Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth): Ebrill 2020 i Fawrth 2021
Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS) yn cyfuno samplau manylach o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS). Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Yng Nghymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn.
Yr LFS yw'r brif ffynhonnell o hyd ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur ar lefel Cymru. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Mae data’r cyfnod hwn yn cwmpasu blwyddyn lawn pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac mae cymariaethau blynyddol yn cymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, nad oedd y pandemig wedi effeithio fawr arno. Yn y trosolwg o'r farchnad lafur, rydym wedi cynnwys dadansoddiad o ffynonellau data sy'n rhoi gwybodaeth mwy amserol ar sut mae'r pandemig yn parhau i effeithio ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu dadansoddiad manylach o nodweddion gwarchodedig yn y farchnad lafur yng Nghymru. Bydd hyn yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach eleni. Hoffem glywed eich barn ar beth i'w gynnwys yn y datganiad hwn, cysylltwch â ystadegau.economi@llyw.cymru.
Ailbwysoli
Mae ymatebion yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS) yn cael eu pwysoli yn ôl amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Roedd amcanestyniadau 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, cafodd yr ymatebion ar gyfer yr APS eu hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 yn ôl y poblogaethau newydd sy'n deillio o’r cyfraddau twf yng Ngwybodaeth Amser Real (RTI) Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r ONS wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o grynodiadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Mae effaith yr ailbwyso yn fach ar gyfer bron yr holl ddata a gyflwynir yn y datganiad hwn (llai na 0.2 pwynt canran). Fodd bynnag, mae'r data ar gyfer y rhai rhwng 16 a 24 oed, yn enwedig dynion, wedi newid yn sylweddol ar gyfer rhai dangosyddion. Er enghraifft, diwygiwyd y gyfradd anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) ar gyfer dynion 16 i 24 oed i fyny 1.6 pwynt canran ar gyfer blwyddyn y cyfnod a ddaeth i ben ym mis Medi 2020.
Cyflogaeth
Y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 72.2% yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, i lawr 1.4 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol wrth i'r pandemig coronafeirws effeithio ar y farchnad lafur ledled Cymru a'r DU. Cyfradd y DU oedd 74.7%, i lawr 1.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ers 2001, mae'r gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu 5.1 pwynt canran yng Nghymru a 2.4 pwynt canran yn y DU.
Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y gradd gyflogaeth dros y flwyddyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr (gostyngiad o 5.9 pwynt canran i 70.2%), Gwynedd (gostyngiad o 5.7 pwynt canran i 69.8%) a Thor-faen (gostyngiad o 4.3 pwynt canran i 69.5%).
Diweithdra
Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed a throsodd yng Nghymru oedd 4.0%, cynnydd o 0.2 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 4.8%, i fyny 1.0 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ers 2001, mae'r gyfradd ddiweithdra wedi gostwng 1.5 pwynt canran yng Nghymru a 0.2 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra dros y flwyddyn ym Mro Morgannwg (cynnydd o 2.8 pwynt canran i 5.5%), Gwynedd (cynnydd o 2.3 pwynt canran i 5.1%) a Phowys (cynnydd o 2.0 pwynt canran i 4.9%).
Nodwch fod data ar gyfer Sir Ddinbych, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent wedi'u hatal oherwydd maint sampl annigonol.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl 16 i 64 oed yng Nghymru oedd 20.5%, i fyny 0.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Y gyfradd yn y DU oedd 17.4%, i fyny 0.1 pwynt canran dros y flwyddyn.
Ers 2001, gostyngodd y gyfradd anweithgarwch economaidd 5.8 pwynt canran yng Nghymru a 4.1 pwynt canran yn y DU.
Roedd y cyfraddau anweithgarwch economaidd amcangyfrifedig isaf ym Mro Morgannwg (15.0%), Caerdydd (15.1%) a Sir Fynwy (15.2%).
Ystadegau ieuenctid (16 i 24 oed)
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn awgrymu bod pandemig COVID-19 wedi cael mwy o effaith ar oedolion ifanc (16 i 24 oed), ac yn enwedig dynion ifanc, yn y farchnad lafur, gyda mwy o ostyngiad yn y lefelau cyflogaeth a mwy o gynnydd mewn anweithgarwch economaidd o'u cymharu â phob oedolyn.
