Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi blynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2021 i 2022.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer recriwtio neu gadw athrawon ac staff nad ydynt yn addysgu. Mae'r grant hwn ar waith i gefnogi unigolion i hyfforddi, ymuno ac aros yn y proffesiwn addysgu ac ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr. 

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynol Athrawon pynciau a blaenoriaeth yn gynllun cyfreithiol ("y Cynllun") a wneir gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ac sy'n cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob Cynllun yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu grantiau drwy gymhellion i fyfyrwyr cymwys ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig mewn pynciau penodedig (pynciau blaenoriaeth). 

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) (amser llawn a rhan-amser) yn gymwys i hawlio'r grant hwn ar yr amod eu bod yn cwrdd â'r meini prawf.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw Gynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth, gan gynnwys y TAR Cyflogedig, yn gymwys i gael y grant hwn.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni/cyrsiau hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR PCET) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Nodir gwybodaeth lawn am gymhwysedd ac amodau yn y Cynllun cyfreithiol, y dylid ei darllen ochr yn ochr â'r wybodaeth hon. 

Cyfeiriwch at y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd berthnasol i wirio eich cymhwysedd a’r meini prawf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol, cysylltwch â ITEIncentives@llyw.cymru

Blwyddyn academaidd 2021 i 2022

Lluniwyd y Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon (2021 WG20-62) (“y Cynllun”) gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ar 21 Ionawr 2021. Dylid darllen copi o’r Cynllun wrth ochr yr wybodaeth hon.

Bydd Cynllun 2021 ar waith o 1 Medi 2021 sy’n dechrau rhaglenni AGA rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig mewn pynciau penodol.

Blwyddyn academaidd 2020 i 2021

Cafodd y Cynllun Cymhelliant Hyfforddi Athrawon (2020 Rhif WG20-005) ("y Cynllun") ei wneud gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau ar 18 Chwefror 2020. Dylid darllen copi o’r Cynllun ochr yn ochr â’r wybodaeth hon.

Daw Cynllun 2020 i rym ar 1 Medi 2020 ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru sy’n dechrau rhaglenni AGA rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig mewn pynciau penodol.

Cynlluniau blaenorol

Myfyrwyr sy'n gwneud cais am grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am weinyddu ac asesu cymhwysedd myfyrwyr ar gyfer grantiau cymhelliant ar ran Gweinidogion Cymru.

Gall myfyrwyr ond hawlio grant cymhelliant os ydynt:

  • yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • wedi gwneud cais drwy gwblhau’r ffurflenni datgan perthnasol

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw ymholiadau am eu cymhwysedd a gwneud cais am grant neu unrhyw gwestiynau am y grantiau hyn, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA.

Cyfrifoldebau’r Partneriaethau AGA am weinyddu’r grant

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am:

  • nodi'r myfyrwyr sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd
  • rhoi'r ffurflenni datgan i fyfyrwyr cymwys ar ddechrau'r rhaglen AGA
  • sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r grant
  • casglu'r holl ffurflenni datgan wedi'u llofnodi, a'u dychwelyd mewn ffordd ddiogel i Lywodraeth Cymru
  • cwblhau ffurflenni hawlio tymhorol
  • gweinyddu taliadau grant i fyfyrwyr
  • delio ag ymholiadau gan fyfyrwyr ynghylch y grant

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA eu hamlinellu bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Os bydd gan Bartneriaethau AGA gwestiwn ynghylch y broses o weinyddu'r grant, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.

Pwy sy'n gymwys i gael y grant

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n dechrau rhaglenni AGA ôl-raddedig priodol yng Nghymru.

Mae'r AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gael ar gyfer rhaglenni llawnamser a rhan-amser, a dylai'r Partneriaethau AGA gyfeirio at y cynllun priodol ar gyfer y flwyddyn astudio berthnasol er mwyn gwirio cymhwysedd myfyriwr.

