Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.

Mae'r adroddiad chwarterol hwn ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn sylw ar:

  • nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd
  • dadansoddiad o drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn ôl gwerth
  • rhyddhadau treth
  • ad-daliadau cyfradd uwch y dreth breswyl
  • arian a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Cyllid Cymru

Cymariaethau dros amser

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021.

Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Bydd y prif gyfraddau a bandiau preswyl ar gyfer Trafodiadau Tir yn newid ar gyfer trafodiadau sy'n dod i rym o 10 Hydref 2022. Byddwn yn cyflwyno dadansoddiad o effaith y newidiadau hyn yn ein datganiad chwarterol nesaf.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir

Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Gwybodaeth bellach

Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad chwarterol hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

  • Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol.
  • Mae ystadegau blynyddol yn rhoi mwy o fanylion. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf i Medi 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 103 KB

ODS
103 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 521 KB

ODS
521 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.