Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r ystadegau hyn?

Nod y datganiad ystadegol hwn ar famolaeth a genedigaethau yw darparu ystadegau ar famau a babanod, gydol y broses famolaeth a genedigaeth. Mae’r datganiad yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar famolaeth: Gofal mamolaeth yng Nghymru gweledigaeth 5 mlynedd ar gyfer y dyfodol (2019-2024), a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019.

Mae nifer o ystadegau a dadansoddiadau wedi’u llunio ar feysydd allweddol, yn cynnwys:

  • pa mor bell yn eu beichiogrwydd mae menyw yn derbyn ei hasesiad cychwynnol (neu’n trefnu apwyntiad)
  • faint o famau sy’n ysmygwyr
  • faint o famau sydd dros eu pwysau
  • sut y dechreuodd y broses esgor, a roddwyd dull lleddfu poen a’r dull geni yn cynnwys toriad Cesaraidd wedi’i gynllunio a brys
  • nifer y genedigaethau byw yng Nghymru
  • cyfraddau pwysau geni isel

Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddwyd datganiad ystadegol blynyddol newydd ar fwydo ar y fron. Bydd yr holl ddadansoddiadau bwydo ar y fron a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y datganniad mamolaeth a genedigaethau nawr yn cael eu cyhoeddi yn y datganiad newydd hwn.

Mae bwydo ar y fron yn bwysig i iechyd a datblygiad babanod a’u mamau, ac mae’n gysylltiedig ag atal anghydraddoldebau iechyd sylweddol. Darparu llaeth y fron yw’r gweithgaredd mwyaf hygyrch a chost-effeithiol sydd ar gael o ran iechyd y cyhoedd ac mae’n hysbys ei fod yn hybu’r berthynas rhwng mam a’i baban. Mae hefyd yn atal amryw o glefydau heintus ac anhrosglwyddadwy, gan gynnwys haint yn y glust, gastroenteritis, asthma, gordewdra plant, diabetes math 2 a chanser y fron a chanser yr ofari ymysg mamau. Gall hefyd leihau costau i deuluoedd os oes angen llai o laeth fformwla.

Mae’r datganiad ystadegol bwydo ar y fron yn darparu data i gefnogi cynllun gweithredu 5 mlynedd Cymru Gyfan ar fwydo ar y fron yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 sy’n nodi y dylai pob plentyn yng Nghymru gael y dechrau gorau mewn bywyd.

Ffynonellau data

Mae’r ystadegau hyn yn dod o ddwy ffynhonnell ddata: Set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD). Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy’n darparu’r ddwy ffynhonnell ddata i Lywodraeth Cymru.

Sefydlwyd set data Dangosyddion Mamolaeth yn 2016. Mae’n cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol mam gyda chofnod geni’r plentyn ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro ei set gychwynnol o ddangosyddion canlyniad a mesurau perfformiad (Dangosyddion Mamolaeth) a sefydlwyd i fesur effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau mamolaeth Cymru.

Mae set data Dangosyddion Mamolaeth yn ein galluogi i ddadansoddi nodweddion proses beichiogrwydd a genedigaeth y fam. Mae’r broses o gynhyrchu’r data hwn yn gymhleth, yn bennaf oherwydd y gellir cael data asesiadau cychwynnol lluosog ac nad yw cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n gyflawn bob amser. Wrth gyfuno data asesiadau cychwynnol gyda data cofnodion genedigaethau, mae NWIS yn cymryd y camau dilysu canlynol:

  • mae cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau nad ydynt yn cynnwys rhif GIG y fam yn cael eu dileu
  • mae cofnodion genedigaethau nad ydynt yn cynnwys rhif GIG y babi’n cael eu dileu, ond mae’r holl gofnodion genedigaethau eraill yn cael eu cadw
  • mae data o’r asesiad cychwynnol yn cael ei gyfuno â’r cofnod genedigaeth gan ddefnyddio rhif GIG y fam, a ddylai fod yn ddynodydd unigryw ar y ddau gofnod
  • mae cofnodion lle mae’r bwrdd iechyd sy’n darparu’r asesiad cychwynnol a lle mae’r enedigaeth wedi digwydd yr un fath, yn cael eu cadw, a chaiff yr holl ddata asesu cychwynnol eraill eu dileu
  • pan nad oedd modd paru’r cofnod genedigaeth gyda’r cofnod asesu cychwynnol, mae’r cofnod genedigaeth dal yn cael ei gadw ac ni fydd yr holl ddata asesu cychwynnol yn cael ei gynnwys
  • mae cofnodion ble mae nifer y dyddiau rhwng yr asesiad cychwynnol a’r dyddiad geni rhwng -1 a 315 yn cael eu cadw
  • pan fo cofnodion asesiadau cychwynnol lluosog yn dal i fodoli ar gyfer genedigaeth, mae gwiriadau’n cael eu gwneud i weld pa un yw’r cofnod cyfunol mwyaf cyflawn; y cofnod hwnnw sy’n cael ei gadw a bydd unrhyw gopi arall yn cael ei ddileu

Mae’r broses gymhleth hon yn arwain at ddileu llawer o gofnodion o’r set ddata, felly mae yna gyfyngiadau ar ddefnyddio ystadegau a gynhyrchwyd o set ddata Dangosyddion Mamolaeth.

Sefydlwyd y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw yr holl blant sydd wedi’u geni, sy’n byw neu sydd wedi’u trin yng Nghymru ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn data ynghyd o gronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol a’i phrif swyddogaeth yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plant o enedigaeth i oedran gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae Systemau Iechyd Plant Lleol yn newid dros amser i fodloni gofynion newidiol; gelwir y fersiwn ddiweddaraf, sef y bedwaredd fersiwn, yn System Integredig Plant a Phobl Ifanc, ac mae’n cael ei chyflwyno i bob bwrdd iechyd yn ystod 2019. Mae rhagor o wybodaeth am ei nodweddion ar wefan NWIS.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael ar set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael drwy Gyfeiriadur Data’r GIG.

Cwmpas

Mae data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle mae’r asesiad cychwynnol a’r enedigaeth ill dau wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, yng Nghymru yn unig.