I fod yn gymwys i gael grant AGA ar gyfer pwnc â blaenoriaeth, rhaid i'r myfyriwr:

  • fodloni'r dosbarthiad cymwysterau gradd a bennir yn yr adran Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd ar gyfer y Cynllun a'r flwyddyn astudio academaidd
  • ymgymryd â rhaglen AGA a achredir gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac sy'n cael ei gynnal gan Bartneriaeth AGA ac yn arwain at Statws Athro Cymwysedig
  • ymgymryd â hyfforddiant yng Nghymru
  • bod yn fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael cymorth o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym ar hyn o bryd fel y maent yn gymwys i'r rhaglen dan sylw
  • peidio â bod wedi cymhwyso fel athro neu athrawes eisoes
  • peidio â bod wedi'i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes
  • peidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, yn cynnwys TAR cyflogedig
  • peidio ag ymgymryd â chwrs addysg bellach o unrhyw fath

Yn amodol ar gymhwysedd, mae grantiau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth ar gyfer rhaglenni AGA ôl-raddedig yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr sy'n:

  • astudio yn gyfan gwbl neu'n bennaf un neu fwy o'r pynciau neu'r cyfnodau a restrir ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd
  • meddu, wrth ddechrau cwrs AGA ôl-raddedig, radd neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu radd gyfwerth neu gymhwyster arall cyfwerth a ddyfarnwyd gan sefydliad tramor, o ddosbarthiad a bennir ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd

Nid yw'n ofynnol bod y radd neu'r cymhwyster cyfatebol a bennir yn yr un pwnc â'r hyn a astudir ar y cwrs AGA ôl-raddedig a restrir. Rhaid i'r Partneriaethau AGA ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i asesu cymhwysedd myfyriwr.

Mae gan Weinidogion Cymru ddisgresiwn i beidio â thalu grant cymhelliant i fyfyrwyr sydd wedi'u derbyn ar gwrs AGA achrededig ar ôl i'r targed derbyn ar gyfer y cwrs hwnnw gael ei gyrraedd (fel y'i hysbyswyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg). Dylai myfyrwyr geisio cadarnhad gan eu Partneriaeth AGA nad yw hyn yn effeithio arnynt.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol.

Mae'r grantiau AGA ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn amrywio o £3,000 i £20,000 yn dibynnu ar y pwnc neu'r cyfnod a lefel y cymhwyster. Byddai myfyrwyr rhan-amser yn cael yr un faint yn ystod cyfnod eu rhaglen. Cyfeiriwch at y cynllun cywir ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd berthnasol.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd i addysgu yn y sector uwchradd: 2021 i 2022 a blyuyddoedd blaenorol

Swm y grant cymhelliant

Pwnc

Dosbarthiad cymwysterau gradd

£20,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, Cymraeg neu gyfrifiadureg (mae bioleg ond yn bwnc dosbarthedig o flwyddyn academaidd 2021/2022)

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

£15,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn ieithoedd tramor modern

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

£10,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, Cymraeg neu gyfrifiadureg (mae bioleg ond yn bwnc dosbarthedig o flwyddyn academaidd 2021/2022)

2.1

£6,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn ieithoedd tramor modern

2.1

£6,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, bioleg, Cymraeg neu gyfrifiadureg (mae bioleg ond yn bwnc dosbarthedig o flwyddyn academaidd 2021/2022)

2.2

£3,000

Cyrsiau ôl-raddedig uwchradd mewn dylunio a thechnoleg, Saesneg, hanes, addysg grefyddol, addysg gorfforol, cerddoriaeth, drama, astudiaethau busnes, astudiaethau awyr agored, y gwyddorau cyffredinol neu ddaearyddiaeth

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

Nid yw’n ofynnol bod y radd neu’r cymhwyster cyfwerth a nodir uchod yn yr un pwnc â’r pwnc sy’n cael ei astudio ar y rhaglen AGA ôl-raddedig. 

