Neidio i'r prif gynnwy

Diben y datganiad hwn yw cynnig trosolwg ystadegol o famolaeth a genedigaethau yng Nghymru gyda dadansoddiadau o nodweddion y fam. Defnyddir y data a’r dadansoddiadau i lywio datblygiad polisi mamolaeth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddir y ffynhonnell swyddogol ar gyfer nifer y genedigaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cyfrif faint o enedigaethau a gofrestrir. Fodd bynnag, mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau genedigaethau trwy ddefnyddio data sydd wedi tarddu o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), sy’n darparu ar gyfer dadansoddiad manylach na data’r SYG.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni’r plentyn â chofnod o asesiad cychwynnol y fam (pan fo modd). Ystadegau arbrofol yw’r holl ystadegau sy’n deillio o’r ffynhonnell hon. Yn achos yr ystadegau sy’n tarddu o’r set ddata hon ac a nodir yn y datganiad hwn, caiff cyflawnrwydd yr eitemau data ei nodi.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol, ac mae ystadegau sy’n seiliedig ar y ffynhonnell hon yn ystadegau swyddogol.

Prif bwyntiau

  • Cafodd o leiaf tri chwarter yr holl fenywod (76%) eu hasesiad cynenedigol cychwynnol cyn diwedd eu degfed wythnos o feichiogrwydd.
  • Dywedodd mwy na chwarter (27%) o famau fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol, gyda chanran uwch o famau iau yn adrodd am gyflwr iechyd meddwl na mamau hŷn.
  • Roedd mwy na chwarter (29%) o famau yn ordew (gyda BMI o 30 neu fwy) yn eu hasesiad cychwynnol ac roedd hyn yn amrywio'n fawr rhwng byrddau iechyd, gyda'r gyfradd yng Nghwm Taf Morgannwg yn fwy na dwbl y gyfradd ym Mhowys.
  • Cofnodwyd yn yr asesiad cychwynnol fod oddeutu un o bob chwech o famau (17%) yn smygwyr. Roedd y gyfradd yn llawer uwch mewn mamau iau lle roedd traean (33%) o fenywod o dan 20 oed yn ysmygu, a dim ond ychydig dros un o bob deg (12%) o fenywod dros 35 oed yn ysmygu.
  • Hefyd, cofnodwyd bod oddeutu un o bob chwech o famau (17%) yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth. O blith y mamau a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, cofnodwyd bod 18% ohonynt wedi rhoi’r gorau i smygu erbyn yr enedigaeth.
  • Dechreuodd hanner (50%) o esgorau yn naturiol, tra bod traean (34%) wedi cael eu cymell. Roedd y cyfraddau cymell yn uwch ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro.
  • Cyrhaeddodd mwy na 6 o bob 10 o enedigaethau (61%) yn naturiol, tra cyrhaeddodd bron i 3 o bob 10 o enedigaethau (29%) trwy doriad Cesaraidd. Roedd nifer ychydig yn uwch o doriadau Cesaraidd brys na thoriadau Cesaraidd dewisol ledled Cymru, gyda rhywfaint o amrywiad ar draws byrddau iechyd.
  • Mae’r duedd ar i lawr a welir yn ddiweddar (ers 2010) yn nifer y genedigaethau byw yng Nghymru yn parhau; mae nifer y genedigaethau byw wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010.
  • Arhosodd canran y genedigaethau ymhlith mamau iau (dan 20 oed) ar y lefel isaf a gofnodwyd erioed (4%) ac mae wedi gostwng bob blwyddyn ers 2004.
  • Digwyddodd 3% o enedigaethau yn y cartref, sef cynnydd bach ers y llynedd. Roedd canran y genedigaethau cartref uchaf ym Mhowys ac yn Hywel Dda.
  • Digwyddodd ychydig dros hanner (52%) y genedigaethau o fewn wythnos i’r dyddiad geni disgwyliedig, sef naill ai wythnos ynghynt neu wythnos yn hwyrach (gyda hyd y beichiogrwydd yn 39 i 40 wythnos); cyrhaeddodd 1 o bob 12 o enedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd yn 36 wythnos neu lai, a chyrhaeddodd 1 o bob 25 o enedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd yn 42 wythnos neu fwy.
  • Yn achos genedigaethau unig blant, roedd gan 6.1% bwysau geni isel (llai na 2.5kg) ac nid oedd llawer o wahaniaeth rhwng grwpiau ethnig.
  • Roedd tri o bob pump (59%) o fabanod a anwyd mewn genedigaethau lluosog (gefeilliaid a thripledi) yn pwyso llai na 2.5kg.
  • Ceir cysylltiad agos rhwng pwysau geni isel a hyd y beichiogrwydd; gostyngodd canran y babanod â phwysau geni isel wrth i hyd y beichiogrwydd gynyddu.
  • Roedd babanod pwysau geni isel yn fwy cyffredin i famau o dan 24 oed, neu famau 40 oed neu hŷn; ac roedd babanod sy’n cael eu geni ar gyfnod cynharach yn y feichiogrwydd yn fwy cyffredin i'r mamau ieuengaf a mamau 35 oed neu hŷn.
  • Nid yw canran y genedigaethau iach (sy’n bodloni’r deg maen prawf yn ôl diffiniad clinigol Llywodraeth Cymru) wedi newid ers y flwyddyn flaenorol.
  • Mae bwydo ar y fron ar ei uchaf erioed, ar bob pwynt lle cesglir data.
  • Roedd mwy na 6 o bob 10 mam yn bwriadu bwydo ar y fron (64%) ac yn bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth (63%). Roedd ychydig dros hanner y mamau yn bwydo ar y fron ar ôl 10 diwrnod (52%) ac ychydig dros draean ar ôl 6 wythnos (37%). Mae darlleniadau data isel yn effeithio ar niferoedd bwydo ar y fron yn 6 mis oed ond mae hefyd wedi gwella ac yn 2020, roedd 1 o bob 4 o famau yn bwydo llaeth o'r fron i'w babanod yn yr oedran hwn.
  • Gwelir cyfraddau uwch o fwydo ar y fron ymhlith mamau hŷn (30 oed a hŷn) o gymharu â mamau iau; a gwelir cyfraddau uwch o fwydo ar y fron ymhlith mamau a roddodd enedigaeth yn y cartref o gymharu â mamau a roddodd enedigaeth mewn ysbyty; ac roedd mamau am y tro cyntaf yn fwy tebygol o fwriadu bwydo ar y fron na mamau a oedd wedi rhoi genedigaeth o'r blaen.

Cyd-destun

Dengys Siart 1 nifer y genedigaethau yng Nghymru ar sail y prif ffynonellau data. Mae cwmpas a chyflawnrwydd data’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn dda iawn, gyda nifer y genedigaethau’n cyd-fynd yn agos ag ystadegau cofrestru yr SYG. Sefydlwyd y set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) yn 2016, ac mae nifer y genedigaethau’n wahanol i’r ddwy ffynhonnell arall, yn bennaf gan nad yw’n cynnwys achosion lle rhoddodd mamau sy’n byw yng Nghymru enedigaeth mewn ysbytai yn Lloegr.

Image
Mae nifer y genedigaethau wedi bod yn gostwng yn raddol ers cyrraedd brig yn 2010.

Sylwer: ar adeg cyhoeddi’r datganiad hwn, mae data diweddaraf yr SYG ynghylch genedigaethau yn tarddu o 2019, ond mae data ar gyfer 2020 i’w gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol.

