Nid yw’r prosiect hwn yn mynd yn ei flaen.
Trosolwg
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Yn dilyn argymhellion yr adolygiad, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â gwelliannau arfaethedig i goridor yr A55/A494 A548 Sir y Fflint.
Gallwch ddarllen am ein rhaglen fuddsoddi ar y ffyrdd bresennol yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Cefndir
Sefydlwyd y prosiect hwn er mwyn edrych ar welliannau posibl i’r A494/A55 rhwng cyfnewidfa Shotwick a chyfnewidfa Llaneurgain. Roedd y rhain yn cynnwys:
- diogelwch, capasiti a lleihau allyriadau carbon
- gwella cysylltedd ar gyfer busnesau a mynediad rhwng ardaloedd preswyl a gweithleoedd
- gwneud defnydd mwy effeithlon o’r seilwaith trafnidiaeth presennol
- gwell mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus
- gwella llwybrau teithio llesol (ar droed, ar feic neu ar olwyn)
- sut i amharu cyn lleied â phobl ar bobl leol os bydd y gwaith yn mynd rhagddo
- effaith bosibl ar y tirwedd, ar ansawdd yr aer ac ar fioamrywiaeth
Roedd cynlluniau blaenorol yn cynnwys
- cerbytffordd ddeuol dwy lôn newydd sy’n 13km o hyd yn cysylltu cyffordd Llaneurgain yr A55-A5119 (Cyffordd 33) â’r A494 a’r A550 i’r gogledd o gyffordd Parkway Glannau Dyfrdwy, drwy gyfnewidfa Celstryn a Phont Sir y Fflint.
- lle i fwy o gerbydau ar hyd yr A548 bresennol, ynghyd ag addasu a gwella cyffyrdd a rhan newydd o ffordd rhwng yr A548 yng Nghelstryn a’r A55 yn Llaneurgain.
Yr hyn a wnaethom
Fe wnaethom ymgynghori ar ddau lwybr, yn ogystal ag opsiwn ‘gwneud dim’, yn 2017.
Fe wnaethom gyhoeddi’r llwybr a ffefrir ym mis Medi 2017.
Fe wnaethom benodi Corderoy i’n helpu i reoli’r gwaith o gyflawni’r cynllun gyda Capita yn cefnogi fel cynghorwyr technegol.
Datblygodd Corderoy strategaeth ar gyfer cam nesa’r cynllun.
Yn ystod diwedd 2020 fe wnaethom gasglu data drwy arolygon ar hyd y llwybr arfaethedig. Bu hyn o gymorth inni ddeall mwy am ecoleg, bioamrywiaeth, a nodweddion daearegol yr ardal leol
Ym mis Mehefin 2021 gofynnom i'r panel adolygu ffyrdd edrych ar ein holl brosiectau ffyrdd a phenderfynu pa rai ddylai fynd yn eu blaen.
Ym mis Chwefror 2023, argymhellodd yr adolygiad na ddylai’r prosiect hwn fynd rhagddo oherwydd: “Nid yw’r achos dros newid yn cyd-fynd yn dda â nod Llywodraeth Cymru i leihau nifer y milltiroedd a deithir mewn ceir.
“Byddai’r cynllun yn cynyddu capasiti ceir preifat ac yn golygu newid dulliau teithio o drafnidiaeth gyhoeddus i deithio mewn ceir, a byddai hynny yn tanseilio’r targed i gynyddu dulliau trafnidiaeth gynaliadwy.”