Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Addysg yn cadarnhau penderfyniad ar addysg grefyddol ac addysg cydberthynas a rhywioldeb ac yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ‘gweithredu’n sensitif ac yn ofalus’

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ni fydd rhieni yn gallu atal eu plant rhag dysgu am grefydd, cydberthynas a rhywioldeb pan fydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei lansio.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, 21 Ionawr) gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams gan bwysleisio’r angen i ‘weithredu’r penderfyniad yn sensitif ac yn ofalus’. 

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Ein cyfrifoldeb fel llywodraeth yw sicrhau bod pobl ifanc, drwy addysg gyhoeddus, yn gallu dysgu mewn ffordd sy’n eu cefnogi i drafod a deall eu hawliau a hawliau eraill. 

“Mae’n hanfodol i’r holl bobl ifanc gael yr wybodaeth sy’n eu cadw rhag niwed. 

“Mae penderfyniad heddiw yn sicrhau y bydd yr holl ddisgyblion yn dysgu am faterion gan gynnwys diogelwch ar-lein a chynnal cydberthynas iach.”

Gwnaed y cyhoeddiad yn dilyn ymgynghoriad wyth wythnos gan Lywodraeth Cymru ar sicrhau mynediad at y cwricwlwm llawn, gan gynnwys addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ac Addysg Grefyddol. 

“Rwy’n cydnabod ei fod yn fater sensitif ac roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau. 

“Yn amlwg, mae angen i ni weithio gyda chymunedau a phawb sy’n ymwneud â hyn i ddatblygu’r gwaith o addysgu a dysgu’r pynciau hyn. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn i bawb gael ffydd yn y ffordd y bydd y newid yn cael ei weithredu.” 

Amlinellodd y Gweinidog gynlluniau ar gyfer gweithredu sy’n cynnwys creu canllawiau clir, adnoddau a dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion a chreu Grŵp Cynnwys Cymunedau Ffydd/Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn cynnal y cyfarfod cyntaf fis Chwefror. 

Bydd y grŵp yn rhan o ddatblygu canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb, datblygu cyd-ddealltwriaeth o’r cwricwlwm newydd a mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan grwpiau ffydd a grwpiau cymunedol yn ystod yr ymgynghoriad. 

Aeth y Gweinidog ymlaen:

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda chymunedau ledled Cymru i sicrhau bod gan rieni yr hawl i ddatblygu a gofalu am eu plant, a’u harwain i ddod yn oedolion wrth ganiatáu i’n hysgolion ddarparu addysg eang a chytbwys. 

“Byddwn yn datblygu ein cyswllt â’r gymuned a oedd yn cyd-fynd â’r ymgynghoriad gan fynd ati i fuddsoddi’n hirdymor mewn gwrando ar ein cymunedau a chanfod ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt. 

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd gynlluniau i sefydlu Gweithgor Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb newydd a fydd yn goruchwylio’r gwaith o fireinio’r canllawiau statudol newydd ar y pwnc gan ffurfio rhan o’r canllawiau ar y cwricwlwm newydd. 

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Hoffwn gymryd y cyfle yn 2021 i brofi’r ffordd o ymdrin ag addysg cydberthynas a rhywioldeb cyn y bydd yn statudol yn y cwricwlwm newydd. 

“Bydd hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr er mwyn cyfrannu at fireinio ein ffordd o weithredu a bydd hefyd yn galluogi dysgwyr, rhieni a gofalwyr a chymunedau i’w weld ar waith ac i roi adborth.” 

Bydd rhagor o fanylion am y dull hwn yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf. 

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn dangos cefnogaeth ar gyfer newid enw’r pwnc 'Addysg Grefyddol'. Y dewis mwyaf poblogaidd gan ymatebwyr oedd 'Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ' ac, o ganlyniad, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai enw'r pwnc yn newid pan ddaw'r cwricwlwm newydd i rym.