Ceir data ynghylch nifer y cofnodion cynenedigol, nifer yr esgoriadau, nifer y genedigaethau byw, nifer y genedigaethau marw, a chyfanswm y genedigaethau fesul bwrdd iechyd, yn Nhabl 1; ceir data ynghylch genedigaethau gan famau a oedd yn byw yng Nghymru a mamau nad oeddynt yn byw yng Nghymru yn Nhabl 2; a cheir data ynghylch esgoriadau yn ôl unedau mamolaeth yn Nhabl 3.

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau: 2020 (MS Excel)

Gofal cynenedigol

Mae’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn cyfeirio at y 26,352 cofnod o asesiadau cychwynnol (neu achosion o feichiogrwydd) a gynhwysir yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2020.

Asesiadau cychwynnol yn ôl hyd y beichiogrwydd

Mae mynediad cynnar at wasanaethau mamolaeth yn cynyddu’r cyfle i hybu a gwella iechyd a llesiant menywod beichiog trwy eu cyfeirio’n gynnar at wasanaethau priodol a darparu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Y nod yw y dylai menywod beichiog gael eu hasesiad cychwynnol erbyn eu degfed wythnos gyflawn o feichiogrwydd.

Image
Gwelir cynnydd mawr yn y graff, sy'n dangos bod mwyafrif llethol yr asesiadau cychwynnol wedi'u cynnal pan oedd hyd y beichiogrwydd rhwng 6 a 12 wythnos gyflawn.

Yn 2020, yn achos menywod a oedd wedi cael ‘trefnu’ asesiad cychwynnol gyda’r gwasanaethau mamolaeth, llwyddodd 76% o’r menywod hyn i gael yr asesiad ar ddegfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, neu ynghynt. Pedwar pwynt canran yn uwch nag yn 2019.

Sylwer: efallai fod rhai menywod wedi cael eu hasesiad cychwynnol cyn y dyddiad a gofnodir yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a hynny gan fod y fethodoleg gyfuno mewn perthynas â’r asesiad cychwynnol a’r cofnod geni yn seiliedig ar pryd digwyddodd y rhain o fewn yr un bwrdd iechyd. Mae’n bosibl y byddai mam wedi cael asesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd yn gynnar yn ei beichiogrwydd; ond pe bai hi’n rhoi genedigaeth wedyn mewn bwrdd iechyd arall am ryw reswm (er enghraifft, cymhlethdodau annisgwyl, neu efallai ei bod mewn ardal bwrdd iechyd gwahanol ar y pryd), byddai asesiad cychwynnol arall yn cael ei gofnodi ar ei chyfer yn yr ail fwrdd iechyd lle rhoddodd enedigaeth. Efallai y gall hyn esbonio’r brig bach oddeutu 39 a 40 wythnos yn Siart 2.

Tabl 4: Canran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn degfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Image
Siart far yn dangos canran y menywod yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl oedran y fam (yn yr asesiad cychwynnol), yn 2020, a gafodd asesiad cychwynnol erbyn degfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd. Roedd y ganran hon yn llai ar gyfer mamau ifanc iawn a mamau hen iawn.

Roedd canran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol gyda’r gwasanaethau mamolaeth cyn degfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd yn amrywio’n ôl grwpiau oedran; o rywfaint dros hanner yn y grŵp oedran dan 16 oed (56%) i dri chwarter y mamau yn eu hugeiniau hwyr a’u tridegau cynnar (78% ar gyfer mamau 25 i 29 oed a 77% ar gyfer mamau 30 i 34 oed).

Rhwng 2019 a 2020, cynyddodd y gyfran ym mhob grŵp oedran. Sylwer: gan nad oes llawer o famau dan 16 oed a thros 45 oed i’w cael, efallai y ceir newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol. Wrth ystyried grwpiau oedran lle cafwyd mwy na 100 o enedigaethau, gwelir y cynnydd mwyaf yn y pwynt canran o fewn y grŵp oedran 40 i 44 oed (o 65% i 71%).

Tabl 4: Canran y menywod a gafodd asesiad cychwynnol erbyn degfed wythnos gyflawn eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Iechyd meddwl

Yn yr asesiad cychwynnol, gofynnir i famau lenwi holiadur lle gallant hunangofnodi unrhyw gyflyrau iechyd meddwl sydd ganddynt. Y cyflyrau a restrir yn yr holiadur yw:

  • seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol)
  • anhwylder affeithiol deubegynol/iselder manig
  • seicosis
  • iselder seicotig
  • sgitsoffrenia
  • arall
Image
Mae'r siart yn dangos cyfres amser mewn perthynas â chanran y menywod yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl y byrddau iechyd a ddarparai'r gwasanaeth, a gofnododd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Ni chynhwyswyd data ar gyfer byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf gan ei fod yn annibynadwy iawn ac yn annhebygol o fod yn gywir. Cynyddodd y ganran ar lefel Cymru rhwng 2016 a 2020.

Yn eu hasesiad cychwynnol, dywedodd mwy na chwarter (27%) y mamau fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl. Mae hyn 2 bwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac 8 pwynt canran yn uwch nag yn 2016 (y flwyddyn gyntaf lle ceir data cymaradwy).

Sylwer: er bod data dilys wedi’i gofnodi ar gyfer yr eitem hon mewn mwy na 90% o gofnodion, a hynny ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd ac yn ystod y mwyafrif o flynyddoedd, mae rhywfaint o broblemau i’w cael o ran ansawdd y data. Dim ond 56% o gofnodion Caerdydd a’r Fro oedd â data dilys yn 2016, ac 88% yn Hywel Dda rhwng 2016 a 2018 ac yn 2020. Ymddengys fod y data a gofnodwyd ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Chwm Taf Morgannwg wedi’i gofnodi ar sail wahanol i fyrddau iechyd eraill, a chaiff data gan y ddau fwrdd iechyd hyn ei hepgor o’r ffigurau cyfanswm ar gyfer Cymru.

Tabl 5: Canran y menywod a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Image
Ar gyfer y rhan fwyaf o'r grwpiau oedran, cynnydd bach yn unig a welir yng nghyfran y menywod a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl rhwng 2019 a 2020. Gwelir y newidiadau mwyaf yn y grwpiau dan 16 oed a thros 45 oed.

Roedd cyfran y menywod a ddywedodd yn eu hasesiad cyntaf fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn amrywio rhwng grwpiau oedran. Wrth ystyried grwpiau oedran lle cafwyd mwy na 100 o enedigaethau, mamau ifanc (16 i 24 oed) oedd â’r gyfradd uchaf a gofnodwyd o gyflyrau iechyd meddwl; a mamau rhwng 40 i 44 oed oedd â’r gyfradd isaf. Sylwer: gan nad oes llawer o famau dan 16 oed a thros 45 oed i’w cael, efallai y ceir newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol.

Yn achos y rhan fwyaf o grwpiau oedran, gwelir cynnydd bach yn nifer y menywod a gofnododd gyflwr iechyd meddwl rhwng 2019 a 2020, gyda’r cynnydd mwyaf mewn mamau 20 i 24 oed (cynnydd o 28% i 33%).

Tabl 5: Canran y menywod a ddywedodd fod ganddynt gyflwr iechyd meddwl yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Gordewdra

Yn yr asesiad cychwynnol, bydd y fam yn cael mesur ei thaldra, bydd yn cael ei phwyso, a bydd ei Mynegai Màs Corff (BMI) yn cael ei gyfrifo. Ystyrir bod rhywun a chanddo BMI o 30 neu fwy yn ordew, ac mae gordewdra’n cynyddu’r risg sy’n perthyn i nifer o gymhlethdodau iechyd.

