrwydd y farchnad, gan gynnwys y materion y mae'n rhaid eu hystyried wrth ymgymryd â hwy. 

4.2.    Wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i  awdurdodau lleol gynnal, mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd Lleol a phartneriaid eraill y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, asesiad o’r canlynol:

  • digonolrwydd y gofal a’r cymorth i o ran diwallu’r anghenion a'r galw am ofal cymdeithasol, fel y’u nodir yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth, a
  • sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth

4.3.    Rhaid cynhyrchu adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad ar batrwm rhanbarthol, fel y trafodwyd ym Mhennod 3 uchod. Rhaid i awdurdodau lleol drafod a chytuno â'r Bwrdd Iechyd Lleol a phartneriaid eraill y Bwrdd Partneriaeth beth yw’r ffordd orau o gyflawni hyn ar gyfer eu hardal Bwrdd Partneriaeth hwy.  

‘Gofal a chymorth' a 'gwasanaethau rheoleiddiedig’

4.4.    Er bod adran 144B o Ddeddf 2014 yn defnyddio'r term 'adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad', mae'n bwysig nodi bod yr adroddiadau hyn mewn gwirionedd yn canolbwyntio ar ddau beth gwahanol er yn gysylltiedig: 

  • digonolrwydd – asesiad o ba mor ddigonol yw’r gofal a’r cymorth i ddiwallu’r anghenion a'r galw am ofal cymdeithasol, fel y’u nodir yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth
  • sefydlogrwydd – asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal a chymorth

4.5.    Mae gofal a chymorth yn cynnwys unrhyw fath o wasanaeth gofal cymdeithasol a ddarperir i unigolyn sydd angen gofal a chymorth neu i ofalwr sydd angen cymorth er mwyn cyflawni ei ganlyniadau llesiant personol. Gall hyn gynnwys gwasanaethau ataliol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd. At ddibenion adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, nid yw'n cynnwys gofal anffurfiol gan deulu neu ffrindiau. 

4.6.    Gwasanaethau rheoleiddiedig yw'r rhai a restrir yn Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2016. Maent wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno. Y gwasanaethau yw: cartrefi gofal, gofal cartref, maethu, mabwysiadu, lleoliadau i oedolion, eiriolaeth, llety diogel (i blant) a chanolfannau preswyl i deuluoedd.

Due regard and other duties

4.7.    Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canlynol wrth gynnal eu hasesiadau digonolrwydd a’u hasesiadau sefydlogrwydd y farchnad:  

  • llesiant a dyletswyddau trosfwaol eraill yn adrannau 5 a 6 o Ddeddf 2014, a'r datganiad o ganlyniadau llesiant a mesurau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 8 o Ddeddf 2014
  • y ddyletswydd o dan adran 7 o Ddeddf 2014 i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn – dylid hefyd ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod, yn enwedig wrth ystyried y gweithlu gofal cymdeithasol
  • Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus roi sylw dyledus i nodweddion gwarchodedig wrth arfer eu swyddogaethau
  • y safonau Cymraeg perthnasol
  • y ddyletswydd ar awdurdodau lleol o dan adran 16 o'r Ddeddf i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan ddefnyddwyr a’r trydydd sector
  • y dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a sut y gall adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad eu helpu i gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy
  • y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus, a ddaeth i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021

Yr asesiad digonolrwydd 

4.8.    Mae'r asesiad digonolrwydd yn canolbwyntio ar y graddau y mae'r gofal a'r cymorth sydd ar gael ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn diwallu'r anghenion a'r galw am ofal cymdeithasol. 

4.9.    Sufficiency may be defined in the following ways:

  • digonoldeb modd neu gyflenwad digonol (Geiriadur Prifysgol Cymru) 
  • an amount of something that is good enough for a particular purpose (Cambridge Dictionary)
  • the condition or quality of being sufficient for its purpose or for the end in view (Oxford English Dictionary)

4.10.    Mae angen mesur digonolrwydd gofal a chymorth yn erbyn anghenion a disgwyliadau unigolion sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, ac yn erbyn ystod a lefel y gwasanaethau a nodwyd yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth eu bod yn angenrheidiol er mwyn bodloni’r galw. Y nod yw canfod a yw unigolion yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol, yn unol ag egwyddorion Deddf 2014.

4.11.    Bydd yr asesiad digonolrwydd yn cynnwys yr elfennau canlynol: 

  • trosolwg o ddigonolrwydd a fesurwyd yn erbyn yr asesiad blaenorol o anghenion y boblogaeth, gan ddefnyddio unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd ac ystyried y gwersi a ddysgwyd 
  • asesiad o sut mae'r lefelau presennol o ofal a chymorth yn bodloni'r galw ar hyn o bryd, gan gysylltu ag ystod a lefel y gwasanaethau a nodwyd yn yr asesiad presennol o anghenion y boblogaeth 
  • ystyried materion sy'n debygol o effeithio ar ddigonolrwydd y ddarpariaeth dros y pum mlynedd nesaf, gan gysylltu â'r asesiad presennol o anghenion y boblogaeth a'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad

4.12.    Mae'r Rheoliadau'n pennu bod rhaid asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth dros y cyfnod ers cyhoeddi'r asesiad blaenorol o anghenion y boblogaeth (dyma'r 'cyfnod penodedig' sy'n ofynnol o dan adran 144B o Ddeddf 2014). Cynhyrchir asesiadau o anghenion poblogaeth ar gylch pum mlynedd, a cyhoeddwyd yr asesiadau cyntaf ym mis Ebrill 2017. Mae hyn yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn edrych yn ôl dros y pum mlynedd blaenorol, ac yn ystyried i ba raddau yr oedd ystod a lefel y gwasanaethau a nodwyd yn yr asesiad blaenorol o anghenion y boblogaeth yn ddigonol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl dros y cyfnod hwnnw. Roedd y canllawiau ar asesu anghenion y boblogaeth yn nodi y dylid adolygu'r dogfennau hyn yn barhaus a bod rhaid cynnal o leiaf un adolygiad ffurfiol ar ganol y cylch pum mlynedd. Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio'r adolygiadau hyn wrth gynnal eu hasesiadau digonolrwydd. Diben yr olwg hon yn ôl yw penderfynu pa mor dda y mae patrwm a chyflenwad y ddarpariaeth gofal a chymorth yn cyd-fynd â lefelau newidiol o alw, lle'r oedd diffygion yn y ddarpariaeth, a pha gasgliadau y gellir eu llunio a'r gwersi a ddysgwyd a all helpu i lywio'r ddarpariaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. 

4.13.    Fodd bynnag, rhaid i brif ffocws yr asesiad digonolrwydd fod ar y ddarpariaeth ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, gan gysylltu ag ystod a lefel y gwasanaethau a nodwyd yn yr asesiad presennol (a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar) o anghenion y boblogaeth – h.y. i ba raddau y mae’r ddarpariaeth gofal a chymorth yn ddigonol i fodloni lefelau presennol y galw a’r rhai a ragwelir. Mae amseriad adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad wedi'i gynllunio fel y bydd awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, gan weithio gyda'u partneriaid yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yn cynnal asesiadau o anghenion eu poblogaethau ac asesiadau digonolrwydd ar yr un pryd, gydag un yn bwydo i mewn i'r llall.    

