Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau o gofnodion cynenedigol, genedigaethau a iechyd plant, gan gynnwys ysmygu yn ystod beichiogrwydd, bwydo ar y fron a phwysau geni plant a anwyd yng Nghymru yn 2018.

Prif bwyntiau

  • Roedd 31,329 o enedigaethau byw yng Nghymru.
  • Roedd 3.8% o enedigaethau byw i famau o dan 20 oed, sef y ganran isaf ar gofnod.
  • Cafodd o leiaf 73.1% o fenywod eu hasesiad cyn-geni cychwynnol cyn diwedd eu 10 fed wythnos o feichiogrwydd.
  • Cofnodwyd bod gan 24.1% o fenywod gyflwr iechyd meddwl yn eu hasesiad cychwynnol.
  • Roedd 28.0% o fenywod yn ordew (BMI 30 +) yn eu hasesiad cychwynnol.
  • Cofnodwyd 17.9% o fenywod fel ysmygwr yn ystod yr asesiad cychwynnol; Ni chofnodwyd 17.3% o'r rhain fel ysmygwyr ar adeg geni.
  • Dechreuodd 50.4% o esgorau yn naturiol tra bod 33.5% yn cael eu cymell.
  • Cafwyd 27.9% o enedigaethau drwy doriad Cesaraidd, yr oedd ychydig o dan hanner yn ddewisol ac ychydig dros hanner yn achosion brys.
  • Roedd gan 5.6% o enedigaethau unigol bwysau geni isel, yr un ganran ag yn 2017.
  • Bwydodd 61.6% o famau ar y fron ar adeg geni, yr uchaf erioed.

Adroddiadau

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau, 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.