Mae'r set ddata hon yn galluogi i ddadansoddiadau o aelwydydd gael eu cynnal ar lefel awdurdodau lleol ar gyfer 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer aelwydydd
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2017, roedd 17.5% o aelwydydd yng Nghymru yn ddi-waith. Mae hyn yn cymharu â 14.7% o aelwydydd yn y DU.
- Yn 2017, Castell-nedd Port Talbot a Blaenau Gwent oedd â’r canrannau uchaf o aelwydydd di-waith yng Nghymru, sef 24.1% a 24.0%, yn y drefn honno. Sir Fynwy (11.7%) oedd â’r canrannau isaf o aelwydydd di-waith.
- Yn 2017, roedd 12.6% o blant yng Nghymru yn byw mewn aelwydydd di-waith o gymharu â 10.9% yn y DU.
- Yn 2015-17, oedd canran gyffredinol teuluoedd un rhiant yn uwch yng Nghymru (8.2%) nag yn y DU (8.0%). Ym Merthyr Tudful (13.0%) ac yng Nghastell-nedd Port Talbot (10.4%) yr oedd y canrannau uchaf o aelwydydd un rhiant.
Adroddiadau

Ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer aelwydydd, 2017
,
Saesneg yn unig,
math o ffeil: PDF, maint ffeil: 645 KB
PDF
Saesneg yn unig
645 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Ffôn: 0300 025 8099