Mae rhaglen wedi’i datblygu i helpu plant a phobl ifanc i ystyried dyfodol yn y maes adeiladu.
Mae rhaglen ymgysylltu ag ysgolion adran 5 a 6 yr A465 yn targedu plant a phobl ifanc rhwng 7 a 21 oed.
Datblygodd Future Valleys Construction (FVC) y rhaglen gyda chymorth gweithwyr proffesiynol yn y maes addysg.
Mae’r rhaglen yn gymysgedd o gyflwyniad, gweithdai ac ymweliadau safle. Mae’n cefnogi’r cwricwlwm newydd a’i nod yw:
- ysbrydoli pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant adeiladu
- hyrwyddo amrywiaeth o rolau, gan gynnwys rolau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)
- rhoi dealltwriaeth i ddisgyblion o’r sgiliau y bydd galw amdanynt yn y dyfodol
- annog a helpu disgyblion i ddewis y pynciau cywir sydd eu hangen i gael gyrfa yn y diwydiant adeiladu
- herio stereoteipio ar sail rhywedd o fewn y diwydiant
- cynnig cyd-destun o’r byd go iawn sy’n ategu dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- darparu cyfleoedd i ddysgu am y diwydiant adeiladu
Ers ei lansio yn 2021, mae’r rhaglen wedi:
- ei chyflwyno mewn 5 ysgol
- gweithio gydag ysgolion yng Nghwm Taf uchaf i ddarparu cyfleoedd dysgu STEM
- gweithio gyda Chynllun Addysg Beirianneg Cymru a myfyrwyr Coleg Merthyr lle y darparwyd prosiect dylunio.
Enillodd rhaglen ymgysylltu ag ysgolion adran 5 a 6 yr A465 y wobr Newydd-ddyfodiad Gorau Gyrfa Cymru. Bydd FVC yn cyflwyno’r rhaglen mewn mwy o ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr ardal dros y tair blynedd nesaf.
Mae FVC yn parhau i drafod gyda cholegau a phrifysgolion yn ne Cymru. Hoffai gefnogi myfyrwyr a’u helpu i ddechrau gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gyllido prentisiaethau i mewn i gyrfaoedd megis adeiladu. Dewch o hyd i brentisiaeth yn y maes adeiladu yn agos i chi.
Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect yr A465 adran 5 a 6 Dowlais Top i Hirwaun. Am yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, dilynwch sianeli Facebook a Twitter adran 5 a 6 yr A465.