Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.
Maent yn cynnwys niferau misol ar:
- trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus
- trafodiadau yn ôl math
- trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
- ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch
Sylwer:
- diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
- mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
- mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
Newidiadau cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)
Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19) a newidiadau dilynol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2020 a 22 Rhagfyr 2020. Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a’r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod gwahanol rannau o 2020-21, gyda chwymp sylweddol ar ddechrau’r flwyddyn yn cael ei wrthbwyso’n rhannol gan godiadau amlwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Dylid cofio hyn wrth edrych ar newidiadau rhwng y cyfnodau amser a gynhwysir yma, ac unrhyw ffigurau cyfatebol flwyddyn ynghynt.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Awst 2021 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 495 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 835 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.