Dylai’r data gynnwys pob genedigaeth ysbyty a rhai genedigaethau cartref; fodd bynnag, oherwydd y ffordd y caiff y data ei gofnodi, nid ydym yn gallu gwahaniaethu rhwng genedigaethau cartref ac ysbyty mewn rhai byrddau iechyd. Nid yw’n cynnwys unrhyw enedigaethau i famau o Gymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu yn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru.

Mae data pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at pryd ganed y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Efallai y bydd asesiadau cychwynnol wedi’u cynnal yn y flwyddyn flaenorol, ond yn cael eu cynnwys ym mlwyddyn yr enedigaeth. Mae hyn yn sicrhau bod data gydol beichiogrwydd unigol yn cael ei gofnodi yn yr un flwyddyn.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn a anwyd, sy’n byw neu sy’n derbyn gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata’n cynnwys rhywfaint o wybodaeth am rai plant nad ydynt yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd; fodd bynnag, oni nodir fel arall, mae ystadegau a gynhyrchwyd o ddata a gafwyd o’r gronfa ddata hon yn cael ei hidlo i gynnwys plant a anwyd yng Nghymru yn unig. Mae hefyd yn golygu bod data ar gael ar gyfer mamau o Gymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr.

Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, 10 diwrnod oed, 6 wythnos oed a 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau, ond mae mwyafrif y dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol yn cyfeirio at enedigaethau byw yn unig.

Mae’r data dadansoddi o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn darparu gwybodaeth ychwanegol am blant newydd-anedig nad yw ar gael drwy fesur swyddogol Y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar nifer y genedigaethau. Mae data o’r ddwy ffynhonnell yn cael eu cysoni’n agos, ond mae mesurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn galluogi cymariaethau mwy cywir rhwng gwledydd y DU.

Ystadegau cyhoeddedig ar famolaeth a genedigaethau yng Nghymru

Cyhoeddwyd ystadegau mamolaeth a genedigaethau fel datganiad ystadegol unigol am y tro cyntaf ym mis Hydref 2019 gyda’r data newydd yn cyfeirio at flwyddyn galendr 2018. Cyn hyn, cyhoeddwyd yr ystadegau hyn mewn dau ddatganiad ystadegol ar wahân.

Mae ystadegau genedigaethau cofrestredig a marwolaethau babanod yn cael eu paratoi’n rheolaidd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a dylid eu defnyddio fel y brif ffynhonnell ar gyfer nifer y genedigaethau yng Nghymru.

Mae nifer o ystadegau eraill yn cael eu cyhoeddi gan ddefnyddio data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol:

Mae’r Archwiliad Mamolaeth ac Amenedigol Cenedlaethol (NMPA) yn cyhoeddi adroddiadau ar bynciau fel marwolaethau babanod newydd-anedig a bwydo ar y fron sy’n cynnwys data ar gyfer Cymru.

Mae data genedigaethau o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cael ei gyhoeddi ar Mapiau Iechyd Cymru hefyd.

Beth yw’r ffyrdd posibl o ddefnyddio’r ystadegau hyn?

Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd amrywiol. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • i lywio trafodaeth yn Senedd Cymru a thu hwnt
  • i ddarparu data i’r cyhoedd ar ystadegau iechyd plant yng Nghymru
  • monitro darpariaeth gwasanaethau
  • datblygu polisi
  • darparu cyngor ar ddewisiadau genedigaeth

Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hwn?

Y prif ddefnyddwyr yw:

  • gweinidogion, swyddogion polisi a Gwasanaeth Ymchwil Aelodau
  • byrddau iechyd lleol
  • y cyhoedd
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill y GIG
  • sefydliadau gwirfoddol yn ymwneud â genedigaethau

Os ydych chi’n defnyddio’r data ac nad ydych yn credu bod y rhestr uchod yn eich cwmpasu chi’n ddigonol, neu os ydych am i ni ychwanegu’ch enw i’n rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy e-bostio ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cryfderau a chyfyngiadau’r data

Cryfderau: yn gyffredinol ar gyfer y ddwy ffynhonnell ddata

  • Mae’r data a gesglir yn cael ei ddefnyddio’n weithredol gan fyrddau iechyd felly nid oes baich ychwanegol ar gyflenwyr data nac unrhyw broblemau samplu arolygon.
  • Mae ystod eang o eitemau data ar gael, sy’n galluogi trosolwg eang o ystadegau mamolaeth a genedigaethau ar gyfer mamau sy’n derbyn gwasanaethau yng Nghymru.
  • Mae data’n cael ei gasglu ar sail cymharol gyson ledled Cymru, er bod rhai gwahaniaethau yn systemau a dulliau cofnodi data’r byrddau iechyd.
  • Mae’r prif ystadegau o’r ddwy ffynhonnell yn diwallu anghenion defnyddwyr i raddau helaeth ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru i wneud polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae mwyafrif y data ar gael drwy’r ffynhonellau hyn er mwyn monitro’r dangosyddion perfformiad allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu pennu ar gyfer byrddau iechyd lleol.
  • Mae ystadegau’n cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ac mor amserol â phosibl, gyda thablau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.
  • Mae nifer y genedigaethau a gofnodwyd mewn ysbytai yn cyd-fynd yn agos iawn â’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Cryfderau: set ddata Dangosyddion Mamolaeth

  • Mae cyfuno cofnodion asesiadau cychwynnol a genedigaethau’n ein galluogi i ddadansoddi data gydol yr holl broses famolaeth a genedigaeth. Mae’n ein galluogi i fonitro meysydd diddordeb fel ysmygu yn ystod beichiogrwydd a gellir gwneud dadansoddiad pwrpasol fel dadansoddi canlyniadau genedigaethau ymhlith mamau sydd dros eu pwysau.
  • Mae’r data’n ffynhonnell weinyddol sydd yn rhesymol gyflawn yn y rhan fwyaf o’r eitemau data, ar draws pob bwrdd iechyd (tablau cyflawnrwydd yn Nhabl 2).

