Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur yn seiliedig ar yr LFS yw’r ffynhonnell swyddogol o wybodaeth am y farchnad lafur ar lefel Cymru o hyd. Fodd bynnag, oherwydd yr heriau gyda chynnal y gyfradd ymateb ar gyfer yr LFS, rydym yn parhau i argymell y dylid ystyried y tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS, sydd hefyd yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Arferai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (ABB) wedi gweld gostyngiad ym maint y sampl dros y blynyddoedd diwethaf. O ystyried hyn, a’r ffaith nad yw’r arolwg wedi’i ailbwysoli i’r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylid ailddynodi'r amcangyfrifon yn ystadegau swyddogol (ABB).

Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag dylai defnyddwyr nodi'r ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r ABB. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i roi arwydd rhesymol o dueddiadau ar gyfer Cymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio fel rhan o fasged o ddangosyddion gyda ffynonellau amgen fel gwybodaeth amser real Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi am weithwyr cyflogedig, data ar swyddi’r gweithlu, a’r nifer o hawlwyr. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.

Cyflogaeth

Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 72.9% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, i lawr 1.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.4%, i lawr 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth dros y flwyddyn ym Mlaenau Gwent (i fyny 7.5 pwynt cantran i 74.7%), Sir Ddinbych (i fyny 3.8 pwynt cantran i 75.1%) ac ym Merthyr Tudful (i fyny 3.3 pwynt canran i 73.2%).

Ffigur 1: Y gyfradd gyflogaeth, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2011, yng Nghymru a’r DU. Ers dechrau pandemig y coronafeirws yn gynnar y 2020 mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yn y ddwy ardal. Mae cyfradd y DU wedi parhau’n uwch na chyfradd Cymru dros y gyfres amser a ddangosir, er bod y ddwy wedi dangos tueddiadau tebyg yn ystod y cyfnod hwn.

Ffynhonnell: APS, Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Rhanbarthau economaidd

76.0% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i lawr 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y Canolbarth a’r De-orllewin y gyfradd oedd 72.2%,  gostyngiad o 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn, ac yn Ne-ddwyrain Cymru y gyfradd oedd 71.9%, gostyngiad o 1.5 pwynt canran. Felly,’r Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru (cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).

Ffigur 2: Y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos bod Cymru, a phob un o ranbarthau economaidd Cymru wedi gweld eu cyfraddau cyflogaeth yn cynyddu’n gyffredinol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS

Ers 2011, y duedd gyffredinol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru oedd cynnydd cyson hyd bandemig y coronafeirws (COVID-19). Er gwaethaf gostyngiadau yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau cyflogaeth yn y Gogledd wedi parhau’n uwch yn gyffredinol na’r rhanbarthau economaidd eraill a Chymru yn gyffredinol.  Ers mis Medi 2021, mae cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu i Gymru ac i Ogledd Cymru, tra bo cyfraddau cyflogaeth De-ddwyrain Cymru a’r Canolbarth a De-orllewin Cymru wedi gostwng.

Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU wedi cau’n raddol i 2.6 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, ond mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 1.0 pwynt canran o gymharu â’r bwlch y flwyddyn flaenorol.

Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.

Diweithdra

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 2.9%, i lawr 0.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 3.7%, heb newid dros y flwyddyn.

Nodwch fod data ar gyfer 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol oedd â sampl o faint digon mawr oedd Sir Gaerfyrddin, Ynys Môn a Rhondda Cynon Taf.

O ran yr awdurdodau lleol hynny oedd â sampl o ddigon o faint, yn Rhondda Cynon Taf 4.8% oedd y gyfradd ddiweithdra, i lawr 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn, yn Sir Gaerfyrddin y gyfradd oedd 2.8%, i lawr 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn, ac ar Ynys Môn y gyfradd oedd 4.8% (nid oes cymhariaeth flynyddol ar gael gan fod data ar gyfer y flwyddyn flaenorol wedi’u hatal).

