Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cynnal ymchwiliad mewn perthynas â thrais ar sail rhywedd, sy'n cydnabod yr heriau ychwanegol y mae menywod mudol yn eu hwynebu. Cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor ar 26 Hydref 2022.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi holl ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae hyn yn cynnwys dioddefwyr mudol a'r rhai heb hawl i arian cyhoeddus.  Mae'n rhaid inni sicrhau na fydd y grwpiau hyn yn wynebu unrhyw fylchau mewn strategaethau sydd â'r nod o gefnogi pobl sy'n cael eu cam-drin. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adroddiad pwysig hwn.

Mae ffoaduriaid, mudwyr a cheiswyr lloches sy'n fenywod sy'n ffoi rhag trais a chamdriniaeth yn wynebu heriau a chaledi penodol, sydd wedi gwaethygu drwy'r pandemig. Gall y grwpiau hyn yn aml wynebu lefelau uwch o drais, nid yn unig yn ystod eu teithiau mudo, ond hefyd am fod rhwystrau megis oedran, iaith, ynysu, statws mewnfudo ansicr a thlodi yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn profi trais a chamdriniaeth ar ôl iddynt gyrraedd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad yn flaenorol i ddiogelu hawliau mudwyr a'r rhai yr effeithir arnynt gan VAWDASV ac mae wedi rhoi nifer o fframweithiau a darnau o ddeddfwriaeth ar waith i wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wneud Cymru yn Genedl Noddfa: mae cynllun Cenedl Noddfa yn cynnwys ymrwymiadau trawslywodraethol clir i leihau'r anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr noddfa; mae hyn yn cynnwys cefnogi goroeswyr VAWDASV.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei Strategaeth Genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ddiweddar. Mae'n amlinellu sut y byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, y casineb at fenywod a'r trais gan ddynion sy'n achosi ac yn arwain at drais a chamdriniaeth yn erbyn menywod. Mae'r strategaeth yn cydnabod nad yw effaith trais a chamdriniaeth o'r fath yn unffurf, sy'n effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol. Felly, mae deall yr effeithiau ar gydraddoldeb ar sail groestoriadol yn hanfodol er mwyn inni fynd i'r afael â'r broblem i bawb yng Nghymru.

Er bod cynnydd wedi cael ei wneud, mae angen cymryd camau gweithredu ychwanegol i ddiwallu anghenion y rhai Heb Hawl i Arian Cyhoeddus, meithrin gallu cyrff cyhoeddus i gefnogi dioddefwyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd sydd wedi mudo dan orfod, a mynd i'r afael â'r ynysigrwydd a brofir gan fenywod sy'n fudwyr, yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor ac wedi nodi sut y gellir ystyried neu fabwysiadu mesurau ychwanegol, lle y bo'n briodol. Mae'r rhain yn cynnwys dull trawslywodraethol o sicrhau gwell canlyniadau i ddioddefwyr mudol trais ar sail rhywedd.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r ffordd y mae’n bwriadu mynd i’r afael â’r problemau sy’n cael eu hamlygu ynghylch iaith a darparu cyfieithu ar y pryd ar gyfer menywod mudol. Rhaid i hyn gynnwys nodi’r camau y bydd yn eu cymryd i atal asiantaethau statudol rhag defnyddio aelodau o’r teulu a/neu Bawso fel cyfieithwyr, heblaw mewn achosion brys neu argyfyngus. I gefnogi asiantaethau i wneud hynny, dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu cyfeiriadur o gyfieithwyr ar y pryd cydnabyddedig hefyd.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn deall y rhwystrau y mae menywod mudol yn eu hwynebu i gael gafael ar wasanaethau heb ddefnyddio cyfieithydd a sut y gall hyn wneud iddynt deimlo'n betrus ynglŷn â defnyddio gwasanaethau, yn enwedig i'r rhai sydd â statws mudo ansicr. Cyflwynwyd adroddiad ar argaeledd a digonolrwydd gwasanaethau cyfieithu ar y pryd mewn ieithoedd tramor i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar fel rhan o Brosiect Integreiddio Mudwyr Cymru.  Byddwn yn ystyried argymhellion a chanfyddiadau'r adroddiad ochr yn ochr â'r argymhelliad hwn a gwaith ein Fframwaith ar Integreiddio Mudwyr. Bydd gwaith yn y dyfodol yn ystyried sut y gellir dileu'r rhwystrau i fynediad, gan weithio gyda sefydliadau cyhoeddus a sefydliadau yn y trydydd sector i roi mynediad er mwyn i fenywod mudol esbonio eu hamgylchiadau. Byddwn hefyd yn ystyried ffyrdd newydd o weithio er mwyn sicrhau mynediad, a allai gael eu hymgorffori yn ein gwaith cyfathrebu ar Brosiect Integreiddio Mudwyr Cymru. 

