Neidio i'r prif gynnwy

Contractau Glastir Advanced wedi'u hadnewyddu neu eu hymestyn

Cynigir adnewyddu neu estyn y contractau Glastir Uwch canlynol:

  • bydd cwsmeriaid sydd â chontractau Glastir Uwch wedi'u Hadnewyddu sydd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022 yn cael cynnig estyniad newydd o flwyddyn i’r Contract wedi’i Adnewyddu. 
  • bydd cwsmeriaid sydd â chontractau Glastir Uwch gwreiddiol a ddechreuodd yn 2018 yn cael cynnig Contract 1 blwyddyn wedi’i Adnewyddu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr holl wybodaeth yn eich contract newydd yn ofalus. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Taliadau Gwledig Cymru.

Contractau Glastir Uwch wedi’u hadnewyddu, a ddechreuodd yn 2018, 2019, 2020 neu 2021 i ddod i ben erbyn 31 Rhagfyr 2022

Pam ydym yn cynnig estyniad i’ch contract

Mae Llywodraeth Cymru am weld y manteision amgylcheddol gwerthfawr sy’n cael eu darparu o dan gontractau Glastir yn parhau, gan gynnwys unrhyw ymrwymiadau Glastir Sylfaenol. Bydd yn rhaid parhau i fodloni’r ymrwymiadau hyn fel rhan o’r contract Glastir Uwch estynedig.

Am faint y bydd eich contract yn cael ei estyn

Bydd contractau Glastir Uwch wedi’u hadnewyddu sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr 2022 yn cael estyniad o flwyddyn tan 31 Rhagfyr 2023.  Bydd estyniad pellach o flwyddyn yn cael ei gynnig y flwyddyn nesaf.

Pam nad yw’r contract yn cael ei estyn am gyfnod hirach

Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ym mis Medi y byddai contractau Glastir yn cael eu hestyn tan ddiwedd 2023.

Bydd y contract estynedig yn cynnwys yr un tir ac opsiynau

Bydd y contract newydd estynedig union yr un peth â’ch contract presennol fydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.

Rhaid ichi dderbyn eich contract estynedig o fewn y terfyn amser

Caiff y contract ei gynnig ichi trwy RPW Ar-lein a bydd rhaid ichi ei dderbyn trwy RPW Ar-lein o fewn 21 niwrnod ar ôl dyddiad ei gynnig i chi.

Daw’ch contract Glastir presennol i ben os na fyddwch wedi derbyn y contract estynedig erbyn y dyddiad cau.  

Gwrthod yr estyniad

Does dim byd ichi ei wneud os ydych am wrthod yr estyniad.  Ni fydd y contract ar gael ichi ei dderbyn ar ôl i 21 niwrnod fynd heibio.

Os byddwch yn dewis gwrthod yr estyniad, ni fydd angen ichi ad-dalu unrhyw arian a dalwyd ichi o dan y contract gwreiddiol na’r contract gafodd ei adnewyddu nac unrhyw gontract gaiff ei estyn neu ei adnewyddu.

Yr ymrwymiadau a fydd yn parhau pe baech yn gwrthod y cynnig

Ni fydd unrhyw ymrwymiadau yn eich contract yn cael eu cadw.  Ond rydym yn eich atgoffa i gadw at yr holl reoliadau priodol fel cynnal asesiad o'r effeithiau amgylcheddol (EIA) ar dir sy’n cael ei gyfrif yn gynefin.

Pwysig: efallai y bydd angen ichi gael penderfyniad sgrinio EIA cyn gwneud unrhyw welliannau amaethyddol.

Os bydd fy nghontract Glastir yn dod i ben, sut bydd hyn yn effeithio ar fy hawl i’r Cynllun y Taliad Sylfaenol (rheol 2008)

Os oes gennych unrhyw dir sydd o dan gynllun Amaeth-amgylcheddol, rhaid ei asesu yn unol â rheolau newydd y BPS  

Er enghraifft, ni fydd coetir di-stoc yn gymwys am BPS pan ddaw’r ymrwymiad Glastir i ben, oherwydd bydd yn cael ei ystyried fel grŵp o goed neu’n goetir o >100 o goed gwasgaredig fesul hectar ac ni fydd yn gymwys am hawliau BPS.

Tir yn eich contract y byddwch yn colli rheolaeth drosto yn ystod cyfnod y contract wedi’i adnewyddu.

Rhaid tynnu’r tir hwn o’ch contract sy’n cael ei adnewyddu.

