Neidio i'r prif gynnwy

Buom yn ystyried darparu cyfleusterau parcio a theithio a chyfleusterau teithio llesol yn Ystradmynach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • cyfleusterau parcio a theithio newydd,
  • ffordd fynediad a throetffordd newydd yn arwain o Cedar Way i'r cyfleusterau parcio a theithio.

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys rhan o'r tir hamdden a ddefnyddir gan ysgolion cynradd Ystrad Mynach ac Ysgol Gymraeg Bro Allta.

Nid effeithiodd y cynllun ar yr ardal o laswelltir y gellir ei defnyddio at ddibenion hamdden. Darparwyd cyfleusterau hamdden ac addysgol ychwanegol fel rhan o'r cynllun.

Gwnaed y gwaith a ganlyn dan y cynllun hwn:

  • gwella cyffordd Cedar Way â'r A472,
  • rhoi wyneb newydd ac ychwanegu llinellau gwyn ar Cedar Way,
  • gwella llwybrau beicio i'r orsaf o'r ardal leol.

Hynt y gwaith

Cwblhawyd y gwaith yng ngwanwyn 2015.