Cyflogaeth
Y gyfradd cyflogaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 49.4%, i lawr 4.3 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 51.1%, i lawr 2.9 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r gyfradd cyflogaeth ymhlith dynion ifanc yn awgrymu bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol arnyn nhw, gyda'r gyfradd yn gostwng 7.6 pwynt canran yng Nghymru o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol i 47.5%.
Teimlodd menywod ifanc lai o effaith y pandemig na dynion, gyda'r gyfradd gyflogaeth yn gostwng 0.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol i 51.5%.
Diweithdra
Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru 10.8%, yn is na chyfradd y DU o 14.0%.
Roedd y gyfradd ddiweithdra ymhlith dynion ifanc yn uwch nag ymhlith menywod yng Nghymru, sef 11.3% a 10.3% yn y drefn honno.
Y gwahaniaeth yng nghyfradd ddiweithdra pobl ifanc yng Nghymru rhwng y rhywiau oedd 1.0 pwynt canran yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, o'i gymharu â 2.9 pwynt canran yn 2001. Roedd bwlch y DU yn 3.1 pwynt canran, heb newid o'i gymharu â 2001.
Anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr)
Y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru oedd 23.2%, i fyny 2.0 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Cyfradd y DU oedd 17.5%, i lawr 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn.
Cynyddodd y gyfradd anweithgarwch economaidd ymhlith dynion ifanc 8.7 pwynt canran o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, lle gostyngodd y gyfradd ar gyfer menywod 5.8 pwynt canran.
Diweithdra hirdymor
Roedd 27.3% o’r bobl ddi-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy. Mae hyn yn cymharu ag 20.9% yn y DU.
Cynyddodd cyfran y bobl ddi-waith yng Nghymru sydd wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy 3.9 pwynt canran o’i chymharu â 2001.
Roedd 35.3% o’r dynion di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i fyny 5.0 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 23.7% yn y DU.
Roedd 17.3% o’r menywod di-waith yng Nghymru wedi bod yn ddi-waith am 12 mis neu fwy, i lawr 4.0 pwynt canran dros y flwyddyn. Mae hyn yn cymharu â 17.3% yn y DU.
Statws anabl
Cafodd y pandemig fwy o effaith ar bobl anabl yng Nghymru yn y farchnad lafur na phobl nad ydynt yn anabl, gyda'r gyfradd gyflogaeth yn gostwng 2.7 pwynt canran o’i chymharu â'r flwyddyn flaenorol Y gostyngiad oedd 1.6 pwynt canran ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl.
Yn yr un modd, cynyddodd y gyfradd ddiweithdra a'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn fwy i bobl anabl i 8.7% a 48.8% yn y drefn honno. Roedd hyn yn cymharu â 3.2% a 17.8% ar gyfer cyfradd diweithdra a chyfradd anweithgarwch economaidd yn y drefn honno ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru.
Ethnigrwydd
Cynyddodd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn i 64.6%. Roedd hyn yn cymharu â 72.7% ar gyfer pobl wyn, i lawr 1.5 pwynt canran dros y flwyddyn.
Cyfradd anweithgarwch economaidd Cymru ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig rhwng 16 a 64 oed oedd 33.5%, i lawr 0.2 pwynt canran dros y flwyddyn. Roedd hyn yn cymharu â 24.2% ar gyfer pobl wyn rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru, i fyny 1.4 pwynt canran dros y flwyddyn.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Perthnasedd
Gellir mesur y farchnad lafur yng Nghymru gan ddefnyddio’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS), Mae'r APS yn cyfuno samplau manylach o'r LFS. Mae'n darparu data am y farchnad lafur dros bedwar chwarter treigl ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol. Yng Nghymru, mae'r APS yn cynnwys sampl o tua 18,000 o aelwydydd bob blwyddyn. Mae sampl fwy yr APS yn caniatáu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau o'r boblogaeth.
Yr LFS yw prif ffynhonnell prif ddangosyddion y farchnad lafur o hyd ar lefel Cymru, a chaiff y data eu diweddaru bob mis. Cyhoeddir data diweddara’r LFS gan Lywodraeth Cymru bob mis yn y trosolwg o'r farchnad lafur. Mae’r datganiad hwn yn cyfuno data’r LFS a data o ffynonellau eraill (gan gynnwys yr APS) i ddarparu sylwebaeth fanylach ar y farchnad lafur yng Nghymru. Yn ogystal, mae’r ONS yn cyhoeddi trosolwg o'r farchnad lafur bob mis sy’n rhoi trosolwg o’r farchnad lafur yn y DU gyfan a datganiad ychwanegol sy’n rhoi trosolwg o'r farchnad lafur yn rhanbarthau a gwledydd y DU.