4.14.    Yn ogystal â sefydlu’r lefelau presennol o ddigonolrwydd, rhaid i'r asesiad hefyd ystyried y ffactorau sy'n debygol o effeithio ar ddigonolrwydd yn ystod oes yr asesiad presennol o anghenion y boblogaeth. Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys: 

  • newid yn y patrymau galw
  • newid yn disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau
  • tueddiadau presennol a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg 
  • heriau, risgiau a chyfleoedd
  • sut y bydd pob un o'r rhain yn effeithio ar ddigonolrwydd y ddarpariaeth wrth symud ymlaen i'r cyfnod pum mlynedd nesaf (bydd hyn yn cysylltu â’r asesiad o sefydlogrwydd marchnadoedd lleol ar gyfer gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig a gwasanaethau gofal a chymorth eraill)

4.15.    Mae'n bwysig cofio bod digonolrwydd yn fwy na dim ond mesur faint o ddarpariaeth gofal a chymorth sydd yn yr ardal. Rhaid i'r asesiad digonolrwydd hefyd ofyn a yw gwasanaethau gofal a chymorth o ansawdd digonol, ac ystyried i ba raddau y mae'r gofal a'r cymorth a ddarperir yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn darparu'r math a'r cymysgedd cywir o wasanaethau i ddiwallu anghenion a dewisiadau unigolion ag anghenion gofal a  chymorth, ac yn darparu gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Mae hyn yn cynnwys materion fel dewis sut a ble y darperir gofal a chymorth. 

4.16.    Rhaid i’r asesiad o digonolrwydd hefyd ystyried lleoliad y gofal a’r cymorth, a materion sy’n ymwneud â hygyrchedd. Pan fo’n bosibl, dylid darparu gofal a chymorth yng nghymuned leol yr unigolyn, lle gall fod yn agos at ffrindiau a theulu. Mae hyn yn arbennig o bwysig, er enghraifft, wrth leoli plant sy’n derbyn gofal, neu ar gyfer preswylwyr hŷn y mae angen iddynt symud i ofal preswyl neu lety â chymorth.

4.17.    Rhaid i awdurdodau lleol asesu digonolrwydd y gofal a’r cymorth a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg yn erbyn proffil cymunedol y Gymraeg a sefydlwyd yn ystod yr asesiad o anghenion y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.

4.18.    Dylai'r asesiad digonolrwydd hefyd ystyried y themâu craidd penodol ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth fel y’u nodir yn y Cod Ymarfer Rhan 2.

4.19.    Cyn belled ag y bo modd, dylai awdurdodau lleol fesur digonolrwydd gofal a chymorth yn erbyn pob thema, fel bod cydgysylltiad clir rhwng yr hyn y mae'r asesiad o anghenion y boblogaeth yn ei ddweud am angen a'r galw am ofal a chymorth, a'r hyn a ddywed yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad am ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal a chymorth i ddiwallu'r anghenion hynny.  

4.20.    Dyma rai o’r cwestiynau i'w gofyn wrth gynnal asesiad digonolrwydd: 

  • a yw ystod a lefel y gofal a'r cymorth yn ddigon da i ddiwallu'r angen presennol a’r angen a ragwelir, a nodwyd yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth?
  • a yw'r gofal a'r cymorth a ddarperir o ansawdd digonol i ddiwallu anghenion unigolion a'u galluogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol?
  • a oes gan unigolion ddigon o ddewis a llais o ran sut a ble y darperir gofal a chymorth, ac i ba raddau y mae gofal a chymorth yn cael eu cydgynhyrchu â defnyddwyr a gofalwyr?
  • ble mae'r bylchau a'r meysydd sy'n peri pryder – h.y. ble nad yw'r cyflenwad yn ddigonol i ateb y galw – a beth yw'r prif resymau am hyn a'r gwersi a ddysgwyd?  
  • beth yw effaith debygol newid mewn patrymau galw, newid mewn disgwyliadau, a thueddiadau newydd a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg, ar ddigonolrwydd gofal a chymorth wrth symud ymlaen?

Dyletswydd digonolrwydd: plant sy'n derbyn gofal

4.21.    Bydd yr asesiad digonolrwydd hefyd yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol asesu sut y maent wedi cyflawni'r ddyletswydd o dan Ran 6 o Ddeddf 2014, i gymryd camau i sicrhau bod ganddynt ddigon o lety i ddiwallu anghenion eu plant sy'n derbyn gofal. Ac eithrio ‘trefniadau eraill’ ar gyfer rhai pobl ifanc 16-17 oed, bydd y llety hwn yn cael ei ddarparu gan wasanaethau rheoleiddiedig (maethu, cartrefi gofal, llety diogel, neu ganolfannau preswyl i deuluoedd). Mae’r Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya) yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol ystyried manteision cael digon o ddarparwyr amrywiol yn eu hardal i gyflawni’r ddyletswydd hon, a’u bod yn gallu diwallu anghenion gwahanol. Y nod yw gwella’r dewis o leoliadau a’u hansawdd, a lleihau’r tebygolrwydd na fydd lleoliadau addas ar gael i blant sy’n derbyn gofal yn eu hardal leol. Dylai'r asesiad digonolrwydd gysylltu â strategaethau awdurdodau lleol ar gyfer lleihau nifer y lleoliadau mewn lleoliadau maethu, preswyl neu ddiogel rheoleiddiedig y tu allan i'r ardal leol neu'r tu allan i Gymru.  

4.22.    Mae’r Cod Ymarfer Rhan 6 yn awgrymu y gallai fod ar awdurdodau lleol eisiau ystyried gwneud trefniadau ar sail ranbarthol pan fydd hynny’n briodol. Mae llety y gallai fod angen ei gomisiynu’n rhanbarthol yn cynnwys gofal preswyl i blant sydd â phecynnau gofal cymhleth, neu lety diogel i blant sydd mewn perygl o fynd i lety diogel neu sy’n dod o lety diogel. Dylai'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad eu helpu i benderfynu pa fathau o lety ar gyfer plant sy'n derbyn gofal y gellid eu comisiynu orau ar batrwm rhanbarthol, a helpu i sicrhau cefnogaeth briodol gan Fyrddau Iechyd Lleol a phartneriaid rhanbarthol eraill mewn perthynas â gwasanaethau y gallai fod angen eu comisiynu ar y cyd. 

4.23.    Hefyd, mae adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn gyfle i asesu'r defnydd o leoliadau heb eu rheoleiddio ar gyfer plant sydd mewn argyfwng oherwydd lleoliad neu fethiant teuluol. Mae'r rhain yn aml yn ganlyniad i anghenion sydd heb eu diwallu a’r ffaith fod lleoliadau’n annigonol, ac mae'n bwysig bod yr asesiad digonolrwydd yn ystyried yr elfen hon o ddarpariaeth plant. Byddai deall pa mor aml a pham y bu'n rhaid i awdurdodau lleol ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol osod plentyn neu berson ifanc mewn lleoliad heb ei reoleiddio yn helpu i greu atebion naill ai'n lleol neu'n rhanbarthol.