Image
Ar lefel Cymru, gwelir cynnydd rhwng 2016 a 2020 yng nghanran y menywod â BMI o 30 neu fwy.

Roedd rhywfaint o llai na thraean (29%) o’r mamau â BMI o 30 neu fwy yn eu hasesiad cychwynnol. Mae’r ffigur hwn 1 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3 phwynt canran yn uwch nag yn 2016 (y flwyddyn gyntaf lle ceir data cymaradwy).

Sylwer: roedd data dilys i’w gael ar gyfer mwy na 90% o’r cofnodion mewn perthynas â thaldra a phwysau, a hynny ar draws yr holl fyrddau iechyd ac yn y rhan fwyaf o flynyddoedd. Yr eithriadau yw: Cwm Taf yn 2016 (77%) ac yn 2019 (88%); a Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%).

Caiff data BMI ei gyfrifo ar sail taldra a phwysau’r fam; fodd bynnag, nid yw’r dadansoddiad hwn yn cynnwys cofnodion lle’r oedd y pwysau dan 30kg ac yn fwy na 250kg a/neu lle’r oedd y taldra dan 120cm neu’n fwy na 200cm, oherwydd go brin fod mesuriadau oddi allan i’r trothwyon hyn wedi’u cofnodi’n gywir. Ymhellach, dim ond mamau a gafodd eu hasesiad cyntaf ar eu pedwaredd wythnos ar ddeg o feichiogrwydd, neu ynghynt, a gynhwysir yn y dadansoddiad hwn. Gwnaed hyn gan y byddai twf y babi’n effeithio ar bwysau mamau a gâi asesiadau cychwynnol yn ddiweddarach yn eu beichiogrwydd.

Tabl 6: Canran y menywod a oedd â BMI o 30+ yn yr asesiad cychwynnol, yn ôl Bwrdd Iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Image
Roedd mamau iau yn llai tebygol na mamau hŷn o fod â BMI o 30 neu fwy. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r grwpiau oedran, gwelir cynnydd yng nghyfran y menywod â BMI o 30 neu fwy rhwng 2019 a 2020.

Yn achos canran y mamau a chanddynt BMI o 30 neu fwy, ni welir rhyw lawer o amrywio rhwng y rhan fwyaf o’r grwpiau oedran; roedd gan bob grŵp oedran rhwng 20 i 44 oed gyfraddau rhwng 28% a 31%. Y mamau ieuengaf, 19 oed neu iau, oedd â’r ganran isaf o BMI 30+, ond y grŵp hwn oedd â’r cynnydd mwyaf mewn canrannau ers y flwyddyn flaenorol.

Ar y cyfan, gwahaniaethau bach iawn a welir yng nghanran y mamau â BMI o 30 neu fwy wrth gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a hynny ar draws pob grŵp oedran, ond gwelir tuedd ar i fyny yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran ers 2016.

Sylwer: gan nad oes llawer o famau dan 16 oed a thros 45 oed i’w cael, efallai y ceir newidiadau mawr o flwyddyn i flwyddyn oherwydd anwadalrwydd naturiol.

Image
Siart bar sy'n dangos cyfres amser o'r canran o fenywod a enillodd y pwysau a argymhellwyd rhwng eu hasesiad cychwynnol a'r enedigaeth. Roedd menywod â BMI iach ar ddechrau'r beichiogrwydd yn fwy tebygol o ennill y pwysau a argymhellwyd yn unig na menywod a oedd â BMI uwch ar ddechrau'r beichiogrwydd. Mae canran y menywod sydd wedi ennill y pwysau a argymhellwyd wedi cynyddu dros amser ar gyfer pob grwp BMI.

Mae canllawiau'r Sefydliad Meddygaeth (IOM) yn argymell cynnydd o rhwng 6.8 i 11.3 kg ar gyfer menywod dros eu pwysau (y rhai â BMI o 25 i 29.9).

Enillodd 32% o fenywod y pwysau a argymhellir rhwng yr asesiad cychwynnol a'r enedigaeth yn 2020. Roedd hyn 1 pwynt canran yn is na'r flwyddyn flaenorol ond 2 bwynt canran yn uwch nag yn 2016 (blwyddyn gyntaf roedd y data ar gael).

Roedd canran y menywod na enillodd fwy na'r pwysau a argymhellwyd yn ystod beichiogrwydd yn is ar gyfer menywod a oedd â BMI uchel ar ddechrau eu beichiogrwydd, na menywod mewn grwpiau BMI iach.

Smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth

Yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth gofynnir i fenywod hunangofnodi a ydynt yn smygwyr, neu rhoddir prawf carbon monocsid iddynt trwy ddefnyddio teclyn synhwyro.

Image
Siart linell yn dangos cyfres amser mewn perthynas â chanran y menywod a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol. Ar lefel Cymru, gwelir gostyngiad rhwng 2019 a 2020 yng nghanran y menywod a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol.

Yn 2020, cofnodwyd fod 17% o fenywod yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol. Mae’r ffigur hwn yr un fath â’r flwyddyn flaenorol a 2 bwynt canran yn is nag yn 2016 (y flwyddyn gyntaf lle ceir data cymaradwy).

Sylwer: roedd data dilys i’w gael ar gyfer mwy na 90% o’r cofnodion mewn perthynas â statws smygu yn yr asesiad cychwynnol, a hynny ar draws yr holl fyrddau iechyd ac ym mhob blwyddyn. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau’n perthyn i ystadegau’n ymwneud â smygu yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, a hynny oherwydd y ffordd y cesglir y data. Os nad oes prawf CO ar gael, mae dibynadwyedd y data’n dibynnu ar y fam yn hunanadrodd gwybodaeth gywir. Ni ddylid cofnodi defnydd o E-sigaréts yn yr eitem ddata hon ac ni fyddai prawf CO yn canfod defnydd o’r fath; fodd bynnag, mewn gwirionedd efallai y bydd rhai mamau’n hunangofnodi eu bod yn smygwyr os ydynt yn defnyddio e-sigaréts, ac efallai y cofnodir ar gam eu bod yn smygwyr. Yn yr un modd, efallai y bydd rhai mamau sy’n smygu yn hunangofnodi nad ydynt yn smygwyr, ac efallai y cofnodir ar gam nad ydynt yn smygwyr.

Tabl 7: Canran y menywod y cofnodwyd eu bod yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Image
Yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, gwelir cynnydd rhwng 2019 a 2020 yng nghanran y menywod a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol.

Roedd cyfran y menywod a oedd yn smygwyr yn eu hasesiad cychwynnol yn uwch ar gyfer menywod ifanc. Cofnodwyd bod un o bob tri (34%) o fenywod 16 i 19 oed yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol o gymharu ag oddeutu un o bob chwech (17%) o fenywod 25 i 29 oed, ac un o bob deg (11%) o fenywod 40-44 oed.

Ar sail y data, gwelir bod cyfraddau smygu yn yr asesiad cychwynnol wedi gostwng yn ystod y 5 mlynedd diwethaf yn y rhan fwyaf o’r grwpiau oedran. Wrth ystyried grwpiau oedran lle cafwyd mwy na 100 o enedigaethau, gwelir y newid amlycaf mewn mamau 16 i 19 oed, lle gostyngodd canran y mamau a oedd yn smygu o 38% yn 2016 i 34% yn 2020. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd blynyddol o 2 bwynt canran yn y grŵp oedran hwn.

