Neidio i'r prif gynnwy

Hawliwch help gyda chostau ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig help gyda chostau ysgol. Darganfyddwch yr help y gallai eich plentyn gael, yn ogystal â chyllid ychwanegol ar gyfer eu hysgol.

Efallai y gallai eich plentyn gael:

Peidiwch â cholli allan: Cinio Ysgol Am Ddim

Image

Os yw eich amgylchiadau wedi newid yn ddiweddar, neu os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol, efallai y gallai eich plentyn gael Cinio Ysgol Am Ddim.

Mae Cinio Ysgol Am Ddim yn hybu bwyta'n iach, yn cynyddu'r amrywiaeth o fwyd y gallai eich plentyn ei fwyta, a gall wella ei ymddygiad a'i sgiliau cymdeithasol.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael Cinio Ysgol Am Ddim, gallai eich ysgol dderbyn cyllid ychwanegol.

Cinio Ysgol Am Ddim

Gallai eich plentyn gael Cinio Ysgol Am Ddim.

Hawliwch help gyda Grant Hanfodion Ysgol

Image

Os yw eich plentyn eisoes yn cael Cinio Ysgol Am Ddim, efallai y bydd mwy o help ariannol ar gael gyda Grant Hanfodion Ysgol.

Gall hwn helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol ac offer i sicrhau bod eich plentyn yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol.

Gallech fod â hawl i help ariannol o hyd at £200 ar gyfer:

  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol: gallai hyn gynnwys dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ystafell ddosbarth: gallai hyn gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol

Help gyda Hanfodion Ysgol

Gallech gael help gyda Hanfodion Ysgol.

Mae mwy i ddod...

Image
Image
UPFSM llinell amser

Mae ysgolion wedi dechrau cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Erbyn Medi 2024, gall pob plentyn mewn ysgol gynradd fwynhau Cinio Ysgol Am Ddim. Bydd yr amserlen cyflwyno gyda’ch Awdurdod Lleol neu’ch ysgol.

Hyd yn oed os oes gan eich plentyn hawl i Brydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, bydd angen i chi wneud cais neu eu cofrestru, fel bod yr ysgol yn gwybod faint o ginio i'w paratoi.

I hawlio help arall, bydd angen i chi hefyd wirio cymhwysedd hyd yn oed os yw'ch plentyn yn cael Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.

Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Dysgwch fwy am Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.

Cefnogaeth i chi a chyllid i'ch ysgol

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cinio Ysgol am Ddim, gallai eich ysgol gael cyllid ychwanegol.

Dysgwch fwy am y cyllid ychwanegol sydd ar gael i’ch ysgol drwy’r Grant Datblygu Disgyblion.

Hawlio help ychwanegol gyda chostau byw

Dysgwch fwy am yr help a’r cyngor sydd ar gael i’ch helpu gyda’r costau byw uwch.