Neidio i'r prif gynnwy

Data am fudo mewnol (pobl yn symud o fewn y DU) a mudo rhyngwladol (pobl yn symud i mewn ac allan o'r DU).

Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i drawsnewid yr ystadegau rydym yn eu cynhyrchu ar gyfer mudo. Gallwch weld gwybodaeth am y gwaith hwn ar dudalennau mudo y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mudo mewnol

Fel arfer, caiff mudo mewnol ei fesur yn ôl nifer y preswylwyr sy'n symud rhwng ardaloedd daearyddol gwahanol o fewn y DU. Daw'r data hyn o Gofrestr Cleifion y GIG, Cofrestr Ganolog y GIG a'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon ar fudo mewnol ochr yn ochr ag amcangyfrifon blynyddol canol-blwyddyn o’r boblogaeth, gan gynnwys amcangyfrifon manwl yn ôl man cychwyn a safle pen y daith. Mae'r data ar gyfer mudo mewnol yng Nghymru hefyd ar gael ar wefan StatsCymru.

Mudo rhyngwladol

Mae mudo rhyngwladol yn fater cymhleth, ac er mwyn ei ddeall yn iawn, mae angen ystyried llawer o wybodaeth. Mae amcangyfrifon yn seiliedig yn bennaf ar ddata o'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol gan nad oes system orfodol ar gael i gofnodi mudo rhyngwladol i mewn ac allan o'r DU ac eithrio ar gyfer patrwm mewnfudo pobl o'r tu allan i'r UE, sy'n cael ei gofnodi gan ddata fisâu. Mae angen defnyddio cyfuniad o wahanol ffynonellau er mwyn creu amcangyfrifon mudo rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys data gweinyddol gan y Swyddfa Gartref a'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch er enghraifft. 

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi adroddiad chwarterol o'r amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor swyddogol diweddaraf. Mae data ar gyfer mudo rhyngwladol yng Nghymru hefyd ar gael ar wefan StatsCymru.

Mudo a chyflogaeth

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ystadegau yn ymwneud â mudo a chyflogaeth i gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ar fudo ar ôl Brexit. Mae'r rhain yn dwyn ynghyd wybodaeth o nifer o ffynonellau mewn perthynas â gwladolion o'r tu allan i'r DU sy'n byw yng Nghymru a'u statws cyflogaeth.

Gwybodaeth bellach

Dylech nodi nad yw'r rhain yn gyhoeddiadau rheolaidd a chaiff unrhyw ddiweddariadau yn y dyfodol hefyd eu cyhoeddi ar y dudalen hon.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Ystadegau preswylwyr a chyflogaeth yr UE, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 35 KB

ODS
Saesneg yn unig
35 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ystadegau preswylwyr a chyflogaeth yr UE, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
Saesneg yn unig
30 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.