Cryfderau: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol

  • Mae’r set ddata wedi’i hen sefydlu, yn cael ei phrosesu’n effeithlon gan NWIS, ac yn cyd-fynd yn agos iawn â mesurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar nifer y genedigaethau yng Nghymru
  • Mae’r data’n ein galluogi i wneud dadansoddiad manylach o enedigaethau yng Nghymru na’r hyn a ddarperir gan fesurau genedigaethau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
  • Mae’r data’n ffynhonnell weinyddol sydd yn rhesymol gyflawn yn y rhan fwyaf o’r eitemau data, ar draws pob bwrdd iechyd (tablau cyflawnrwydd yn Nhabl 3).

Cyfyngiadau: yn gyffredinol ar gyfer y ddwy ffynhonnell ddata

  • Bwriedir gwybodaeth StatsCymru ar gyfer cynulleidfa fwy gwybodus, heb nodiadau esboniadol llawn. 
  • Gan fod data’n cael ei fewnbynnu i’r system gyfrifiadurol â llaw fel arfer mewn byrddau iechyd, mae yna berygl y gallai gweithwyr wneud camgymeriadau.
  • Nid yw’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cofnodi gwybodaeth am enedigaethau sy’n digwydd y tu allan i’r wlad i famau o Gymru, ond mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gwneud hynny. Mae nifer y genedigaethau cartref a gofnodwyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn is na’r nifer a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r gwahaniaethau yn y ddau ddull cofnodi hyn yn egluro i raddau helaeth y gwahaniaethau yn nifer y genedigaethau ym mhob set ddata.

Cyfyngiadau: set ddata Dangosyddion Mamolaeth

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn set ddata gymhleth, sy’n destun prosesau dilysu helaeth. Mae yna nifer o gyfyngiadau yn yr ystadegau a gynhyrchir o’r ffynhonnell ddata hon ac o ganlyniad, mae’r holl ystadegau o’r ffynhonnell hon yn cael eu dosbarthu fel ystadegau arbrofol. Mae rhai o’r cyfyngiadau’n cynnwys:

  • Mae data asesu cychwynnol ond yn cael ei gynnwys ar gyfer cofnodion lle digwyddodd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth yn yr un bwrdd iechyd. Mae hyn yn creu dau gyfyngiad arwyddocaol:
    • Mae cofnodion asesu cychwynnol lle mae’r asesiad cychwynnol wedi digwydd mewn bwrdd iechyd gwahanol i’r enedigaeth yn cael eu dileu yn y broses gyfuno ac nid ydynt yn cael eu cyfrif o gwbl yn y dadansoddiad.
    • Os yw mam yn cael asesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd, ac yn rhoi genedigaeth mewn bwrdd iechyd gwahanol ond nad yw ei gwybodaeth o’r asesiad cychwynnol yn cael ei throsglwyddo, gall ail ‘asesiad cychwynnol’ ddigwydd yn y bwrdd iechyd lle mae’r enedigaeth yn digwydd. Mae hyn yn golygu y bydd y cofnod hwn yn cael ei gynnwys yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, ond y bydd y wybodaeth ar gyfer yr asesiad cychwynnol yn dod o’r ail asesiad, ac mae’n debygol o fod yn wahanol iawn ar gyfer nifer o eitemau data, fel BMI ac oed y ffetws yn yr asesiad cychwynnol. Mae’r cofnodion hyn yn cael eu cadw gan na allwn wahaniaethu’n hyderus rhwng yr achosion hyn a mamau sy’n cael eu hasesiad cyntaf yn agos at yr enedigaeth.
  • Er bod cyflawnrwydd y data yn gymharol dda ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau data, gall fod yn gymysg yn achos rhai eitemau, wrth asesu darpariaeth ar lefel bwrdd iechyd. Mae hyn yn golygu y dylid asesu newidiadau dros amser bob amser gyda chyflawnrwydd data ym mhob blwyddyn, gan y gallai unrhyw newidiadau canfyddedig ddeillio o newidiadau i gwmpas y data yn hytrach na newidiadau gwirioneddol mewn tuedd.
  • Nid yw rheolau dilysu data byrddau iechyd yn gwbl gyson; mae rhai eitemau data’n cynnwys gwerthoedd sy’n annilys yn ôl y cyfeiriadur data.
  • Mae rhai byrddau iechyd yn cofnodi eitemau data’n anghyson; er enghraifft, mae rhai byrddau iechyd yn cofnodi ‘dim toriad Cesaraidd blaenorol’ fel 0 tra bod eraill yn ei gofnodi fel 99.
  • Mae gwerthoedd rhai eitemau data amrwd yn amlwg yn anghywir; er enghraifft, mae gan filoedd o gofnodion werthoedd afrealistig ar gyfer taldra a phwysau mamau sydd angen eu dileu o’r ystadegau cyhoeddedig. Mae hyn yn codi cwestiynau am ddibynadwyedd cyffredinol cofnodi data ar draws yr holl eitemau data.
  • Mae’r dadansoddiad ar ysmygu yn ystod beichiogrwydd yn gyfyngedig oherwydd nad oes profion CO (Carbon Monocsid) ar gael ar gyfer yr holl asesiadau ym mhob bwrdd iechyd, felly mae rhywfaint o ddata wedi’i gynnwys ar y fam yn hunan-adrodd ei statws ysmygu. Yn ogystal, ni fydd monitro CO yn cofnodi mamau sy’n defnyddio e-sigaréts, ond gall rhai byrddau iechyd gofnodi mam yn hunan-adrodd ei hun fel ysmygwr gan ei bod yn ddefnyddiwr e-sigaréts, felly efallai y bydd anghysonderau o ran cofnodi’r eitem ddata hon.
  • Weithiau, ond nid bob amser, mae genedigaethau mewn mannau heblaw ysbytai (yn y cartref fel arfer) yn cael eu cofnodi yn y gronfa ddata, ac nid yw’r ffordd o gofnodi’r data yn ein galluogi i nodi lleoliad yr enedigaeth bob amser.
  • Mae strategaeth Gofal Mamolaeth yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i fonitro ystod o feysydd data nad ydynt wedi’u cynnwys yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth.