Yr asesiad o sefydlogrwydd y farchnad

4.24.    Mae'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad yn canolbwyntio ar wasanaethau rheoleiddiedig. Rhestrir y rhain yn yr Atodlen i Ddeddf 2016. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys: 

  • gwasanaethau cartref gofal (oedolion a phlant) 
  • gwasanaethau llety diogel (i blant) 
  • gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
  • gwasanaethau mabwysiadu
  • gwasanaethau maethu
  • gwasanaethau lleoli oedolion (‘cysylltu bywydau’)
  • gwasanaethau eirioli
  • gwasanaethau cymorth cartref

4.25.    Mae’n bosibl yr ychwanegir gwasanaethau eraill o bryd i'w gilydd.

Nodweddion marchnad gofal cymdeithasol sefydlog

4.26.    Mae'r diffiniad o farchnad gofal cymdeithasol sefydlog wedi bod yn destun llawer o drafod, ond mae rhai ffactorau sy'n amlwg yn nodweddu marchnad sefydlog sy'n gweithio'n dda ar gyfer gofal a chymorth. Awgrymir bod marchnad gofal cymdeithasol sefydlog yn un lle: 

  • mae’r galw a'r cyflenwad yn gytbwys ar y cyfan – h.y. mae digon o ofal a chymorth o safon i ateb y galw
  • mae sylfaen darparwyr amrywiol ac elfen o gystadleuaeth, heb orddibyniaeth ar unrhyw un darparwr neu sector 
  • mae gan unigolion sydd angen gofal a chymorth lais a dewis gwirioneddol yn y ffordd y caiff eu hanghenion gofal a chymorth eu diwallu, ac mae darparwyr yn gallu ymateb yn rhwydd i alw a disgwyliadau sy'n newid
  • mae arparwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy am y farchnad er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol a gwneud buddsoddiadau
  • mae cydbwysedd cystadleuol iach rhwng pris ac ansawdd 
  • mae digon o staff wedi'u hyfforddi a'u hysgogi'n briodol sy'n darparu gofal a chymorth o safon ar draws darparwyr
  • mae comisiynwyr a phrynwyr yn hyderus bod darparwyr yn hyfyw yn ariannol ac yn gynaliadwy, a bod unrhyw risgiau wedi'u nodi'n glir 
  • mae mynediad ac allanfa darparwyr i'r farchnad ac o’r farchnad yn digwydd yn drefnus heb i unigolion sydd angen gofal a chymorth fod o dan anfantais
  • mae'r farchnad yn ddigon cadarn i wrthsefyll ergydion, ac mae cynlluniau wrth gefn ar waith fel y gall y farchnad ymateb yn effeithiol pan fydd darparwyr (yn enwedig darparwyr mawr neu arbenigol) yn methu

4.27.    Wrth asesu sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, rhaid i awdurdodau lleol asesu'n benodol y materion canlynol a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau: 

  • digonolrwydd darpariaeth y gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad diweddaraf o’r boblogaeth
  • ansawdd cyffredinol y gofal a’r cymorth a ddarperir gan wasanaethau rheoleiddiedig i ddiwallu anghenion a chanlyniadau personol pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr
  • tueddiadau ar hyn o bryd neu dueddiadau sy’n datblygu o ran darparu gwasanaethau sy’n rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, a’u heffaith neu eu heffaith debygol ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y gwasanaethau a ddarperir
  • unrhyw heriau sylweddol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd neu yn y dyfodol 
  • effaith comisiynu ac ariannu ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys dulliau rhanbarthol a defnyddio cronfeydd cyfun

Digonolrwydd

4.28.    Bydd digonolrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig yn rhan o'r asesiad cyffredinol o ddigonolrwydd gofal a chymorth, ond rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried, fel rhan o'r asesiad o sefydlogrwydd y  farchnad, sut mae digonolrwydd yn effeithio ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Rhaid i hyn gynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu anghenion a nodwyd yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth annigonol o ran gwasanaethau rheoleiddiedig sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd amrywiaeth y farchnad, a'r gymysgedd o ddarparwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, hefyd yn ystyriaethau perthnasol, yn enwedig lle mae hyn yn effeithio ar argaeledd gwasanaethau rheoleiddiedig penodol yn yr ardal leol.  

Ansawdd 

4.29.    Rhaid i’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ystyried i ba raddau y mae gwasanaethau rheoleiddiedig yn darparu gofal a chymorth o safon i unigolion sydd angen gofal a chymorth, ac a yw cyflwr y farchnad yn peri unrhyw risg i ansawdd y ddarpariaeth. Bydd ansawdd yn cael ei fonitro ar sawl lefel, yn unigol, yn sefydliadol ac yn rhanbarthol. Bydd gwybodaeth a manylion am ansawdd gwasanaethau rheoleiddiedig yn cynnwys canlyniadau arolygiadau, canlyniadau monitro contractau awdurdodau lleol, gwybodaeth o systemau monitro ansawdd awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol, ac o fframweithiau comisiynu cenedlaethol fel y rhai ar gyfer gwasanaethau plant a reolir gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru, a'r Fframwaith Cydweithredol Cenedlaethol ar gyfer cartrefi gofal i oedolion rhwng 18 a 64 oed sydd ag anawsterau dysgu a / neu anghenion cymorth iechyd meddwl.  

Tueddiadau

4.30.    Dylai'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad nid yn unig ystyried cyfansoddiad a sefydlogrwydd y farchnad bresennol ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, ond rhaid iddo hefyd ystyried sut y mae tueddiadau presennol neu’r rhai a ragwelir yn awgrymu y gallai'r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig edrych dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt i hynny. Bydd adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, ynghyd â'r asesiad o anghenion y boblogaeth, yn helpu i lywio a llunio'r cynllun ardal, sy'n pennu cyfeiriad strategol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol am y pum mlynedd ddilynol.

4.31.    Bydd deall tueddiadau’r farchnad yn helpu i sicrhau bod penderfyniadau’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yr awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth yn cael eu prawfesur at y dyfodol. Mae asesu tueddiadau’n debygol o gael ei lywio gan wybodaeth am yr hyn y mae dinasyddion yn awyddus i gael mwy ohono (er enghraifft, tai gofal ychwanegol neu lety â chymorth, yn hytrach na llety traddodiadol mewn cartrefi gofal), effaith newidiadau demograffig ar y farchnad gofal cymdeithasol (er enghraifft, yr angen am ddarpariaeth cartrefi gofal mwy arbenigol ar gyfer yr unigolion hynaf a mwyaf bregus), neu effaith technolegau newydd fel Gofal wedi’i Alluogi gan Dechnoleg. Bydd dadansoddiad o’r tueddiadau hefyd yn cael ei lywio gan batrwm ymadael a mynediad darparwyr o fewn y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig penodol, a'r rhesymau dros hyn.  

Heriau

4.32.    Mae angen i awdurdodau lleol fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr heriau a’r risgiau sy’n wynebu comisiynwyr a/neu ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac mae angen iddynt fod yn agored ynghylch sut maent yn bwriadu lliniaru’r risgiau hynny ac ymateb i’r heriau hynny. Bydd yr heriau hyn hefyd yn arwain at gyfleoedd i arloesi neu ymateb mewn ffyrdd newydd i newidiadau mewn disgwyliadau neu amgylchiadau.  