Ffigur 3: Y gyfradd ddiweithdra, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 oed ac yn hŷn wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU. Cynyddodd y gyfradd i’r pwynt uchaf ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2010 i fis Medi 2013, yng Nghymru a’r DU, ond ei bod ers hynny wedi gostwng ymhell islaw’r gyfradd yn 2008. Mae’r gyfradd ddiweithdra wedi bod yn fwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyfradd Cymru yn aros yn is na chyfradd y DU yn y flwyddyn a ddaw i ben erbyn Medi 2024.

Ffynhonnell: APS, SYG

Rhanbarthau economaidd

3.4% oedd y gyfradd ddiweithdra yng Ngogledd Cymru, cynnydd o 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn; yn Ne-ddwyrain Cymru, y gyfradd oedd 3.0%, i lawr 1.3 pwynt canran ac yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru y gyfradd oedd 2.3%, i lawr 1.8 pwynt canran (cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu.)

Ffigur 4: Y gyfradd ddiweithdra, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Cymru, y De-ddwyrain, y Gogledd a’r Canolbarth a’r De-orllewin i gyd wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS

Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2014, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn nhri rhanbarth economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol, ac roedd y gostyngiad yn fwy serth nes pandemig y coronafeirws (COVID-19). Yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau diweithdra rhanbarthau economaidd Cymru wedi amrywio ychydig. Yng Ngogledd Cymru mae’r gyfradd uchaf, ac yn y Canolbarth a’r De-orllewin y mae’r gyfradd isaf yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024.

Anweithgarwch economaidd

Pobl economaidd anweithgar yw’r bobl hynny sydd heb swydd ac sydd heb chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf a/neu bobl nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

Yn yr adran hon, nid oedd myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn flaenorol fel rhan o amcangyfrifon o anweithgarwch economaidd. Ond, mae'r amcangyfrifon bellach wedi'u diweddaru i gynnwys myfyrwyr, er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr a chymaradwy o'r farchnad lafur yng Nghymru. Mae amcangyfrifon o anweithgarwch economaidd nad ydynt yn cynnwys myfyrwyr ar gael o hyd o dan ffigur 5 ac ar StatsCymru: Cyfraddau anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl ardal leol yng Nghymru a blwyddyn.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 24.9%, i fyny 2.1 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd yn y DU oedd 21.6%, i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf yng Nghymru oedd Wrecsam (18.4%), Sir y Fflint (19.1%) a Sir Fynwy (20.4%).

Ffigur 5: Y gyfradd anweithgarwch economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi bod yn gostwng ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2011 yng Nghymru a'r DU. Serch hynny, dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig y coronafeirws), mae’r gyfradd wedi cynyddu ychydig ar gyfer y ddwy ardal. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, ac mae maint y bwlch yn amrywio dros amser.

Ffynhonnell: APS, SYG

Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer Cymru oedd 20.8% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, cynnydd o 0.8 pwynt canran o'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 17.7%, i fyny 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.

Rhanbarthau economaidd

26.1% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, cynnydd o 2.6 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 25.8%, cynnydd o 2.6 pwynt canran; ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 21.4%, i lawr 0.1 pwynt canran. (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).

Ffigur 6: Y gyfradd anweithgarwch economaidd, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024
Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell yn dangos bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol ers mis Medi 2012, a bod cyfraddau’r tri rhanbarth economaidd yn amrywio o amgylch cyfradd Cymru.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS

Y Gogledd sydd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyffredinol o’r tri rhanbarth economaidd. Y Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn cyfnodau diweddar. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, a’r Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.

Rhesymau am anweithgarwch economaidd

Mae’r adran hon yn dadansoddi’r rhesymau a roddwyd gan bobl 16 i 64 oed am eu hanweithgarwch economaidd.

Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, wedi Digalonni, wedi Ymddeol ac Eraill.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a bu gostyngiad o 1.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 35.3% o’r holl ddynion economaidd anweithgar. Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 27.9% o’r holl ddynion economaidd anweithgar, i lawr 0.1 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.

Ffigur 7: Anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion, rhwng 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith dynion oedd salwch hirdymor, ac yna bod yn fyfyriwr. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 oherwydd bod y niferoedd mor fach.

