Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): Ebrill 2023 i Fawrth 2024
Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol.
Prif ddangosyddion y farchnad lafur yn seiliedig ar yr LFS yw’r ffynhonnell swyddogol o wybodaeth am y farchnad lafur ar lefel Cymru o hyd. Fodd bynnag, oherwydd yr heriau gyda chynnal y gyfradd ymateb ar gyfer yr LFS, rydym yn parhau i argymell y dylid ystyried y tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS, sydd hefyd yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 73.5% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, i fyny 0.5 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 75.4%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y cyfraddau cyflogaeth dros y flwyddyn yn Wrecsam (i fyny 8.7 pwynt canran i 81.7%), yng Nghaerdydd (i fyny 5.7 pwynt canran i 76.5%) ac yng Nghaerffili (i fyny 2.9 pwynt canran i 76.1%).
Ffigur 1: Y gyfradd gyflogaeth, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2023
Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y rhai rhwng 16 a 64 oed wedi cynyddu’n gyffredinol ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2012, yng Nghymru a’r DU. Ers dechrau pandemig y coronafeirws yn gynnar y 2020 mae’r gyfradd wedi bod yn fwy anwadal yn y ddwy ardal. Mae cyfradd y DU wedi parhau’n uwch na chyfradd Cymru ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008, er bod y ddwy wedi dangos tueddiadau tebyg yn ystod y cyfnod hwn.
Ffynhonnell: APS, SYG
Rhanbarthau economaidd
76.1% oedd y gyfradd gyflogaeth yn y Gogledd, i fyny 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn; 73.1% oedd y gyfradd yn y De-ddwyrain, i fyny 1.2 pwynt canran, a’r gyfradd yn y Canolbarth a’r De-orllewin oedd 72.3%, gostyngiad o 1.1 pwynt canran. Y Gogledd oedd â’r gyfradd gyflogaeth uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Ffigur 2: Y gyfradd gyflogaeth, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart linell yn dangos bod Cymru, a phob un o ranbarthau economaidd Cymru wedi gweld eu cyfradd gyflogaeth yn cynyddu’n gyffredinol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS
Ers 2011, y duedd gyffredinol yn y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru oedd cynnydd cyson hyd bandemig y coronafeirws (COVID-19). Er gwaethaf gostyngiadau yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau cyflogaeth yn y Gogledd wedi parhau’n uwch yn gyffredinol na’r rhanbarthau economaidd eraill a Chymru yn gyffredinol. Ers mis Mawrth 2021, mae cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu i Gymru a’r tri rhanbarth economaidd, gyda Gogledd Cymru â’r cynnydd mwyaf.
Canran y bobl mewn cyflogaeth yw un o'r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a sicrhau bod mwy o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cyfranogi yn y farchnad lafur. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n raddol ers 2011 ac mae'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a’r DU wedi cau’n raddol i 1.9 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, gostwng 0.5 pwynt canran o gymharu â’r bwlch y flwyddyn flaenorol.
Darperir rhagor o wybodaeth am y dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir cenedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol tuag at ddiwedd y datganiad hwn.
Diweithdra
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 3.5%, i fyny 0.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 3.8%, i fyny 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
Nodwch fod data ar gyfer 15 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi'u hatal am fod maint y sampl wedi bod yn rhy fach i ddarparu data o ansawdd ar gyfer y gyfradd ddiweithdra. Yr awdurdodau lleol hyn yw: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Yn yr awdurdodau lleol oedd â sampl o ddigon o faint, gwelwyd yr unig ostyngiad yn y cyfraddau diweithdra dros y flwyddyn yn Abertawe (i lawr 0.6 pwynt canran i 4.3%).Ynys Môn oedd yr awdurdod lleol (o’r rhai â sampl digon mawr) gyda’r cynnydd mwyaf yn ystod y flwyddyn, gyda’r gyfradd ddiweithdra yn codi 1.5 pwynt canran i 5.1%.
Ffigur 3: Y gyfradd ddiweithdra, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 3: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 oed ac yn hŷn wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU. Cynyddodd y gyfradd i’r pwynt uchaf ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2010 i fis Mawrth 2013, yng Nghymru a’r DU, ond ei bod ers hynny wedi gostwng ymhell islaw’r gyfradd yn 2008. Mae’r gyfradd ddiweithdra wedi bod yn fwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chyfradd Cymru yn aros ychydig yn uwch na chyfradd y DU yn y flwyddyn a ddaw i ben erbyn Mawrth 2024.