4.33.    Ni ddylai'r ffaith y bydd adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn cael eu cyhoeddi rwystro trafodaeth onest am risgiau a heriau rhwng awdurdodau lleol a'u partneriaid yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau cydbwysedd rhwng creu lle ar gyfer trafodaethau agored a gonest o fewn eu sefydliadau eu hunain ac o fewn y Bwrdd, a bod yn agored ac yn dryloyw gyda darparwyr a'r cyhoedd yn y ddogfen derfynol a gyhoeddir. 

4.34.    Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried sut y gellid lliniaru’r risgiau a nodwyd, gan gynnwys sut y bydd y risgiau hynny’n cael eu rhannu rhwng partneriaid y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. 

Effaith comisiynu

4.35.    Wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i awdurdodau lleol ystyried effaith comisiynu a chyllido ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae adran 144B o Ddeddf 2014 yn ei gwneud hyn yn ofynnol yn benodol. Rhaid iddynt asesu dulliau rhanbarthol a lleol o gomisiynu, a’r defnydd o gronfeydd cyfun. Bydd hyn yn cynnwys effeithiolrwydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fel mecanwaith comisiynu ar gyfer gwasanaethau arbenigol, a’r defnydd o ffrydiau cyllid refeniw a chyfalaf ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.  

4.36.    Mae'n werth ailbwysleisio yma mai diben y rhan hon o'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad yw darparu gwybodaeth a dadansoddiadau am y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, a fydd, ynghyd â'r asesiad o anghenion y boblogaeth, yn helpu'r Byrddau Partneriaeth Lleol i ddatblygu eu cynllun ardal ac unrhyw ddogfennau comisiynu manylach sy'n deillio ohono, megis datganiadau am sefyllfa'r farchnad neu strategaethau comisiynu ar gyfer gwasanaethau neu segmentau penodol o'r farchnad. Bydd asesu effaith penderfyniadau comisiynu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, yr awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ar siâp ac ar sefydlogrwydd darpariaeth y gwasanaethau rheoleiddiedig dros y pum mlynedd ers cynnal yr asesiad diwethaf o anghenion y boblogaeth, yn helpu’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r cyrff sy’n rhan ohono i benderfynu sut y dylent fynd at i gomisiynu’n strategol yn y dyfodol.  

Y Gymraeg

4.37.    Wrth ystyried y materion uchod, rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried cyflwr y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai hyn gysylltu'n ôl â'r asesiad o anghenion y boblogaeth, a fydd wedi canfod y galw am wasanaethau Cymraeg, ac â'r asesiad digonolrwydd a fydd wedi edrych ar faint o ddarpariaeth ehangach o ofal a chymorth sydd ar gael yn Gymraeg. Rhaid i'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ystyried sut y mae hyn yn effeithio ar ddigonolrwydd gwasanaethau  rheoleiddiedig yn Gymraeg, ac unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth; ansawdd y gwasanaethau hynny; sut y gallai tueddiadau yn y farchnad ar hyn o bryd neu yn y dyfodol effeithio ar ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal a chymorth i'r gymuned Gymraeg eu hiaith; unrhyw heriau a risgiau; ac effaith penderfyniadau comisiynu ac ariannu awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ar wasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwasanaethau gofal a chymorth eraill

4.38.    Mae gwasanaethau eraill nad ydynt yn cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 sydd hefyd yn helpu i ddiwallu angen unigolyn am ofal a / neu gymorth. Mae hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â chymorth i ofalwyr ac i bobl ifanc sy’n gadael gofal. Wrth baratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut mae’r gwasanaethau hyn yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig – ac, yn wir, sut mae siâp y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn effeithio ar agweddau eraill ar y ddarpariaeth gofal a chymorth. 

4.39.    Er enghraifft, wrth asesu'r farchnad ar gyfer maethu a gofal preswyl i blant hŷn sy'n derbyn gofal (y ddau yn wasanaethau rheoleiddiedig), dylai awdurdodau lleol hefyd ystyried pa opsiynau llety sydd ar gael iddynt symud ymlaen iddynt pan fyddant yn paratoi i adael gofal. Mae hyn yn cynnwys digonolrwydd tai â chymorth a threfniadau byw'n lled-annibynnol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, a'r defnydd o drefniadau 'Pan fydda i'n Barod' (gan gynnwys effaith y rhain ar faint o leoliadau maeth sydd ar gael).

4.40.    Nid yw gwasanaethau ataliol yn cael eu rheoleiddio, ond mae Rhan 2 o’r Cod Ymarfer yn ei gwneud yn ofynnol yn benodol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ystyried gwasanaethau ataliol fel rhan o’r asesiadau o anghenion y boblogaeth, a nodi’r ystod a’r math o wasanaethau ataliol y bydd eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae’r gwasanaethau ataliol sydd ar gael hefyd yn gallu cael effaith fawr ar yr angen am wasanaethau rheoleiddiedig – er enghraifft, drwy leihau’r angen i blant fynd i ofal, neu alluogi pobl hŷn i aros gartref yn hytrach na mynd i ofal preswyl neu ysbyty. Gall gwasanaethau o'r fath amrywio o wasanaethau diogelu neu gymorth i deuluoedd, i gymhorthion ac addasiadau, Gofal Ychwanegol a mathau eraill o dai gwarchod. Bydd angen i awdurdodau lleol ddeall proffil, digonolrwydd, ansawdd ac effaith gwasanaethau ataliol, yn ogystal â’r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, er mwyn diwallu anghenion gofal a chymorth eu poblogaethau lleol yn llawn. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried effaith gyffredinol gwasanaethau ataliol ar y farchnad gwasanaethau rheoleiddiedig wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad.

Materion eraill i'w hystyried

4.41.    Wrth gynnal eu hasesiadau, rhaid i  awdurdodau lleol hefyd ystyried y materion canlynol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar ddigonolrwydd gwasanaethau gofal a chymorth a sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol.

Gwerth cymdeithasol

4.42.    Mae adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol ystyried i ba raddau y maent wedi hyrwyddo modelau darparu gwerth cymdeithasol. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu'r presenoldeb cynyddol yn y farchnad gofal cymdeithasol o fodelau cyflenwi:

  • sy’n cyflawni llesiant drwy gydgynhyrchu 
  • sy’n rhoi llais cryf a rheolaeth wirioneddol i ddefnyddwyr
  • sydd â chyfeiriadedd ataliol rhagweithiol
  • sy’n cynnwys cydweithredu, cydweithredu a phartneriaeth
  • sy’n ychwanegu gwerth (cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol)

4.43.    The Wales Co-operative Centre: Social Value Forums Toolkit [Canolfan Cydweithredol Cymru: Pecyn Cymorth Gwerth Cymdeithasol] defines social value as a term that [Mae gwerth cymdeithasol yn derm sy'n] ceisio disgrifio ethos a sylfaen gwerth sy'n hyrwyddo parch, cydweithredu ac ymdrech ar y cyd tuag at sicrhau canlyniadau llesiant i unigolion a chymunedau. Mae sefydliadau gwerth cymdeithasol yn sefydliadau sy'n sicrhau gwerth cymdeithasol fel rhan greiddiol o'u hethos a'u diwylliant mewn ffordd sy'n ymgorffori egwyddorion Deddf 2014. Mae hyn yn golygu gweithio'n rhagweithiol mewn ffordd sy'n rhoi llais a rheolaeth ac yn gwella llesiant dinasyddion.