Cyfyngiadau: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol

Nid oes fawr o gyfyngiadau wrth ddefnyddio data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, ond mae rhai cyfyngiadau posibl yn cynnwys:

  • Er bod nifer y genedigaethau’n cyd-fynd yn agos â mesur y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae yna wahaniaethau bach iawn o bryd i’w gilydd felly nid yw’r ddwy ffynhonnell yn gyson 100% bob amser.
  • Er bod cyflawnrwydd data’n uchel iawn ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau data, efallai na fyddant yn gyflawn 100% ac y bydd ychydig o ddata ar goll.
  • Mae’r data ar grwpiau ethnig llawer yn llai cyflawn na’r rhan fwyaf o eitemau data eraill yn y gronfa ddata.
  • Nid yw data o’r gronfa ddata wedi’i gysylltu â’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar hyn o bryd; pe byddai wedi’i gysylltu byddai cyfle i ehangu’r dadansoddiad i asesu’r berthynas rhwng digwyddiadau sy’n digwydd yn ystod beichiogrwydd gyda chanlyniadau i’r plentyn ar ôl genedigaeth ac yn eu blynyddoedd cynnar. Er enghraifft, gellid cynnal dadansoddiad o’r berthynas rhwng amser cynnal yr asesiad cychwynnol a chyfraddau bwydo ar y fron.
  • Datganiadau ystadegol eraill sy’n defnyddio data o’r gronfa ddata heb eu cysylltu â’r datganiad ystadegol ar famolaeth a genedigaethau ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys ystadegau ar Raglen Plant Iach Cymru.

Diffiniadau

Mae eitemau data set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol wedi’u rhestru yng Nghyfeiriadur Data GIG Cymru. Mae’r cyfeiriadur data hefyd yn diffinio sut y caiff grwpiau ethnig eu dosbarthu.

Cylch prosesu data

Mae’r camau prosesu data cyffredinol ar gyfer set ddata Dangosyddion Mamolaeth fel a ganlyn:

  • mae data asesiad cychwynnol a genedigaethau’n cael eu cofnodi gan fyrddau iechyd ar eu systemau eu hunain
  • mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn echdynnu data o fyrddau iechyd, unwaith y mis
  • mae NWIS yn hysbysu byrddau iechyd bod data a gymerir ym mis Ebrill yn cael ei ddefnyddio mewn Ystadegau Swyddogol ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol, sy’n rhoi amser i fyrddau iechyd sicrhau bod eu data mor gyflawn â phosibl erbyn y dyddiad hwn
  • mae NWIS yn storio’r data mewn cronfeydd data dros dro cyn cyfuno’r ddwy set ddata
  • mae cofnodion yn cael eu cyfuno drwy ddefnyddio cyfuniad o Rif GIG y fam a dyddiad yr asesiad cychwynnol o’r ddwy set ddata dros dro
  • mae NWIS yn cynnal dilysiad ychwanegol o’r data yna’n anfon dyfyniad data dienw ym mis Mai

Mae cylch prosesu data tebyg yn bodoli ar gyfer y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol:

  • mae byrddau iechyd yn cofnodi data ar eu systemau iechyd plant eu hunain
  • mae NWIS yn cymryd data bob chwarter a’i storio yn eu cronfa ddata eu hunain
  • yna defnyddir proses grwpio gyda’r gronfa ddata gan ddefnyddio rhifau GIG anhysbys dilys fel y gellir adnabod cofnodion sy’n ymwneud â’r un plentyn
  • mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cael ei chreu o’r data hwn gyda’r nod o sicrhau bod cymaint o gofnodion â phosibl yn gyflawn
  • defnyddir y data a gymerwyd ym mis Ebrill ar gyfer genedigaethau a ddigwyddodd yn y flwyddyn galendr flaenorol ac mae fersiwn ddienw’n cael ei hanfon i Lywodraeth Cymru i’w defnyddio yn y datganiad ystadegol hwn

Ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn y data, mae’n cynnal amrywiaeth o wiriadau dilysu data, sy’n cynnwys:

  • nodi cofnodion dyblyg
  • gweld faint o fabanod a anwyd o bob beichiogrwydd
  • canfod data anghywir ar gyfer taldra a phwysau mamau ac ailgyfrif BMI
  • ail-godio gwerthoedd data annilys ar gyfer gwerth ‘heb ddatgan’
  • ail-godio meysydd a adawyd yn wag ar gyfer gwerth ‘heb ddatgan’
  • gwiriadau synnwyr safonol yn erbyn data blynyddol blaenorol
  • gwirio bod eitemau data ar gyfer rhai meysydd yn gyson rhwng cofnodion pan mae yna enedigaethau lluosog (h.y. efeilliaid neu dripledi)

Datgelu a chyfrinachedd

Mae’r data y mae Llywodraeth Cymru’n ei dderbyn ar gyfer y ddwy set ddata’n cynnwys cofnodion unigol ond anhysbys. Mae hyn yn golygu na ellir adnabod unrhyw unigolyn (mam na babi) yn y naill set ddata na’r llall. Mae NWIS yn cymryd sawl cam i ddiogelu gwybodaeth bersonol cyn ei rhannu, ac mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau rheoli datgelu cyn cyhoeddi data, sy’n cynnwys:

  • creu dulliau adnabod dienw i famau a babanod sy’n ddangosyddion unigryw, yn seiliedig ar rifau GIG, na ellir eu holrhain yn ôl i rif GIG gwirioneddol gan unrhyw un sy’n gweld dyfyniad data Llywodraeth Cymru
  • nid yw enwau a dyddiadau geni wedi’u cynnwys yn y naill set ddata na’r llall
  • mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ystadegau ar lefelau cyfanredol
  • mae unrhyw gyfrifiadau o dan 3 ar gyfer unrhyw eitem ddata benodol yn cael eu dileu cyn eu cyhoeddi

Mae data’n cael ei gyflwyno ar daenlenni Excel trwy Afon, system trosglwyddo data ddiogel ar y we Llywodraeth Cymru neu e-bost diogel. Mae data’n cael ei storio a’i ddadansoddi trwy ddefnyddio cronfeydd data Access.