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 2

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â goroeswyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd o gymunedau mudol, a rhanddeiliaid eraill fel awdurdodau lleol, wrth ddatblygu strategaeth gymunedol ar godi ymwybyddiaeth ac atal, a all ffurfio canllawiau ar gyfer cyrff statudol.

Ymateb: Derbyn

Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn amlinellu chwe amcan ar gyfer 2022 i 2026. Mae strwythur glasbrint yn cael ei greu, sy'n nodi trefniadau llywodraethu a rennir, gyda ffrydiau gwaith a fydd yn cyflwyno adroddiadau ar waith a chamau gweithredu allweddol. Bydd yn hanfodol gwrando ar brofiadau goroeswyr, ac mae Panel Craffu a Chynnwys Lleisiau Goroeswyr yn cael ei sefydlu, a fydd yn cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd, gan gynnwys o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd y panel yn rhychwantu'r holl ffrydiau gwaith ac yn gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer cyngor polisi sydd wedi cael ei gyfeirio ato i'w ystyried. Bydd y Panel Craffu a Chynnwys Lleisiau Goroeswyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu cyngor polisi ar gynnwys defnyddwyr mewn prosesau gwneud penderfyniadau ac ymgysylltu.

Drwy ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o bob agwedd ar VAWDASV. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn rhoi cyngor ymarferol i'r rhai a all fod yn cael eu cam-drin ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i alluogi ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach i adnabod achosion o gam-drin a chymryd camau gweithredu diogel. Yn hanesyddol, mae ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn yn dangos bod gan ddioddefwyr a chyflawnwyr nodweddion amrywiol. Gallant uniaethu â bod yn wrywaidd, yn fenywaidd neu'n anneuaidd, yn anabl neu ddim yn anabl, yn ifanc neu'n hen, yn wyn neu'n ddu neu'n unrhyw leiafrif ethnig arall, neu o'n cymuned LHDTC+. Byddwch yn gweld bod y grwpiau hyn yn cael eu cynrychioli yn y deunyddiau sy'n cefnogi ein hymgyrchoedd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan. Yn y flwyddyn sydd i ddod, bydd ein hymgyrchoedd cenedlaethol yn parhau i ddangos mwy o enghreifftiau o gam-drin domestig a thrais rhywiol a brofir gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a'r rhai sydd ag anghenion amrywiol ac mewn lleoliadau pellach fel y gweithle ac ar-lein.

Goblygiadau ariannol: Dim goblygiadau ariannol ychwanegol gan fod y gwaith yn mynd rhagddo'n unol â'r cynlluniau gwaith presennol

Argymhelliad 3

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau gael mynediad ati i gefnogi menywod mudol sy’n ddioddefwyr neu wedi goroesi Trais Rhywiol a Thrais ar Sail Rhywedd a Heb Hawl i Arian Cyhoeddus, gan ddefnyddio strategaeth ‘Ending Destitution Together’ Llywodraeth yr Alban fel enghraifft. Disgwyliwn y caiff y gwaith hwn ei gyflawni yn y chwe mis nesaf, gyda bwriad i sefydlu cronfa erbyn mis Gorffennaf 2023.

Ymateb: Derbyn

Mae swyddogion wrthi'n cwmpasu opsiynau ar gyfer cronfa a fyddai'n anelu at gefnogi dioddefwyr mudol VAWDASV heb hawl i arian cyhoeddus. Mae hyn yn unol â'n Cenedl Noddfa a'n dull gweithredu fel y'i nodwyd yn ein Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfleoedd eraill i roi cyllid yn unol ag anghenion poblogaeth Cymru, gan ystyried unrhyw benderfyniadau arfaethedig ynglŷn â dyfodol Cynllun Cymorth i Ddioddefwyr Mudol Llywodraeth y DU.

Goblygiadau ariannol: Mae swyddogion wrthi'n cwmpasu goblygiadau ariannol unrhyw gynllun o'r fath.