4.44.    Mae rhai mathau o sefydliadau mewn sefyllfa arbennig o dda i ddarparu gwerth cymdeithasol yn eu gwaith. Mae adran 16 o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i hyrwyddo: 

  • datblygiad mentrau cymdeithasol yn ei faes i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol
  • datblygu sefydliadau neu drefniadau cydweithredol yn ei faes i ddarparu gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol
  • cynnwys personau y mae gofal a chymorth neu wasanaethau ataliol i'w darparu ar eu cyfer wrth gynllunio a gweithredu'r ddarpariaeth honno (h.y. darpariaeth a arweinir gan ddefnyddwyr)
  • argaeledd gofal a chymorth a gwasanaethau ataliol gan sefydliadau'r trydydd sector yn ei ardal (p'un a ydynt yn fentrau cymdeithasol neu'n fentrau cydweithredol ai peidio)

4.45.    Mae sefydliadau gwerth cymdeithasol yn arbennig o addas i ddarparu gofal a chymorth ehangach, gan gynnwys gofal a chymorth sy'n mynd y tu hwnt i'r farchnad, ond gallant hefyd ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig. Er enghraifft, mae rhai awdurdodau lleol wedi cefnogi asiantaethau maethu annibynnol bach i ddod yn ddarparwyr dielw, neu wedi cefnogi datblygu modelau cydweithredol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cartref.

4.46.    Wrth gynnal eu hasesiadau, rhaid i awdurdodau lleol asesu'r cyfraniad y mae sefydliadau gwerth cymdeithasol wedi'i wneud i'r farchnad gofal cymdeithasol yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae hyn yn golygu, yn benodol, asesu'r ddarpariaeth gofal a'r cymorth a ddarperir gan fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, sefydliadau a arweinir gan ddefnyddwyr a'r trydydd sector, yn unol â'u dyletswydd o dan adran 16 o Ddeddf 2014. 

4.47.    Dylai'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ystyried i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi defnyddio'r ddyletswydd hon i lunio neu ailgydbwyso'r ddarpariaeth gofal a chymorth ar draws ardal y Bwrdd. Dylent hefyd ystyried y cyfleoedd i hyrwyddo'r math hwn o ddarpariaeth ymhellach, ac unrhyw rwystrau neu heriau i ehangu'r rhan hon o'r farchnad. Fel rhan o'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad, dylai awdurdodau lleol ystyried yn benodol yr effaith y mae eu penderfyniadau a'u harferion comisiynu wedi'i chael ar ddatblygu'r math hwn o ddarpariaeth. 

4.48.    Rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn ymgysylltu'n llawn â'r fforwm gwerth cymdeithasol rhanbarthol wrth baratoi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad.   

Adnoddau

4.49.    Bydd adnoddau cyllido, a’r ffordd y cânt eu defnyddio, yn cael effaith fawr ar ddigonolrwydd a phatrwm y gofal a’r cymorth ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a sut mae’r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn gweithio. Bydd angen i awdurdodau lleol ystyried effaith adnoddau wrth gynnal eu hasesiadau digonolrwydd, a rhaid iddynt ystyried sut mae penderfyniadau ynghylch adnoddau a buddsoddi yn effeithio ar sefydlogrwydd darpariaeth gwasanaethau rheoleiddiedig ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Bydd hyn yn cynnwys penderfyniadau strategol ar ddyrannu cyllidebau yn ogystal â dulliau o gytuno ar ffioedd a chostau gwasanaethau. Mae'n bwysig deall costau darparu yn llawn wrth gytuno ar bris gwasanaeth. Mae amrywiaeth o offer cyfrifo prisiau a chostau ar gael i helpu gyda hyn. Er enghraifft, mae'r pecyn cymorth ‘Let’s Agree to Agree’ yn amlygu'r elfennau sy'n ffurfio cost gofal a manylion cartrefi gofal pobl hŷn, a'r camau allweddol ar gyfer cytuno ar bris am ofal y tu allan i drefniadau tendro ffurfiol.  

Taliadau uniongyrchol

4.50.    Rhaid i’r adroddiad hefyd ystyried y ddarpariaeth gofal a chymorth a brynir gan unigolion sy’n prynu eu gofal a’u cymorth eu hunain drwy ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol. Dylai hyn gynnwys y nifer sy’n hawlio Taliadau Uniongyrchol ac effaith hyn ar y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Bydd yn bwysig deall pa ofal a chymorth y mae’r unigolion hyn yn ei brynu, beth hoffent ei brynu yn y dyfodol, ac unrhyw ffactorau neu faterion sy’n effeithio ar argaeledd, dewis neu ansawdd gwasanaethau i unigolion sy’n defnyddio Taliadau Uniongyrchol. Pwrpas taliadau uniongyrchol yw rhoi mwy o ddewis a rheolaeth uniongyrchol i unigolion dros y gofal a’r cymorth a gânt, a hyrwyddo atebion arloesol i ddiwallu anghenion a gwella canlyniadau. Felly bydd deall y berthynas rhwng gwasanaethau rheoleiddiedig a dulliau cymorth eraill mewn pecynnau Taliadau Uniongyrchol yn arbennig o bwysig wrth asesu sut mae’r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn gweithio i’r grŵp penodol hwn o ddefnyddwyr.   

Unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain

4.51.    Dylai awdurdodau lleol hefyd gymryd camau i gasglu unrhyw wybodaeth sydd ar gael am y rhai sy'n ariannu eu pecynnau gofal a chymorth eu hunain, a cheisio llunio proffil o’r grŵp hwn o ddefnyddwyr gwasanaethau a'r effaith a gânt ar y farchnad gofal cymdeithasol. Er nad yw data ar gael yn rhwydd, o bosibl, gall mwy o wybodaeth am yr hyn y mae unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain yn ei brynu ac yr hoffent ei brynu, gan gynnwys newid mewn patrymau galw, fod yn bwysig er mwyn deall y farchnad gofal sy'n datblygu yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Bydd awdurdodau lleol hefyd am asesu i ba raddau mae’r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn benodol yn cynnig y dewis o wasanaethau a'r gwasanaethau o ansawdd sydd eu hangen ar unigolion sy’n ariannu eu gofal eu hunain, a’r ffactorau a allai hyrwyddo neu lesteirio hyn.

Y gweithlu

4.52.    Bydd cyfansoddiad a nodweddion y gweithlu gofal cymdeithasol yn ffactor pwysig wrth bennu digonolrwydd y gofal a’r cymorth a ddarperir yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Rhaid i’r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ddarparu disgrifiad o’r gweithlu gofal a chymorth presennol, yn enwedig ar draws gwasanaethau rheoleiddiedig. Dylai hyn gynnwys maint a natur unrhyw ddiffyg mewn niferoedd mewn unrhyw sector penodol, ac unrhyw risgiau neu heriau sy’n bodoli ar hyn o bryd neu a ragwelir. Bydd hefyd angen i’r asesiad ystyried effaith recriwtio, datblygu a hyfforddi’r gweithlu gofal cymdeithasol ar ddarparu gofal a chymorth, a nodi unrhyw fylchau mewn sgiliau, gan gynnwys lle mae prinder staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i ddarparu modelau penodol o ofal (er enghraifft, dulliau’n seiliedig ar drawma wrth weithio gyda phlant mewn gofal, neu ddulliau’n seiliedig ar nyrsio mewn cartrefi gofal lle mae gwasanaeth nyrsio). 

