Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.

Maent yn cynnwys diweddariadau misol ar y nifer o:

  • trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd a’r dreth sy’n ddyledus
  • trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd yn ôl math
  • trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
  • ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch

Sylwer:

  • diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
  • mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
  • mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19) ar lefelau trafodiadau hyd yn hyn

Yn ein datganiad chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020, gwnaethom gyflwyno’r nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awrdurdod Cyllid Cymru. Ar y tudalen hon, rydym wedi diweddaru’r siart o’r datganiad hwn (hyd at yr wythnos yn dechrau 6 Mehefin).

Roedd y nifer is y trafodiadau wedi cael effaith amlwg ar y refeniw yn Ebrill a Mai 2020. Gwelwch y datganiad chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020 am sylwebaeth ac eglurhad o’r siart.

Mae siart yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng mis Rhagfyr 2019 ac Mehefin 2020. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Mehefin 2020.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Mai 2020 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 465 KB

XLSX
465 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau Treth Trafodiadau Tir: dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 630 KB

XLSX
630 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.