Argymhelliad 4

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariadau blynyddol ar ei gwaith o ran pobl Heb Hawl i Arian Cyhoeddus, gan gynnwys gwaith y grŵp llywio Heb Hawl i Arian Cyhoeddus; cynnydd o ran opsiynau sy’n cael eu hystyried ar gyfer cefnogi menywod mudol Heb Hawl i Arian Cyhoeddus, a thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU.

Ymateb: Derbyn

Mae gofyniad statudol ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad blynyddol o dan Adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwaith a wneir drwy gydol y flwyddyn yn unol â'r amcanion a nodwyd yn y strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu polisïau ac ymgysylltu mewn perthynas â dioddefwyr mudol VAWDASV, gan gynnwys y rhai heb hawl i arian cyhoeddus.

Bydd y materion hyn yn parhau i gael eu cynnwys ym mhob adroddiad yn y dyfodol, a bwriedir i'r adroddiad ar gyfer 2021 i 2022 gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2022.

Goblygiadau ariannol: Dim. Mae'r adroddiad blynyddol eisoes yn cael ei gyhoeddi fel rhan o gynllun gwaith y tîm VAWDASV. 

Argymhelliad 5

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o weithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i weld pa effaith y mae wedi’i chael ar fenywod mudol Heb Hawl i Arian Cyhoeddus a’u plant. Dylid cynnal yr adolygiad o fewn y chwe mis nesaf a dylai edrych yn ofalus ar ffyrdd o sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn gyson ledled Cymru.

Ymateb: Derbyn

Fel y cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn ei thystiolaeth lafar, nid oes unrhyw faterion wedi cael eu codi gyda'r Byrddau Diogelu Cenedlaethol na Rhanbarthol ynglŷn â phryderon gan fenywod mudol yn ymwneud â rhyngweithio â gwasanaethau cymdeithasol neu eu defnyddio na phryderon bod eu plant yn wynebu risg o gael eu symud ymaith. Serch hynny, mae swyddogion eisoes wedi ymgysylltu eto â'r Byrddau Diogelu i rannu canfyddiadau'r Pwyllgor a sicrhau tystiolaeth ychwanegol o unrhyw brofiadau neu heriau yn eu hardaloedd. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn helpu holl bartneriaid y Byrddau Diogelu i fyfyrio ar oblygiadau'r ymarfer casglu tystiolaeth a'u hystyried a rhoi sicrwydd iddynt hwy eu hunain ynglŷn â'r cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd y maent yn eu rhannu i ymateb mewn ffordd effeithiol a chynhwysfawr i unrhyw un sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu sy'n wynebu risg o hynny.

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 6

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai’r adolygiad gynnwys gwerthusiad o’r canllawiau a ddarperir i awdurdodau lleol ar weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’u rôl o ran cefnogi menywod mudol a’u plant Heb Hawl i Arian Cyhoeddus, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol yn llawn. Dylai’r gwerthusiad hwn hefyd ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno canllawiau diwygiedig yn effeithiol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu deall yn gyson ledled Cymru.

Ymateb: Derbyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyngor a roddir fel rhan o'r gwaith ar y rhai heb hawl i arian cyhoeddus yn cael ei ddiweddaru a'i adolygu'n rheolaidd. Gwnaethom ymrwymo i gynnal ymarfer gwerthuso chwe mis ar ôl ei ddyddiad cyhoeddi cyntaf, sef ym mis Rhagfyr 2022. 
Caiff tystiolaeth a chanlyniadau'r ymarfer gwerthuso hwnnw a'r un sydd i'w gynnal mewn ymateb i Argymhelliad 5 eu defnyddio fel rhan o'r broses o lywio unrhyw newidiadau sydd eu hangen i'r Canllawiau ar Heb Hawl i Arian Cyhoeddus. 
Mae hyfforddiant ar Hawliau Mudwyr wedi cael ei gyflwyno i staff rheng flaen awdurdodau lleol a'r trydydd sector, a fydd, ar ôl ei werthuso, hefyd yn ychwanegu at y wybodaeth sydd ar gael i'w defnyddio.

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 7

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae’n bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y DU i ymateb i bryderon ynghylch darpariaeth cyngor cyfreithiol o ran statws mewnfudo i fenywod mudol yng Nghymru.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru yn Genedl Noddfa, gan adeiladu ar ein hanes hir o gefnogi mudwyr o bob cwr o’r byd er mwyn cael budd o’u sgiliau a’u diwylliant a gwella cymdeithas Cymru.