Image
Ar lefel Cymru, gwelir cynnydd bach iawn rhwng 2019  2020 yng nghanran y menywod a oedd yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth.

Yng Nghymru, cofnodwyd yn 2020 bod oddeutu un o bob chwech o famau (17%) yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth. Mae’r ffigur hwn 1 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol, ond mae’r un fath â’r ffigur ar gyfer 2016 (y flwyddyn gyntaf lle ceir data cymaradwy).

Sylwer, er bod gan fwy na 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer statws ysmygu adeg geni, ar draws bron pob bwrdd iechyd, ar gyfer bron bob blwyddyn cyn 2020, mae canran fawr o ddata coll yn 2020. Mae hyn yn effeithio'n bennaf ar fwrdd iechyd Hywel Dda lle mai dim ond 30% o gofnodion sydd â data dilys, ond mae gan fyrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg (70%) a Phowys (76%) hefyd ganran cyflawnrwydd is na'r arfer.

Tabl 7: Canran y menywod y cofnodwyd eu bod yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol ac ar adeg yr enedigaeth, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Image
Yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, gwelir cynnydd rhwng 2019 a 2020 yng nghanran y menywod a oedd yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth.

Roedd cyfran y menywod a oedd yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth yn uwch o lawer ymhlith mamau ifanc na mamau hŷn. Roedd rhywfaint yn fwy nag un o bob tri (35%) o famau 16 i 19 oed yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth o gymharu â rhywfaint yn fwy nag un o bob chwech (18%) o fenywod 25 i 29 oed a rhywfaint yn fwy nag un o bob deg (11%) o fenywod 35 i 39 oed.

O blith y grwpiau oedran lle cafwyd mwy na 100 o enedigaethau, arhosodd cyfran y menywod a oedd yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth yn weddol sefydlog yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran dros y pum mlynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, cafwyd rhai newidiadau blynyddol cymharol fawr mewn rhai grwpiau oedran, gyda chanran yr ysmygwyr 16 i 19 oed a 40 i 44 oed yn cynyddu bum pwynt canran o gymharu â'r llynedd.

Image
Siart linell yn dangos cyfres amser mewn perthynas â chanran y menywod a roddodd y gorau i smygu yn ystod eu beichiogrwydd, ar gyfer Cymru, ym mhob blwyddyn rhwng 2016  2020.

Mae’r dadansoddiad hwn wedi’i seilio ar fenywod a chanddynt ddata smygu dilys yn yr asesiad cychwynnol a hefyd ar adeg yr enedigaeth. Rhwng 2016 a 2019, roedd mwy na 94% o gofnodion gyda data dilys, ond 84% o gofnodion oedd â data dilys yn 2020, yn bennaf o ganlyniad i golli data ar gyfer ysmygu adeg geni yn Hywel Dda, Cwm Taf Morgannwg a Phowys.

Yn 2020, yn achos menywod a oedd yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol, nid oedd 18% ohonynt yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth. Nid yw hyn wedi amrywio llawer dros y gyfres amser ac mae'r un ganran â'r llynedd ac yn 2016 (blwyddyn gyntaf data cymaradwy).

Gan mai ar ddwy adeg yn unig y cofnodir statws smygu’r mamau, nid oes modd i’r data ddangos a fu’r mamau’n smygu drwy gydol eu beichiogrwydd, nac ychwaith pa mor aml y buont yn smygu. At ddibenion y dadansoddiad, yn achos mamau y cofnodwyd eu bod yn smygwyr yn yr asesiad cychwynnol ond y cofnodwyd nad oeddynt yn smygwyr ar adeg yr enedigaeth, cânt eu dosbarthu fel mamau a ‘roddodd y gorau i smygu’ yn ystod eu beichiogrwydd.

Tabl 8: Canran y menywod a ‘roddodd y gorau i smygu’ yn ystod eu beichiogrwydd, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasnaeth, 2016 i 2020 (MS Excel)

Nodweddion esgor

Mae’r data yn yr adran hon yn cyfeirio at y 27,321 o esgoriadau a gofnodwyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ac a ddigwyddodd yn 2020.

Dechrau esgor

Dyma’r broses pan fydd yr esgor yn dechrau, ac mae’n cynnwys dulliau a ddefnyddir i gymell esgor, fel dulliau llawfeddygol neu feddygol, neu gyfuniad o’r ddau. Ni chynhwysir dulliau a ddefnyddir i gyflymu esgor.

Cofnodwyd data yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gyfer pob bwrdd iechyd; fodd bynnag, ar gyfer yr holl flynyddoedd data ni chafodd dechrau esgor ei gofnodi fel ‘toriad Cesaraidd’ ym myrddau iechyd Hywel Dda ac Aneurin Bevan pan gafwyd genedigaeth trwy doriad Cesaraidd dewisol. O ganlyniad i’r broblem hon gydag ansawdd y data, mae’r byrddau iechyd hyn wedi’u hepgor o’r dadansoddiad ar gyfer pob blwyddyn. Ar gyfer 2020, mae'r ystadegau a gyflwynir ar lefel Cymru yn seiliedig ar y 19,114 o esgoriadau yn y pum bwrdd iechyd sy'n weddill.

Image
Mae dechrau esgor yn naturiol wedi gostwng dros y 5 mlynedd y ceir data yn eu cylch, ond mae dechrau esgor trwy gymell wedi cynyddu'n raddol. Mae dechrau esgor trwy doriad Cesaraidd wedi aros yn weddol gyson.

Yn 2020, dechreuodd 9,371 (50%) o esgorau yn naturiol. Mae’r ffigur hwn 1 pwynt canran yn is na’r flwyddyn flaenorol a 4 pwynt canran yn is nag yn 2016. Dechreuodd 3,084 (16%) o esgorau gyda thoriad Cesaraidd. Mae’r ffigur hwn yr un fath â’r flwyddyn flaenorol ac 1 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Dechreuodd 6,417 (34%) o esgorau trwy gymell yr enedigaeth. Mae’r ffigur hwn 1 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3 phwynt canran yn uwch nag yn 2016.

Tabl 25: Dull dechrau esgor yn ôl grwp oedran y fam, 2020 (MS Excel)

Tabl 9: Dull dechrau esgor yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2020 (MS Excel)

Lleddfu poen

Dull lleddfu poen a ddefnyddir ar gyfer mamau sy’n esgor yw epidwral. Mae’n golygu rhoi pigiad anesthetig lleol yn y llecyn y tu allan i dura mater madruddyn y cefn yn rhan isaf y cefn er mwyn arwain at golli teimlad yn enwedig yn yr abdomen a’r pelfis.

Image
Siart linell yn dangos cyfres amser mewn perthynas â chanran y menywod a gafodd epidwral i leddfu poen cyn neu yn ystod yr esgoriad. Mae'r gyfradd wedi aros yn gymharol gyson dros amser, gan gynyddu rhywfaint yn 2020.

Yn 2020, rhoddwyd epidwral yn achos oddeutu chwarter (24%) yr esgoriadau. Mae’r ffigur hwn 2 bwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac 1 pwynt canran yn uwch nag yn 2016.

Sylwer: mae canran y cofnodion a chanddynt ddata dilys ynghylch defnyddio epidwral yn gymysg ar draws byrddau iechyd a blynyddoedd, ac yn 2020 roedd gan 83% o’r cofnodion ddata dilys ar lefel Cymru gyfan. Roedd gan bedwar bwrdd iechyd o blith y saith ddata dilys ar gyfer 99% neu fwy o’u cofnodion. Bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd â’r ganran isaf o ddata dilys (35%).

