Mae'r data’n cynnwys nifer y trafodiadau tir ac eiddo, y dreth a oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Trafodiadau Tir
Caiff ein datganiadau misol eu cyhoeddi fel tablau data ar y tudalen hon a data ar gael ar wefan StatsWales.
Maent yn cynnwys diweddariadau misol ar y nifer o:
- trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd a’r dreth sy’n ddyledus
- trafodiadau hysbysadwy a adroddwyd yn ôl math
- trafodiadau a’r dreth sy’n ddyledus yn ôl band treth
- ad-daliadau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch
Sylwer:
- diweddariadau misol yn unig, heb unrhyw sylwebaeth yw ystadegau misol
- mae ystadegau chwarterol yn cynnwys y sylwebaeth ystadegol ddiweddaraf
- mae ystadegau blynyddol yn cyflwyno lefel uwch o fanylder, gan gynnwys dadansoddiad o fewn Cymru a dadansoddiad gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Mae ystadegau misol, chwarterol a blynyddol i'w gweld ar dudalen cyfres y Dreth Trafodiadau Tir.
Newid cyfradd Treth Trafodiadau Tir ac effaith yr achosion o coronafirws (COVID-19)
Mae'r ffigurau ar gyfer Awst 2020 yn cynnwys y cyfnod o 27 Gorffennaf 2020 pan newidiodd y gyfradd dreth ar gyfer trafodiadau preswyl prif gyfradd (hyd at 31 Mawrth 2021).
Yn ein datganiad chwarterol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020, gwnaethom gyflwyno’r nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awrdurdod Cyllid Cymru. Ar y tudalen hon, rydym wedi diweddaru’r siart o’r datganiad hwn (hyd at yr wythnos yn dechrau 12 Medi). Gwelwch y datganiad chwarterol ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020 am sylwebaeth ac eglurhad o’r siart.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Awst 2020 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 462 KB
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Dadansoddiad manwl o drafodion yn ôl gwerth trafodion , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 663 KB
Cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.