Ffynhonnell: APS, SYG

Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020 i 2021, cwympodd y gyfran hon yn sydyn, efallai oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, y rheswm mwyaf cyffredin am eu hanweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 32.7% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i fyny 2.2 pwynt canran yn y flwyddyn. Mae cyfran y menywod sy’n economaidd anweithgar oherwydd salwch tymor hir nawr ar ei huchaf ers dechrau cadw cofnodion APS. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi gostwng 4.5 pwynt canran, gan gyfrif am 21.6% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.

Ffigur 8: Anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith menywod, rhwng 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2019 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith menywod oedd salwch hirdymor, ac yna gofalu am y teulu/cartref. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer oiv ctfbid a ddangosir ar gyfer menywod yn Ffigur 8 oherwydd bod y niferoedd mor fach.

Ffynhonnell: APS, SYG

Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)

Cyflogaeth

Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 oedd 54.0%, i lawr 3.5 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 52.0%, gostyngiad o 1.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

56.1% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion ifanc yng Nghymru, i fyny 1.5 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Bu gostyngiad o 8.7 pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith menywod ifanc yng Nghymru i 51.7%.

Ffigur 9: Y gyfradd gyflogaeth pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond ei bod wedi cynyddu’n gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y bu’r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod hyd at bandemig COVID-19.

Ffynhonnell: APS, SYG

Diweithdra

6.5% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, i lawr 3.6 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 11.4%, i fyny 0.7 pwynt canran.

Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 6.9% a 6.1% yn y drefn honno. Gostyngodd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc 5.8 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a gostyngodd y gyfradd ymhlith menywod ifanc 1.3 pwynt canran dros yr un cyfnod.

Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng dynion a menywod oedd 0.8 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, gyda’r gyfradd ar gyfer dynion yn uwch nag ar gyfer menywod. Mae’r bwlch hwn wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar, i lawr o 5.2 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol. Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc rhwng dynion a menywod yn y DU oedd 4.2 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, o gymharu â 3.6 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023.

Ffigur 10: Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol ei bod wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf, gan gofnodi lefelau isel yn y cyfnod diweddar.

Ffynhonnell: APS, SYG

Anweithgarwch economaidd

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc (ac eithrio myfyrwyr) yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 oedd 18.8%, gostyngiad o 3.0 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 20.4%, i fyny 1.6 pwynt canran dros y flwyddyn.

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc (ac eithrio myfyrwyr) yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 oedd 18.4%, gostyngiad o 3.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 19.3%, gostyngiad o 2.6 pwynt canran. Oherwydd anwadalrwydd y gyfres hon, dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach lle bo modd.

Ffigur 11: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl rhyw yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer pobl 16 i 24 oed yng Nghymru wedi amrywio dros y degawd diwethaf ar gyfer dynion a menywod.

Ffynhonnell: APS, SYG

Y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer pobl ifanc (gan gynnwys myfyrwyr) yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024 oedd 42.3%, i fyny 6.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 41.3%, i fyny 1.6 pwynt canran dros y flwyddyn.

Diweithdra hirdymor

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, mae’r APS yn amcangyfrif bod 9,300 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith yn hirdymor (12 mis neu fwy), sy’n ostyngiad o 29.8% dros y flwyddyn. Serch hynny, sylwch fod newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra hirdymor yng Nghymru yn anwadal iawn, a dylid ystyried tueddiadau hirdymor pan fo’n bosibl.

Roedd diweithdra hirdymor yn cynrychioli 21.5% o’r holl bobl a oedd yn ddi-waith yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, i lawr 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 21.7%, i lawr 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.

Roedd 22.6% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 24.5% yn y DU.

Roedd 19.5% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 5.4 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 18.3% yn y DU.

