Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yn rhoi lefel uwch o fanylion, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru.

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn cynnwys:

  • datganiad ystadegol blynyddol yn rhoi sylwadau ar dueddiadau blynyddol Treth Trafodiad Tir, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd lleol yng Nghymru. Ystadegau Cenedlaethol yw’r rhain.
  • esboniwr yar gyfer ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Diweddarwyd data ychwanegol sy'n dadansoddi trafodiadau cyfraddau uwch (gweler yr adran Data). Ystadegau Cenedlaethol yw’r rhain.
  • data perfformiad a ddefnyddir yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru. Nid yw'r data hwn yn ystadegau swyddogol.

Anogir defnyddwyr ein hystadegau i ddarllen yr erthygl yn egluro ein hystadegau ardaloedd lleol a sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch Treth Trafodiad Tir. Mae cyfraddau uwch yn faes Treth Trafodiad Tir cymhleth a gellir ei gamddehongli. Mae hyn yn bwriad yw helpu defnyddwyr ein hystadegau o ran sut i ddehongli'r data hwn.

Newidiadau cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)

Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19) a newidiadau dilynol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020 a 22 Rhagfyr 2020. Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a’r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod gwahanol rannau o 2020-21, gyda chwymp sylweddol ar ddechrau’r flwyddyn yn cael ei wrthbwyso’n rhannol gan godiadau amlwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Dylid cofio hyn wrth edrych ar newidiadau rhwng y cyfnodau amser a gynhwysir yma, ac unrhyw ffigurau cyfatebol flwyddyn ynghynt.

Gwybodaeth bellach

Gweler yr adran ‘Data’ isod am daenlen gyda’r tablau data a’r data siartiau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn. Hefyd, mae’r setiau data Treth Trafodiadau Tir manwl i’w gweld ar wefan StatsCymru.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau misol a chwarterol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae ystadegau misol yn ddiweddariadau data yn unig heb unrhyw sylwebaeth. Gall yr ystadegau misol fod â mwy o ddata cyfoes nag ystadegau chwarterol neu flynyddol. Mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ebrill 2021 i Mawrth 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 103 KB

ODS
103 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data a ddefnyddir gan Awdurdod Cyllid Cymru wrth adrodd ar berfformiad o 2021 hyd 2022 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 117 KB

XLSX
117 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Eglurhad o ystadegau ardaloedd lleol Awdurdod Cyllid Cymru 2021 i 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 12 KB

ODS
12 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ystadegydd: Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.