Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4.9 miliwn i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru fel eu bod yn haws i bobl eu defnyddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Un canlyniad y pandemig yw bod llawer mwy o bobl wedi gorfod neu ddewis defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, ac mae hyn eisoes wedi sbarduno proses o drawsnewid gwasanaethau digidol.

Enghraifft o hyn oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio gyda Cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen, ac wedi’u cynorthwyo gan y Ganolfan Gwasanaethau Digidol, ar brosiect i wella profiad pobl o ddefnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar-lein. Mae profiadau uniongyrchol defnyddwyr a staff gofal cymdeithasol yn cael eu defnyddio i ddatblygu gwasanaethau digidol gwell gan gynnwys gwella’r broses gyfeirio.

Yn y cyfamser, mae gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddefnyddio dulliau digidol awtomatig i brosesu ceisiadau am brydau ysgol am ddim wedi arwain at broses llawer cyflymach. Gan weithio gyda’r sector preifat, gall yr awdurdod lleol nawr sicrhau bod plant ysgol sy’n gymwys yn cael eu derbyn ar y rhaglen prydau ysgol am ddim ar ddiwrnod eu cais.

Mae’r datblygiad hwn wedi bod yn hynod werthfawr yn ystod y pandemig pan welwyd cynnydd mawr yn y galw am brydau ysgol am ddim, ac o ganlyniad mae llawer mwy o blant wedi dechrau derbyn prydau iach a maethlon ar garreg y drws.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ei fod am i’r buddsoddiad hwn o £4.9 miliwn mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol sbarduno dulliau mwy arloesol a hawdd eu defnyddio ledled Cymru.

Caiff y cyllid ei roi i’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, a sefydlwyd llynedd i drawsnewid y cynlluniau a’r dulliau o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus digidol.

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi rhaglenni hyfforddi arbenigol a sgwadiau digidol fydd yn gweithio gyda sefydliadau y sector cyhoeddus ac yn eu helpu i wella eu gwybodaeth ddigidol a gwella eu gwasanaethau ar-lein.

Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall pobl sy’n defnyddio gwasanaeth cyhoeddus yn ddigidol gael profiad sydd mor hawdd i’w ddefnyddio â siopa neu ddefnyddio banc ar-lein.

Mae’r cyllid yn rhan o Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru sy’n derbyn ‘cyfraniadau torfol’ i brofi syniadau a chasglu awgrymiadau newydd. Bydd y strategaeth yn penderfynu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio adnoddau digidol, data, technoleg a Deallusrwydd Arfiffisial nawr ac yn y dyfodol er budd pobl Cymru.

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi:

“Mae adnoddau digidol bellach yn rhan o fywydau pob un ohonom ac ni fu hynny erioed mor amlwg nag yn ystod y pandemig.

“Mae’n hanfodol bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn datblygu i fodloni disgwyliadau heriol y bobl sydd eu hangen ac sy’n eu defnyddio, a’u bod mor syml i’w defnyddio a’u deall â nifer o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio wrth inni siopa ar-lein neu ddarparu ein darlleniadau o fesuryddion.

“Rydyn ni am i bobl allu defnyddio’r gwasanaethau y maent eu heisiau yn hawdd drwy glicio llygoden neu dapio’r sgrîn. Golyga hyn sicrhau gwasanaethau digidol o safon uchel yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a bydd y buddsoddiad mewn sgiliau, arweinyddiaeth a safonau yn allweddol i helpu inni gyrraedd y nod hwnnw.

Meddai Sally Meecham, Prif Weithredwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol:

“Bydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn helpu y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus digidol da sy’n bodloni anghenion pob defnyddiwr. Mae’n wych derbyn y buddsoddiad hwn a’r ymrwymiad i barhau â’n gwaith.

“Bydd hyn yn caniatáu inni gydweithio gyda gweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a’n rhwydwaith cynyddol o bartneriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid i ddarparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch i’r cyhoedd a sicrhau bod gan y bobl sy’n cynllunio a darparu’r gwasanaethau y sgiliau, y gallu, yr uchelgais a’r gefnogaeth iawn.