Ystadegau Twf Swyddi Cymru+: Gorffennaf i Fedi 2024
Gwybodaeth am raglenni dysgu Twf Swyddi Cymru+ a'r dysgwyr sydd wedi cofrestru arnynt ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar raglen Twf Swyddi Cymru+.
Mae'r data yn y datganiad hwn yn cwmpasu chwarter 2 2024-25 (Gorffennaf 2024 i Fedi 2024). Ffigurau dros dro yw’r rhain ac mae’n debygol y byddant yn cael eu hadolygu mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol wrth i ddata gael eu diweddaru. Cafodd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ei lansio ar 1 Ebrill 2022.
Prif bwyntiau
- Yn ystod Gorffennaf i Fedi 2024 roedd 4,540 o raglenni’n weithredol drwy Twf Swyddi Cymru+, 2,270 o’r rhain wedi parhau o chwarter 1 a 2,270 o’r rhain yn ddechreuadau newydd. Ar ddiwedd y chwarter, roedd 2,870 o'r rhaglenni hyn yn parhau.
- Drwy gymharu'r gyfnod Gorffennaf i Medi yn 2024 i'r un gyfnod yn 2023, welwn bod y nifer o ddechreuadau wedi disgyn gan 12% (2,270 yn erbyn 2,585).
- Mae’r nifer o raglenni gweithredol drwy’r gyfnod Gorffennaf i Medi wedi cynyddu gan 76%, wrth gymharu gyda’r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol.
- Fe wnaeth 1,670 o raglenni Twf Swyddi Cymru+ ddod i ben yn ystod Gorffennaf i Fedi 2024, gyda 1,185 ohonynt wedi'u cwblhau. O'r rhaglenni a ddaeth i ben, cafodd 68% o’r bobl ifanc ganlyniad cadarnhaol yn seiliedig ar eu cyrchfan o fewn pedair wythnos ar ôl cwblhau'r rhaglen.
- Erbyn diwedd Medi 2024, roedd 13,345 o raglenni TSC+ Mwy wedi cychwyn ers i’r rhaglen ddechrau yn Ebrill 2022. Mae 10,465 o’r rhaglenni hynny wedi dod i ben a 6,950 wedi’u cwblhau.
Ffigur 1: Cyrchfan ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru+, Gorffennaff 2024 i Fedi 2024 (dros dro)
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart gylch hon yn dangos cyfran ymadawyr Twf Swyddi Cymru a Mwy rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024 drwy gyrchfan ar ôl cwblhau'r rhaglen. Y categori unigol mwyaf yw ‘Dysgu – ar lefel uwch’, sef 42%.
Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Cefndir a chyd-destun
Pwrpas Rhaglen Ieuenctid Twf Swyddi Cymru+ yw darparu hyfforddiant, datblygiad a chefnogaeth gyflogadwyedd gyfunol ac unigol i bobl ifanc 16 i 19 oed sy'n cael eu hasesu’n NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) ar yr adeg y maent yn dechrau rhaglen Twf Swyddi Cymru+.
Bydd rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r canlyniadau a'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phobl ifanc yn NEET, sy'n rhan annatod o'r Gwarant i Bobl Ifanc, Cymru gryfach, decach a gwyrddach (y cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau), y Rhaglen Lywodraethu a’n Hamcanion Llesiant.
Amcanion rhaglen Twf Swyddi Cymru+
- Cyfrannu tuag at leihau nifer y bobl ifanc 16 i 19 oed sy'n NEET.
- Sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ifanc 16 i 19 oed sydd mewn perygl o fod yn NEET.
- Cyfrannu at gyflawni amcanion Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ddarparu cymorth cyflogadwyedd i bobl ifanc 16 i 19 oed sy'n cynnig cyfle cyfartal (gan gynnwys y Gymraeg), yn hybu lles a gwaith teg, ac yn helpu i ymgorffori dulliau amgylcheddol sy'n lleihau niwed.
Roedd y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2022 a 31 Mawrth 2022 yn gyfnod pontio i ddysgwyr a oedd yn arfer bod ar y rhaglen Hyfforddeiaethau.
Canlyniadau cadarnhaol
Caiff canlyniadau cadarnhaol eu mesur yn ôl cyrchfan y dysgwr o fewn pedair wythnos ar ôl gadael rhaglen Twf Swyddi Cymru. I ddysgwyr ar y llinynnau Ymgysylltu a Datblygu, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth. I ddysgwyr ar y llinyn Cyflogaeth, canlyniad cadarnhaol yw naill ai symud ymlaen i gyflogaeth (llawnamser, rhan-amser (16 awr neu fwy yr wythnos) neu hunangyflogaeth) neu symud ymlaen i Brentisiaeth.
I ddysgwyr anabl, mae cyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos hefyd yn cael ei ystyried yn ganlyniad cadarnhaol.
Mae gwaith gwirfoddol, dysgu pellach ar yr un lefel neu lefel is, a chyflogaeth o lai na 16 awr yr wythnos yn cael eu hystyried yn ganlyniadau niwtral. Caiff dysgwyr â'r canlyniadau hyn eu heithrio o'r enwadur wrth gyfrifo cyfraddau canlyniadau cadarnhaol.
Mae chwilio am waith/di-waith a phob canlyniad arall (gan gynnwys lle nad yw'r gyrchfan o fewn pedair wythnos yn hysbys) yn cael eu hystyried yn ganlyniadau negyddol.
Ffynhonnell ddata
Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mis Tachwedd 2024 ar gyfer LLWR. Rhaid i Gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ gyflwyno gwybodaeth i Lywodraeth Cymru yn fisol o leiaf ar bob person ifanc a’u rhaglenni, gweithgareddau a dyfarniadau o dan raglen Twf Swyddi Cymru+.
Mae’r holl ffigurau wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf. Cyfrifir y canrannau ar sail y ffigurau heb eu talgrynnu.
Ni chafodd y bennawd chwarterol o Ebrill 2024 i Mehefin 2024 eu gyhoeddi. Bydd y ddata yn gael eu cyflwyno yn y gyhoeddiad blynyddol ym Mehefin 2025.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Marcela Beck
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099