Trosolwg o’r farchnad

4.53.    Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried pa drefniadau sydd dd ganddynt ar waith ar gyfer tueddiadau neu risgiau yn y farchnad, a'r mecanweithiau a fydd yn eu helpu i nodi a, lle y bo'n bosibl, liniaru unrhyw fethiant posibl gan ddarparwr neu farchnad.

Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb  

4.54.    Rhaid cynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb fel rhan o'r broses o baratoi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, yn unol â'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol o dan Ddeddf 2014 i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar  Hawliau Pobl ag Anableddau, ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn; a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a gynhwysir yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus roi sylw dyledus i nodweddion gwarchodedig wrth arfer eu swyddogaethau.  

4.55.    Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol, wrth asesu digonolrwydd gofal a chymorth, a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, ystyried yn benodol yr effaith ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chredoau, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (y ‘nodweddion gwarchodedig’), a rhoi sylw dyledus i gonfensiynau ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Dylai'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ystyried nid yn unig effaith digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad ar unigolion sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth, ond hefyd ar y gweithlu gofal cymdeithasol ac ar deulu a ffrindiau sy’n ofalwyr di-dâl (gan gynnwys gofalwyr ifanc).  

4.56.    Rhaid cyhoeddi’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb fel atodiad i’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, ond dylai Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol hefyd sicrhau bod unrhyw effeithiau arwyddocaol ar grwpiau penodol, neu mewn perthynas ag unrhyw rai o’r nodweddion gwarchodedig, yn cael eu trafod a’u cynnwys ym mhrif gorff yr adroddiad lle bo hynny’n briodol.

5. Llunio’r adroddiad

5.1.    Mae’r bennod hon yn nodi beth mae angen ei gynnwys mewn adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad a sut dylid eu cyflwyno; trefniadau ar gyfer cytuno ar yr adroddiad; a pha mor aml y dylid ei adolygu.

5.2.    Unwaith y bydd yr asesiadau digonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad wedi'u cwblhau, rhaid i awdurdodau lleol lunio adroddiad ar y cyd ar gyfer ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy'n nodi canlyniadau'r asesiadau, gan gynnwys yr holl faterion a nodir yn y Rheoliadau neu yn y cod ymarfer hwn.

5.3.    Dylid drafftio’r adroddiad gan ddefnyddio iaith hygyrch er mwyn i ystod mor eang o randdeiliaid â phosibl allu ei darllen a’i ddeall, gan gynnwys dinasyddion a darparwyr.   

Adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad    

5.4.    Y prif faterion y mae'n rhaid ymdrin â hwy yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad yw: 

  • asesiad digonolrwydd – asesiad o ddigonolrwydd gofal a chymorth ar draws ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i ddiwallu'r anghenion a nodwyd yn yr asesiad o anghenion y boblogaeth, yn cynnwys adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd o'r asesiad blaenorol o anghenion y boblogaeth, ond hefyd yn canolbwyntio ar ofal a chymorth i ateb y galw presennol a'r galw a ragwelir fel y’u nodwyd yn yr asesiad anghenion poblogaeth a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar 
  • asesiad o sefydlogrwydd y farchnad – asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal a chymorth ar draws ardal y Bwrdd, and which must include the following matters:
    • digonolrwydd darpariaeth y gwasanaethau rheoleiddiedigs y’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodwyd yn yr asesiad diweddaraf o’r boblogaeth
    • ansawdd cyffredinol y gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion a chanlyniadau personol pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr
    • tueddiadau ar hyn o bryd neu dueddiadau sy’n datblygu o ran darparu gwasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, a’u heffaith neu eu heffaith debygol ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y gwasanaethau a ddarperir
    • unrhyw heriau sylweddol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig ar hyn o bryd neu yn y dyfodol
    • effaith mecanweithiau a dulliau comisiynu ac ariannu ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys dulliau partneriaeth rhanbarthol a’r defnydd o gronfeydd cyfun
  • camau a gymerwyd oherwydd methiant darparwr – rhoi cyfrif o unrhyw gamau a gymerwyd gan unrhyw un o'r awdurdodau lleol yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod y cyfnod penodedig yn unol â'u dyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014, i ddiwallu anghenion gofal a chymorth perthnasol unigolion yn achos methiant darparwr. Rhaid i hyn gynnwys unrhyw wersi a ddysgwyd ac argymhellion ar gyfer camau lliniaru yn y dyfodol    
  • partneriaeth ac ymgysylltu – disgrifiad o’r canlynol: 
    • rôl a chyfraniad pob awdurdod lleol a phartneriaid eraill y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn y broses o gynnal asesiad o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad, a pharatoi’r adroddiad
    • sut gwnaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ymgysylltu â dinasyddion wrth gynnal yr asesiad o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad, a chrynodeb o’r prif negeseuon a materion a oedd yn codi 
    • sut gwnaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ymgysylltu â darparwyr y sector preifat a’r trydydd sector sydd â diddordeb mewn darparu gofal a chymorth i’r boblogaeth leol, a chrynodeb o’r prif negeseuon a’r materion a godwyd
  • rhaid i'r adroddiad hefyd gynnwys asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb

Cytuno ar yr adroddiad

5.5.    Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 fel bod y gwaith o baratoi a chyhoeddi adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad ymhlith y swyddogaethau a gyflawnir ar y cyd gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol drwy drefniadau partneriaeth rhanbarthol. Rhaid i awdurdodau lleol, felly, sicrhau bod yr adroddiad drafft ar sefydlogrwydd y farchnad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol cyfan i'w drafod ac i ymgynghori arno cyn ei gyflwyno i bob awdurdod lleol i'w gymeradwyo'n ffurfiol. Mae'n bwysig bod y Bwrdd cyfan yn 'berchen' ar yr adroddiad, er y cydnabyddir y bydd rhai rhannau o'r adroddiad lle gall aelodau'r Bwrdd fod â safbwyntiau gwahanol – er enghraifft, gall cynrychiolwyr darparwyr neu drydydd sector fod â barn wahanol i awdurdodau lleol am yr effaith y mae dulliau awdurdodau lleol o gomisiynu wedi'i chael ar y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Rhaid nodi barn darparwyr, y trydydd sector a dinasyddion yn yr adroddiad (gweler paragraff 4.5 uchod); a lle mae gwahaniaeth barn sylweddol rhwng aelodau'r Bwrdd ynghylch asesu digonolrwydd neu sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i’r rhain gael eu nodi a’u trafod hefyd yn yr adroddiad. 

5.6.    Ar ôl ei gwblhau, rhaid cyflwyno'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad i bob awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i'w gymeradwyo'n ffurfiol. Bydd angen i’r cyngor llawn gymeradwyo’r adroddiad ar ôl iddo gael ei gyflwyno gan weithrediaeth neu fwrdd y cyngor. Dylid caniatáu digon o amser ar gyfer hyn (ac ar gyfer cymeradwyaeth debyg o fewn y Bwrdd Iechyd Lleol), er mwyn bodloni'r terfynau amser ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru. 

