Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad blynyddol newydd hwn yn disodli rhan gofal llygaid y datganiad ystadegol blaenorol ar iechyd synhwyraidd, a gyhoeddwyd bob dwy flynedd.

Mae’r adroddiad yn crynhoi ystadegau ar wasanaethau gofal llygaid sylfaenol gan gynnwys y Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol a gwasanaethau gofal llygaid wedi’u targedu yng Nghymru fel Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru. Mae ystadegau cryno hefyd wedi’u cynnwys ar rai gwasanaethau gofal llygaid eilaidd gan gynnwys apwyntiadau cleifion allanol a derbyniadau i’r ysbyty, yn ogystal ag ystadegau ar y gweithlu gofal sylfaenol ac eilaidd.

Mae’r ystadegau hyn yn helpu i fonitro darpariaeth gwasanaethau gofal llygaid ac yn darparu tystiolaeth ar gyfer datblygu a gwerthuso polisi gofal llygaid.

Mae ystadegau newydd a gyflwynir yn y datganiad yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael, a allai fod yn ddata o 2021-22 neu 2022-23 yn dibynnu ar y ffynhonnell.

Mae gwybodaeth gefndir ar gael yn yr adroddiad ansawdd a chyhoeddir yr holl ddata ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

Yn dilyn gostyngiad sydyn mewn gweithgarwch tra roedd pandemig COVID-19 ar ei waethaf yn 2020-21, cafodd gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol eu hadfer yn 2021-22 ac yn fras, dychwelodd gweithgarwch i’r lefel cyn y pandemig yn 2022-23.

Mae nifer yr optometryddion gofal sylfaenol yn parhau i gynyddu ac mae’n uwch nag a fu erioed.

Mae’r pandemig wedi cael effaith fwy hirdymor ar wasanaethau gofal llygaid eilaidd. Er y gorfodwyd gwasanaethau i leihau eu gweithgarwch yn 2020-21, arhosodd nifer mwy na’r arfer o lwybrau cleifion ar agor, sydd felly wedi arwain at fwy o gleifion yn aros yn hirach am driniaethau.

Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg i gleifion allanol wedi dychwelyd i lefel debyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig, tra bod nifer y llwybrau cleifion a gaewyd yn ystod y flwyddyn wedi cynyddu, ond mae’n parhau i fod yn is na’r lefel cyn y pandemig.

Cynyddodd nifer y meddygon offthalmoleg gofal eilaidd ychydig yn 2022-23, ond mae’n parhau i fod ar lefel debyg i’r pum mlynedd flaenorol.

Gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol

Gwasanaeth offthalmig cyffredinol: profion llygaid a thalebau optegol

Mae’r GIG yn argymell bod pawb yn cael prawf llygaid gydag optometrydd o leiaf unwaith bob dwy flynedd, er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o golli’r golwg heb fod angen. Mae llawer o bobl yn gymwys i gael prawf llygaid Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol y GIG am ddim.

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 321 o bractisau optometreg yn darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Ffigur 1: Nifer y profion llygaid y telir amdanynt gan y GIG, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy’n dangos bod nifer y profion llygaid wedi bod ar gynnydd bach tan 2019-20 pan ostyngodd y nifer oherwydd pandemig COVID-19. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaraf, mae nifer y profion llygaid wedi dychwelyd yn fras i’r nifer cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Nifer y profion llygaid y telir amdanynt gan y GIG (StatsCymru)

Yn 2022-23, cynyddodd nifer y profion llygaid y telir amdanynt gan y GIG i ychydig o dan 790,000 (789,252), sef cynnydd o 4.2% o’i gymharu â 2021-22. Cofiwch, am resymau clinigol, efallai y bydd pobl yn cael mwy nag un prawf llygaid y flwyddyn. Mae data profion llygaid yn ôl cymhwysedd y claf ar gael ar wefan StatsCymru.

Profion llygaid yn y cartref

Mae’r rhan fwyaf o’r profion llygaid y telir amdanynt gan y GIG yn cael eu cynnal mewn practisau gofal sylfaenol, er bod cyfran fechan yn cael eu cynnal mewn lleoliadau eraill fel cartrefi pobl a chartrefi preswyl.