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru’n cael eu cyhoeddi’n unol â’n datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar golofn dibynadwyedd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Gwybodaeth o ansawdd

Ansawdd data eitemau data penodol

Oed y ffetws adeg yr asesiad cychwynnol

Efallai fod rhai menywod wedi cael eu hasesiad cychwynnol cyn y dyddiad a gofnodir yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a hynny gan fod y fethodoleg gyfuno mewn perthynas â’r asesiad cychwynnol a’r cofnod geni yn seiliedig ar pryd mae'r rhain yn digwydd o fewn yr un bwrdd iechyd. Mae’n bosibl y gallai mam gael asesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd yn gynnar yn ei beichiogrwydd, ond os bydd yn rhoi genedigaeth wedyn mewn bwrdd iechyd arall am ryw reswm (er enghraifft, cymhlethdodau annisgwyl, neu efallai ei bod mewn ardal bwrdd iechyd gwahanol ar y pryd), caiff asesiad cychwynnol arall ei gofnodi ar ei chyfer yn yr ail fwrdd iechyd lle mae'n rhoi genedigaeth. Gallai hyn esbonio’r brig bach oddeutu 39 a 40 wythnos yn Siart 1.

Mae canran y menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol erbyn 10 wythnos wedi'i gwblhau o feichiogrwydd yn seiliedig ar bob cofnod llai o gofnodion gyda gwerth 'heb ei nodi' ar gyfer oed y ffetws adeg yr asesiad cychwynnol. Mae 'heb ei nodi' hefyd yn cynnwys cofnodion lle nodwyd bod oed y ffetws yn 0 wythnos. Nifer y cofnodion a dynnwyd o'r cyfrifiad am y rheswm hwn ym mhob blwyddyn yw: 1,703 yn 2016, 709 yn 2017, 652 yn 2018, 721 yn 2019, 722 yn 2020, 669 yn 2021, 821 yn 2022.

Cyflyrau iechyd meddwl a adroddwyd adeg yr asesiad cychwynnol

Nid yw'r ganran ar lefel Cymru ar gyfer menywod beichiog sy'n adrodd am gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol yn cynnwys data oddi wrth Betsi Cadwaladr a Chwm Taf/Cwm Taf Morgannwg oherwydd eu dibynadwyedd isel am y chwe blynedd. Er bod data dilys wedi’i gofnodi ar gyfer 99% o’r cofnodion yn y ddau fwrdd iechyd, cofnodwyd nad oedd gan y mwyafrif helaeth (mwy na 95%) unrhyw gyflwr iechyd meddwl; mae hyn yn annhebygol o adlewyrchu’r sefyllfa wirioneddol yn y byrddau iechyd hyn.

Mae gan bob bwrdd iechyd arall ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata iechyd meddwl mewn o leiaf 88% o gofnodion ym mhob blwyddyn, ar wahân i Gaerdydd a'r Fro yn 2016 (cyflawnrwydd o 56%).   

Mae'r canrannau ar gyfer nifer y menywod beichiog sy'n adrodd am gyflwr iechyd meddwl adeg yr asesiad cychwynnol yn seiliedig ar bob cofnod llai cofnodion sydd â gwerth 'heb ei nodi' ar gyfer cyflwr iechyd meddwl. Nifer y cofnodion a dynnwyd o'r cyfrifiad am y rheswm hwn ym mhob blwyddyn yw: 3,463 yn 2016, 1,244 yn 2017, 968 yn 2018, 687 yn 2019, 793 yn 2020, 515 yn 2021, 696 yn 2022.

BMI adeg yr asesiad cychwynnol

Mae'r ganran ar lefel Cymru ar gyfer menywod beichiog sydd â BMI o 30 neu fwy yn seiliedig ar bob cofnod llai cofnodion sydd â gwerth 'heb ei nodi' neu annilys.
Mae cofnodion lle mae BMI, uchder neu bwysau yn werthoedd afrealistig yn cael eu hystyried yn annilys, er enghraifft lle mae BMI yn llai na 10 neu'n fwy na 100; os yw pwysau'r fenyw feichiog yn llai na 30kg neu'n fwy na 250kg; a lle roedd uchder y fenyw feichiog yn llai na 120cm neu'n fwy na 200cm. Nifer y cofnodion sydd wedi'u heithrio am y rhesymau hyn ym mhob blwyddyn yw: 1,773 yn 2016, 1,078 yn 2017, 949 yn 2018, 1,159 yn 2019, 728 yn 2020, 684 yn 2021, 589 yn 2022. 

Nid yw'r cyfrifiad ond yn cynnwys menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol adeg 14 wythnos o feichiogrwydd neu'n gynharach. Diben hyn yw lleihau cymariaethau annheg lle mae'r cyfrifiad BMI yn cael ei effeithio gan dwf babanod lle digwyddodd yr asesiad cychwynnol ar ôl 15 wythnos. Mae rhwng 11 i 15% o achosion beichiogrwydd wedi cael eu hepgor am y rheswm hwn yn bob blwyddyn

Mae pob bwrdd iechyd wedi adrodd 90% neu fwy o ddata dilys ym mhob blwyddyn ar gyfer eitemau data uchder a phwysau. Roedd gan fwy na 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer eitemau data uchder a phwysau, ar draws pob bwrdd iechyd, yn y mwyafrif o flynyddoedd ar wahân i'r rhain. Yr eithriadau yw: Cwm Taf yn 2016 (77%) ac yn 2019 (88%); a Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%).

Pwysau sy'n cael eu hennill yn ystod beichiogrwydd

I gyfrifo faint o bwysau a enillwyd, mae angen cofnodi pwysau dilys ar gyfer pob mam adeg yr asesiad cychwynnol neu rhwng 36 i 38 wythnos neu adeg genedigaeth. Mae cyfran gymharol uchel o ddata ar goll ar gyfer pwysau mamau adeg genedigaeth sy'n cyfyngu ar ddibynadwyedd y data ennill pwysau. 

Yn 2021, ni wnaeth bwrdd iechyd Hywel Dda ddarparu unrhyw ddata ar gyfer pwysau mam adeg geni, ac roedd gan Fae Abertawe swm uwch nag arfer o ddata coll. O ganlyniad, nid yw data Cymru'n cynnwys y ddau fwrdd iechyd hyn. Y ganran o gofnodion sydd â data dilys ar gyfer y cyfrifiad hwn ar gyfer pob blwyddyn yw: 2021 (61%); 2020 (73%); 2019 (80%); 2018 (75%); 2017 (70%); 2016 (55%). O ganlyniad i lefel y data coll, cynghorir gofal wrth ddefnyddio'r ystadegyn hwn.  