Tabl 10: Epidwral, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2020 (MS Excel)

Dull geni

Cofnodir tri dull geni yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth, a chânt eu diffinio fel a ganlyn:

  • esgor trwy doriad Cesaraidd: esgor trwy doriad Cesaraidd dewisol a brys
  • esgor gydag offer: esgor seffalig gyda gefeiliau ac esgor gydag offer ventouse (teclyn sugno siâp cwpan)
  • esgor naturiol trwy’r wain: caiff y babi ei eni’n naturiol gan y fam
Image
Siart far yn dangos canran y genedigaethau (byw a marw) yn ôl y dull geni ar gyfer Cymru rhwng 2016 a 2020. Newidiadau bach yn unig a welir dros y blynyddoedd ar gyfer pob dull geni.

Yn 2020, roedd y rhan fwyaf o’r genedigaethau (61%) yn enedigaethau naturiol (heb gymorth), a defnyddiwyd toriad Cesaraidd yn un o bob tri (29%) o’r genedigaethau.

Achosion brys oedd mwyafrif bychan y genedigaethau lle defnyddiwyd toriad Cesaraidd, a digwyddodd hyn yn achos 15% o’r holl enedigaethau.

Er mai ychydig o newid a welir yng nghanrannau’r dulliau geni gwahanol, dros y cyfnod pum mlynedd gwelir rhywfaint o duedd sy’n dangos cynnydd mewn toriadau Cesaraidd a gostyngiad mewn genedigaethau naturiol.

Sylwer: mae data dilys wedi’i gofnodi ar gyfer dull geni o leiaf 99% o enedigaethau, ar draws pob bwrdd iechyd a phob blwyddyn.

Tabl 11: Dull geni, yn ôl y bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2020 (MS Excel)

Canlyniadau a nodweddion y genedigaethau

Mae’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn canolbwyntio ar y 28,781 o enedigaethau byw a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Dadansoddir genedigaethau yn hytrach nag esgoriadau, oherwydd gellir esgor ar efeilliaid neu dripledi mewn gwahanol ffyrdd.

Nifer y babanon adeg yr esgor

Gellir cofnodi genedigaethau fel unig blant (pan gaiff un babi ei eni), genedigaethau lluosog (pan gaiff gefeilliaid, tripledi neu fwy o fabanod eu geni), a genedigaethau marw.

Tabl 1: Genedigaethau byw, genedigaethau marw a nifer y babanod fesul esgoriad, 2016 i 2020
Blwyddyn Genedigaethau byw: unig blant Genedigaethau byw: genedigaethau lluosog Genedigaethau byw: cyfanswm Genedigaethau marw Cyfanswm yr holl enedigaethau
2011 34,723 959 35,682 161 35,843
2012 34,276 1,074 35,350 168 35,518
2013 32,823 999 33,822 151 33,973
2014 32,646 1,002 33,648 173 33,821
2015 32,318 1,043 33,361 155 33,516
2016 32,001 1,003 33,004 163 33,167
2017 31,422 814 32,236 151 32,387
2018 30,453 876 31,329 141 31,470
2019 29,004 724 29,728 126 29,854
2020 28,163 618 28,781 103 28,884

Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol

O blith y 28,884 o enedigaethau a gofnodwyd yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yng Nghymru yn 2020, roedd mwy na 99% (28,781) yn enedigaethau byw. O blith y rhain, roedd 2% (618) yn enedigaethau lluosog.

Sylwer: cofnodwyd data dilys ar gyfer canlyniadau genedigaethau yn achos pob genedigaeth fwy neu lai, ar draws pob bwrdd iechyd a phob blwyddyn.

Tabl 12: Genedigaethau byw, genedigaethau marw a nifer y babanod yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2020 (MS Excel)

Geni yn y cartref

Mae byrddau iechyd Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fenywod, yn cynnwys rhoi genedigaeth yn y cartref.

Image
Siart linell sy'n dangos bod cyfran y genedigaethau byw a anwyd yn y cartref wedi bod ar gynnydd unwaith eto mewn blynyddoedd diweddar yn dilyn cyfnod lle gwelwyd gostyngiad yn yr arfer ers canol i ddiwedd y 2000au.

Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae mwyafrif llethol y genedigaethau yng Nghymru wedi digwydd yn yr ysbyty. Cofnodwyd y gyfradd uchaf erioed o enedigaethau cartref yn 2009 (3.7%); ers hynny gwelwyd tuedd ar i lawr, hyd nes y cafwyd cynnydd yn y ddwy flynedd ddiweddaraf. Yn 2020 digwyddodd 3.3% o enedigaethau byw yn y cartref, a digwyddodd 0.2% o enedigaethau mewn lleoliadau eraill ac eithrio yn yr ysbyty neu’r cartref.

Tabl 13: Genedigaethau yn ôl awdurdod lleol a man geni, 2020 (MS Excel)

Hyd y beichiogrwydd

Efallai y bydd babanod a gaiff eu geni’n gynnar (babanod cynamserol) yn wynebu risg o ddioddef problemau iechyd yn syth ar ôl eu geni neu yn yr hirdymor.

Image
Digwyddodd hanner y genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd o fewn wythnos i'r dyddiad geni disgwyliedig.

Digwyddodd ychydig dros hanner (52%) y genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 39 neu 40 wythnos (wythnos ynghynt neu wythnos yn hwyrach na’r dyddiad geni disgwyliedig); digwyddodd 8% o’r genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 36 wythnos neu lai (cynamserol); a digwyddodd 4% o’r genedigaethau pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 42 wythnos neu fwy.

Image
Siart yn dangos canran y genedigaethau byw a anwyd yn gynnar (llai na 37 wythnos) neu'n hwyr (mwy na 42 wythnos) rhwng 2001 a 2020. Gwelir rhywfaint o gynnydd yn y ddau mewn blynyddoedd diweddar.

Mae cyfran y genedigaethau byw cynnar (36 wythnos gyflawn o feichiogrwydd neu lai) yn amrywio oddeutu 7% i 8% dros y gyfres amser, a gwelir rhywfaint o duedd ar i fyny yn ystod y deg mlynedd diwethaf. I’r gwrthwyneb, mae cyfran y genedigaethau byw ar 42 wythnos neu fwy wedi dangos rhywfaint o duedd ar i lawr yn ystod y deg mlynedd diwethaf, ond mae wedi sefydlogi mewn blynyddoedd diweddar.

Tabl 14: Genedigaethau byw yn ôl hyd y beichiogrwydd, yn ôl y Bwrdd Iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Pwysau geni

Caiff pwysau geni isel (llai na 2.5kg) ei gysylltu â risgiau iechyd ym mlwyddyn gyntaf y plentyn.

Mae canran unig blant a anwyd yn fyw a chanddynt bwysau geni sy’n llai na 2.5kg yn un o’r 46 dangosydd cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd ar sail nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn aml, caiff pwysau geni isel ei gysylltu â hyd beichiogrwydd byr (pan gaiff y babi ei eni cyn 37 wythnos o feichiogrwydd).

Image
Siart linell sy'n dangos bod cyfran yr holl enedigaethau byw (yn cynnwys unig blant a genedigaethau lluosog) a anwyd â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog dros yr hirdymor, gan amrywio oddeutu 7%. Mae cyfran yr unig blant a gaiff eu geni'n fyw wedi bod ar gynnydd mewn blynyddoedd diweddar.

