Amcangyfrifon y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Mai 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.
Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad misol nesaf ar yr ystadegau ar 26 Gorffennaf. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mai. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.
Pwyntiau allweddol
Ar gyfer trafodiadau TTT hysbysadwy gyda dyddiad dod i rym ym mis Mai 2018:
- 4,450 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, gyda chyfanswm o £13.5 miliwn o dreth yn ddyledus
- 3,080 o drafodiadau preswyl ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar y brif gyfradd, gyda 1.000 o drafodiadau'r Dreth ar y gyfradd uwch, sy’n golygu cyfanswm o £10.1 miliwn o dreth yn ddyledus o’u cyfuno, a
- 360 o drafodiadau TTT amhreswyl, gan arwain at £3.3 miliwn o dreth yn ddyledus.
- Ar ddiwedd 13 Mehefin, roedd 1,577 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir ar-lein, gyda chyfanswm o 4,023 o ddefnyddwyr ar-lein wedi’u cofrestru.