Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer chwarter 3, Hydref i Ragfyr 2018.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Chwarter 3 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.

Pwyntiau allweddol

O ran deunydd a waredwyd fel gwastraff i safleoedd tirlenwi rhwng Hydref i Ragfyr:

  • Bu 367 mil tunnell o warediadau awdurdodedig, y lefel debyg i'r ddau chwarter blaenorol.
  • Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £10.1 miliwn o dreth yn ddyledus, lleihad o 26 y cant ers y chwarter blaenorol. Y prif reswm am hyn oedd lleihad mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi.
  • Roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif am ryw dri chwarter yr holl dreth yn ddyledus. 
  • Gwaredwyd 111 mil tunnell o ddeunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt, gan olygu rhyddhad treth o £0.3 miliwn. 
  • Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, yr  oedd 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 23 safle.

Adroddiadau

Ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi: Hydref i Rhagfyr 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.