Mae canran yr holl enedigaethau byw â phwysau geni isel wedi aros yn weddol sefydlog dros yr hirdymor, gyda’r gyfradd ar gyfer yr holl enedigaethau byw yn amrywio oddeutu 7%. Yn achos unig blant a anwyd yn fyw, mae’r gyfradd yn amrywio oddeutu 5.5% dros y gyfres amser, a gwelir rhywfaint o duedd ar i fyny mewn blynyddoedd diweddar.

Yn 2020, roedd 7.2% o’r holl fabanod a anwyd â phwysau geni isel. Mae’r ffigur hwn 0.1 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn flaenorol ond 0.4 pwynt canran yn uwch na ddeg mlynedd yn ôl.

Yn 2020, roedd 6.1% o’r unig blant a anwyd â phwysau geni isel. Mae’r ffigur hwn 0.1 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol a 0.7 pwynt canran yn uwch na ddeg mlynedd yn ôl.

Tabl 15: Genedigaethau byw yn ôl pwysau geni, yn ôl Bwrdd Iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2020 (MS Excel)

Mae Siartiau 21 a 22 yn dangos dosbarthiad pwysau geni unig blant a genedigaethau lluosog yn 2020.

Image
Histogram o bwysau geni unig blant lle dangosir mynychder pob categori pwysau geni yn 2020.
Image
Histogram o bwysau geni genedigaethau lluosog lle dangosir mynychder pob categori pwysau geni yn 2020.

Roedd dau draean (67%) yr unig blant a anwyd â phwysau geni rhwng 3kg a 4kg. Roedd ganddynt bwysau geni canolrifol o 3.42kg a phwysau geni cymedrig o 3.38kg.

Roedd dau draean (66%) y genedigaethau lluosog â phwysau geni rhwng 2kg a 3kg. Roedd ganddynt bwysau geni canolrifol o 2.40kg a phwysau geni cymedrig o 2.28kg.

Hyd y beichiogrwydd a phwysau geni

Image
Yn achos genedigaethau a gaiff eu geni pan fo hyd y beichiogrwydd yn fyrrach, mae ganddynt gyfran uwch o enedigaethau lle mae'r pwysau geni'n is.

Mae Siart 23 yn dangos sut y mae pwysau geni yn gysylltiedig â hyd y beichiogrwydd.

Yn 2020, yn achos 92% o’r genedigaethau (neu 322 o fabanod) a anwyd pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 32 wythnos a 53% o’r genedigaethau (neu 987 o fabanod) a anwyd pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 32 i 36 wythnos, roedd ganddynt bwysau geni isel (llai na 2.5kg).

Yn achos mwyafrif llethol (85%) y babanod a anwyd o fewn pythefnos i’r dyddiad geni disgwyliedig, sef naill ai pythefnos ynghynt neu bythefnos yn hwyrach (37 i 41), roedd ganddynt bwysau geni iach (2.5kg i 4kg).

Yn achos babanod a anwyd pan oedd hyd y beichiogrwydd wedi cyrraedd 42 neu fwy, roedd llai nag 1% (neu 4 o fabanod) â phwysau geni isel, ond roedd mwy na’u chwarter (27% neu 278 o fabanod) yn pwyso mwy na 4kg.

Tabl 16: Genedigaethau byw yn ôl pwysau geni a hyd y beichiogrwydd, 2020 (MS Excel)

Genedigaethau ac ethnigrwydd

Tabl 2: Pwysau geni yn ôl ethnigrwydd, 2020 (a)
  Gwyn Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Genedigaethau byw  18,770  2,204
Canran y genedigaethau byw 89.5% 10.5%
Unig blant a anwyd yn fyw  18,374  2,174
Pwysau geni unig blant    
Dan 2.5kg (%) 6.1% 6.2%
Rhwng 2.5kg a 4kg (%) 81.4% 86.3%
Dros 4kg (%) 12.5% 7.5%
Pwysau geni cymedrig unig blant (kg) 3.39 3.30
Pwysau geni canolrifol unig blant (kg) 3.43 3.35

Ffynhonnell: Y Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth

(a) Cofnodwyd statws ethnigrwydd ar gyfer 20,974 o enedigaethau allan o 28,697 o enedigaethau lle cofnodwyd y pwysau geni (73%).

O blith y 20,974 o enedigaethau y cofnodwyd eu statws ethnigrwydd yn 2020, roedd 10.5% o gefndir lleiafrif ethnig.

Nid oedd llawer o wahaniaeth yng nghanran y babanod â pwysau geni isel rhwng grwpiau ethnig, gyda 6.2% o unig fabanod o gefndir ethnig lleiafrifol â pwysau geni isel o gymharu â 6.1% o unig fabanod o gefndir ethnig gwyn.

Y pwysau geni canolrifol ar gyfer unig fabanod o gefndir lleiafrif ethnig oedd 3.35kg o gymharu â 3.43kg ar gyfer babanod o gefndir ethnig gwyn.

Sylwer: mae’r eitem ddata ethnigrwydd yn llawer llai cyflawn na mwyafrif yr eitemau data eraill yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol, ac mae hyn yn cyfyngu ar y modd y gellir defnyddio’r data. Yn 2020, cofnodwyd grŵp ethnig dilys ar gyfer 20,974 o enedigaethau o blith 28,697 (73%).

Tabl 24: Genedigaethau byw yn ôl ethnigrwydd a phwysau geni, 2018 i 2020 (MS Excel)

Genedigaethau a phwysau geni yn ôl oedran y fam

Cyhoeddir data ynghylch beichiogi yn yr arddegau gan yr SYG.

Image
Siart linell sy'n dangos bod canran y genedigaethau byw ymhlith mamau ifanc wedi gostwng bob blwyddyn ers 2004, tra mae canran y genedigaethau byw ymhlith mamau hŷn wedi cynyddu rhywfaint dros y tymor hwy.

Mae canran y genedigaethau byw ymhlith mamau dan 20 oed wedi gostwng bob blwyddyn ers 2004, tra mae canran y genedigaethau byw ymhlith mamau hŷn wedi cynyddu rhywfaint dros yr un cyfnod.

Roedd 4% o’r holl enedigaethau byw yn 2020 ymhlith mamau dan 20 oed; dyma’r nifer isaf i’w gofnodi erioed. Roedd 3% o’r holl enedigaethau byw yn 2020 ymhlith mamau 40 oed a hŷn.

Ganwyd mwyafrif llethol y genedigaethau byw yn 2020 i fenywod 20 i 39 oed (93% yn 2020).

Image
Gwelir bod mwy o famau hŷn wedi geni eu babanod yn gynnar a'u bod wedi cael babanod â phwysau geni isel.

Mae cyfran y genedigaethau byw â phwysau geni isel (llai na 2.5kg) ar ei uchaf ymhlith mamau dan 24 oed, neu famau 40 oed a hŷn.

Mae cyfran y babanod a gaiff eu geni cyn i’r beichiogrwydd gyrraedd 37 wythnos ar ei uchaf ymhlith y mamau ieuengaf a’r mamau 35 oed a hŷn.

Sylwer: gall y data yma fod yn anwadal o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer mamau dan 16 oed a mamau 45 oed neu hŷn gan fod cyn lleied o enedigaethau byw ymhlith mamau o’r oedrannau hyn.