Rhaid ichi dderbyn y contract newydd ar-lein o fewn 21 niwrnod i ddyddiad ei gynnig ichi a rhoi gwybod i RPW am unrhyw newidiadau i’ch tir erbyn 31 Ionawr 2023. Yna, byddwn yn tynnu’r tir dan sylw o’r contract ac yn anfon contract wedi’i adnewyddu atoch cyn diwedd mis Chwefror.

Fe’ch atgoffir bod yn rhaid ichi hysbysu RPW ynghylch unrhyw newidiadau i’ch tir o fewn 30 diwrnod.

Hawlio’ch taliad blynyddol

Rhaid ichi barhau i hawlio’ch taliad blynyddol trwy’r Ffurflen Cais Sengl a rhaid ichi hawlio ar bob parsel o dir sydd wedi’i gynnwys yn eich contract estynedig.

Gofalwch fod y cnydau a’r arwynebeddau rydych wedi’u datgan yn cyd-fynd â’r opsiynau rheoli ar y tir hwnnw.

Opsiynau cylchdroi Glastir

Caiff yr opsiynau oedd gennych yn eich contract Glastir Sylfaenol eu cynnwys nawr yn eich contract estynedig a dangosir cyfanswm y tir y gallwch hawlio arno.

Os byddwch yn torri’r rheolau yn ystod cyfnod estynedig eich contract, a fydd hyn yn effeithio ar daliadau o dan eich contract Glastir gwreiddiol.

Mae’ch contract estynedig yn gontract newydd ac yn wahanol i’ch contract 5 mlynedd gwreiddiol.

Os byddwch yn torri’r rheolau yn ystod y cyfnod estynedig, caiff y taliadau y byddwch yn eu hawliau yn ystod y cyfnod estynedig eu cosbi.

Os gwelwn ichi dorri’r rheol yn ystod cyfnod y contract gwreiddiol, cewch eich cosbi am y taliadau a fydd eisoes wedi’u talu i chi.

Gan ddibynnu pa mor ddifrifol oedd y tramgwydd, gallem ystyried dod â’ch contract a/neu ei estyniad i ben a gofyn ichi dalu’r holl arian yn ôl.

Cael tir ychwanegol (prynu/rhentu) yn ystod cyfnod eich contract Glastir Uwch

Gan mai estyniad i’ch contract gwreiddiol yw hwn, dim ond tir oedd yn rhan o’r contract gwreiddiol fydd yn cael bod yn rhan o’r estyniad.

Fodd bynnag, gallwn ystyried unrhyw dir sydd gennych nad yw’n rhan o’ch contract Glastir Uwch ar gyfer cynllun Grantiau Bach Glastir.

Gwneud cais am Grant Creu Coetir Glastir (GWC) ar barseli a fydd yn cael eu cynnwys yng Nghontract Glastir wedi’i adnewyddu/estyn.

Gallwch wneud cais am GWC ar dir sy’n rhan o’ch Contract Glastir ar hyn o bryd. Bydd y parseli’n parhau i fod yn eich Contract Glastir ond bydd yn rhaid diddymu unrhyw opsiynau Glastir Sylfaenol/Uwch.

Cwsmeriaid Glastir Uwch 2018

Pam yr ydych yn cael cynnig contract o'r newydd

Mae Llywodraeth Cymru am gadw a pharhau â'r manteision amgylcheddol gwerthfawr sy'n cael eu cyflawni gan ddeiliaid contract presennol, gan gynnwys unrhyw ymrwymiadau Glastir Sylfaenol, y mae'n rhaid iddynt barhau fel rhan o gontract newydd Glastir Uwch

Pryd y cynigir contract newydd i chi

Bydd contractau Glastir Uwch sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022 yn cael cynnig contract o'r newydd yn hydref 2022.

Am ba hyd y bydd eich contract yn cael ei adnewyddu

Bydd contractau Glastir Uwch sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022 yn cael cynnig contract o'r newydd sy'n dechrau o 1 Ionawr 2023, a fydd yn para tan 31 Rhagfyr 2023 (1 flwyddyn)

Beth fydd yn cael ei gynnwys yn eich contract newydd

Bydd y contract newydd yn seiliedig ar yr opsiynau rheoli Uwch a ddarperir ym mlwyddyn olaf eich contract gwreiddiol.

NI fydd Unrhyw Waith Cyfalaf wedi'i gynnwys yn y contract newydd.

Gwaith Cyfalaf heb ei gwblhau

Ni allwch gwblhau unrhyw Waith Cyfalaf sy'n weddill yn ystod y cyfnod adnewyddu.

NI fydd Gwaith Cyfalaf a gwblhawyd erbyn 31 Rhagfyr 2022 yn gymwys i'w dalu yn ystod y cyfnod adnewyddu.