Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

Addysg Drochi Cymraeg: Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3 i 11 mlwydd oed.

Manylion yr adroddiad

Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg at Estyn ar gyfer 2021 i 2022.

Nod yr adolygiad oedd casglu tystiolaeth ar fethodoleg trochi iaith effeithiol, gan ymgorffori dulliau cyfnod sylfaen mewn lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg, a dulliau ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg. Diben hynny yw llywio gwaith cynllunio addysg drochi Cymraeg, gan gynnwys darpariaeth drochi hwyr.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Arweinyddiaeth

Mae arweinwyr mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, ysgolion dwyieithog, a chanolfannau trochi iaith yn blaenoriaethu addysg drochi yn effeithiol. Maent yn darparu profiadau cyfoethog i ddysgwyr mewn amgylchedd dysgu cynhwysol a Chymreig. Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr mewn awdurdodau lleol yn cynllunio strategaethau addas er mwyn galluogi ymarferwyr i ddefnyddio dulliau trochi cynnar fel rhan annatod o ddarpariaeth y cyfnod sylfaen. Mae tua hanner yr awdurdodau lleol yn cefnogi hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg mewn canolfannau trochi. Mae darpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid yn anghyson ledled Cymru. O ganlyniad, nid yw pob dysgwr yn cael yr un cyfleoedd i gael mynediad yn ddigon buan at addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae llawer o awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth addas am addysg drochi i rieni/gofalwyr. Mae gan lawer o awdurdodau lleol drefniadau priodol ar gyfer hunanwerthuso a gwella darpariaeth trochi cynnar a throchi hwyr. Mewn ychydig o awdurdodau, mae’r prosesau ar gyfer gwerthuso a phennu nodau gwella yn aneglur. Nid yw’r cyfleoedd dysgu proffesiynol bob amser yn cael effaith gyson ar wella darpariaeth i gefnogi dysgwyr i ennill medrau Cymraeg drwy’r broses drochi.

Darpariaeth

Mae bron pob ymarferydd yn cefnogi dysgwyr yn effeithiol drwy greu amgylchedd dysgu cefnogol. Mae ymarferwyr yn helpu dysgwyr i deimlo’n fwyfwy hyderus i roi cynnig ar siarad Cymraeg heb ofn methu. Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn meithrin a datblygu medrau gwrando a siarad dysgwyr fel rhan greiddiol o’r ddarpariaeth trochi iaith. Nid yw lleiafrif o ymarferwyr yn cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol yn ddigon bwriadol i sicrhau parhad a chynnydd. Mae llawer o ymarferwyr y cyfnod sylfaen yn datblygu medrau darllen cynnar dysgwyr yn effeithiol drwy gyflwyno llythrennau a’r seiniau cyfatebol mewn modd hwyliog ac amlsynhwyraidd. Mae’r rhan fwyaf o’r ymarferwyr sy’n cefnogi hwyrddyfodiaid yn cynllunio gweithgareddau buddiol iddynt er mwyn datblygu eu medrau darllen, er enghraifft wrth i ddysgwyr ddarllen sgriptiau. Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn darparu gweithgareddau ysgrifennu buddiol wrth i ddysgwyr ddatblygu eu medrau.

Mae ymarferwyr yn datblygu medrau llafar dysgwyr yn llwyddiannus sydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar eu medrau ysgrifennu. Mae’r ddarpariaeth trochi hwyr fwyaf effeithiol yn cael ei chynnig drwy gyfrwng rhaglenni dwys. Mae ymarferwyr yn meithrin medrau Cymraeg dysgwyr mewn grwpiau bach am ran fwyaf o’r amser am gyfnod estynedig. Mae’r rhan fwyaf o’r ymarferwyr mewn canolfannau trochi iaith yn darparu rhaglenni trochi hynod lwyddiannus sy’n ysgogi dysgwyr yn effeithiol. Fodd bynnag, nid yw’r holl adnoddau sy’n cael eu defnyddio yn adlewyrchu a dathlu’r amrywiaeth sy’n bodoli yn y Gymru fodern. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn hyderus a medrus yn eu medrau Cymraeg ar ddiwedd y rhaglenni

Dysgu ac agweddau at ddysgu

Mae bron bob dysgwr yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu’r Gymraeg yn ystod y broses addysg drochi. Maent yn cymryd rhan mewn sesiynau yn frwdfrydig, ac yn ymfalchïo yn y cynnydd a wnânt wrth ddatblygu hyder i siarad Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mwynhau siarad Cymraeg yn y dosbarth a thu hwnt, yn dod yn siaradwyr gweithredol ac yn llwyddo i gymhwyso eu medrau yn fwyfwy annibynnol. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion yn caffael medrau Cymraeg yn llwyddiannus drwy’r broses trochi cynnar. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dechrau siarad Cymraeg gydag oedolion a chyfoedion gyda hyder cynyddol.

