Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am bersonél, cydraddoldeb ac amrywiaeth , iechyd a diogelwch, gweithgareddau gweithredol ac ymweliadau diogelwch tân ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae’r dadansoddiadau yn cwmpasu cyfnod yn bennaf cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19), a’r mesurau cyfyngiadau a gyflwynwyd ar 23 Mawrth 2020.

Gweithwyr yr awdurdodau tân ac achub

  • Roedd 2,147 o staff cyfwerth ag amser llawn a 1,332 o staff system ar ddyletswydd yn ôl galw wedi’u cyflogi ar draws ardaloedd y tri Awdurdod Tân ac Achub Cymru ar 31 Mawrth 2020 o gymharu â 2,096 o staff amser llawn a 1,331 o staff wrth gefn ar 31 Mawrth 2019.
  • O’r 2,147 staff cyfwerth ag amser llawn, roedd dros ddwy ran o dair (1,452) yn ddiffoddwyr tân amser cyflawn, cyfran debyg i flynyddoedd cynharach.

Iechyd a diogelwch

  • Yn ystod 2019-20, collwyd 9.2 sifft/diwrnod y pen oherwydd salwch ar gyfer diffoddwyr tân amser cyflawn ac 24.3 sifft/diwrnod ar gyfer staff rheoli tân.
  • Cafodd diffoddwyr tân amser cyflawn (gan gynnwys criwiau dydd) a diffoddwyr tân wrth gefn 101 o anafiadau yn ystod gweithgareddau gweithredol a hyfforddiant.

Gweithgareddau gweithredol

  • Yn ystod 2019-20 deliodd staff rheoli tân gyda dros 70,000 o alwadau yng Nghymru, gostyngiad o 10% ar 2018‑19.

Diogelwch tân

  • Yn ystod 2019-20, cwblhaodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru 3,250 archwiliad diogelwch tân yn adeiladau annomestig. Roedd hyn yn cynrychioli 4% o adeiladau o’r fath yng Nghymru.

Diogelwch tân cymunedol

  • Yn ystod 2019-20, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru bron i 48,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref, mewn 90% o’r rhain, nodwyd bod o leiaf un aelod o’r aelwyd yn arddangos risg.
  • Yn ystod 2019-20, cwblhaodd yr Awdurdodau Tân ac Achub bron i 29,000 o wiriadau diogelwch tân yn y cartref a oedd hefyd yn cynnwys y cwblhad o weithgareddau atal nad yw’n gysylltiedig â thân. Gwnaeth dros 1,500 gael eu cyfeirio ymlaen gan yr Awdurdodau Tân ac Achub i sefydliad arall.
  • Derbyniodd dros 87,000 o blant a phobl ifanc sgwrs tân a diogelwch yn yr ysgol gan yr Awdurdodau Tân ac Achub yn ystod 2019-20.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.