O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd i addysgu yn y sector cynradd: 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol

Gall myfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni cynradd ôl-raddedig fod â hawl i £3,000 ychwanegol er mwyn cefnogi arbenigeddau pwnc ym mhynciau craidd ysgolion cynradd.

Bydd myfyrwyr sydd ag arbenigedd pwnc gradd mewn Cymraeg, Saesneg, mathemateg, neu wyddoniaeth graidd, yn ogystal â'r radd a ddangosir, yn gymwys i gael y taliad ychwanegol hwn.

Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd i addysgu yn y sector cynradd: 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol

Swm y grant cymhelliant

Pwnc neu gyfnod

Pwnc neu gyfnod

£3,000

Cyrsiau ôl-raddedig cynradd

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

Ychwanegol Taliad ychwanegol o £3,000

Cyrsiau cynradd i ôl-raddedigion lle mae gan y radd flaenorol a gyflawnwyd arbenigedd pwnc mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg neu wyddoniaeth graidd

1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr

 O ran dosbarthiad y cymhwyster, nid yw graddau anrhydeddus o unrhyw fath yn cael eu cydnabod fel cymwysterau academaidd.

Talu'r grant

Pryd y dylid gwneud taliadau grant i fyfyrwyr

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol.

Rhaglenni llawnamser; bydd y grantiau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael eu talu'n dymhorol mewn tri rhandaliad ym misoedd Rhagfyr, Mawrth a Mehefin yn y flwyddyn astudio academaidd.

Rhaglenni rhan-amser; bydd y grantiau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth yn cael eu talu'n dymhorol mewn 6 rhandaliad dros ddwy flwyddyn academaidd, sef ym misoedd Rhagfyr, Mawrth a Mehefin yn y ddwy flwyddyn academaidd.

Bydd y Partneriaethau AGA yn penderfynu ar yr union ddyddiadau. Dylent sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud yn ystod wythnos olaf pob mis y mae taliadau'n daladwy, neu o gwmpas hynny (heblaw mis Rhagfyr lle gellir gwneud taliad yn gynnar). Ystyr "wythnos olaf" mis yw'r wythnos sy'n cynnwys diwrnod gwaith olaf y mis. Yr "wythnos olaf" ym mis Mehefin fydd yr wythnos sy'n cynnwys y diwrnod gwaith olaf ym mis Mehefin, neu'r wythnos y mae'r rhaglen yn gorffen, os yw hynny ynghynt.

Ni ddylai taliadau gael eu gwneud ond i'r myfyrwyr hynny sy'n bresennol ar y rhaglen AGA ar y dyddiad talu. Os bydd unrhyw fyfyriwr wedi tynnu'n ôl neu wedi gohirio rhaglen cyn y dyddiad talu, ni ddylid talu'r taliad.

Pa grantiau y dylid eu talu

Taliadau grant cymhelliant llawnamser 2021 i 2022

Swm y grant cymhelliant

Taliad yr hydref i'w dalu ym mis Rhagfyr

Taliad gwanwyn i'w dalu ym mis Mawrth

Taliad yr haf a'r taliad olaf i'w dalu ym mis Mehefin

£20,000

£5,000

£5,000

£10,000

£15,000

£3,750

£3,750

£7,500

£10,000

£2,500

£2,500

£5,000

£6,000

£1,500

£1,500

£3,000

£3,000

£750

£750

£1,500

Tabl taliadau grant cymhelliant rhan amser 2021 i 2022: Blwyddyn 1

Swm y grant cymhelliant

Taliad yr Hydref i'w dalu ym mis Rhagfyr

Taliad gwanwyn i'w dalu ym mis Mawrth

Taliad yr haf i'w dalu ym mis Mehefin

£10,000

£2,500

£2,500

£5,000

£7,500

£1,875

£1,875

£3,750

£5,000

£1,250

£1,250

£2,500

£3,000

£750

£750

£1,500

£1,500

£375

£375

£750

 