Ffynhonnell: APS, SYG
Rhanbarthau economaidd
3.8% oedd y gyfradd ddiweithdra yn Ne-ddwyrain Cymru, i fyny 0.6 pwynt canran dros y flwyddyn; yn y Canolbarth a De-orllewin Cymru, y gyfradd oedd 3.5.%, i lawr 0.4 pwynt canran ac yng Ngogledd Cymru y gyfradd oedd 2.8.%, heb newid dros y flwyddyn (cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu.)
Ffigur 4: Y gyfradd ddiweithdra, rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 4: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra Cymru, y De-ddwyrain, y Gogledd a’r Canolbarth a’r De-orllewin i gyd wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS
Ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2014, mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ac yn nhri rhanbarth economaidd Cymru wedi gostwng yn gyffredinol, ac roedd y gostyngiad yn fwy serth nes pandemig y coronafeirws (COVID-19). Yn dilyn y pandemig, mae cyfraddau diweithdra rhanbarthau economaidd Cymru wedi amrywio ychydig. Yn y De-ddwyrain mae’r gyfradd uchaf, ac yn y Gogledd mae’r gyfradd isaf yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Yn y flwyddyn a ddaw i ben ym mis Mawrth 2024, y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.3%, i lawr 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd yn y DU oedd 17.7%, i lawr 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y rheini oedd â’r cyfraddau anweithgarwch economaidd wedi’u hamcangyfrif isaf yng Nghymru oedd Wrecsam (13.3%), Caerdydd (15.2%) a Cheredigion (16.4%).
Ffigur 5: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 5: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) wedi bod yn gostwng ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 yng Nghymru a'r DU. Serch hynny, dros y tair blynedd diwethaf (ers dechrau pandemig y coronafeirws), mae’r gyfradd wedi cynyddu ychydig ar gyfer y ddwy ardal. Mae cyfradd Cymru bob amser wedi bod yn uwch na chyfradd y DU, ac mae maint y bwlch yn amrywio dros amser.
Ffynhonnell: APS, SYG
Rhanbarthau economaidd
21.2% oedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn y Canolbarth a’r De-orllewin,nid oedd wedi newid dros y flwyddyn; yn y De-ddwyrain, y gyfradd oedd 20.6%, i lawr 1.2 pwynt canran; ac yn y Gogledd, y gyfradd oedd 18.7%, i lawr 1.2 pwynt canran. (Cyfrifwyd y gwahaniaethau gan ddefnyddio ffigurau wedi’u talgrynnu).
Ffigur 6: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr), rhanbarthau economaidd, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 6: Siart linell yn dangos bod cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru (ac eithrio myfyrwyr) wedi gostwng yn gyffredinol dros y degawd diwethaf, a bod cyfraddau’r tri rhanbarth economaidd yn amrywio o amgylch cyfradd Cymru.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r APS
Y Gogledd oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd isaf yn gyffredinol o’r tri rhanbarth economaidd tan y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, pan gododd y gyfradd yn uwch na chyfradd y rhanbarthau eraill, ond mae bellach wedi gostwng yn is. Y Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd uchaf yn hanesyddol, ond cwympodd yn achlysurol yn is na chyfraddau rhanbarthau eraill mewn cyfnodau diweddar. Mae’r data diweddaraf yn dangos mai’r Canolbarth a’r De-orllewin oedd â’r gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf o’r tri rhanbarth economaidd yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Y Gogledd oedd â’r gyfradd isaf.
Rhesymau am anweithgarwch economaidd
Y categorïau ar gyfer y mesur hwn yw: Myfyriwr, Gofalu am deulu, Salwch tymor hir, Salwch dros dro, wedi Digalonni, wedi Ymddeol ac Eraill.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru oedd salwch tymor hir, a bu gostyngiad o 3.8 pwynt canran dros y flwyddyn i 36.3% o’r holl ddynion economaidd anweithgar. Nesaf oedd myfyrwyr, yn cyfrif am 27.7% o’r holl ddynion economaidd anweithgar, i fyny 0.7 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol.
Ffigur 7: Anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion, rhwng 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 7: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith dynion yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith dynion oedd salwch hirdymor, ac yna bod yn fyfyriwr. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 oherwydd bod y niferoedd mor fach.