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am loches a mudo, yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod rhai o'r ffactorau allweddol i atal canlyniadau niweidiol, megis prosesau gwneud penderfyniadau amserol a da o benderfynu ar achosion lloches a darparu cymorth cyfreithiol, y tu hwnt i'n rheolaeth. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i dynnu sylw at y materion allweddol sy'n effeithio ar allu mudwyr yng Nghymru i gael cyngor cyfreithiol, a mynd i'r afael â nhw lle y bo modd. 

Mae ein cynllun Cenedl Noddfa yn nodi'r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i sicrhau y darperir gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth hygyrch o safon dda er mwyn galluogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i arfer eu hawliau a gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu canfyddiadau'r adroddiad a gyflwynwyd fel rhan o Brosiect Integreiddio Mudwyr Cymru sy'n ystyried digonolrwydd ac argaeledd cyngor cyfreithiol ar fewnfudo i fudwyr dan orfod yng Nghymru.

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 8

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall sicrhau y gellir cael mynediad at gyngor cyfreithiol o ansawdd da, drwy weithio gyda rhanddeiliaid i edrych ar enghreifftiau o arfer da, gan gynnwys JustRight Scotland, ac adrodd ar ei ganfyddiadau i’r Pwyllgor hwn erbyn mis Gorffennaf 2023.

Ymateb: Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ceisio sicrhau bod Fframwaith Integreiddio Mudwyr Cymru yn ystyried sut y darperir cyngor cyfreithiol i ddioddefwyr mudol trais ar sail rhywedd. Drwy weithredu'n drawslywodraethol rydym hefyd yn datblygu proses o sicrhau bod dioddefwyr mudol wedi'u cynnwys o dan y trefniadau adrodd perthnasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried canfyddiadau'r ymchwil i ddigonolrwydd ac argaeledd cyngor cyfreithiol i fudwyr dan orfod fel rhan o Brosiect Integreiddio Mudwyr Cymru. Bydd mynediad at gyngor cyfreithiol yn rhan o'r fframwaith a dangosyddion integreiddio. Byddwn yn ystyried sut y gallwn fynd i'r afael â'r bylchau daearyddol, yn ystyried sut y gellir meithrin gallu ac yn gweithio gyda grwpiau cymorth i greu adnoddau llythrennedd cyfreithiol i fudwyr a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y sector cymorth. Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi mudwyr er mwyn ystyried sut y gellir rhoi mynediad a gwybodaeth ynglŷn â chyngor cyfreithiol ac yn ystyried modelau arferion gorau. 

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 9

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru nodi canllawiau ar gyfer hyfforddiant ar faterion penodol sy’n ymwneud â menywod mudol y gellir eu hymgorffori mewn hyfforddiant rheolaidd ledled Cymru, i wella dealltwriaeth ac i ddileu unrhyw ymddygiad gwahaniaethol posibl a ddangosir gan wasanaethau rheng flaen. Dylid cyhoeddi’r canllawiau hyn erbyn mis Gorffennaf 2023.

Ymateb: Derbyn

Un o'r dulliau allweddol o roi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith yw'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Mae'r rhai sy'n profi VAWDASV yn cael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus am lawer o resymau megis tai, gofal iechyd ac addysg. Mae'n rhaid i'r gwasanaethau hyn ddarparu llwybrau atgyfeirio i roi cymorth i ddioddefwyr. Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnig hyfforddiant cymesur i atgyfnerthu'r ymateb a roddir ledled Cymru i'r rhai sy'n profi'r problemau hyn. Mae'n nodi disgwyliadau uchelgeisiol a chlir ar gyfer safonau hyfforddi, canlyniadau a chynnwys ar VAWDASV. Mae cyfrifoldeb ar bob lefel o staff o fewn grwpiau 1-6 a nodwyd o dan y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol i ymgymryd â'r hyfforddiant. Byddwn yn cynnal adolygiad o'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn 2023 a gallwn ymrwymo i sicrhau y caiff materion sy'n ymwneud â menywod mudol eu hystyried yn ystod y broses hon.