Mae’r datganiad hwn yn dod â phrif ystadegau’r APS am farchnad lafur Cymru ynghyd gyda sylwebaeth fanylach am ranbarthau Cymru a nodweddion gwarchodedig pobl ym marchnad lafur Cymru.
Defnyddir yr ystadegau yn y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru i fonitro prif ystadegau marchnad lafur Cymru yn ogystal ag er mwyn ei chymharu â marchnad lafur y DU. Defnyddir y datganiad hwn hefyd i fonitro cynnydd yn unol â rhai o'r targedau yng Nghynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad yn ategu dangosfwrdd Economi Cymru mewn rhifau, sy'n rhoi darlun eang o economi a marchnad lafur Cymru.
Defnyddir y datganiad hwn gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, busnesau, y byd academaidd ac unigolion preifat fel ffordd o weld y tueddiadau allweddol ym mhrif ystadegau'r farchnad economaidd a llafur ar gyfer Cymru. Mae ein hymgynghoriad â defnyddwyr 2012 yn rhoi mwy o wybodaeth ynghylch sut y defnyddir ein hallbynnau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion defnyddwyr am ddadansoddiad o’r farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig. Mae data ar gael ar hyn o bryd ar StatsCymru a Nomis.
Cywirdeb
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar arolygon sampl, felly gall amrywio yn ôl y samplau hynny. Mae ‘amrywioldeb y samplu’ felly yn golygu bod y gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod amrywiol o bob tu’r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hon neu amrywioldeb y sampl yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun amrywioldeb uwch na data Cymru.
Ceir amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) a'r APS. Mae amcangyfrifon o'r LFS yn seiliedig ar chwarteri treigl ac yn cael eu diweddaru'n fisol. Mae meintiau sampl yr LFS yn rhy isel i gynhyrchu amcangyfrifon dibynadwy ar gyfer ardaloedd llai na lefel Cymru. Mae amcangyfrifon o'r APS yn seiliedig ar ddeuddeg mis treigl, wedi'u diweddaru bob chwarter. Mae'r APS yn defnyddio sampl mwy na'r LFS felly fe'i defnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd o fewn Cymru. Ar lefel Cymru, mae'r APS yn fesur ychydig yn fwy cadarn na'r LFS, ond mae'n llai amserol ac yn addasu’n arafach i newidiadau yn y farchnad lafur.
Mae ymatebion yr APS yn cael eu pwysoli yn ôl amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Roedd amcanestyniadau 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, cafodd yr ymatebion ar gyfer yr APS eu hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 yn ôl y poblogaethau newydd sy'n deillio o’r cyfraddau twf yng Ngwybodaeth Amser Real (RTI) Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Statws Ystadegau Gwladol
Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran dibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.
Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a’r drafodaeth gyhoeddus.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu a yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei ddyfarnu unwaith eto pan bodlonir y safonau.
Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cadw eu statws fel Ystadegau Gwladol ym mis Mawrth 2010 yn dilyn archwiliad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn ddiweddaraf o'r ystadegau yn unol â'r Cod Ymarfer ym mis Mawrth 2010.
Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:
- Newid i ddatganiad HTML ar gyfer mwy o ryngweithedd a mwy o hygyrchedd i ddefnyddwyr.
- Ehangu'r sylw a roddir i bynciau i gynnwys mwy o fanylion am brif ystadegau'r farchnad lafur, ac adrannau ychwanegol ar gyflogaeth ieuenctid a diweithdra hirdymor.
- Cyflwyno adran newydd ar y farchnad lafur yn ôl nodweddion gwarchodedig gwahanol.
- Siartiau ychwanegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld yn glir unrhyw dueddiadau ac anwadalwch yn y data.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (21) canran y bobl mewn cyflogaeth
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Mae’r datganiad hwn yn cynnwys dangosyddion cyd-destunol, sef y fasged o ddangosyddion a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llesiant yn y ddolen flaenorol..
Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Melanie Brown
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 272/2021