Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dywedasom yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015 y byddem yn datblygu cynllun ar gyfer gwelliannau i Goridor sir y Fflint yr A55/A494/A548, sy'n profi mwy o draffig nag y cynlluniwyd ar ei gyfer, gan arwain at dagfeydd rheolaidd.

Ym mis Medi 2017, fe gyhoeddon ni yr opsiwn a ffefrir i fynd i’r afael â’r problemau hyn, wedi ystyried yn llawn agweddau technegol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y cynllun ac wedi gwrando ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Fel rhan o’n rhaglen i gyflawni’r cynllun, mae angen i ni gynnal amryw o arolygon a chasglu data dros y misoedd nesaf i archwilio sut yn union y gellir pennu trywydd a chynllunio’r ffordd newydd mewn modd a fydd yn lleihau effaith y gwelliannau ar drigolion lleol, y dirwedd, ansawdd yr aer a bioamrywiaeth.

Amcan y nodyn briffio hwn yw ateb rhai o’r cwestiynau a all fod gennych am y cynllun a’r arolygon sydd i ddod.

Cefndir a chyd-destun polisi

Nod Llywodraeth Cymru yw creu cenedl fwy llewyrchus a chyfartal. Rydym wedi ymrwymo i weithio’n rhanbarthol er mwyn helpu i gyflawni hyn ac mae potensial enfawr i weld twf economaidd yng Ngogledd Cymru.

Mae system drafnidiaeth integredig fodern, aml-ddull, o ansawdd uchel, yn greiddiol i gyflawni’r potensial hwnnw, ynghyd â chyrraedd ein hamcanion o ran cynaliadwyedd a newid hinsawdd.

Yn 2017, amlinellodd Llywodraeth Cymru ein gweledigaeth ar gyfer y Metro yng Ngogledd Cymru. Mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, mae system trafnidiaeth werdd yn cael ei chyflwyno yng Nglannau Dyfrdwy, un o’r ardaloedd cyflogaeth pwysicaf yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys gwelliannau i rwydweithiau a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal â chyflwyno a gwella llwybrau teithio llesol.

Fodd bynnag, ni all trafnidiaeth gyhoeddus ar ei phen ei hun ddelio â’r galw presennol heb sôn am daclo’r tagfeydd pellach a ddisgwylir gan y twf mewn traffig yn y dyfodol.

Yn gyffredinol mae’r Coridor A55/A494/A548 Sir y Fflint islaw safonau dylunio modern. Mae gan rai o’r cyffyrdd slipffyrdd nad ydynt yn cydymffurfio â’r safonau presennol ar gyfer symud cerbydau yn ddiogel wrth gyrraedd a gadael yr A55 a’r A494.

Dechreuodd y cam o roi cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r problemau hyn ym mis Hydref 2020. Ers hynny, aseswyd coridor y ffordd drwy ddilyn y drefn Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG). Hyd yma cwblhawyd Camau 1 a 2 y Cynllunio a’r Arfarnu.

Nodwyd dau opsiwn, Coch a Glas, fel y rhai mwyaf addas i fynd i’r afael â’r problemau ac fel rhan o Gam 2 Arfarniad WelTAG, buom yn ymgynghori ar yr opsiynau hyn yng Ngwanwyn 2017, ynghyd ag opsiwn Gwneud Dim, lle byddai’r isadeiledd presennol yn cael ei gadw fel y mae.

Yn dilyn ystyriaeth ofalus o’r holl astudiaethau a’r ymatebion i’r ymgynghoriad, cyhoeddwyd ym mis Medi 2017 mai’r llwybr Coch oedd yr opsiwn a ffefrir.

Golwg sydyn ar gynllun Coridor Sir y Fflint

Mae cynllun Coridor Sir y Fflint yn rhan annatod o Fetro Gogledd Cymru a bydd yn:

  • gwella gallu, dibynadwyedd ac amseroedd teithio
  • gwella diogelwch
  • gwella cysylltiadau busnes
  • gwella mynediad rhwng ardaloedd preswyl a lleoliadau gwaith
  • gostwng allyriadau carbon a lleihau’r effeithiau andwyol ar yr amgylchedd dynol ar hyd y ffyrdd presennol
  • gwneud defnydd mwy effeithiol o’r isadeiledd trafnidiaeth sy’n bodoli’n barod
  • cynnig cyfleoedd am well mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus
  • cynnig cyfleoedd am ddulliau trafnidiaeth difodur a theithio llesol

Mae’r llwybr a ffefrir yn cynnwys:

  • cerbytffordd ddeuol dwy lôn newydd sy’n 13km o hyd yn cysylltu Cyffordd Llaneurgain yr A55-A5119 (Cyffordd 33) â’r A494 a’r A550 i’r gogledd o Gyffordd Parkway Glannau Dyfrdwy, drwy Gyfnewidfa Celstryn a Phont Sir y Fflint
  • cyfuniad o wella’r ffordd bresennol, aliniad newydd a darn newydd o gerbytffordd
  • lle i fwy o gerbydau ar hyd yr A548 bresennol
  • addasu a gwella cyffyrdd
  • darn newydd o ffordd rhwng yr A548 (yng Nghelstryn) a’r A55 (yn Llaneurgain)
Image
Preferred route
Map o'r llwybr a ffefrir.

Ble’r ydym ni nawr

Ar hyn o bryd rydym ar Gam Allweddol 3. Yn ystod y cam hwn bydd y llwybr a ffefrir yn cael ei ddatblygu mewn mwy o fanylder a bydd arfarniadau amgylcheddol, traffig ac economaidd pellach yn cael eu gwneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi’r cwmni rheolaeth fasnachol a syrfewyr meintiau siartredig, Corderoy, gyda chymorth Capita yn gynghorwyr technegol, i’n cynorthwyo i reoli cyflawni’r cynllun hwn.

