Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): Hydref 2022 i Fedi 2023
Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Hydref 2022 i Fedi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.
Mae prif ddangosyddion y farchnad lafur yn seiliedig ar yr LFS yn parhau i fod y prif ffynhonnell o wybodaeth am y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 74.1% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym Medi 2023, i fyny 0.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.7%, i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth dros y flwyddyn yn Wrecsam (i fyny 10.3 pwynt canran i 80.5%), ar Ynys Môn (i fyny 5.9 pwynt canran i 78.7%) ac yng Nghasnewydd (i fyny 4.6 pwynt canran i 74.3%).
Ffigur 1: Y gyfradd gyflogaeth, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2011, yng Nghymru a’r DU. Dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig y coronafeirws) mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yn y ddwy ardal. Mae cyfradd y DU wedi parhau’n uwch na chyfradd Cymru ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2007, er bod y ddwy wedi dangos tueddiadau tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Rhanbarthau Economaidd
76.6% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i fyny 1.8 pwynt canran dros y flwyddyn; 73.5% oedd y gyfradd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i fyny 0.4 pwynt canran, a’r gyfradd yn y De-ddwyrain oedd 73.4%, i fyny 0.4 pwynt canran. Y Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Ffigur 2: Y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart linell yn dangos bod Cymru, a phob un o ranbarthau economaidd Cymru wedi gweld eu cyfradd gyflogaeth yn cynyddu’n gyffredinol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Ers 2011, y duedd gyffredinol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru oedd cynnydd cyson hyd bandemig y coronafeirws (COVID-19). Er gwaethaf gostyngiadau yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau cyflogaeth yn y Gogledd wedi parhau’n uwch yn gyffredinol na’r rhanbarthau economaidd eraill a Chymru yn gyffredinol. Ers Medi 2020, mae cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu i Gymru a’r tri rhanbarth economaidd, gyda Gogledd Cymru â’r cynnydd mwyaf.
Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU wedi cau’n raddol i 1.6 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, gostwng 0.4 pwynt canran o gymharu â’r bwlch y flwyddyn flaenorol.
Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.
Diweithdra
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 3.8%, i fyny 0.6 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 3.7%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Nodwch fod data ar gyfer 13 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol hyn yw: Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Yn yr awdurdodau lleol oedd â sampl o ddigon o faint, gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yn y cyfraddau diweithdra dros y flwyddyn yn Caerffili (i lawr 0.9 pwynt canran i 3.5%), ac Abertawe (i lawr 0.3 pwynt canran i 4.9%). Caerdydd oedd yr awdurdod lleol (o’r rhai â sampl digon mawr) gyda’r cynnydd mwyaf yn ystod y flwyddyn, gyda’r gyfradd ddiweithdra yn codi 2.0 pwynt canran i 4.5%.
Ffigur 3: Y gyfradd ddiweithdra, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 3: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 oed ac yn hŷn wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU. Cynyddodd y gyfradd i’r pwynt uchaf ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2010 i fis Medi 2013, yng Nghymru a’r DU, ond ei bod ers hynny wedi gostwng ymhell islaw’r gyfradd yn 2007. Mae’r gyfradd ddiweithdra wedi bod yn fwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyfradd Cymru yn codi ychydig yn uwch na chyfradd y DU yn y flwyddyn a ddaw i ebyn Medi 2023.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Rhanbarthau Economaidd
4.3% oedd y gyfradd ddiweithdra yn Ne-ddwyrain Cymru, i fyny 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru, y gyfradd oedd 4.1%, sydd heb newid dros y flwyddyn ac yng Ngogledd Cymru y gyfradd oedd 2.4%, i lawr 0.7 pwynt canran. (cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu.)
Ffigur 4: Y gyfradd ddiweithdra, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 4: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Cymru, y De-ddwyrain, y Gogledd a’r Canolbarth a’r De-orllewin i gyd wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2013, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn nhri rhanbarth economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol, ac roedd y gostyngiad yn fwy serth nes pandemig y coronafeirws (COVID-19). Yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau diweithdra rhanbarthau economaidd Cymru wedi amrywio. Yn y De-ddwyrain mae’r gyfradd uchaf, ac yn y Gogledd mae’r gyfradd isaf yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Yn y flwyddyn a ddaw i ben Medi 2023, y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.0%, i lawr 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd yn y DU oedd 17.5%, i lawr 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf yng Nghymru oedd Wrecsam (14.9%), Sir y Fflint (15.1%) a Chaerdydd (15.6%).