Er mwyn cydnabod bod achosion o VAWDASV wedi bod yn fwy cymhleth a bod risgiau wedi cynyddu o ganlyniad i ynysigrwydd yn ystod y pandemig, comisiynwyd hyfforddiant arbenigol ychwanegol yn ystod y cyfnod adrodd hwn i staff awdurdodau perthnasol a'r rhai nad ydynt yn berthnasol  sy'n dod i gysylltiad â dioddefwyr a chyflawnwyr yn eu rolau o ddydd i ddydd. Roedd yr hyfforddiant ychwanegol hwn yn cwmpasu gweithio gyda dioddefwyr cam-drin ar sail anrhydedd; dioddefwyr gwryw; ac adnabod cyflawnwyr VAWDASV a gweithio gyda nhw. Drwy gynnig yr hyfforddiant arbenigol ychwanegol hwn i staff awdurdodau nad ydynt yn berthnasol mae hyn hefyd wedi arwain at sefyllfa lle mae amrywiaeth ehangach o weithwyr proffesiynol yn gallu adnabod VAWDASV ac ymateb iddo.

Mae gweld yr unigolyn a'i anghenion o flaen ei statws mewnfudo yn agwedd sylfaenol ar ddull y Genedl Noddfa. Mae'n hollbwysig bod swyddogion awdurdodau lleol yn ceisio nodi'r hyn y gallant ei wneud i helpu rhywun mewn angen, hyd yn oed os nad yw dulliau mwy cyffredin o gymorth ar gael am nad oes hawl i arian cyhoeddus.

Rydym yn nodi rhai argymhellion yn y Canllawiau ar Heb Hawl i Arian Cyhoeddus. Un ohonynt oedd bod awdurdodau lleol yn ymgorffori'r cysyniad hwn ym mhrosesau cynefino a hyfforddi eu staff.

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 10

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r data newydd sydd ar gael drwy’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i sefydlu llinellau sylfaen i lywio’r gwaith o fonitro a thargedu cyngor a gwasanaethau yn y dyfodol. Dylid cyflawni’r gwaith hwn o fewn y chwe mis nesaf.

Ymateb: Derbyn yn rhannol 

Bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at ddefnyddio data cadarn i lywio'r broses o ddatblygu polisïau yn y dyfodol, yn unol ag arferion gorau ar gyfer llunio polisïau ar sail tystiolaeth. Er nad yw'r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd yn dal unrhyw ddata newydd ar hyn o bryd, mae swyddogion polisi VAWDASV yn awyddus i weithio'n agos gyda dadansoddwyr Llywodraeth Cymru i ddeall sut y gall y data a ddelir eisoes gael eu datblygu a'u rhoi ar waith er mwyn gwella'r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael ym mhob rhan o'r Llywodraeth, yn enwedig o ran VAWDASV. 
Byddai angen ymarfer mapio er mwyn canfod pa ddata y mae gwasanaethau yn eu dal. Yna, efallai y bydd modd i Lywodraeth Cymru gael data o'r fath, ond dim ond os gellir rhoi cytundebau rhannu data ar waith. Byddai angen datblygu cytundebau rhannu data lle y delir data eisoes, a fydd yn cymryd amser i'w datblygu a'u rhoi ar waith er mwyn gwarantu bod yr holl ystyriaethau cyfreithiol a moesol yn cael eu hystyried. Mae hyn yn arbennig o heriol am nad oes gofyniad deddfwriaethol sy'n mynnu bod data penodol yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn yn debygol o gymryd mwy o amser na'r cyfnod o chwe mis a argymhellir. 

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 11

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae’n bwriadu sicrhau, pan fydd yn casglu data am fenywod mudol, bod ganddynt ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd gyda’u data, a sut y bydd eu data yn llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Ymateb: Derbyn

Bydd dadansoddwyr a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau rhanddeiliaid i ennyn ymddiriedaeth a chynnwys pobl drwy gydol y broses casglu data a'r broses gwneud penderfyniadau. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y data a gesglir gan y gwasanaethau a ariennir ganddi yn cydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) ac yn sicrhau bod y gwasanaethau hynny yn rhoi hysbysiadau preifatrwydd i bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau er mwyn iddynt ddeall sut y caiff eu data personol a'u data categori arbennig eu defnyddio. Fel rhan o GDPR y DU, yn achos data a reolir gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid rhoi Hysbysiadau Preifatrwydd sy'n cwmpasu'r hyn sy'n digwydd i ddata unigolyn a sut y bydd ei ddata yn llywio penderfyniadau yn y dyfodol. Wrth roi Hysbysiadau Preifatrwydd i fenywod mudol o fewn ein gwasanaethau a'n prosesau tystiolaeth, bydd swyddogion yn sicrhau bod unrhyw Hysbysiadau Preifatrwydd gan Lywodraeth Cymru mewn iaith briodol er mwyn sicrhau dealltwriaeth glir.

