Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 1 Ebrill i Mehefin 2018.

Y datganiad ystadegol hwn yw’r ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.

Amodol yw’r amcangyfrifon cychwynnol hyn. Byddwn ni’n adolygu’r amcangyfrifon hyn yn y cyhoeddiad nesaf ar yr ystadegau. Y rheswm am hyn yw bod sefydliadau’n dal I fod yn gallu adrodd ynghylch trafodiadau pellach ar gyfer mis Mehefin. Mae gan sefydliadau 30 diwrnod ar ôl dyddiad y trafodiad i roi gwybod amdanynt i ACC.

Pwyntiau allweddol

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu'r amcangyfrifon amodol ar gyfer Mehefin ac amcangyfrifon diwygiedig ar gyfer Ebrill a Mai. Maen nhw’n rhoi cipolwg cryno ar y trafodiadau TTT hysbysadwy a ddaeth i law erbyn diwedd 16 Gorffennaf.

Ar gyfer trafodiadau TTT hysbysadwy gyda dyddiad dod i rym yn Ebrill – Mehefin, roedd:

  • 14,230 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u hadrodd ar gyfer y TTT, gyda chyfanswm o £47.9 miliwn o dreth yn ddyledus; 
  • 9,690 o drafodiadau preswyl ar gyfer y TTT ar y brif gyfradd, gyda 3,220 o drafodiadau'r Dreth ar y gyfradd uwch, sy’n golygu cyfanswm o £33.7 miliwn o dreth yn ddyledus o’u cyfuno; a
  • 1,320 o drafodiadau TTT amhreswyl, gan arwain at £14.2 miliwn o dreth yn ddyledus.
  • Ar ddiwedd 16 Gorffennaf, roedd 1,793 o sefydliadau wedi cofrestru ar gyfer cyflwyno’r TTT ar-lein, gyda chyfanswm o 4,153 o ddefnyddwyr ar-lein wedi’u cofrestru.

Adroddiadau

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill i Mehefin 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 840 KB

PDF
840 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.