Ffigur 5: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 5: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi bod yn gostwng yn gyson ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 yng Nghymru a'r DU. Serch hynny, dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig y coronafeirws), mae’r gyfradd wedi cynyddu ychydig ar gyfer y ddwy ardal. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, ac mae maint y bwlch yn amrywio dros amser.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Rhanbarthau Economaidd
20.8% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y Canolbarth a’r De-orllewin, i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 20.2%, i lawr 0.2 pwynt canran; ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 18.6%, i lawr 0.8 pwynt canran. (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Ffigur 6: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr), rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 6: Siart linell yn dangos bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru (ac eithrio myfyrwyr) wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, a bod cyfraddau’r tri rhanbarth economaidd yn amrywio o amgylch cyfradd Cymru.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Y Gogledd oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyffredinol o’r tri rhanbarth economaidd tan y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020, pan gododd y gyfradd yn uwch na chyfradd y rhanbarthau eraill, ond mae bellach wedi gostwng yn is na nhw. Y Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn cyfnodau diweddar. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023. Y Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.
Rhesymau am Anweithgarwch Economaidd
Mae’r adran hon yn dadansoddi’r rhesymau a roddwyd gan bobl am eu hanweithgarwch economaidd. Mae’r cyfrannau a’r cyfraddau yn yr adran hon yn cynnwys myfyrwyr er mwyn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o’r rhesymau hyn.
Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, wedi Digalonni, wedi Ymddeol ac Eraill.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a bu gostyngiad o 2.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 37.1% o’r holl ddynion economaidd anweithgar. Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 28.0% o’r holl ddynion economaidd anweithgar, i fyny 0.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.
Ffigur 7: Anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion, rhwng 16–64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 7: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith dynion oedd salwch hirdymor, ac yna bod yn fyfyriwr. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 yn Ffigwr 7 oherwydd bod y niferoedd mor fach.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020 i 2021, cwympodd y gyfran hon yn sydyn, efallai oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’. Ers 2020 i 2021, mae cyfran y menywod economaidd anweithgar sy’n gofalu am deulu/cartref wedi dechrau cynyddu eto.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, y rheswm mwyaf cyffredin am eu hanweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 30.5% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i fyny 0.9 pwynt canran yn y flwyddyn. Mae cyfran y menywod sy’n economaidd anweithgar oherwydd salwch tymor hir nawr ar ei huchaf ers dechrau cadw cofnodion APS. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi cynyddu 2.7 pwynt canran, gan gyfrif am 26.1% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.
Ffigur 8: Anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith menywod, rhwng 16–64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2018 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 8: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith menywod oedd salwch hirdymor, ac yna gofalu am y teulu/cartref. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer pob mis Medi ar gyfer menywod yn Ffigwr 8 oherwydd bod y niferoedd mor fach.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 oedd 57.4%, i fyny 3.0 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 53.8%, i fyny 0.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
54.7% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion ifanc yng Nghymru, i fyny 0.8 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Bu cynnydd o 5.3 pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith menywod ifanc yng Nghymru i 60.4%.
Ffigur 9: Y gyfradd gyflogaeth pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 9: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond ei bod wedi cynyddu’n gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y bu’r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod hyd at Fedi 2021, pan wnaeth cyfraddau cyflogaeth ymhlith menywod ifanc gynyddu o gymharu â dynion..
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Diweithdra
10.1% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, i fyny 1.7 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 10.8%, i fyny 0.4 pwynt canran.
Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 12.7% a 7.5% yn y drefn honno. Cynyddodd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc 1.5 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chododd y gyfradd ymhlith menywod ifanc 2.2 pwynt canran dros yr un cyfnod.
Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng dynion a menywod oedd 5.2 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, gyda’r gyfradd ar gyfer dynion yn uwch nag ar gyfer menywod. Mae’r bwlch hwn wedi ehangu’n sylweddol mewn blynyddoedd diweddar, i lawr o 5.9 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol. Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc rhwng dynion a menywod yn y DU oedd 3.6 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, o gymharu â 2.8 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021.
Ffigur 10: Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 10: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol ei bod wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf, gan gofnodi lefelau isel yn y cyfnod diweddar.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 oedd 21.7%, i fyny 3.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 18.9%, i fyny 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023 oedd 21.6%, i fyny 5.3 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 21.9%, i fyny 0.7 pwynt canran. Oherwydd anwadalrwydd y gyfres hon, dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach lle bo modd.
Ffigur 11: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl rhyw yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 11: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer menywod 16 i 24 oed yng Nghymru wedi gostwng yn gyffredinol drwy gydol y gyfres. Mae'r gyfradd ar gyfer dynion wedi cynyddu'n gyffredinol. Dros y cyfnod diweddar, gwelwyd mwy o anwadalrwydd yn y cyfraddau ar gyfer dynion a menywod.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Diweithdra hirdymor
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, mae’r APS yn amcangyfrif bod 13,200 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith yn hirdymor (12 mis neu fwy), i lawr 9.5% dros y flwyddyn. Serch hynny, sylwch fod newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra hirdymor yng Nghymru yn anwadal iawn, a dylid ystyried tueddiadau hirdymor pan fo’n bosibl.