Smygu adeg yr asesiad cychwynnol

Er bod canran uchel o ddata dilys ar gyfer statws smygu adeg yr asesiad cychwynnol, cyfyngir ystadegau ar smygu adeg yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth gan y ffordd y mae'r data'n cael ei gasglu. Os nad oes prawf CO ar gael, mae dibynadwyedd y data’n dibynnu ar y fam yn hunanadrodd gwybodaeth gywir. Mae monitro CO wedi dod i ben i raddau helaeth ers dechrau pandemig COVID-19, felly mae data ar gyfer 2020 a 2021 yn cael ei hunanadrodd yn bennaf.

Ni ddylid cofnodi'r defnydd o e-sigaréts yn yr eitem ddata hon ac ni fyddai'n cael ei ganfod gan fonitor CO; fodd bynnag, yn ymarferol gall rhai mamau hunanadrodd fel smygwr os ydynt yn defnyddio e-sigaréts a chael eu cofnodi'n anghywir fel smygwr. Yn yr un modd, gallai rhai mamau sy’n smygu hunanadrodd nad ydynt yn smygwyr a chael eu cofnodi'n anghywir fel rhywun nad yw'n smygu.

Mae canran y menywod beichiog a gofnodir fel smygwyr adeg yr asesiad cychwynnol yn seiliedig ar bob cofnod lle y cofnodir data dilys ar gyfer yr eitem ddata hon. Nifer y cofnodion heb unrhyw statws smygu datganedig adeg yr asesiad cychwynnol yn y flwyddyn oedd: 997 yn 2016, 1,037 yn 2017, 924 yn 2018, 549 yn 2019, 849 yn 2020, 615 yn 2021, 568 yn 2022.

Yn yr un modd, mae'r dadansoddiad yn ôl oedran yn gofyn am ddata dilys ar gyfer statws smygu adeg yr asesiad cychwynnol yn ogystal ag oedran. Nifer y cofnodion gyda'r naill neu'r llall o'r eitemau data hyn ar goll oedd: 997 yn 2016, 1,037 yn 2017, 924 yn 2018, 549 yn 2019, 849 yn 2020, 615 yn 2021, 568 yn 2022.

Ymhellach, mae'r dadansoddiad yn ôl grŵp ethnig yn gofyn am ddata dilys ar gyfer statws smygu adeg yr asesiad cychwynnol yn ogystal â grŵp ethnig. Nifer y cofnodion gyda'r naill neu'r llall o'r eitemau data hyn ar goll oedd: 13,020 yn 2016, 7,545 yn 2017, 6,138 yn 2018, 7,661 yn 2019, 7,726 yn 2020, 6,143 yn 2021, 6,297 yn 2022.

Mae monitro CO wedi dod i ben i raddau helaeth ers pandemig COVID-19 a allai effeithio ar gymaroldeb data a gasglwyd cyn ac ar ôl 2020. O'r rhai yr adroddwyd eu bod yn smygwyr, y ganran a gofnodwyd oherwydd monitro CO ym mhob blwyddyn oedd: 25% yn 2016, 28% yn 2017, 29% yn 2018, 31% yn 2019, 26% yn 2020, 1% yn 2021, 2% yn 2022. 

Smygu adeg yr enedigaeth

Mae ystadegau smygu adeg yr enedigaeth yn gyfyngedig am yr un rhesymau â smygu adeg yr asesiad cychwynnol; fodd bynnag, bu cynnydd hefyd yn y data coll ac annilys a gofnodwyd ar gyfer smygu adeg yr enedigaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nifer y cofnodion heb unrhyw statws smygu datganedig adeg yr enedigaeth ym mhob blwyddyn oedd: 888 yn 2016, 859 yn 2017, 519 yn 2018, 805 yn 2019, 3,717 yn 2020, 4,836 yn 2021, 5,148 yn 2022. 

Yn yr un modd, mae'r dadansoddiad yn ôl oedran yn gofyn am ddata dilys ar gyfer statws smygu adeg yr enedigaeth yn ogystal ag oedran. Nifer y cofnodion gyda'r naill neu'r llall o'r eitemau data hyn ar goll oedd: 888 yn 2016, 859 yn 2017, 519 yn 2018, 805 yn 2019, 3,717 yn 2020, 4,836 yn 2021, 5,148 yn 2022. 

Ymhellach, mae'r dadansoddiad yn ôl grŵp ethnig yn gofyn am ddata dilys ar gyfer statws smygu adeg yr enedigaeth yn ogystal â grŵp ethnig. Nifer y cofnodion gyda'r naill neu'r llall o'r eitemau data hyn ar goll oedd: 13,044 yn 2016, 7,595 yn 2017, 6,084 yn 2018, 7,942 yn 2019, 8,998 yn 2020, 8,379 yn 2021, 8,708 yn 2022.

Yn 2022, ni wnaeth Hywel Dda ddarparu unrhyw ddata am smygu adeg yr enedigaeth ac roedd gan Gwm Taf Morgannwg ganran anarferol o uchel o ddata coll.

Rhoi'r gorau i smygu yn ystod beichiogrwydd

Mae’r dadansoddiad hwn wedi’i seilio ar fenywod yr oedd ganddynt ddata dilys am smygu adeg yr asesiad cychwynnol a hefyd adeg yr enedigaeth Gan mai ar ddwy adeg yn unig y cofnodir statws smygu’r mamau, nid oes modd i’r data ddangos a fu’r mamau’n smygu drwy gydol eu beichiogrwydd, nac ychwaith pa mor aml y buont yn smygu. At ddibenion dadansoddi'r datganiad hwn, yn achos mamau y cofnodwyd eu bod yn smygwyr adeg yr asesiad cychwynnol ond y cofnodwyd nad oeddynt yn smygwyr adeg yr enedigaeth, cânt eu dosbarthu fel mamau a ‘roddodd y gorau i smygu’ yn ystod eu beichiogrwydd.

