Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Mae'r adroddiad chwarterol hwn ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn sylw ar:

  • nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd
  • dadansoddiad o drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn ôl gwerth
  • rhyddhadau treth
  • ad-daliadau cyfradd uwch y dreth breswyl
  • arian a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cyllid Cymru

Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)

Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.

Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 31 Mawrth 2021. Er bod rhai cloeon lleol pellach wedi’u gweithredu yn ystod y cyfnod yr adroddir arno yn y datganiad hwn (diwedd Rhagfyr 2020), fe ymddengys mai dim ond effaith fach a gafodd y rhain ar nifer y trafodiadau a'r adferiad y cyfeiriwyd ato yn y datganiad ystadegol.

Roedd newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Fodd bynnag, ychydig o effaith a gafodd y newidiadau hyn ar ddata Hydref i Ragfyr 2020 (effeithiwyd ar lai na 100 o drafodiadau cyfraddau uwch a llai na 30 o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn) ac felly byddant yn cael eu hystyried yn llawnach yn ein datganiad chwarterol nesaf.

Gwybodaeth bellach

Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad chwarterol hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

  • Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol.
     
  • Mae ystadegau blynyddol yn rhoi mwy o fanylion. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Hydref i Rhagfyr 2020 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 614 KB

XLSX
614 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 789 KB

XLSX
789 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Adam Al-Nuaimi

Rhif ffôn: 03000 254 670

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.