Ffynhonnell: APS, SYG
Yn hanesyddol, y rheswm mwyaf cyffredin am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru yw gofalu am deulu/cartref, er bod y duedd yn gyffredinol wedi bod yn gostwng dros amser. Yn 2020-21, cwympodd y gyfran hon yn sydyn, efallai oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y gellir gweld tuedd fel arall ymhlith y rheini sy’n rhoi rhesymau ‘eraill’. Ers 2020-21, mae cyfran y menywod economaidd anweithgar sy’n gofalu am deulu/cartref wedi dechrau cynyddu eto.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, y rheswm mwyaf cyffredin am eu hanweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru oedd salwch tymor hir, gan gynrychioli 32.3% o’r holl fenywod economaidd anweithgar, i fyny 2.1 pwynt canran yn y flwyddyn. Mae cyfran y menywod sy’n economaidd anweithgar oherwydd salwch tymor hir nawr ar ei huchaf ers dechrau cadw cofnodion APS. Dros yr un cyfnod, mae cyfran y rheini sy’n gofalu am deulu/cartref wedi gostwng 0.7 pwynt canran, gan gyfrif am 24.8% o’r holl fenywod economaidd anweithgar.
Ffigur 8: Anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yn ôl rheswm a’r gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith menywod, rhwng 16 i 64 oed, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 8: Siart far bentyrrog yn dangos y rhesymau am anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru dros y 6 mlynedd diwethaf. Y rheswm mwyaf cyffredin dros anweithgarwch dros y cyfnod diweddaraf ymhlith menywod oedd salwch hirdymor, ac yna gofalu am y teulu/cartref. Mae’r categori ‘Wedi digalonni’ wedi’i atal ar gyfer oiv ctfbid a ddangosir ar gyfer menywod yn Ffigwr 8 oherwydd bod y niferoedd mor fach.
Ffynhonnell: APS, SYG
Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 oedd 58.1%, i fyny 3.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 53.0%, gostyngiad o 0.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
57.1% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith dynion ifanc yng Nghymru, i fyny 3.4 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Bu cynnydd o 3.1 pwynt canran yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith menywod ifanc yng Nghymru i 59.1%.
Ffigur 9: Y gyfradd gyflogaeth pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 9: Siart linell yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond ei bod wedi cynyddu’n gyffredinol dros y 10 mlynedd diwethaf. Anaml y bu’r gyfradd yn wahanol rhwng dynion a menywod hyd at bandemig COVID-19.
Ffynhonnell: APS, SYG
Diweithdra
7.4% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, gostyngiad o 0.9 pwynt canran o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 11.3%, i fyny 0.9 pwynt canran.
Yng Nghymru, roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 7.8% a 7.0% yn y drefn honno. Gostyngodd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc 2.6 pwynt canran o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a chododd y gyfradd ymhlith menywod ifanc 1.0 pwynt canran dros yr un cyfnod.
Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng dynion a menywod oedd 0.8 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, gyda’r gyfradd ar gyfer dynion yn uwch nag ar gyfer menywod. Mae’r bwlch hwn wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar, i lawr o 4.4 pwynt canran yn y flwyddyn flaenorol. Y gwahaniaeth yng nghyfraddau diweithdra pobl ifanc rhwng dynion a menywod yn y DU oedd 3.1 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, o gymharu â 3.2 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023.
Ffigur 10: Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yn ôl rhyw, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 10: Siart linell yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn anwadal i'r ddau ryw, ond yn gyffredinol ei bod wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf, gan gofnodi lefelau isel yn y cyfnod diweddar.
Ffynhonnell: APS, SYG
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 oedd 19.0%, gostyngiad o 3.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 19.3%, gostyngiad o 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024 oedd 20.0%, gostyngiad o 1.1 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd ymhlith menywod oedd 18.0%, gostngiad o 7.2 pwynt canran. Oherwydd anwadalrwydd y gyfres hon, dylid ystyried newidiadau tymor byr ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach lle bo modd.
Ffigur 11: Y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn ôl rhyw yng Nghymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 11: Siart linell yn dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer menywod 16 i 24 oed yng Nghymru wedi gostwng yn gyffredinol drwy gydol y gyfres. Mae'r gyfradd ar gyfer dynion wedi cynyddu'n gyffredinol. Dros y cyfnod diweddar, gwelwyd mwy o anwadalrwydd yn y cyfraddau ar gyfer dynion a menywod.
Ffynhonnell: APS, SYG
Diweithdra hirdymor
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, mae’r APS yn amcangyfrif bod 11,200 o bobl yng Nghymru yn ddi-waith yn hirdymor (12 mis neu fwy), i lawr 8.6% dros y flwyddyn. Serch hynny, sylwch fod newidiadau o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra hirdymor yng Nghymru yn anwadal iawn, a dylid ystyried tueddiadau hirdymor pan fo’n bosibl.