Maent yn datblygu medrau darllen yn fedrus, ac yn ei dro maent yn datblygu eu medrau ysgrifennu’n briodol. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n cwblhau rhaglenni trochi hwyr dwys yn cyrraedd lefel medrusrwydd addas er mwyn llwyddo mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr mewn canolfannau trochi iaith yn datblygu medrau gwrando a siarad yn gyson dda a gwnânt gynnydd cyson yn eu medrau darllen. Lle darperir cefnogaeth i hwyrddyfodiaid drwy drefniadau amgen yn yr ysgol, mae’r mwyafrif yn gwneud cynnydd priodol.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Dylai lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion:

A1 adeiladu ar arfer effeithiol a chynllunio ystod o weithgareddau cyson sy’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael geirfa a phatrymau cystrawennol mewn modd bwriadol a chydlynus.

Ymateb:

Rydym yn croesawu'r argymhelliad hwn ar gyfer lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion. Mae'n cydnabod yr arferion da a welir ledled Cymru ac yn cyd-fynd â'n disgwyliadau a'n dyheadau ar gyfer addysg drochi yn y Gymraeg. Mae'r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrina ariennir ond nas cynhelir, a gyhoeddwyd ar 10 Ionawr, yn sicrhau bod elfennau gorfodol y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu hymgorffori o fewn fframwaith addysgeg effeithiol a phriodol sy'n canolbwyntio ar anghenion y plentyn sy'n datblygu.

Mae'r cwricwlwm yn canolbwyntio ar yr egwyddorion allweddol sy'n hanfodol ar gyfer dysgu cyfannol ac ystyrlon; oedolion medrus, sylwgar sy’n dangos diddordeb, sy'n darparu profiadau dilys a diddorol mewn amgylcheddau effeithiol a chyffrous. Mae'n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r Gymraeg fel rhan annatod o ddiwylliant unigryw Cymru, ac fel iaith y dylid ei haddysgu ym mhob lleoliad yng Nghymru.

Mae hefyd yn cydnabod bod gan ddarparwr addysg feithrin a ariennir ond nas cynhelir y disgresiwn i benderfynu na ddylai’r Saesneg fod yn rhan o'u cwricwlwm i alluogi plant i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae gan Mudiad Meithrin, prif ddarparwr profiadau chwarae a dysgu cyfrwng Cymraeg i blant o’u geni hyd at oedran ysgol, gyfraniad amhrisiadwy i'w wneud wrth gyflwyno'r Gymraeg i blant o oedran cynnar. Ar gyfartaledd, mae 90% o blant sy'n mynychu darpariaeth Cylchoedd Meithrin yn trosglwyddo i ysgol gyfrwng Cymraeg. Rydym eisoes yn cefnogi ehangu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg Mudiad Meithrin, ac fel rhan o'r cymorth ehangach hwnnw, ei gynllun trochi teilwredig 'Croesi'r Bont' y mae’r Mudiad wedi'i ddatblygu i gyflwyno dulliau trochi Cymraeg mewn Cylchoedd Meithrin. Ar hyn o bryd mae 102 o ddarpariaethau yn cael cymorth drwy'r cynllun, gan gynnwys rhai meithrinfeydd dydd.

Ar gyfer ysgolion, y Cwricwlwm i Gymru fydd y sail ar gyfer dysgu ac addysgu ym mhob ysgol gynradd, yn ogystal ag ar gyfer rhai dysgwyr blwyddyn 7, o fis Medi 2022. Nod canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi eu dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm; y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae nodweddion y pedwar diben yn cynnwys dysgwyr yn cyfathrebu yn Gymraeg ac sy’n wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'r byd. Bydd ysgolion yn gallu datblygu eu cwricwlwm eu hunain mewn ffordd sy'n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu Cymraeg mewn ffordd bwrpasol, gydlynol ac ystyrlon.

Argymhellion 2 i 4

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

A2 gynllunio mewn modd bwriadol i sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr gael mynediad at ddarpariaeth trochi cynnar a throchi hwyr.

A3 gwerthuso darpariaeth drochi yn drwyadl, gan gynnwys olrhain cynnydd hwyrddyfodiaid yn gyson dros amser.

A4 cryfhau a chysoni’r arlwy ddysgu broffesiynol am egwyddorion a dulliau addysg drochi ar gyfer pob ymarferydd.

Ymateb:

Cytunwn y dylai pob dysgwr gael y cyfle i gael mynediad at ddarpariaeth trochi cynnar a throchi hwyr ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gyflawni'r nod cyfunol hwn.

