Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 4, Ionawr i Fawrth 2019, ac y flwyddyn Ebrill 2018 i Fawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Gwarediadau Tirlenwi
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Chwarter 4 ac y flwyddyn Ebrill 2018 i Fawrth 2019 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.
Pwyntiau allweddol
O ran deunydd a waredwyd i safleoedd tirlenwi am y cyfnod:
Ionawr i Fawrth 2019
- Bu 337 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, yn is na’r chwarter blaenorol.
- Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £9.4 miliwn o dreth yn ddyledus, lleihad o 7% ers y chwarter blaenorol.
2018 i 2019
- Bu 1,431 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, ac amcangyfrifir bod £44.6 miliwn o dreth yn ddyledus am y flwyddyn.
- Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif oddeutu pump rhan o chwech yr holl dreth yn ddyledus.
- Roedd 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle yn weithredol dros y flwyddyn. Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan ACC.
Adroddiadau
Ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi: Ionawr i Fawrth 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@wra.gov.wales
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.