Tabl 27: Genedigaethau byw yn ôl grwp oedran y fam, Cymru, 2011 i 2020 (MS Excel)

Sgôr APGAR

Mae APGAR (Appearance, Pulse, Grimace, Activity, and Respiration) yn brawf cyflym a gynhelir ar y baban ar ôl munud, ac yna ar ôl pum munud, wedi iddo gael ei eni. Bydd y sgôr ar ôl munud yn arwydd o sut gwnaeth y babi oddef y broses eni. Bydd y sgôr ar ôl pum munud yn rhoi gwybod i’r meddyg sut mae’r babi’n dod yn ei flaen y tu allan i groth y fam. Bydd sgôr o 7 neu fwy yn arwydd bod y babi newydd-anedig mewn iechyd da.

Image
Siart golofn yn dangos bod babanod, yn y rhan fwyaf o enedigaethau, â sgôr APGAR uchel (9 neu fwy) 5 munud ar ôl eu geni.

Yn 2020, roedd mwyafrif llethol y babanod (98%) â sgôr APGAR o 7 neu fwy ar ôl pum munud.

Tabl 17: Canran o enedigaethau byw gyda sgôr APGAR o 7 neu fwy ar ôl 5 munud, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth ac oedran y fam, 2016 i 2020 (MS Excel)

Genedigaethau iach

Mae ‘canran y genedigaethau yr ystyrir eu bod yn enedigaethau iach’ yn un o Ddangosyddion Mamolaeth Llywodraeth Cymru. Dim ond cofnodion cyflawn a gaiff eu cynnwys yn y dadansoddiad genedigaethau iach. O’r herwydd, er mwyn i’r cofnodion gael eu cynnwys yn yr enwadur, rhaid i bob cofnod fod â gwybodaeth ddilys ar gyfer yr holl feysydd sy’n gysylltiedig â’r meini prawf isod.

Bydd unrhyw un o’r meini prawf canlynol yn golygu na ellir ystyried yr enedigaeth yn enedigaeth ‘iach’:

  • dechrau esgor ac eithrio trwy esgor yn naturiol
  • ysgogi’r groth wrth esgor
  • toriad Cesaraidd, defnyddio gefeiliau neu offer ventouse
  • hyd beichiogrwydd sy’n fyrrach na 37 wythnos
  • genedigaeth farw
  • epidwral wrth esgor
  • episiotomi neu drawma gradd 3 neu 4 i’r perinëwm
  • pwysau geni sy’n llai na 2.5kg neu’n fwy na 4.0kg
  • colli mwy na 500ml o waed
  • sgôr APGAR sy’n llai na 7 ar ôl pum munud

Mae’r data a gyflwynir yn tarddu o’r 27,691 o enedigaethau a gofnodwyd yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn 2020. O'r rhain, roedd gan 19,573 o enedigaethau ddata dilys ar gyfer pob eitem data cydrannol yn y cyfrifiad genedigaethau iach.

Image
Siart linell yn dangos cyfres amser mewn perthynas â chanran y genedigaethau byw yr ystyrir eu bod yn enedigaethau iach. Mae'r gyfradd wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2018.

Yn 2020, cafodd 23% o enedigaethau eu dosbarthu’n ‘enedigaethau iach’ trwy ddefnyddio diffiniad Llywodraeth Cymru.

Mae’r ffigur hwn yr un fath â’r flwyddyn flaenorol ac 1 pwynt canran yn is nag yn 2016.

Sylwer: mae canran y cofnodion a chanddynt ddata dilys ar gyfer yr holl eitemau data ac a ddefnyddir i gyfrifo’r ystadegyn ‘genedigaeth iach’, yn amrywiol ac yn cyfyngu ar y defnydd o’r ystadegyn hwn. Ar lefel Cymru gyfan, gwelir y ganran uchaf mewn perthynas â chyflawnrwydd data yn 2018, gyda 77% o’r cofnodion wedi’u cynnwys; gwelir y lefel isaf yn 2020, gyda chyflawnrwydd data o 71%. Mae cyflawnrwydd data’n fwy amrywiol ar lefel byrddau iechyd.

Mae data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 28 Mai 2020 ar enedigaethau iach rhwng 2016 a 2019 wedi'i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae'r ffigurau diwygiedig rhwng 5 a 6 phwynt canran yn is nag a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo, ac maent yn effeithio ar bob bwrdd iechyd.

Tabl 18: Canran y genedigaethau byw a ystyrir yn iach, yn ôl bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2016 i 2020 (MS Excel)

Bwydo ar y fron

Cydnabyddir bod bwydo ar y fron yn hollbwysig i iechyd babanod a’u mamau.

Bwydo ar y fron yn ôl oedran y plentyn

Yr hyn mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn ei wneud yw cofnodi bwriad y fam i fwydo ar y fron, yn hytrach na chofnodi pa un a aeth y fam ati i fwydo ar y fron adeg yr enedigaeth mewn gwirionedd. Gan fod a wnelo’r dangosydd hwn â’r fam, mae’r data a gyflwynir yn cyfeirio at y 27,321 o esgoriadau (mamau a esgorodd) yn 2020.

Caiff data ynghylch bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth, yn ogystal â data ynghylch bwydo ar y fron pan fydd y babi’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed, ei gofnodi yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r data a gyflwynir yma’n cyfeirio at y cofnodion lle ceir unrhyw sôn am fwydo ar y fron. Mae hyn yn cynnwys babanod a fwydwyd yn gyfan gwbl ar laeth y fron a’r rhai a fwydwyd trwy gyfuniad o laeth y fron a llaeth potel.

Yn achos bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth, mae’r data a gyflwynir yma’n cyfeirio at y 28,781 o enedigaethau byw yn 2020. Yn achos bwydo ar y fron ar adegau eraill, mae’r data’n cyfeirio at y babanod yn cyrraedd yr oedran hwnnw yn 2020: 28,672 o fabanod yn cyrraedd 10 diwrnod, 28,872 o fabanod yn cyrraedd 6 wythnos, 29,319 yn cyrraedd 6 mis.

Image
Siart linell yn dangos y bwriad i fwydo ar y fron, a bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth, ac ar ôl 10 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis, rhwng 2001 a 2020.

Ar bob pwynt casglu data, mae’r cyfraddau blynyddol ar gyfer bwydo ar y fron ar eu huchaf erioed yn 2020.

Yn 2020, nododd o leiaf 17,102 o famau eu bod yn bwriadu bwydo’u babanod ar y fron adeg yr enedigaeth. Dyma gyfradd o 63.9% o’r holl famau y gwyddys eu statws bwydo ar y fron, 1.1 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac 1.8 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Sylwer: yn 2020, roedd gan 97.9% o’r cofnodion ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2020, bwydwyd o leiaf 16,940 o fabanod ar y fron adeg yr enedigaeth. Dyma gyfradd o 63.5% o’r holl famau y gwyddys eu statws bwydo ar y fron, 1.6 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 2.6 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Sylwer: yn 2020, roedd gan 92.7% o’r cofnodion ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2020, bwydwyd o leiaf 13,167 o fabanod ar y fron pan oeddynt yn 10 diwrnod oed. Dyma gyfradd o 51.7% o’r holl famau y gwyddys eu statws bwydo ar y fron, 2.7 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 6.1 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Sylwer: yn 2020, roedd gan 88.8% o’r cofnodion ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2020, bwydwyd o leiaf 7,685 o fabanod ar y fron pan oeddynt yn 6 wythnos oed. Dyma gyfradd o 37.4% o’r holl famau y gwyddys eu statws bwydo ar y fron, 3.0 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 3.6 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Sylwer: yn 2020, roedd gan 71.2% o’r cofnodion ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Yn 2020, bwydwyd o leiaf 4,968 o fabanod ar y fron pan oeddynt yn 6 mis oed. Dyma gyfradd o 25.3% o’r holl famau y gwyddys eu statws bwydo ar y fron, 2.8 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn flaenorol a 5.8 pwynt canran yn uwch nag yn 2016. Sylwer: yn 2020, roedd gan 67.0% o’r cofnodion ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata hon.

