Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 2 Gorffennaf i Fedi 2018.

Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Medi. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.

Pwyntiau allweddol

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu'r amcangyfrifon amodol ar gyfer Medi, ac amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer Ebrill i Awst. Maen nhw’n rhoi cipolwg cryno ar y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 15 Hydref.

Ar gyfer trafodiadau hysbysadwy’r Dreth Trafodiadau Tir gyda dyddiad dod i rym yn Gorffennaf i Fedi, roedd:

  • 16,050 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, gyda chyfanswm o £61.5 miliwn o dreth yn ddyledus
  • 11,240 o drafodiadau preswyl ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar y brif gyfradd, gyda 3,440 o drafodiadau'r Dreth ar y gyfradd uwch, sy’n golygu cyfanswm o £44.6 miliwn o dreth yn ddyledus o’u cyfuno, a
  • 1,370 o drafodiadau Treth Trafodiadau Tir amhreswyl, gan arwain at £16.9 miliwn o dreth yn ddyledus.
  • Mae’r ffigurau hyn yn dangos cynnydd o’u cymharu â’r ffigurau cyfatebol am gyfer mis Ebrill i fis Mehefin 2018. Yn bennaf, bydd hyn o ganlyniad i’r cynnydd mewn gwerthiant preswyl a welir yn ystod misoedd yr haf (sef ffactorau tymhorol).

Adroddiadau

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf i Medi 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 888 KB

PDF
888 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.