Cyhoeddi

5.7.    Mae adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn ddogfennau cyhoeddus a rhaid eu cyhoeddi. Rhaid i bob awdurdod lleol gyhoeddi’r adroddiad ar gyfer ei ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar ei wefan, a dylid cyhoeddi’r adroddiad ar wefan y Bwrdd hefyd. 

Cyflwyno i Weinidogion Cymru

5.8.    Offeryn i helpu awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i gomisiynu gofal a chymorth digonol ar lefel ranbarthol a lleol yw adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad yn bennaf, ac i lunio marchnadoedd rhanbarthol a lleol ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Wrth iddynt esblygu dros amser, dylent ddod yn elfen allweddol o'r cylch comisiynu strategol, gan gysylltu ag asesiadau o anghenion y boblogaeth a bwydo i mewn i'r cynllun ardal.  

5.9.    Bydd yr adroddiadau hefyd yn helpu i greu darlun o'r farchnad ar gyfer gofal a chymorth ledled Cymru gyfan, gan lywio polisi Llywodraeth Cymru ar gomisiynu, darparu adnoddau ac ail-lunio gofal a chymorth, a chynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru i ddatblygu dull cymesur a phriodol o oruchwylio'r farchnad. Byddant hefyd yn cyfrannu at drafodaethau gwybodus rhwng Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am eu cynlluniau ardal strategol.  

5.10.    Mae Adran 63 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cynnwys darpariaethau i Weinidogion Cymru lunio adroddiad cenedlaethol ar sefydlogrwydd y farchnad, gan roi sylw i'r adroddiadau ar sefydlogrwydd yn y farchnad a luniwyd gan awdurdodau lleol o dan adran 144B o Ddeddf 2014. Mae adran 63 yn rhan o'r darpariaethau ehangach ar gyfer goruchwylio'r farchnad gydag adrannau 59-63 o Ddeddf 2016, nad ydynt wedi'u cychwyn eto. (Trafodir hyn ym mharagraffau 2.12 i 2.14 uchod.) Er nad yw'n fwriad cychwyn y darpariaethau hyn ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn bwriadu defnyddio'r adroddiadau rhanbarthol ar sefydlogrwydd y farchnad, ynghyd â ffynonellau data perthnasol eraill, i greu trosolwg cenedlaethol o ddigonolrwydd gofal a chymorth, ac o siâp a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru.

5.11.    Rhaid cyflwyno adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad i Weinidogion Cymru ar adeg eu cyhoeddi. Dylid anfon yr adroddiadau ar ffurf electronig i PartnershipandIntegration@gov.wales. Dylid dirprwyo’r swyddogaeth hon i’r corff cydgysylltu arweiniol.

Adolygu

5.12.    Rhaid i awdurdodau lleol weithio gyda'u partneriaid yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i adolygu adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad yn rheolaidd a'u diwygio yn ôl yr angen. Bydd angen adolygu'r asesiad o sefydlogrwydd y farchnad, yn arbennig, pryd bynnag y bydd newidiadau sylweddol yn digwydd o fewn y farchnad gofal cymdeithasol, fel bod yr adroddiad yn parhau i fod yn ddogfen 'fyw' drwy gydol y cylch pum mlynedd cyfan. Bydd adolygu rheolaidd, er enghraifft, yn caniatáu i awdurdodau lleol a'u partneriaid yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol olrhain patrymau mynediad ac ymadael â'r farchnad, nodi tueddiadau newydd a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y ddarpariaeth, a lliniaru neu reoli'r risgiau i sefydlogrwydd y farchnad gofal cymdeithasol. 

5.13.    Rhaid adolygu adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad o leiaf unwaith y flwyddyn. Os bydd newidiadau sylweddol yn dilyn adolygiad, rhaid i awdurdodau lleol lunio naill ai adroddiad diwygiedig neu atodiad, a bydd rhaid ei gyhoeddi ar wefannau’r awdurdodau lleol, a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru.

Rhan 2 Canllawiau statudol

6. Trefniadau partneriaeth

6.1.      Mae’r bennod hon yn ymdrin â’r trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn paratoi a chyhoeddi adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. 

6.2.      Mae’r bennod hon yn ganllawiau statudol a gyhoeddir o dan adran 169 o Ddeddf 2014, ac mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol roi sylw iddynt. Dylid eu darllen ochr yn ochr â'r cod ymarfer ar arfer swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad (penodau 2-5 uchod).  

6.3.      Roedd Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni swyddogaethau penodol wedi’u dirprwyo gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Mae Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Diwygio) a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Adroddiadau Sefydlogrwydd y Farchnad) (Cymru) 2021 ('y Rheoliadau') yn cynnwys paratoi a chyhoeddi adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad ymhlith y swyddogaethau sydd i'w cyflawni o dan y trefniadau partneriaeth hyn. Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol lunio adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad, ar sail rhanbarthol, gan gydweithio â’i gilydd ac â phartneriaid eraill drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.    

6.4.     Rhaid i awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Lleol pob un o ardaloedd y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer yr ardal honno. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdodau lleol weithredu’n unol â gofynion y cod ymarfer a nodir ym mhenodau 2-5 y ddogfen hon, a rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ymgysylltu fel partneriaid gweithredol a chyd-gomisiynwyr ag awdurdodau lleol i gyflawni’r gofynion hynny. [Cod Ymarfer, pennod 3 (3.6 – 3.12)]

6.5.     Wrth lunio eu hadroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol gynnal asesiad o ddigonolrwydd gofal a chymorth yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gan gynnwys y gwasanaethau hynny sy’n cael eu hariannu a/neu eu comisiynu ar y cyd; a hefyd asesiad o sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Gwasanaethau rheoleiddiedig yw’r rheini sydd wedi’u rhestru yn yr Atodlen i Ddeddf 2016. Wrth asesu sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig, rhaid iddynt gynnwys y materion canlynol: digonolrwydd y ddarpariaeth, gan gynnwys unrhyw fylchau; ansawdd cyffredinol y gwasanaethau hynny; y tueddiadau ar hyn o bryd neu’r rhai sy’n datblygu yn y ddarpariaeth; unrhyw heriau sylweddol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd ar hyn o bryd neu yn y dyfodol; effaith mecanweithiau a dulliau comisiynu ac ariannu ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys dulliau partneriaeth rhanbarthol a defnyddio cronfeydd cyfun. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod yr asesiad yn cynnwys digonolrwydd y gofal a'r cymorth a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg, a'r farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir yn Gymraeg. [Cod Ymarfer, pennod 4]

6.6.     Rhaid i awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol gymryd camau rhesymol i ymgysylltu â dinasyddion, gan gynnwys pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, rhieni plant sydd ag anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr, wrth baratoi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad. [Cod Ymarfer, 3.14]

6.7      Rhaid rhoi trefniadau addas ar waith i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal neu sydd wedi gadael gofal, a hefyd â gofalwyr ifanc. Mae mecanweithiau eisoes wedi'u hen sefydlu ar gyfer cyfranogiad plant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai a sefydlwyd gan awdurdodau lleol, Arolygiaeth Gofal Cymru, darparwyr eiriolaeth, ac (ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn arbennig) Consortiwm Comisiynu Plant Cymru.  

