Neidio i'r prif gynnwy

5. Additional communication, technology and regulatory considerations

Wrth ystyried ymyriadau dylunio, dylai perchnogion a gweithredwyr ystyried arwyddion a chyfathrebiadau, yn ogystal â chyfleoedd drwy dechnoleg ac ystyriaethau rheoleiddio.

5.1 Ystyriaethau o ran cyfathrebu ac arwyddion dros dro

Cynghorir perchnogion/gweithredwyr i ddarparu gwybodaeth glir a chryno yn ddwyieithog i’r cyhoedd ynglŷn â sut mae cadw pellter cymdeithasol. Maent yn cael eu cynghori i bwysleisio cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru ar weithdrefnau diogelwch ac ystyried yn ofalus y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol mewn mannau cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys:

  • Defnyddio delweddau a negeseuon syml, clir a hygyrch i esbonio canllawiau, gan ystyried grwpiau dydy Cymraeg neu Saesneg ddim yn iaith gyntaf iddynt, neu lle bo angen fformatau eraill o bosibl.
  • Dangos uchafswm y bobl sy’n gallu ciwio’n ddiogel (gan gadw pellter cymdeithasol).
  • Arwyddion a chyhoeddiadau am deithio’n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol. Dylai arwyddion gael eu lleoli’n strategol er mwyn cael cymaint o effaith â phosibl.
  • Gwybodaeth am newidiadau i ddefnyddwyr anabl a sut gallant barhau i gael mynediad i fannau cyhoeddus mewn modd diogel.
  • Darparu stiwardiaid yn y mannau prysuraf.
  • Nodi mannau priodol ar gyfer ciwio, gan ystyried ciwiau a’r gofod sydd ei angen ar eiddo cyfagos, yn ogystal ag ystyriaethau diogelwch.

5.2 Ystyriaethau digidol ychwanegol

Efallai y bydd perchnogion/gweithredwyr yn dymuno ystyried defnyddio data ac adnoddau digidol i'w gwneud yn haws i bobl gadw pellter cymdeithasol, ac i helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â rheoli ac addasu mannau. Gallai hyn gynnwys:

  • Sicrhau bod data ar gael sy’n dangos faint o ymwelwyr sy’n dod i’r mannau ar yn o bryd, yn enwedig y rhai hynny sy’n dueddol o orlenwi; mynediad at ddata ac adnoddau digidol a fydd yn caniatáu i bobl gynllunio eu teithiau’n fwy effeithiol, a dewis mannau eraill neu ddefnyddio mannau ar adegau eraill o’r dydd.
  • Dylai perchnogion/gweithredwyr ystyried defnyddio data ac adnoddau digidol i fonitro defnydd y mannau, a gwneud addasiadau o ran mynediad a defnydd y mannau hynny yn ôl y gofyn.
  • Efallai y bydd angen data ac adnoddau digidol i ragweld a chynllunio ar gyfer newid defnydd mannau cymdeithasol dros amser, i ddisgwyl a lliniaru’r posibilrwydd o orlenwi mewn rhai mannau yn ystod y cyfnodau prysuraf, ac i gymryd mesurau cywiro angenrheidiol i’w gwneud yn haws i bobl gadw pellter cymdeithasol.
  • Datblygu strategaethau sy’n helpu i gyfathrebu â masnachwyr a’r cyhoedd drwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a digidol.  Gallai hyn gynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gallu i gadw pellter cymdeithasol, a gwahodd aelodau o'r cyhoedd i roi gwybod am fannau cul.
  • Ystyried sut gellid defnyddio systemau e-archebu sy’n bodoli eisoes i helpu i reoli capasiti mannau cyhoeddus yn effeithiol, fel cyrtiau chwaraeon awyr agored, a darparu canllawiau allweddol ar ddefnydd.
  • Dylid ystyried y rheini sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, a allai gynnwys defnyddio radio lleol neu ddeunydd print.

Wrth ymgymryd â rhai o’r camau gweithredu a gynghorir, dylid ystyried y risg o drosglwyddo’r haint drwy gyffwrdd. Yn ogystal â hyn, rhaid i chi roi sylw i’ch dyletswyddau rheoleiddiol a statudol, fel y rheini sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch a diogelu data.