Ffigur 12: Cyfraddau diweithdra hirdymor ILO (y ganran o’r holl bobl ddi-waith), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Medi 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru a'r DU yn gostwng yn gyffredinol rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2015 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020. Ers hynny mae’r anwadalrwydd wedi cynyddu yng Nghymru a’r DU. Roedd cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru yn uwch yn gyffredinol nag yn y DU. Dylid ystyried newidiadau yn y gyfradd ddiweithdra ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach, lle bo modd, oherwydd anwadalrwydd y gyfres yn ddiweddar.

Ffynhonnell: APS, SYG

Statws anabledd

50.9% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024. Mae hyn i lawr 1.0 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 81.5% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i lawr 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn.

4.5% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i lawr 2.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 2.5% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, sydd wedi gostwng 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.

Ethnigrwydd

Mae'r arolwg yn gofyn i ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Mae’r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.

65.1% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, i lawr 1.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl wyn oedd 73.4%, i lawr 1.1 pwynt canran dros y flwyddyn.

7.1% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16 oed ac yn hŷn yng Nghymru, i lawr 2.0 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl wyn oedd 2.6%, i lawr 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Perthnasedd

Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r LFS a’r APS. Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.

Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r Farchnad Lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r SYG yn cyhoeddi Trosolwg o’r Farchnad Lafur bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (SYG).

Mae’r SYG wedi dweud ei bod yn fwyfwy heriol cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr LFS, a bod ffigurau pennawd a thueddiadau ar gyfer cyflogaeth yn dechrau amrywio o ffynonellau data eraill mewn perthynas â’r farchnad lafar. Argymhellir y rhoddir rhagor o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS. Yn ogystal â blog y SYG ar y pwnc hwn, gweler hefyd ddiweddariad diwethaf y Prif Ystadegydd ar ddeall a rheoli effaith yr heriau hyn ar gyfer data am y farchnad lafar yng Nghymru.

Cyhoeddodd SYG amcangyfrifon wedi eu hail-bwysoli LFS ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr 2024 ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth 2019, a arweiniodd at newid sylweddol yn y data. Nid yw cymariaethau â chyfnodau cyn mis Ionawr i fis Mawrth 2019 yn gwbl ddilys oherwydd yr anghysondeb hwn yn y gyfres amser. Mae manylion effaith lawn hyn yn yr erthygl  'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol LFS yng Nghymru – Rhagfyr 2024’ sydd ar gael ochr yn ochr â Trosolwg o'r Farchnad Lafur: Rhagfyr 2024. Yn wahanol i’r LFS, nid yw’r APS eto wedi ei ail-bwysoli i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Bydd amcangyfrifon APS yn parhau i gael eu cyhoeddi, ond byddant yn seiliedig ar fethodoleg pwysoli blaenorol LFS.

Mae’r datganiad hwn yn dod ag ystadegau allweddol diweddaraf yr APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.

Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn cymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.

Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r economi a’r farchnad lafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru: Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol a Nomis.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig y farchnad llafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu’ch adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r APS yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').

Cywirdeb

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.

Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r LFS a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Er y trafferthion a amlygir uchod o ran amcangyfrifon diweddar y farchnad lafur yng Nghymru gan yr LFS, nid yw meintiau sampl yr LFS wedi bod yn ddigonol ers cryn amser, i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl fwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.

Nid yw’r APS eto wedi ei ail-bwysoli fel yr ail-bwysolwyd yr LFS ym mis  Rhagfyr 2024 i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Gwnaethpwyd y gwaith ail-bwysoli hwn yn dilyn gostyngiad mewn ansawdd data, bydd amcangyfrifon APS yn dal i gael eu cyhoeddi yn seiliedig ar fethodoleg pwysoli blaenorol LFS.

Geirfa

Cyflogaeth

Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflogedig neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.

Cyfrifir y brif gyfradd gyflogaeth drwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.

Diweithdra

Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU drwy’r LFS gan ddilyn y diffiniad y cytunir arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond eu bod yn aros am gael ei dechrau yn y pythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu’r lefel ddiweithdra ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.

Anweithgarwch economaidd

Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.

Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16 i 64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn disodli’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol: 

  • (21) canran y bobl mewn cyflogaeth

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 5/2025