Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.
Maent yn cynnwys diweddariadau misol ar y nifer o:
- trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd a’r dreth sy’n ddyledus
- trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd yn ôl math
- trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
- ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch
Sylwer:
- diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
- mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
- mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)
Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun yr achosion o coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod hanner cyntaf 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.
Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 31 Mawrth 2021. Er bod rhai cloeon lleol pellach wedi’u gweithredu tuag at ddiwedd y cyfnod yr adroddir arno yn y datganiad hwn (diwedd Medi 2020) nid ydynt fe ymddengys wedi cael unrhyw effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau.
Yn ein datganiad chwarterol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020, gwnaethom gyflwyno’r nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awrdurdod Cyllid Cymru. Ar y tudalen hon, rydym wedi diweddaru’r siart o’r datganiad hwn (hyd at yr wythnos yn dechrau 5 Rhagfyr). Gwelwch y datganiad chwarterol ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2020 am sylwebaeth ac eglurhad o’r siart.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Tachwedd 2020 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 476 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 706 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.