Yr enwadur ar gyfer cyfrifo'r ganran yw cyfanswm y cofnodion llai cofnodion gyda gwerth 'heb ei nodi' naill ai adeg yr asesiad cychwynnol, yr enedigaeth neu'r ddau. Mae nifer y cofnodion sydd â data coll wedi amrywio drwy gydol y gyfres amser ac wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nifer y cofnodion coll ym mhob blwyddyn oedd:   1,551 yn 2016, 1,622 yn 2017, 1,304 yn 2018,1,256 yn 2019 a 4,196 yn 2020, 5,089 yn 2021, 5,332 yn 2022.

Dechrau esgor

Cofnodwyd data yn set ddata'r Dangosyddion Mamolaeth ar gyfer pob bwrdd iechyd; fodd bynnag, ym myrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan, ni chofnodwyd dechrau esgor fel ‘toriad Cesaraidd’ pan ddigwyddodd genedigaeth toriad Cesaraidd dewisol yn holl flynyddoedd data. O ganlyniad i'r mater hwn o ran ansawdd data, mae'r byrddau iechyd hyn wedi'u heithrio rhag y dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn. Ar gyfer 2022, mae'r ystadegau a gyflwynwyd ar lefel Cymru yn seiliedig ar y 19,042 o enedigaethau a ddigwyddodd yn y pum bwrdd iechyd sy'n weddill.

Nifer y cofnodion a oedd â data coll ar gyfer eitem ddata dechrau esgor oedd: 33 yn 2016, 52 yn 2017, 136 yn 2018, 218 yn 2019, 242 yn 2020, 282 yn 2021, 639 yn 2022. 

Lleddfu poen

Mae canran y cofnodion sydd â data dilys ynghylch defnyddio epidwral yn gymysg ar draws byrddau iechyd a blynyddoedd, ac yn 2020 roedd gan 83% o’r cofnodion ddata dilys ar lefel Cymru gyfan. Roedd gan bedwar o'r saith bwrdd iechyd ddata dilys ar gyfer 99% neu fwy o’u cofnodion. Bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf o ddata dilys (35%).

Ar lefel Cymru, nifer y cofnodion gyda data coll ar gyfer lleddfu poen oedd: 4,605 yn 2016, 4,739 yn 2017, 4,407 yn 2018, 4,365 yn 2019, 4,602 yn 2020, 4,617 yn 2021, 5,077 yn 2022. 

Ansawdd data eang

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru’n cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd y System Ystadegol Ewropeaidd ar gyfer allbynnau ystadegol. Mae’r datganiad ystadegol hwn yn ceisio cyflawni’r egwyddorion ansawdd hyn yn y ffyrdd canlynol:

Egwyddor 11: Perthnasedd

Mae’r ystadegau’n rhoi trosolwg o wasanaethau mamolaeth a nodweddion genedigaethau yng Nghymru. Mae’r ystadegau’n cefnogi gweledigaeth famolaeth Llywodraeth Cymru: Gofal Mamolaeth yng Nghymru, Gweledigaeth 5 Mlynedd ar gyfer y Dyfodol (2019-2024).

Mae ystadegau’n cefnogi dadansoddiad o bynciau iechyd cyhoeddus allweddol hefyd fel bwydo ar y fron ac ysmygu a gordewdra mewn beichiogrwydd.

Mae gwybodaeth gefndir am ystadegau a ffynonellau yn cael ei chyhoeddi i ddefnyddwyr ac yn annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod sut maent yn defnyddio’r data.

Rydym yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol cyn gwneud newidiadau, a lle bo’n bosibl rydym yn cyhoeddi newidiadau ar y rhyngrwyd, mewn pwyllgorau a rhwydweithiau eraill i ymgynghori â defnyddwyr eraill yn fwy eang. Ein nod yw ymateb yn gyflym i newidiadau polisi i sicrhau bod ein hystadegau’n parhau i fod yn berthnasol. 

Egwyddor 12: Cywirdeb a Dibynadwyedd

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth newydd ei sefydlu, ac mae ansawdd y data’n gymysg. Mae Llywodraeth Cymru a NWIS yn gweithio gyda byrddau iechyd i wella cyflawnrwydd ac ansawdd. O gymharu â ffynonellau data genedigaethau a mamolaeth eraill, mae cyfrifiadau ac ystadegau allweddol cyffredinol yn cyd-fynd yn gymharol dda, o ystyried y cyfyngiadau sy’n deillio o’r broses gyfuno gymhleth.

Fodd bynnag, mae yna broblemau penodol gydag ychydig o’r eitemau data lle nad yw’r data a ddarparwyd yn cyd-fynd yn llwyr â manyleb y Cyfeiriadur Data a lle mae rhai byrddau iechyd yn cael anawsterau’n darparu’r data gofynnol. Dim ond detholiad o’r eitemau data sydd ar gael sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad ystadegol hwn ond wrth i ansawdd data wella rydym yn gobeithio ehangu ei gwmpas a’i ddyfnder.

Mae cyfanswm cofnodion bob blwyddyn yn cael eu cymharu yn Nhabl 1.

Mae Tabl 2 a Tabl 3 yn dangos pa mor gyflawn yw eitemau data unigol ar draws y ddwy ffynhonnell. Os oes gwerth eitem ddata sydd gyfwerth â ‘heb ei nodi’, ystyrir hyn yn ddata anghyflawn ym mhob un o flynyddoedd y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ond dim ond o 2021 ymlaen yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd gwerth ‘heb ei nodi’ yn cael ei ystyried yn ddilys. Ystyrir bod data coll neu wag yn anghyflawn ar gyfer pob blwyddyn yn y ddwy set ddata.

Nodwch fod data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth ond yn cynnwys data ar famau a babanod lle roedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth yn digwydd yn yr un bwrdd iechyd.

Mae data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys data ar blant a anwyd i drigolion Cymru ac ar blant a anwyd mewn ysbytai yng Nghymru i drigolion o’r tu allan i Gymru. Mae ystadegau yn y datganiad hwn wedi’u hidlo’n gyffredinol ar y plant a anwyd yng Nghymru i drigolion Cymru.