Dyna 22.7% o’r holl bobl a oedd yn ddi-waith yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, i lawr 7.5 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 21.9%, i lawr 4.5 pwynt canran dros y flwyddyn.
Roedd 21.2% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 12.8 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 23.3% yn y DU.
Roedd 24.9% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 20.0% yn y DU.
Ffigur 12: Cyfraddau diweithdra hirdymor ILO (y ganran o’r holl bobl ddi-waith), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2007 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigwr 12: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru a'r DU yn gostwng yn gyffredinol rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2013 a Medi 2020. Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2020, mae’r anwadalrwydd wedi cynyddu yng Nghymru a’r DU. Roedd cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru yn uwch yn gyffredinol nag yn y DU. Dylid ystyried newidiadau yn y gyfradd ddiweithdra ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach, lle bo modd, oherwydd anwadalrwydd y gyfres yn ddiweddar.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Statws anabledd
51.9% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023. Mae hyn i fyny 3.2 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 82.4% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i fyny 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
6.7% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i fyny 0.3 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 3.1% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i fyny 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ethnigrwydd
66.8% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, i lawr 0.4 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl wyn oedd 74.5%, i fyny 0.7 pwynt canran dros y flwyddyn.
9.1% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16 oed ac yn hŷn yng Nghymru, i fyny 0.5 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl wyn oedd 3.5%, i fyny 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Perthnasedd
Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r Farchnad Lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi Trosolwg o’r Farchnad Lafur bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud ei bod yn fwyfwy heriol cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr LFS, a bod ffigurau pennawd a thueddiadau ar gyfer cyflogaeth yn dechrau amrywio o ffynonellau data eraill mewn perthynas â’r farchnad lafar. Argymhellir y rhoddir rhagor o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS. Yn ogystal â blog y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y pwnc hwn, gweler hefyd ddiweddariad diwethaf y Prif Ystadegydd ar ddeall a rheoli effaith yr heriau hyn ar gyfer data am y farchnad lafar yng Nghymru.
Oherwydd bod mwy o ansicrwydd ynghylch amcangyfrifon Arolwg y Llafurlu, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi cyfres amgen o amcangyfrifon cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd fel ystadegau arbrofol ar gyfer diweddariadau misol o’r farchnad lafur. Cyfrifwyd y ffigurau arbrofol gan ddefnyddio cyfraddau twf PAYE RTI a nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau am y cyfnodau o fis Mai i fis Gorffennaf 2023 ymlaen. Mae hyn er mwyn rhoi darlun mwy cyfannol o gyflwr y farchnad lafur tra bod amcangyfrifon yr Arolwg o’r Llafurlu yn ansicr. Mae rhagor o wybodaeth am yr ystadegau arbrofol ar gael yn yr adroddiad methodoleg a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amlinellu'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r heriau presennol gyda’r Arolwg o’r Llafurlu yn eu Datganiad ar yr Arolwg o'r Llafurlu, gyda'r nod o ailgyflwyno amcangyfrifon yr Arolwg o’r Llafurlu ym mis Chwefror 2024.
Mae’r datganiad hwn yn dod ag ystadegau allweddol diweddaraf yr APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.
Ar 18 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yna broblem gyda pheth data galwedigaethol. Ar 26 Medi 2022, rhoddwyd gwybod i ddefnyddwyr ynghylch effaith y camgymeriad codio (SYG). Mae ymarfer ailgodio wedi’i gynnal er mwyn cywiro’r camgymeriad, ac wedi diwygio amcangyfrifon perthnasol yr Arolwg o’r Llafurlu yn natganiad Gorffennaf 2023 ynghylch y farchnad lafur. Mae erthygl a gyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2023 yn rhoi rhagor o fanylion am y fethodoleg newydd a’i heffaith. Caiff amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth eu diweddaru a’u cyhoeddi ar Nomis ochr yn ochr â datganiad Awst 2023 ynghylch y farchnad lafur.
Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn cymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.
Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r economi a’r farchnad lafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig y farchnad llafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu’ch adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl fwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.
Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd ONS set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021.
Geirfa
Cyflogaeth
Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflogedig neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.
Cyfrifir y brif gyfradd gyflogaeth drwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16 i 64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Diweithdra
Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU drwy’r LFS gan ddilyn y diffiniad y cytunir arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond eu bod yn aros am gael ei dechrau yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu’r lefel ddiweithdra ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.
Anweithgarwch Economaidd
Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16 i 64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan fodlonir y safonau.
Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
- Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
- Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
- Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn disodli’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (21) canran y bobl mewn cyflogaeth
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 5/2024