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 12

Mae'r Pwyllgor yn argymell: 

Dylai Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Heddlu ac awdurdodau lleol, gymryd camau drwy ganllawiau i fynd i’r afael â phryderon ynghylch y berthynas rhwng rhannu data a pharodrwydd goroeswyr i geisio cymorth. Dylid rhannu’r canllawiau hyn yn eang â sefydliadau arbenigol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd ehangach a dylent fod ar gael mewn ieithoedd gwahanol.

Ymateb: Derbyn

Mae plismona a mewnfudo yn wasanaethau nad ydynt wedi'u datganoli yng Nghymru. O fewn y terfynau y mae hyn eu gosod, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid datganoledig ac annatganoledig i ddeall y materion sy'n codi ynglŷn â rhannu data a'r effaith ar ddioddefwyr mudol. Caiff y pwyntiau hyn eu hystyried fel rhan o'r gwaith cydweithredol sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â VAWDASV yng Nghymru, gyda'r nod o gytuno ar gamau gweithredu priodol i roi mwy o hyder i oroeswyr geisio cymorth a'u rhoi ar waith. 

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 13

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu mur gwarchod sy’n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rhai sy’n ceisio cymorth o ran Trais Rhywiol a Thrais ar Sail Rhywedd.

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

Rydym yn deall pwysigrwydd rhannu data weithiau rhwng adrannau'r llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau gwell canlyniadau i bobl. Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd, mewn rhai achosion sy'n ymwneud â VAWDASV, y gall rhannu data fod yn rhwystr sy'n atal pobl rhag cael gafael ar wasanaethau a chymorth. Gan fod llawer o'r sefydliadau sy'n dal data yn rhai annatganoledig, ni all Llywodraeth Cymru sefydlu mur gwarchod yn annibynnol. Fodd bynnag, gan adeiladu ar argymhelliad 12, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i gyfleoedd i wella'r prosesau presennol Llywodraethir pob asiantaeth, gan gynnwys heddluoedd, gan GDPR y DU, gyda'r Comisiynydd Gwybodaeth yn barod iawn i godi ac ymdrin ag unrhyw achosion o dor diogelwch data.

Yn unol ar Argymhelliad 12, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid datganoledig ac annatganoledig i ddeall y materion sy'n codi ynglŷn â rhannu data a'r effaith ar ddioddefwyr mudol ac yn ystyried opsiynau ar gyfer mur gwarchod i gyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau.

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 14

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru fel aelod o’i Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol.

Ymateb: Derbyn

Bydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a arweinir gan Weinidog yn arwain y trefniadau llywodraethu ar gyfer y glasbrint i gyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022-26. Bydd swyddogion yn gwahodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru i benodi cynrychiolydd i ymuno â'r bwrdd, er mwyn sicrhau anghenion menywod mudol yn cael eu hymgorffori ym mhob un o'r amcanion. 

Goblygiadau ariannol: Dim

Argymhelliad 15

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022-26 i gynnwys adran sy’n ymdrin yn benodol ag anghenion menywod mudol a phlant, a’r rhai sy’n destun yr amod Heb Hawl i Arian Cyhoeddus.

Ymateb: Derbyn

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol pum mlynedd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar 24 Mai a ddatblygwyd ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys yr heddlu, sectorau arbenigol a goroeswyr. Mae'r Strategaeth yn amlinellu'r amcanion cyffredinol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni mewn partneriaeth â rhanddeiliaid er mwyn hyrwyddo diben Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. 

Mae'r strategaeth eisoes yn mynd i'r afael â chefnogi dioddefwyr mudol VAWDASV, gan gynnwys y rhai heb hawl i arian cyhoeddus, fel un o'r blaenoriaethau allweddol y gellir ei fodloni o dan ein cynllun cyflawni, sy'n tynnu sylw at y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn "Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i ddod o hyd i atebion priodol i ddiwallu anghenion goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gael gafael ar arian cyhoeddus oherwydd eu statws mewnfudo, yn unol â Chynllun Gweithredu Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru". Bydd hyn yn parhau i fod yn ffocws polisi allweddol dros y pedair blynedd nesaf a chaiff unrhyw newidiadau i'r Strategaeth eu hystyried fel rhan o Ystyriaethau Ffrydiau Gwaith y Strategaeth.

Goblygiadau ariannol: Dim