Tabl taliadau grant cymhelliant rhan amser 2021 i 2022: Blwyddyn 2

Swm y grant cymhelliant

Taliad yr Hydref i'w dalu ym mis Rhagfyr

Taliad gwanwyn i'w dalu ym mis Mawrth

Yr haf a'r taliad olaf i'w dalu ym mis Mehefin

£10,000

£2,500

£2,500

£5,000

 £7,500

£1,875

£1,875

£3,750

 £5,000

£1,250

£1,250

£2,500

 £3,000

£750

£750

£1,500

 £1,500

£375

£375

£750

Mae'r taliadau hyn ar sail pro rata i’r taliadau grant cymhelliant llawn amser. 

Os yw myfyriwr wedi derbyn grant cymhelliant yn llawn neu'n rhannol o dan unrhyw gynllun blaenorol yng Nghymru, caiff y rhandaliadau o'r grant cymell hwn eu lleihau yn ôl swm y taliadau blaenorol a dderbyniwyd. Mae hyn hefyd yn gymwys i grantiau a dderbyniwyd o dan unrhyw drefniadau yn Lloegr y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn berthnasol yn rhinwedd y cynllun hwn.

Dim ond hyd at uchafswm gwerth y grant cymhelliant yn y flwyddyn academaidd yr ymunodd â'r rhaglen y bydd gan fyfyrwyr cymwys hawl iddo, oni bai bod Gweinidogion Cymru'n cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Rhaid i Bartneriaethau AGA gyflwyno ffurflenni datgan unigol ar gyfer pob myfyriwr cymwys i Lywodraeth Cymru ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Mae'r datganiad yn cynnwys gwybodaeth sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i weinyddu a'i gwerthuso’r cynllun, a rhaid i Bartneriaethau AGA rannu pob datganiad â Gweinidogion Cymru mewn modd diogel. Mae'r ffurflen ddatgan yn gofyn i fyfyrwyr gadarnhau eu bod wedi darllen a deall yr wybodaeth sydd ar y tudalennau gwe hyn. Os na dderbynnir y cadarnhad hwn gan Weinidogion Cymru, ni ellir gwneud taliadau grant.

Cyn pob rhandaliad tymhorol, rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau. Bydd Partneriaethau AGA yn cael gwybod am y dyddiadau cyflwyno drwy lythyr y cytundeb grant.

Bydd ffurflenni datgan a hawlio’n cael eu dosbarthu i Bartneriaethau AGA yn uniongyrchol. Os ydych yn Bartneriaeth AGA a bod gennych unrhyw gwestiynau sy'n gysylltiedig â'r broses dalu, cysylltwch â ITEincentives@llyw.cymru

Sut caiff y taliad ei wneud i fyfyrwyr

Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am wneud y taliadau grant i fyfyrwyr cymwys. 

I'r rhai sy'n gymwys i gael y taliad cynradd ychwanegol, bydd y taliadau'n cael eu gwneud ochr yn ochr â'r prif grant cymhelliant sy'n daladwy. 

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â rhaglen AGA ôl-raddedig lofnodi ffurflen ddatgan er mwyn derbyn y grantiau cymhelliant. Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am gael y datganiadau hyn gan fyfyrwyr ar ddechrau eu rhaglen.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailddechrau

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2021 i 2022 a blynyddoedd blaenorol.

Os bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau yn ystod tymor, ni fydd yn gymwys i gael y taliad tymhorol hwnnw. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailafael yn ei astudiaethau yn yr un flwyddyn academaidd, fe fydd ganddo hawl i gael taliad am y cyfnod a fethwyd, hyd at uchafswm y cymhelliant. O dan yr amgylchiadau hyn bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl cwblhau ac yn ychwanegol at daliad y tymor canlynol.

Os bydd myfyriwr yn ailafael mewn rhaglen AGA mewn blwyddyn academaidd wahanol i'r un y dechreuodd ynddi, neu os bydd yn gohirio rhaglen, parheir i wneud taliadau ar yr un gyfradd (os o gwbl) a oedd yn gymwys yn y flwyddyn academaidd yr ymunodd y myfyriwr â'r rhaglen, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig. 