Sylwer: mae problemau’n ymwneud ag ansawdd data yn berthnasol i ddata bwydo ar y fron ar yr holl adegau dan sylw, gan nad yw pob un o’r cofnodion yn gyflawn. Caiff data blynyddol a chwarterol ynghylch bwydo ar y fron, gyda chanrannau’n nodi cyflawnrwydd y data, eu cyhoeddi ar StatsCymru, yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Caiff data ynghylch bwydo ar y fron ei gasglu yn ystod yr apwyntiadau a fydd gan y plant gydag ymwelwyr iechyd neu feddygon teulu, a hynny trwy Raglen Plant Iach Cymru. Pe na bai’r plentyn yn cael cyswllt o’r fath, bydd data ynghylch bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw.

Bwydo ar y fron ac esgoredd

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cofnodi sawl gwaith mae mamau wedi rhoi genedigaeth o’r blaen (esgoredd). Gellir dadansoddi’r wybodaeth hon gyda bwriad y mamau i fwydo ar y fron.

Image
Roedd y bwriad i fwydo ar y fron yn uwch ymhlith mamau am-y-tro-cyntaf nag ymhlith mamau a oedd wedi rhoi genedigaeth o'r blaen.

Dengys Siart 28 fod canran uwch o famau am-y-tro-cyntaf yn bwriadu bwydo’u babanod ar y fron o gymharu â mamau sydd wedi rhoi genedigaeth fwy nag unwaith. Yn 2020, roedd 69% o famau am-y-tro-cyntaf (heb esgor) yn bwriadu bwydo ar y fron, roedd 64% o famau a oedd wedi rhoi genedigaeth unwaith o’r blaen (cyntafesgorol) yn bwriadu bwydo ar y fron, ac roedd 54% o famau a oedd wedi rhoi genedigaeth fwy nag unwaith (amlesgorol) yn bwriadu bwydo ar y fron. Ychydig o newid a welir yn y categorïau hyn dros y pum mlynedd diwethaf.

Tabl 19: Canran y menywod sy'n bwriadu bwydo ar y fron, yn ôl esgoredd a'r bwrdd iechyd sy'n darparu'r gwasanaeth, 2020 (MS Excel)

Bwydo ar y fron ac oedran y fam

Image
Yn y rhan fwyaf o grwpiau oedran, mae canran y mamau a fwydodd eu babanod ar y fron adeg yr enedigaeth wedi cynyddu rhwng 2016 a 2020.

Roedd babanod a chanddynt famau hŷn yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na babanod a chanddynt famau iau. Yn 2020, wrth ystyried grwpiau oedran lle digwyddodd mwy na 100 o enedigaethau yn unig, roedd y gyfradd uchaf mewn perthynas â bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth i’w gweld yn y grŵp oedran ‘40-44 oed’, lle bwydwyd 72% o fabanod ar y fron o blith y rhai y gwyddys eu statws bwydo ar y fron. Roedd y gyfradd isaf i’w gweld yn y grŵp oedran 16-19 oed, lle bwydwyd 37% o fabanod ar y fron o blith y rhai y gwyddys eu statws bwydo ar y fron.

Tabl 20: Bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth yn ôl grwp oedran y fam, 2011 i 2020 (MS Excel)

Bwydo ar y fron a lleoliad yr enedigaeth

Image
Ar lefel Cymru, roedd babanod a anwyd yn y cartref yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth o gymharu â babanod a anwyd mewn ysbytai, ond mae canran y ddau wedi cynyddu dros y deg mlynedd.

O blith y cofnodion lle caiff lleoliad yr enedigaeth ei nodi, roedd babanod a anwyd yn y cartref yn fwy tebygol o gael eu bwydo ar y fron na babanod a anwyd mewn ysbytai.

Yn 2020, ganwyd 943 o fabanod yn y cartref a chafodd 76% ohonynt eu bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth. Ganwyd 27,682 o fabanod mewn ysbytai a chafodd 63% ohonynt eu bwydo ar y fron adeg yr enedigaeth.

Sylwer: yn 2020, cofnodwyd bod 60 o fabanod wedi’u geni ‘yn ystod taith’. Ni chofnodwyd lleoliad yr enedigaeth mewn 96 o achosion.

Tabl 21: Bwydo ar y fron ar adeg yr enedigaeth yn ôl man geni, 2011 i 2020 (MS Excel)

Ansawdd a methodoleg yr wybodaeth

Cyhoeddir y ffynhonnell swyddogol ar gyfer nifer y genedigaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n cyfrif faint o enedigaethau a gofrestrir. Fodd bynnag, mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau genedigaethau trwy ddefnyddio data sydd wedi tarddu o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth (MI ds) a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD), sy’n darparu ar gyfer dadansoddiad manylach na data’r SYG. Bydd nifer y genedigaethau’n amrywio o ffynhonnell i ffynhonnell, oherwydd cânt eu casglu ar sail wahanol i’w gilydd; yn Siart 1 ceir cymhariaeth o nifer y genedigaethau a gaiff eu cyfrif ym mhob ffynhonnell a cheir mwy o wybodaeth am y ffynonellau data yn yr adroddiad ansawdd.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni’r plentyn â chofnod o asesiad cychwynnol y fam (pan fo modd). Ystadegau arbrofol yw’r holl ystadegau sy’n deillio o’r ffynhonnell hon, oherwydd mae’r set ddata’n dal i fod yn gymharol newydd ac ni chofnodir canran uchel o ddata dilys ar gyfer pob un o’r eitemau data.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion dienw ar gyfer yr holl blant a anwyd yng Nghymru, yr holl blant sy’n byw yng Nghymru neu’r holl blant sydd wedi’u trin yng Nghymru ac a anwyd ar ôl 1987. Mae’r set ddata’n cyfuno data a gynhwysir yng nghronfeydd data’r System Iechyd Plant Cymunedol leol a gedwir gan fyrddau iechyd lleol ac a ddefnyddir ganddynt i weinyddu rhaglenni imiwneiddio a rhaglenni arolygu iechyd plant. Mae’r ffynhonnell data hon wedi hen ennill ei phlwyf ac mae ganddi ddata hynod gyflawn, ac mae ystadegau sy’n seiliedig ar y ffynhonnell hon yn ystadegau swyddogol.

Mae canran y cofnodion dilys ar gyfer pob eitem ddata a ddefnyddir yn y datganiad hwn o'r ddwy ffynhonnell, a rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn, ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Mae data a gyhoeddwyd yn flaenorol ar 28 Mai 2020 ar enedigaethau iach rhwng 2016 a 2019 wedi'i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae'r ffigurau diwygiedig rhwng 5 a 6 phwynt canran yn is nag a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd camgymeriad wrth gyfrifo, ac maent yn effeithio ar bob bwrdd iechyd.

Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant ar gyfer Cymru – sef Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, gydnerth, iachach, sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu rhoi ar waith i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cyflwynwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol, sef Canran y genedigaethau unigol byw â phwysau geni dan 2.5kg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymhellach, gall yr ystadegau yn y datganiad hwn gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
Rhif ffôn: 0300 025 1646
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 141/2021

Image
National statistics