Roedd diweithdra hirdymor yn cynrychioli 21.4% o’r holl bobl a oedd yn ddi-waith yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, i lawr 3.6 pwynt canran dros y flwyddyn. Y gyfradd gyfatebol yn y DU oedd 21.2%, i lawr 3.4 pwynt canran dros y flwyddyn.
Roedd 19.8% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 6.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 23.0% yn y DU.
Roedd 23.5% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 18.8% yn y DU.
Ffigur 12: Cyfraddau diweithdra hirdymor ILO (y ganran o’r holl bobl ddi-waith), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2008 i fis Mawrth 2024
Disgrifiad o Ffigwr 12: Siart linell yn dangos bod cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru a'r DU yn gostwng yn gyffredinol rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Ers hynny mae’r anwadalrwydd wedi cynyddu yng Nghymru a’r DU. Roedd cyfradd ddiweithdra hirdymor Cymru yn uwch yn gyffredinol nag yn y DU. Dylid ystyried newidiadau yn y gyfradd ddiweithdra ochr yn ochr â thueddiadau tymor hirach, lle bo modd, oherwydd anwadalrwydd y gyfres yn ddiweddar.
Ffynhonnell: APS, SYG
Statws anabledd
51.0% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl anabl yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Mae hyn i fyny 1.9 pwynt canran o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 81.9% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i lawr 0.3 pwynt canran dros y flwyddyn.
5.4% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl anabl yng Nghymru, i lawr 1.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Mae hyn cymharu â chyfradd o 3.1% ymhlith pobl nad ydynt yn anabl, i fyny 0.5 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ethnigrwydd
66.2% oedd y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024, i lawr 5.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl wyn oedd 74.0%, i fyny 0.9 pwynt canran dros y flwyddyn.
8.9% oedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 16 oed ac yn hŷn yng Nghymru, i fyny 2.2 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol. Y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl wyn oedd 3.2%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Perthnasedd
Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r LFS a’r APS. Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddaraf yr LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y Trosolwg o'r Farchnad Lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r SYG yn cyhoeddi Trosolwg o’r Farchnad Lafur (SYG) bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU (SYG).
Mae’r SYG wedi dweud ei bod yn fwyfwy heriol cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr LFS, a bod ffigurau pennawd a thueddiadau ar gyfer cyflogaeth yn dechrau amrywio o ffynonellau data eraill mewn perthynas â’r farchnad lafar. Argymhellir y rhoddir rhagor o ystyriaeth i’r tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill fel yr APS. Yn ogystal â blog y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y pwnc hwn, gweler hefyd ddiweddariad diwethaf y Prif Ystadegydd ar ddeall a rheoli effaith yr heriau hyn ar gyfer data am y farchnad lafar yng Nghymru.
Oherwydd bod mwy o ansicrwydd ynghylch amcangyfrifon LFS, mae'r SYG wedi cyhoeddi cyfres amgen o amcangyfrifon cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd fel ystadegau arbrofol ar gyfer diweddariadau misol o’r farchnad lafur am gyfnod byr rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Ionawr 2024. Cyfrifwyd y ffigurau arbrofol gan ddefnyddio cyfraddau twf PAYE RTI a nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau am y cyfnodau o fis Mai i fis Gorffennaf 2023 ymlaen. Mae hyn er mwyn rhoi darlun mwy cyfannol o gyflwr y farchnad lafur tra bod amcangyfrifon yr LFS yn ansicr. Mae rhagor o wybodaeth am yr ystadegau arbrofol ar gael yn yr adroddiad methodoleg a gyhoeddwyd gan y SYG.
Cyhoeddodd SYG amcangyfrifon wedi eu hail-bwysoli LFS ar gyfer Cymru ym mis Chwefror 2024 ar ôl oedi amcangyfrifon yn seiliedig ar yr LFS ym mis Medi 2023 yn Dilyn gostyngiad mewn ansawdd data. Mae’r data wedi ei ail-bwysoli rhwng Gorffennaf a Medi 2022. Mae manylion effaith lawn hyn yn yr erthygl 'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol LFS yng Nghymru’ sydd ar gael yn Trosolwg o’r Farchnad Lafur ym mis Chwefror 2024. Yn wahanol i’r LFS, nid yw’r APS eto wedi ei ail-bwysoli i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Bydd amcangyfrifon APS yn parhau i gael eu cyhoeddi, ond byddant yn seiliedig ar fethodoleg pwysoli blaenorol LFS.