Bydd gan unigolion sy'n tynnu'n ôl o gwrs cyn iddo gael ei gwblhau, ac sy'n gymwys i gael grant cymhelliant, hawl i gael y taliad(au) tymhorol ar gyfer tymhorau y maent wedi’u cwblhau’n llawn yn unig.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddynt ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn ai peidio, a byddant yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Weinidogion Cymru:

  1. os bydd y derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â chwrdd ag unrhyw feini prawf cymhwysedd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac a nodir yn yr Atodlen neu'r canllaw gwybodaeth mewn perthynas â rhandaliad dilynol; neu
  2. os yw'r derbynnydd, yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth anwir neu wybodaeth sy'n gamarweiniol; neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r cwrs neu, ar ôl ei gwblhau, nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu

Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno fel rhan o'u hawliad o dan gynllun cymhelliant pwnc blaenoriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  1. ddatgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  2. bod unrhyw wybodaeth wedi ei heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  3. cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i ddilysu hunaniaeth. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer y wybodaeth bersonol y mae'n ei chael.  Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd (PN00000374) a'n 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Cwestiynau cyffredin gan fyfyrwyr

A yw'r grant cymhelliant yn drethadwy?

Mae Cyllid a Thollau (HMRC) yn adran anweinidogol o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gasglu trethi. Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan Cyllid a Thollau ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar gymorth arall i fyfyrwyr?

Ni chaiff grant cymhelliant ei ystyried yn rhan o'ch incwm ar gyfer darpariaethau cyllid myfyrwyr sy'n seiliedig ar incwm y cartref. Felly, ni ddylid ei gynnwys wrth gyfrifo eich incwm trethadwy sydd heb ei ennill; fodd bynnag, dylai myfyrwyr geisio cyngor gan eu darparwr cyllid myfyrwyr ar eu hamgylchiadau unigol.

Beth fydd effaith y grant cymhelliant ar fudd-daliadau?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn adran o Lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisi lles a phensiwn. Dylech ofyn am gyngor ganddynt ar eich amgylchiadau unigol.

A fydd y grant cymhelliant yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr?

Na, ddim os ydych yn dilyn cwrs llawnamser. Fodd bynnag, os ydych yn dilyn cwrs rhan-amser, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu a ydych hefyd yn ennill cyflog (drwy waith nad yw'n gysylltiedig ag AGA) sy'n ddigon uchel i sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.

Gall ad-daliadau benthyciad gael eu sbarduno ar ôl i chi gwblhau eich cyrsiau, ennill SAC a dechrau ennill cyflog fel athro.

A fydd gennyf hawl i’r grant cymhelliant ‘Iaith Athrawon Yfory’?

Nid yw cymhwysedd i gael y grantiau cymhelliant o dan y cynllun hwn yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael grant cymhelliant Iaith Athrawon Yfory. Mae'n bosibl cael arian grant o dan y ddau gynllun cymhelliant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory.

Cwestiynau cyffredin gan bartneriaethau AGA

Mae myfyriwr yn dechrau rhaglen AGA, ond mae wedi cwblhau ac yn aros am gadarnhad o ganlyniad ei Radd Meistr a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd. A yw'r myfyriwr yn gymwys i gael y cymhellion ac os felly pa swm y mae ganddo hawl iddo?

Ydy, mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu Gradd Meistr ac yn aros am ganlyniadau’r radd yn gymwys i hawlio'r cymhellion. Byddai gan fyfyrwyr yn y sefyllfa hon hawl i'r swm sy'n seiliedig ar ddosbarthiad y radd sydd gan y myfyriwr pan fydd ei raglen AGA yn dechrau.