Daeth rheoliadau newydd sy'n nodi disgwyliad Llywodraeth Cymru o ran cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg gan awdurdodau lleol i rym yn 2020. Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2019 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi cynllun 10 mlynedd sy'n nodi sut y byddant yn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sy'n cyd-fynd â'n targedau Cymraeg 2050. Erbyn diwedd eu cynlluniau 10 mlynedd rydym yn disgwyl gweld o leiaf 30% o ddysgwyr yn cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.

Cyflwynodd pob awdurdod lleol eu cynlluniau drafft i'w cymeradwyo yn ddiweddar ar ôl misoedd lawer o baratoi ac ymgynghori. Ein nod yw cael pob cynllun yn weithredol erbyn mis Medi 2022.

Fel rhan o'r cynlluniau strategol hynny, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol nodi eu trefniadau o ran eu darpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg. Fel y mae adroddiad Estyn yn ei amlinellu, mae'r math o ddarpariaeth sydd ar gael i gefnogi dysgwyr sy'n cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddarach yn wahanol ledled Cymru. Ym mis Medi, ymrwymodd Llywodraeth Cymru £2.2m i alluogi awdurdodau lleol i gryfhau ac ehangu eu darpariaeth trochi hwyr pan oedd darpariaeth o’r fath eisoes yn bodoli, ynghyd â datblygu darpariaeth newydd am y tro cyntaf.

Mae consortia a phartneriaethau rhanbarthol hefyd yn cael cyllid i gefnogi dysgu proffesiynol sy'n cynnwys cefnogi addysg drochi. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun 10 mlynedd ar gyfer datblygu'r gweithlu Iaith Gymraeg a Chyfrwng Cymraeg, un o'r blaenoriaethau fydd datblygu dysgu proffesiynol i gefnogi addysg drochi.

Mae ymchwil a wnaed ac a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y gellid ystyried sut y gallai dull mwy penodol o ymdrin â thystiolaeth a gwerthuso arwain at well dealltwriaeth o effeithiolrwydd darpariaeth trochi hwyr. Ystyriaeth arall ar gyfer y dyfodol a nodwyd gan yr ymchwil yw olrhain cynnydd dysgwyr sy'n cael darpariaeth trochi hwyr yng nghyd-destun cwricwlwm newydd a threfniadau asesu.

Argymhellion 5 i 6

Dylai Llywodraeth Cymru:

A5 ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi cynnar a throchi hwyr, a chomisiynu ystod o adnoddau addas ar gyfer dysgwyr o bob oed i gefnogi addysg drochi sy’n dathlu amrywiaeth Cymru.

A6 sefydlu fforwm cenedlaethol i hyrwyddo arferion mwyaf effeithiol addysg drochi, gan gynnwys hyrwyddo trefniadau lleol i gyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol.

Ymateb:

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r argymhellion hyn. Cytunwn fod angen datblygu mwy o adnoddau, darpariaeth a phartneriaethau i gefnogi addysg drochi effeithiol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu adnoddau Cymraeg a dwyieithog i gefnogi addysgu a dysgu'r cwricwlwm a'i gymwysterau ar draws pob oedran a gallu. Cynhaliwyd trafodaethau'n ddiweddar gydag ymarferwyr ynghylch adnoddau addysg drochi ac mae rhai anghenion wedi'u nodi a'u cytuno. Byddwn yn ymwneud ag ymarferwyr i nodi anghenion pellach a byddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol i oedran ac yn adlewyrchu gwir ddyfnder ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol. Rydym hefyd wrthi'n cwmpasu'r gwaith o ddatblygu offeryn hunanarfarnu ar gyfer darparu'r Gymraeg mewn addysg, gyda chefnogaeth astudiaethau achos perthnasol. Bydd unrhyw offeryn o'r fath yn cyd-fynd â'r Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella.

Yn Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021-26 rydym yn ymrwymo i sefydlu rhwydwaith i gefnogi addysg drochi drwy gyfrwng y Gymraeg, yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth. Gyda phob awdurdod lleol bellach yn buddsoddi cyllid Llywodraeth Cymru yn eu darpariaethau trochi hwyr ac yn sefydlu darpariaeth newydd ledled Cymru, ni fu erioed amser gwell inni adeiladu ar y momentwm hwnnw a chefnogi ein partneriaid ar draws y system addysg wrth inni symud ymlaen. I gefnogi'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau i adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth sy'n ymwneud ag addysg drochi yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddulliau effeithiol mewn addysg drochi.

Yn ddiweddar hefyd, lansiwyd y Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol gennym, i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar Ddiwygio'r Cwricwlwm, gyda sgyrsiau'n cael eu cynnal mewn lleoliad cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Nod y model Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol yw cefnogi ysgolion a lleoliadau i wneud i'r cwricwlwm newydd weithio.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddodd Estyn ei adroddiad thematig ar 17 Chwefror. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru ar ein gwefan.