Mae’r datganiad hwn yn dod ag ystadegau allweddol diweddaraf yr APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.
Ar 18 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd y SYG fod yna broblem gyda pheth data galwedigaethol. Ar 26 Medi 2022, rhoddwyd gwybod i ddefnyddwyr ynghylch effaith y camgymeriad codio (SYG). Mae ymarfer ailgodio wedi’i gynnal er mwyn cywiro’r camgymeriad, ac wedi diwygio amcangyfrifon perthnasol yr LFS yn natganiad Gorffennaf 2023 ynghylch y farchnad lafur. Mae erthygl a gyhoeddwyd ar 11 Gorffennaf 2023 yn rhoi rhagor o fanylion am y fethodoleg newydd a’i heffaith. Caiff amcangyfrifon yr APS eu diweddaru a’u cyhoeddi ar Nomis ochr yn ochr â datganiad Awst 2023 ynghylch y farchnad lafur.
Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn cymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn Rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.
Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r economi a’r farchnad lafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig y farchnad llafur yng Nghymru ar 16 Rhagfyr 2021. Rydym yn croesawu’ch adborth ar y cyhoeddiad hwn a blaenoriaethau ar gyfer dadansoddiadau’r dyfodol. Gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn anablu pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r APS yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae’r ‘amrywioldeb samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu’r amrywioldeb samplu yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r LFS a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Er y trafferthion a amlygir uchod o ran amcangyfrifon diweddar y farchnad lafur yng Nghymru gan yr LFS, nid yw meintiau sampl yr LFS wedi bod yn ddigonol ers cryn amser, i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl fwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.
Ar 13 Medi 2022, cyhoeddodd SYG set ddata APS wedi'i hailbwysoli ar gyfer mis Mawrth 2020 ymlaen. Roedd hyn yn sgil ailbwysoliad wedi'i gynllunio (gan ddefnyddio data Gwybodaeth Amser Real (RTI) Talu wrth Ennill (PAYE)) yn ogystal â chywiro gwall sy'n effeithio ar ffactorau gros ar gyfer rhai grwpiau oedran ar gyfer y cyfnodau blynyddol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, a rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mehefin 2021.
Nid yw’r APS eto wedi ei ail-bwysoli fel yr ail-bwysolwyd yr LFS ym mis Chwefror 2024 i gynnwys yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Gwnaethpwyd y gwaith ail-bwysoli hwn yn dilyn gostyngiad mewn ansawdd data, bydd amcangyfrifon APS yn dal i gael eu cyhoeddi yn seiliedig ar fethodoleg pwysoli blaenorol LFS.
Geirfa
Cyflogaeth
Pobl 16 i 64 oed a wnaeth o leiaf un awr o waith am dâl yn yr wythnos gyfeirio (boed fel gweithiwr cyflogedig neu weithiwr hunangyflogedig); y rheini oedd â swydd gyda thâl ond a oedd i ffwrdd am gyfnod dros dro; y rheini ar raglenni gweithwyr a hyfforddi a noddir gan y llywodraeth a’r rheini oedd yn gwneud gwaith heb dâl i’r teulu.
Cyfrifir y brif gyfradd gyflogaeth drwy rannu’r lefel gyflogaeth ymhlith y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Diweithdra
Mesurir nifer y bobl ddi-waith yn y DU drwy’r LFS gan ddilyn y diffiniad y cytunir arno’n rhyngwladol ac a argymhellir gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) – un o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig. Mae pobl ddi-waith yn bobl heb swydd, sydd wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; neu maent allan o waith, wedi cael swydd ond eu bod yn aros am gael ei dechrau yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu’r lefel ddiweithdra ymhlith y rheini sy’n 16 oed a throsodd â chyfanswm y bobl 16 oed a throsodd sy’n economaidd weithgar.
Anweithgarwch Economaidd
Pobl economaidd anweithgar yw’r rheini sydd heb swydd nad ydynt wedi bod yn chwilio am waith yn y pedair wythnos diwethaf, a/neu nad ydynt ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf.
Cyfrifir y brif gyfradd ddiweithdra drwy rannu lefel anweithgarwch y rheini sy’n 16-64 oed â phoblogaeth y grŵp oed hwnnw.
Statws ystadegau swyddogol
Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR)).
Mae'r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Maent wedi cael eu hadolygu'n annibynnol gan y OSR ac maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.
Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn disodli’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (21) canran y bobl mewn cyflogaeth
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol.
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 51/2024