Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ar gyfer Chwarter 2, Gorffennaf i Fedi 2018.

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno ystadegau swyddogol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae’r amcangyfrifon cychwynnol hyn ar gyfer Chwarter 2 yn rhai dros dro. Byddwn yn diwygio’r amcangyfrifon hyn pan fyddwn yn cyhoeddi’r ystadegau nesaf.

Pwyntiau allweddol

O ran deunydd a waredwyd fel gwastraff i safleoedd tirlenwi rhwng mis Gorffennaf a mis Medi:

  • Bu 360 mil o dunelli o warediadau awdurdodedig, 10% yn llai na'r chwarter blaenorol. Y rheswm am hyn oedd gwarediadau ar y gyfradd is a deunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt.
  • Yr oedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £13.7m o dreth yn daladwy, cynnydd o 19% ers y chwarter blaenorol. Y prif reswm am hyn oedd cynnydd mewn gwarediadau ar y gyfradd safonol gan nifer bach o weithredwyr safleoedd tirlenwi.
  • Gwaredwyd 88 mil tunnell o ddeunydd a dderbyniodd ryddhad neu ddisgownt, gan olygu rhyddhad treth o £0.2m. 
  • Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, roedd 18 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 24 safle. 

Yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y datganiad hwn, roedd 18 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 24 safle.

Adroddiadau

Ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi: Gorffennaf i Medi 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 686 KB

PDF
686 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.