Dyfed Alsop, Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
Nid yw coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar ein gwasanaethau ar y cyfan. Mae ein desg gymorth ar agor fel arfer.
Iechyd a llesiant ein pobl fydd ein prif flaenoriaeth bob amser yn ystod y cyfnod yma yng Nghymru.
Os ydych chi'n bwriadu ffeilio ffurflen bapur neu dalu gyda siec, efallai y bydd ychydig o oedi. Os yn bosibl, helpwch ni ac ystyriwch ffeilio neu dalu ar-lein.
Rydym yn annog unrhyw drethdalwyr, busnesau neu unigolion sy'n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i COVID-19 i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl os yw'n debygol o effeithio ar eich gallu i dalu treth ar amser.
Gallwch chi:
- ffonio ni ar 03000 254 000 (dydd Llun i ddydd Gwener 9:30am i 4:30pm)
- gwblhau ein ffurflen gysylltu ar-lein ACC
Mae'r holl ddata personol, ffurflenni treth copi caled a gohebiaeth yn parhau i fod yn ddiogel.
Yn unol â'r gostyngiad diweddar o 0.5% yn y gyfradd log gan Fanc Lloegr, gostyngwyd ein cyfradd llog ni hefyd o’r un swm a bydd yn dod i rym o 17 Mawrth 2020.
Byddwn yn rhannu’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd gyda'n cwsmeriaid drwy sianeli cyfathrebu amrywiol, fel y cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynnau neu ofidiau, cysylltwch â ni.