Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 3 Hydref i Rhagfyr 2018.

Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Rhagfyr.

Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.

Pwyntiau allweddol

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu'r amcangyfrifon amodol ar gyfer mis Rhagfyr, ac amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer mis Ebrill i fis Tachwedd.

Maen nhw’n rhoi cipolwg cryno ar y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 21 Ionawr.

Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy’r Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn Hydref i Ragfyr, roedd:

  • 17,280 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, gyda chyfanswm o £66.5 miliwn o dreth yn ddyledus
  • 12,060 o drafodiadau preswyl ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar y brif gyfradd, gyda 3,600 o drafodiadau'r Dreth ar y gyfradd uwch, sy’n golygu cyfanswm o £47.2 miliwn o dreth yn ddyledus o’u cyfuno, a 
  • 1,620 o drafodiadau Treth Trafodiadau Tir amhreswyl, gan arwain at £19.3 miliwn o dreth yn ddyledus.
  • Mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd o’u cymharu â’r ffigurau cyfatebol am gyfer Gorffennaf i Fedi 2018. Yn gyrru hyn, roedd cynnydd yn y trafodiadau yn y sectorau preswyl ac amhreswyl, yn arbennig y lefel misol uchaf hyd yma ym mis Tachwedd ar drafodiadau preswyl.

Adroddiadau

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Hydref i Rhagfyr 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 691 KB

PDF
691 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Dadansoddiad o ddiwygiadau i ystadegau Treth Trafodion Tir hyd at Hydref i Rhagfyr 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 688 KB

PDF
688 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.