6.8.     Rhaid i’r awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau i ymgysylltu â darparwyr neu ddarpar ddarparwyr gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig, ar draws y sector preifat a'r trydydd sector. Rhaid i hyn gynnwys y fforwm gwerth cymdeithasol rhanbarthol. Dylid ystyried darparwyr nid yn unig fel ffynhonnell bosibl o ddata a gwybodaeth berthnasol, ond fel partneriaid a all ddod â gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr i ddatblygu adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad, er enghraifft ar wir gostau darparu gofal a chymorth. Rhaid i awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd gymryd camau i ymgysylltu â'u rheolwyr a'u staff eu hunain lle darperir gwasanaethau'n uniongyrchol (gan gynnwys y rhai a gomisiynir ar y cyd gan lywodraeth leol a'r GIG). Rhaid ymgynghori hefyd â chyrff proffesiynol ac undebau llafur fel y bo'n briodol. [Y Cod Ymarfer, 3.15]

6.9.     Rhaid i awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol gymryd camau priodol i ymgynghori ac ymgysylltu â chomisiynwyr a darparwyr yn y GIG ac mewn awdurdodau lleol yn Lloegr, yn enwedig pan fo'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ffinio ag ardal awdurdod lleol yn Lloegr a lle ceir darpariaeth drawsffiniol o ofal a chymorth. [Y Cod Ymarfer, 3.16]

6.10.   Rhaid i’r awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol, drwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, enwebu corff cydgysylltu arweiniol ar gyfer paratoi a chyhoeddi'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad. Y corff cydgysylltu arweiniol fydd yn gyfrifol am gydgysylltu’r asesiadau o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad, a llunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, ond rhaid i bob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol gymryd rhan yn yr ymarfer os gofynnir iddynt wneud hynny gan y corff cydgysylltu arweiniol. Bydd y corff cydgysylltu arweiniol hefyd yn gyfrifol am gydgysylltu cyfraniad partneriaid eraill y Bwrdd wrth baratoi'r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad. Gellir adolygu’r trefniant o ran y corff cydgysylltu pan fydd y bartneriaeth yn penderfynu bod hynny’n briodol.

6.11.   Y corff cydgysylltu arweiniol sy’n gyfrifol am ddatrys problemau a allai lesteirio’r gwaith o lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad. Gall y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd helpu i ddatrys unrhyw wrthdaro sy’n codi, naill ai wrth gynnal asesiadau o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd y farchnad neu wrth gytuno ar yr adroddiad.  

6.12.   Nid yw adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn disgrifio cyfansoddiad a nodweddion y farchnad ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig yn unig, ond maent hefyd yn llunio barn am faterion a allai fod yn sensitif ynghylch digonolrwydd ac effaith comisiynu gan awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. Efallai na fydd yn bosibl i’r holl awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar agwedd benodol ar yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar y cyd. Efallai y bydd safbwyntiau neu anghytundebau gwahanol rhyngddynt hwy hefyd ac aelodau eraill o'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol megis y darparwr, y trydydd sector neu gynrychiolwyr dinasyddion. Os oes anghytundeb ynghylch casgliadau neu gynnwys yr adroddiad, dylai’r corff cydgysylltu arweiniol geisio datrys y rhain yn y lle cyntaf, ond os nad yw hyn yn bosibl dylid cyfeirio’r mater at y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Os nad yw’n bosibl cytuno o hyd ar unrhyw agwedd ar yr asesiad, yna dylai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol nodi’r safbwyntiau gwahanol ac adlewyrchu’r rhain yn yr adroddiad.

6.13.   Rhaid i’r awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ardal y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gyd gyfrannu at unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r ymarfer. Dylent hefyd gytuno â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ehangach pa adnoddau eraill, gan gynnwys staff, y gallai fod angen eu defnyddio i gefnogi'r corff cydgysylltu arweiniol wrth gynnal yr asesiadau a llunio’r adroddiad – er enghraifft, wrth hwyluso cyfranogiad dinasyddion neu ddarparwyr.

6.14.   Rhaid i'r awdurdodau lleol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn y trefniant partneriaeth rannu unrhyw wybodaeth sydd ei hangen er mwyn llunio’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad. Rhaid rhannu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn unol ag egwyddorion Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI). Mae pob awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i Gytundeb WASPI. Mae rhagor o wybodaeth am WASPI

6.15.   Ar ôl ei gwblhau, rhaid i’r awdurdodau lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gytuno arno, cyn ei gyflwyno i bob awdurdod lleol ac i’r Bwrdd Iechyd Lleol i’w gymeradwyo’n ffurfiol. [Y Cod Ymarfer, 5.4 – 5.5] 

6.16.   Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar sefydlogrwydd y farchnad erbyn 1 Mehefin 2022 a’i gyflwyno i Weinidogion Cymru adeg ei gyhoeddi. Y corff cydgysylltu arweiniol sy’n gyfrifol am gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru. [Y Cod Ymarfer, 5.6 – 5.10]

6.17.   Rhaid i awdurdodau lleol a’r Byrddau Iechyd Lleol adolygu’r adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad yn rheolaidd a’u diwygio yn ôl yr angen. Rhaid adolygu'r adroddiadau o leiaf unwaith y flwyddyn. Y corff cydgysylltu arweiniol sy’n gyfrifol am reoli’r gwaith adolygu hwn ac am gyflwyno unrhyw atodiadau dilynol i Weinidogion Cymru. [Y Cod Ymarfer, 5.11 – 5.12]

Adnoddau

‘Let’s Agree to Agree’ – pecyn cymorth i gomisiynwyr a darparwyr allu cytuno ar gost gofal preswyl a nyrsio i bobl hŷn yng Nghymru (Awst 2018)

Y Ffordd Gywir: Dull Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru:  

Safonau'r Gymraeg sy'n berthnasol i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol mewn hysbysiadau cydymffurfio ar wefan Comisiynydd y Gymraeg

AAGIC a Gofal Cymdeithasol Cymru 'Cymru Iachach: Ein strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’

Ymchwil a data Gofal Cymdeithasol Cymru

Gofal Cymdeithasol Cymru: Adroddiadau ar y gweithlu

Canolfan Cydweithredol Cymru, ‘Helpu Comisiynwyr a Chaffaelwyr Gofal i Hyrwyddo Modelau Gwerth Cymdeithasol (Rhagfyr 2020). a Pecyn Cymorth Gwerth Cymdeithasol

Ffynonellau'r data

Arolygiaeth Gofal Cymru

Data Cymru

Dewis Cymru

Mae'r wefan hon yn cynnwys data am welyau sydd ar gael mewn cartrefi gofal i oedolion (angen mewngofnodi i safle diogel) 

Stats Cymru

Iechyd a gofal cymdeithasol (set gynhwysfawr o wybodaeth am iechyd, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, sy'n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, gweithgarwch sylfaenol a chymunedol y GIG ac amseroedd aros).