Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): Hydref 2020 i Fedi 2021
Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Hydref 2020 i Fedi 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar y cyfnod llawn a gwmpesir yn y datganiad hwn. Yn y Trosolwg o'r farchnad lafur, rydym wedi cynnwys dadansoddiad ar ffynonellau data sydd yn rhoi arwyddon mwy amserol ar sut mae’r pandemig dal yn effeithio’r farchnad llafur yng Nghymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru dadansoddiad mwy manwl nodweddion gwarchodedig yn farchnad llafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu adborth ar gyhoeddiad yma a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol, gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 72.8% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021, i lawr 0.4 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol wrth i'r pandemig coronafeirws effeithio ar y farchnad lafur ledled Cymru a'r DU. Cyfradd y DU oedd 74.5%, i lawr 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ers 2001, mae'r gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu 5.6 pwynt canran yng Nghymru a 2.3 pwynt canran yn y DU.
Y gostyngiadau mwyaf yn y cyfraddau gyflogaeth dros y flwyddyn oedd ym Mlaenau Gwent (gostyngiad o 6.2 pwynt canran i 67.0%), Sir Fynwy (gostyngiad o 4.0 pwynt canran i 76.8%) a Gwynedd (gostyngiad o 2.7 pwynt canran i 70.2%).
Diweithdra
Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 4.2%, cynnydd o 0.6 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 4.7%, i fyny 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ers 2001, mae'r gyfradd ddiweithdra wedi gostwng 1.2 pwynt canran yng Nghymru a 0.3 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra dros y flwyddyn yng Nghasnewydd (cynnydd o 3.2 pwynt canran i 5.5%), Tor-faen (cynnydd o 3.2 pwynt canran i 6.5%) a Gwynedd (cynnydd o 2.7 pwynt canran i 5.6%).
Nodwch fod data ar gyfer Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Gwynedd wedi'u hatal oherwydd maint sampl annigonol.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.2%, i fyny 0.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Y gyfradd yn y DU oedd 17.4%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ers 2001, gostyngodd y gyfradd anweithgarwch economaidd 6.2 pwynt canran yng Nghymru a 4.0 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf ym Mro Morgannwg (16.1%), Powys (16.6%) a Chaerdydd (17.0%).
Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)
Cyflogaeth
Y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 49.6%, i lawr 2.1 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 50.5%, i lawr 2.5 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion ifanc wedi gostwng 2.4 pwynt canran yng Nghymru dros y flwyddyn i 49.4%.
Teimlodd menywod ifanc llai o effaith y pandemig na dynion ifanc, gyda'r gyfradd gyflogaeth yn gostwng 1.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol i 49.9%.
Diweithdra
Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru 12.6%, yn is na chyfradd y DU o 13.3%.
Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 14.3% a 10.7% yn y drefn honno.
Y gwahaniaeth yng nghyfradd ddiweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng y rhywiau oedd 3.5 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2021, gyda chyfradd uwch ar gyfer dynion na menywod. Roedd bwlch y DU yn 2.0 pwynt canran, i lawr o 3.1 pwynt canran yn 2001.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 24.5%, i fyny 2.5 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 17.8%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc 0.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, lle cynyddodd y gyfradd ar gyfer menywod 4.6 pwynt canran.
Diweithdra hirdymor
Roedd 34.2% o’r bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy. Mae hyn yn cymharu ag 26.9% yn y DU.
Cynyddodd cyfran y bobl ddi-waith yng Nghymru sydd wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy 9.5 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Roedd 39.2% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 11.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 31.2% yn y DU.
Roedd 27.9% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 6.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 21.8% yn y DU.
Statws anabl
Cafodd y pandemig fwy o effaith ar bobl anabl yng Nghymru yn y farchnad lafur na phobl nad ydynt yn anabl, gyda'r gyfradd gyflogaeth yn gostwng 1.0 pwynt canran o’i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, i gymharu â chynnydd bychan ar gyfer pobl sydd ddim yn anabl.
Yn yr un modd, cynyddodd y gyfradd ddiweithdra fwy ar gyfer pobl anabl i 8.7%. Mae hyn yn cymharu â chyfradd ddiweithdra o 3.4% ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru.
Ethnigrwydd
Cynyddodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru 6.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 68.3%. Roedd hyn yn cymharu â 73.0% ar gyfer pobl wyn, i lawr 0.8 pwynt canran dros y flwyddyn.
Cyfradd ddiweithdra Cymru ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig oedd 7.6%, i fyny 5.0 pwynt canran dros y flwyddyn. Roedd hyn yn cymharu â 4.0% ar gyfer pobl wyn yng Nghymru, i fyny 0.4 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Perthnasedd
Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS), Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yr LFS yw prif ffynhonnell prif ddangosyddion y farchnad lafur o hyd ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddara’r LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r farchnad lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r ONS yn cyhoeddi trosolwg o'r farchnad lafur (Swyddfa Ystadegau Gwladol) bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Mae’r datganiad hwn yn dod â phrif ystadegau’r APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.
Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn ei chymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.
Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r farchnad economaidd a llafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae ‘amrywioldeb y samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu amrywioldeb y sampl yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl mwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.
2020 Ailbwysoli
Mae ymatebion yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn cael eu pwysoli yn ôl amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Roedd amcanestyniadau 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, cafodd yr ymatebion ar gyfer yr APS eu hail-bwysoli ar 9 Medi 2021. Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.
Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
- Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
- Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
- Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (21) canran y bobl mewn cyflogaeth
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 28/2022