Unwaith y bydd cadarnhad o ganlyniad ei Radd Meistr wedi dod i law, ac os oes gan y myfyriwr hawl i swm cymhelliant uwch, bydd ganddo hawl i'r gwahaniaeth rhwng y swm y mae eisoes wedi'i gael a'r swm y mae gan y myfyriwr hawl iddo nawr fod ganddo Radd Meistr. Dylid ôl-dyddio hyn i’r dyddiad pan ddechreuodd y myfyriwr ei raglen AGA.

Sylwer: Mae Adran 3.3 (vii) o'r canllawiau ar gymhellion hyfforddi athrawon yn nodi

(vii) I fod yn gymwys i gael grant cymhelliant, rhaid i berson beidio â bod yn ymgymryd â chwrs addysg bellach o unrhyw fath. Felly, os nad yw myfyriwr wedi cyflwyno ei draethawd hir erbyn dechrau ei raglen AGA, mae'n debygol iawn bod yr unigolyn yn dal i ymgymryd â'i Radd Meistr, ac fel y nodwyd uchod byddai hyn yn atal yr unigolyn rhag hawlio'r cymhellion hyfforddi athrawon.

Fodd bynnag, mater i bartneriaethau AGA fel rhan o’u rôl o weinyddu’r cymhellion hyfforddi athrawon fyddai pennu a yw unigolyn wedi cwblhau gradd ei Radd Meistr ai peidio a phenderfynu a fyddai'r unigolyn yn gymwys i hawlio'r cymhellion.

Yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd nid oes gan fyfyriwr hawl i'r cymhellion, megis y cymhelliant atodol ychwanegol cynradd ar gyfer pynciau craidd, ond maent yn cynghori bod ei radd wedi cynnwys cryn dipyn o bwnc sy'n rhoi'r hawl iddo dderbyn y cymhellion; oes ganddo hawl i unrhyw beth?

Mae partneriaethau AGA yn gyfrifol am weinyddu'r cymhellion, gan gynnwys penderfynu a yw myfyrwyr yn gymwys i gael y cymhellion. Os yw'r unigolyn yn honni bod ei radd yn cynnwys cryn dipyn o bwnc a fyddai'n rhoi'r hawl iddo gael cymhelliant, er enghraifft Mathemateg, byddai angen i'r myfyriwr gyflwyno achos i'r bartneriaeth AGA a dangos tystiolaeth o hyn. Y bartneriaeth AGA fyddai'n gyfrifol am y penderfyniad terfynol ynghylch a oes gan yr unigolyn hawl i'r cymhelliant.

Yn y sefyllfa hon, ni fydd Llywodraeth Cymru’n rhan o'r broses o benderfynu ynghylch cymhwysedd myfyrwyr sy'n hawlio'r cymhellion hyfforddi athrawon. Cyfrifoldeb y bartneriaeth AGA yn unig yw hyn, am ei bod yn y sefyllfa orau i asesu trawsgrifiadau academaidd a gwneud asesiad teg ynghylch a fyddai myfyriwr yn gymwys.

A yw gwladolion nad ydynt o’r DU yn gymwys i hawlio'r cymhellion hyfforddi athrawon?

Os bydd myfyriwr yn bodloni'r holl feini prawf ac nad yw'n dod o dan esemptiad, yna byddai'n gymwys. Dylai Partneriaethau AGA ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol i asesu cymhwysedd myfyriwr.

Y prif bwynt i'w ystyried ar gyfer gwladolion nad ydynt o'r DU yw a ydynt yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd.

Cyfeiriwch at y Cynllun cyfreithiol a'r adran Swm y grant a dosbarthiad cymwysterau gradd.

Cwestiynau pellach?

Os oes gan Bartneriaethau AGA unrhyw gwestiynau’n ymwneud â'r wybodaeth hon neu gwestiynau nad ydynt wedi’u hateb yn yr wybodaeth hon, dylent gysylltu â ITEIncentives@llyw.cymru.

Bydd myfyrwyr sydd ag unrhyw gwestiynau am y cymhellion yn cael eu cyfeirio at eu Partneriaeth AGA yn uniongyrchol.