Mae Corderoy wedi datblygu strategaeth gaffael i gyflawni’r cam nesaf. Fel rhan o’r strategaeth honno, caiff partner dylunio ei benodi yn gynnar yn 2021 i ddatblygu’r llwybr cyffredinol a drafodwyd yng Ngham Allweddol 2 yn gynnig manwl y gellir ei adeiladu.

Bydd y broses ddylunio gychwynnol hon yn ystyried yr holl faterion amgylcheddol a pheirianyddol yn fwy manwl a bydd yn ceisio taclo rhai o’r materion ychwanegol a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn 2017. Er enghraifft, yn dilyn yr ymgynghoriad, mae’r Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i adolygu cyflwyno lôn ddringo ychwanegol ar yr A55, tua’r gorllewin o Gyffordd 33 yn Llaneurgain i Wasanaethau Helygain. Gwneir hyn drwy gomisiwn ar wahân gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA).

Un rhan allweddol o waith y tîm dylunio fydd ystyried yr ecoleg a’r bioamrywiaeth ar hyd y llwybr, ynghyd â nodweddion daearegol. Mae angen i ni felly gynnal ystod o arolygon yn 2020 i gasglu data tymhorol pwysig fel sail i ddylunio’r cynllun yn sensitif.

Arolygon a’n hymrwymiad i dirfeddianwyr

Bydd ein tîm o Capita, yn gweithio ochr yn ochr ag Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC), yn cynnal arolygon ecolegol er mwyn adnabod rhywogaethau a chynefinoedd pwysig a warchodir a all gael eu heffeithio ar hyd y llwybr a ffefrir yng nghynllun Coridor Sir y Fflint. Mae rhai o’r rhywogaethau a’r cynefinoedd hyn yn cael eu hamddiffyn hefyd o dan gyfraith y DU a chyfraith ryngwladol.

Defnyddir yr wybodaeth o ganlyniadau’r arolwg i ddylunio cynllun lle mae’r effeithiau ar fioamrywiaeth yr ardal yn cael eu lleihau neu eu hosgoi lle bo modd. Bydd yr arolygon hefyd yn rhoi gwybodaeth ar welliannau amgylcheddol addas y gellid eu gweithredu fel rhan o’r cynllun.

I ddechrau, dim ond archwiliadau amgylcheddol cychwynnol fydd yn digwydd, gyda nifer bychan o ecolegwyr yn cerdded dros y tir heb darfu arno er mwyn adnabod llefydd posibl y mae angen eu harolygu ymhellach.

Yn ystod Hydref 2020 byddwn yn cysylltu â thirfeddianwyr i ddechrau trafodaeth am gael mynediad ar eu tir i wneud yr arolygon hyn. Drwy weithio’n agos gyda thirfeddianwyr a’u tenantiaid, byddwn mewn gwell sefyllfa i drefnu unrhyw waith gan gadw’r amharu arnyn nhw i’r lleiaf posibl.

Gwneir pob ymdrech bosibl i osgoi unrhyw ddifrod a bydd tarfu’n cael ei gadw i’r lleiafswm. Ond, yn yr achosion prin yr achosir unrhyw ddifrod a/neu darfu gan y gwaith arolygu, gall iawndal fod yn daladwy ac mae hyn yn cynnwys ffioedd asiant rhesymol sy’n gysylltiedig â hawliadau o’r fath.

Casglu gwybodaeth a Covid-19

I fod yn ofalus ac ystyried iechyd y cyhoedd, bu’n rhaid i ni aildrefnu’n rhaglen er mwyn osgoi cynnal unrhyw arolygon yn hanner cyntaf 2020. Rydym bellach yn gwbl hyderus y gallwn gomisiynu a gwneud y gwaith arolygu mewn modd sy’n ddiogel i’r staff i gyd a’r gymuned leol.

Bydd pob un o’r gweithwyr yn gweithio yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd o dan reoliad 7A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (“Rheoliadau Coronafeirws”) a byddant yn cymryd pob cam rhesymol i gadw pellter cymdeithasol priodol rhwng y rheiny sydd yn y gweithle ar bob adeg.

Rydym hefyd wedi newid ein dull cyfathrebu. Fel arfer byddai’n swyddogion a’n partneriaid cyflawni prosiect yn ceisio cwrdd â chi wyneb yn wyneb, ond yn absenoldeb hynny rydym yn anfon y nodyn briffio hwn ac yn croesawu unrhyw geisiadau am gyfarfodydd dilynol ar y ffôn neu’n rhithiol, neu adborth mewn unrhyw ffurf.

Y camau nesaf

Mae’n bwysig i ni ein bod yn datblygu gwelliannau Coridor Sir y Fflint mewn trafodaeth agos â’r cymunedau lleol a’r rhanddeiliaid fel y gallwn gyflwyno’r buddiannau economaidd cysylltiedig yn y ffordd fwyaf priodol.

Byddwn yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd pan fyddwn wedi penodi partner dylunio a phan fydd hi’n addas ac yn ddiogel i ni wneud hynny, lle y gallwn gyfarfod y bobl leol, esbonio mwy am ein cynnydd hyd yma a gwrando ar unrhyw wybodaeth neu syniadau y gall fod gennych a allai’n helpu ni a’n partner dylunio i ddatblygu’r llwybr a ffefrir ymhellach.

Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys delweddau prosiectau ac adroddiadau manwl ar y cynllun hyd yma ar y wefan.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys y nodyn hwn neu am y cynllun yn gyffredinol, byddwn yn hapus iawn i drafod ymhellach gyda chi. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r rheolwr rhanddeiliaid ar gyfer coridor yr A55/A494/A548 Sir y Fflint.