Gall siartiau a thablau’r ystadegau gynnwys categorïau ar gyfer data na ddatganwyd. Nid yw canrannau a gyfrifir yn cynnwys gwerthoedd na ddatganwyd gan yr enwadur oni nodir fel arall. Cyfeirir at y swm o ddata sydd ar goll ym mhob eitem ddata gydol y testun.

Mae set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfeydd data byw, sy’n golygu bod byrddau iechyd yn gallu diwygio data am unrhyw gyfnod. Ar gyfer yr ystadegau yn y datganiad hwn, mae NWIS yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt penodol mewn amser, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallai dyfyniadau data a gymerwyd ar gyfer cyfnodau amser blaenorol fod yn wahanol i’r data a gyhoeddwyd gan ei fod wedi’i ddiwygio gan fyrddau iechyd o bosibl. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai ei bod yn canfod camgymeriadau. Pe bai’n canfod camgymeriadau, bydd newidiadau’n cael eu gwneud a defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â pholisi Diwygiadau, Camgymeriadau a Gohiriadau Llywodraeth Cymru.

Nodwch fod data newydd o set ddata Dangosyddion Mamolaeth wedi’i gyhoeddi yn 2019 ar gyfer blynyddoedd calendr 2016, 2017 a 2018. Roedd cyhoeddiadau ystadegau mamolaeth blaenorol yn ystadegau arbrofol, yn seiliedig ar flynyddoedd ariannol. Roedd cyhoeddi ar sail blwyddyn galendr yn golygu bod gofyn i NWIS gynhyrchu dyfyniadau data Dangosyddion Mamolaeth newydd ar gyfer y cyfresi amser llawn, felly efallai y bydd data a thueddiadau a gyhoeddwyd mewn cyhoeddiadau blaenorol wedi newid.

Egwyddor 13: Amseroldeb a Phrydlondeb

Cyhoeddir data cyn gynted ag sy’n ymarferol.

Cymerodd y darparwr data (NWIS) ddyfyniadau data o’r ddwy set ddata yn Ebrill 2019, ar gyfer blwyddyn gyfeirio 2018. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o oddefiad ar gyfer byrddau iechyd yn cofnodi gwybodaeth mamolaeth a genedigaethau’n hwyr. Mae byrddau iechyd yn cael gwybod pryd fydd y data’n cael ei gymryd ac maent yn ceisio cadw gwybodaeth yn gywir ar yr adeg hon.

Mae data ar gyfer blwyddyn galendr 2018 yn cael ei gyhoeddi yn hydref 2019; mae hyn yn rhoi’r amser angenrheidiol i gynnal gwiriadau dilysu ar y ddwy set ddata cyn cyhoeddi.

Mae dyddiadau cyhoeddi’n cael eu datgan ddigon ymlaen llaw ac unrhyw oedi’n cael ei gyfathrebu drwy hysbysiadau ar ein gwefan. Mae unrhyw ddiwygiadau neu oedi’n dilyn y polisiau Diwygiadau, Camgymeriadau a Gohiriadau.

Egwyddor 14: Cydlyniant a Chymharedd

Mae data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at pryd y ganwyd y babi ar gyfer ystadegau genedigaeth ac asesiad cychwynnol. Efallai bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond byddent yn cael eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.

Darperir gwybodaeth am pam mae nifer y genedigaethau’n wahanol mewn ffynonellau gwahanol. Dylid cymharu genedigaethau rhwng gwahanol rannau o’r DU trwy ddefnyddio data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n cael ei gasglu ar sail gymharol.

Mae ystadegau mamolaeth ar gael ar gyfer gwledydd eraill y DU.

Yr Alban: Genedigaethau yn Ysbytai'r Alban

Gogledd Iwerddon: Ystadegau Geni

Lloegr: Ystadegau Mamolaeth y GIG

Egwyddor 15: Hygyrchedd

Mae’r ystadegau’n cael eu cyhoeddi mewn dull hygyrch, trefnus, wedi’i gyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9.30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae ffrwd RSS yn tynnu sylw defnyddwyr cofrestredig at y cyhoeddiad hwn. Mae’r datganiadau’n cael eu cyhoeddi ar yr Hyb Cyhoeddi Ystadegau Cenedlaethol yr un pryd.

Mae datganiadau ystadegol yn cael eu cyhoeddi ar Twitter a’r holl ddatganiadau ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Mae testun amgen ar gael ar gyfer pob siartiau fel y gellir eu darllen gyda darllenydd sgrin.

Mae data o NCCHD yn cael ei gyhoeddi ar StatsCymru a bydd data o MI ds yn cael ei ychwanegu maes o law. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i lawrlwytho a chysylltu data mewn fformat data agored.

Mae’r datganiad ystadegol yn 2019 yn cyfuno dau ddatganiad ystadegol blaenorol ar ystadegau mamolaeth a genedigaethau ac yn ceisio gwella eglurder data i ddefnyddwyr, gan ddarparu negeseuon cliriach am gryfderau a chyfyngiadau ffynonellau data ac yn rhoi’r holl ystadegau ar famolaeth a genedigaethau mewn un lle.

Rydym yn defnyddio Saesneg clir yn ein hallbynnau cymaint â phosibl ac mae’r cyfan ohonynt yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru.

Mae holl benawdau ein gwefan yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig yn dynodi ystadegau fel Ystadegau Gwladol yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 a chydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn Ystadegau Swyddogol, ond nid ydynt yn Ystadegau Gwladol gan nad ydynt wedi bod trwy’r broses fathodynnu. Mae’r holl ystadegau sy’n cael eu cynhyrchu o set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cael eu dosbarthu fel ystadegau arbrofol hefyd.

Lledaenu

O ystyried y cryfderau a’r cyfyngiadau a restrir uchod, mae data o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol o ansawdd digonol i gyfiawnhau eu cyhoeddi. Mae datganiad ystadegol eang yn cael ei gyhoeddi gyda chrynodebau a siartiau lefel uchel, a thablau data rhyngweithiol ar StatsCymru.

Gwerthuso

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw ystadegau bob amser. Os hoffech wneud sylwadau, anfonwch e-bost at ystadegau.iechyd@llyw.cymru.