Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 2, Gorffennaf i Fedi 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Treth Gwarediadau Tirlenwi
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Chwarter 2 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.
Pwyntiau allweddol
O ran deunydd a waredwyd fel gwastraff i safleoedd tirlenwi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi:
- Bu 360 mil o dunelli o warediadau awdurdodedig, 10% yn llai na'r chwarter blaenorol. Y rheswm am hyn oedd gwarediadau ar y gyfradd is a deunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt.
- Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £13.7m o dreth yn daladwy, cynnydd o 19% ers y chwarter blaenorol. Y prif reswm am hyn oedd cynnydd mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi.
- Gwaredwyd 88 mil tunnell o ddeunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt, gan olygu rhyddhad treth o £0.2m.
- Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, roedd 18 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 24 safle.
Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, roedd 18 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 24 safle.
Adroddiadau