5.3 Ystyriaethau ychwanegol o ran diogelwch a gorfodaeth

Gallai gosodiad diwygiedig gyflwyno risgiau newydd o ran diogelwch, yn enwedig lle bo sawl ciw yn cael ei greu. Cynghorir perchnogion a gweithredwyr mannau cyhoeddus i ystyried ymyriadau dros dro i helpu i gadw pellter cymdeithasol a’u goblygiadau o ran diogelwch. I liniaru risgiau diogelwch newydd, rydyn ni’n argymell bod ciwiau’n cael eu trefnu mewn ardaloedd lle mae mesurau diogelwch eisoes ar waith, fel rhwystrau diogelwch o ran cerbydau. Lle nad yw hyn yn bosibl, dylech chi ystyried: cyfeirio ciwiau y tu ôl i strwythurau ffisegol parhaol (e.e. celfi stryd, bolardiau, parciau trolïau a rheseli beiciau) i ddarparu atalfa weledol ac oedi; cau mynediad i gerbydau i fannau a rennir; addasu amseroedd gwasanaethu a danfon nwyddau; lleihau'r cyfleoedd i gerbydau ryngweithio â cherddwyr (gan gynnwys lliniaru cerbydau a allai fod yn wrthwynebus); codi rhwystrau cadarn; cyflwyno cyfyngiad cyflymder is a mesurau gostegu traffig wedi’u mandadu. Ni ddylai gweithredwyr ac awdurdodau gael gwared ag unrhyw nodweddion diogelwch / celfi stryd defnyddiol heb ystyried diogelwch gwarchodol. Ni ddylid cyfaddawdu gweithdrefnau diogelwch sy’n bodoli eisoes.

Mae dolenni i ganllawiau ychwanegol i’w gweld yn yr Atodiad.

5.4 Ystyriaethau rheoleiddio

Fel perchennog a/neu weithredwr mannau trefol a/neu fannau gwyrdd, mae’n bwysig ystyried yr holl rwymedigaethau cyfreithiol cyn rhoi ymyriadau a argymhellir gan y canllawiau hyn ar waith. Rydyn ni wedi nodi rhai enghreifftiau a allai fod yn berthnasol isod. Fel y nodir uchod, nid yw’r ddogfen ganllawiau hon yn gorfodi unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol, ac mae’n bosibl y bydd angen eu cyflawni cyn gallu rhoi'r canllawiau ar waith.

Rheoliadau Traffig

Mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i Awdurdodau Lleol er mwyn hwyluso’r broses o roi mesurau trafnidiaeth gynaliadwy lleol ar waith mewn ymateb i Covid-19; efallai y bydd rhai o’r mesurau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod gorchmynion rheoleiddio traffig (parhaol, arbrofol neu dros dro) yn cael eu gwneud. Mae Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ynghylch diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud â gorchmynion traffig ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o gyflymu a symleiddio’r broses gwneud gorchmynion.

Gorchmynion Datblygu a Ganiateir

Lle bo angen ymyriadau, fel strwythurau dros dro, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Mae Rhan 12 o Atodlen 2 y Gorchymyn hwn yn rhoi caniatâd i awdurdodau lleol godi, adeiladu, cynnal a chadw, a gwella amrywiaeth o strwythurau a gweithrediadau bach sy’n ofynnol mewn cysylltiad â gweithrediad unrhyw wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei weinyddu ganddynt. Mae Rhan 12A newydd Atodlen 2 y Gorchymyn yn galluogi awdurdodau lleol i ymgymryd ag unrhyw ddatblygiad ar dir sy’n berchen iddynt neu’n cael ei brydlesu, ei feddiannu neu ei gynnal a’i gadw ganddynt er mwyn atal argyfwng; lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng; neu gymryd cam gweithredu arall mewn cysylltiad ag argyfwng. Gallai hyn gynnwys newid defnydd unrhyw adeilad at unrhyw ddiben, a chodi adeiladau neu strwythurau at y dibenion hynny.

Mae Rhan 3A o Atodlen 2 y Gorchymyn hefyd yn cyflwyno hawliau datblygu a ganiateir newydd ar gyfer cyrff gwasanaethau iechyd i wneud rhai datblygiadau dros dro at ddibenion atal, amddiffyn yn erbyn, rheoli neu ymateb i argyfwng sy’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Y datblygiadau a ganiateir yw’r newid i ddefnydd adeilad neu dir o unrhyw ddosbarth yn yr Atodlen i’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd 1987 neu unrhyw ddefnydd arall i Ddosbarth C2 (Sefydliadau preswyl) neu Ddosbarth D1 (Sefydliadau dibreswyl), a darparu adeiladau neu strwythurau eraill.

Fire Safety Regulations

Mae’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) yn berthnasol i bob eiddo annomestig – gan gynnwys unrhyw adeilad, pabell neu strwythur symudol – ac mae angen i’r sawl sy’n gyfrifol am yr eiddo gynnal asesiad o risg tân, ei adolygu’n rheolaidd a’i roi ar waith, yn ogystal â chynnal mesurau diogelwch tân i liniaru’r risg i fywyd yng nghyswllt tân. Lle bo’r coronafeirws a mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi effeithio ar yr eiddo, argymhellir bod y sawl sy’n gyfrifol yn adolygu ei asesiad o risg tân i sicrhau ei fod yn addas ac yn ddigonol. Darllenwch y canllawiau ar asesiadau risg tân ar GOV.UK.

Os nad oes gan y bobl gyfrifol amser nac arbenigedd i wneud hynny, gallant ofyn i berson cymwys gynnal yr asesiad risgiau tân. Mae Cyngor y Prif Swyddogion Tân Cenedlaethol wedi sicrhau bod canllawiau ar ddewis asesydd risg cymwys ar gael.