Yn 2022-23, talodd y GIG am ychydig dros 23,000 (23,424) o brofion llygaid yn y cartref. O’r rhain, talwyd 83.2% ohonynt ar y gyfradd uwch (pan fo’r claf yn gyntaf neu’n ail i gael ei weld mewn cyfeiriad) ac 16.8% ar y gyfradd is (y gyfradd ar gyfer y trydydd claf a’r cleifion ar ôl hynny i gael eu trin yn yr un cyfeiriad).

Cynyddodd nifer y profion llygaid yn y cartref 11.2% o’i gymharu â 2021-22, pan dalodd y GIG am ychydig dros 21,000 (21,057) o brofion. Fodd bynnag, mae’r nifer 17.6% yn is nag yn 2019-20, sef y flwyddyn olaf nad effeithiodd y pandemig yn fawr arni.

Mae data cyfres amser ar gyfer profion llygaid yn y cartref ar gael ar wefan StatsCymru.

Talebau optegol y GIG a broseswyd

Yn 2022-23, cafodd ychydig yn llai na 270,000 (269,940) o dalebau optegol eu prosesu, sef 9.7% yn fwy nag yn 2021-22, pan broseswyd ychydig yn llai na 250,000 (246,043) o dalebau optegol. Mae’r nifer 5.4% yn is nag yn 2019-20, sef y flwyddyn olaf nad effeithiodd y pandemig yn fawr arni.

Mae data cyfres amser ar gyfer talebau optegol y GIG ar gael ar wefan StatsCymru.

Hawliadau am drwsio sbectol neu dalu am bâr newydd

Roedd ychydig dros 35,000 (35,231) o hawliadau am drwsio sbectol neu dalu am bâr newydd yn 2022-23, sef cynnydd o 10.1% ers 2021-22, pan wnaed ychydig yn llai na 32,000 (31,989) o hawliadau am drwsio sbectol neu dalu am bâr newydd. Mae’r nifer 3.6% yn is nag yn 2019-20, sef y flwyddyn olaf nad effeithiodd y pandemig yn fawr arni.

Mae data cyfres amser ar gyfer trwsio sbectol neu dalu am bâr newydd ar gael ar wefan StatsCymru.

Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru

Mae cynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn cynnig archwiliadau llygaid estynedig am ddim i grwpiau o’r boblogaeth sy’n wynebu mwy o risg o rai clefydau llygaid ac i’r rheini y gallai colli golwg fod yn arbennig o niweidiol iddynt.

Roedd 304 o bractisau optometreg yng Nghymru lle mae ymarferwyr wedi’u hachredu i ddarparu’r gwasanaeth (ar 31 Mawrth 2023).

I gael rhagor o fanylion am Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru, gan gynnwys y strwythur bandio, cymerwch gip ar yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 2: Nifer yr archwiliadau yr hawliwyd amdanynt dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn ôl band, 2015-16 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy’n dangos, ers i’r pandemig effeithio ar wasanaethau yn 2020-21, fod nifer yr archwiliadau ar gyfer pob band dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig neu ragori arnynt.

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Nifer yr archwiliadau yr hawliwyd amdanynt dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru (StatsCymru)

Roedd ychydig dros 210,000 (210,175) o archwiliadau yr hawliwyd amdanynt dan gynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn 2022-23, sef cynnydd o 20.4% ers 2021-22 a’r nifer uchaf erioed.

Roedd chwech o bob deg (59.8%) o’r archwiliadau ar gyfer apwyntiadau Band 1 (archwiliadau cychwynnol); roedd chwarter (24.4%) ar gyfer apwyntiadau Band 2 (archwiliadau ychwanegol); ac roedd 15.7% ar gyfer apwyntiadau Band 3 (archwiliadau dilynol).

Mae rhagor o ddadansoddiadau, gan gynnwys yn ôl band oedran a symptom penodol, ar gael ar wefan StatsCymru.

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

Darperir Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru i bob person cymwys 12 oed a hŷn sydd â diabetes ac sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio unedau sgrinio symudol, sy’n ymweld ag ardaloedd byrddau iechyd amrywiol.

Ffigur 3: Nifer y cleifion gweithredol cymwys yng Nghymru, 2013-14 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy’n dangos bod nifer y cleifion gweithredol cymwys yng Nghymru wedi bod ar gynnydd yn y tymor hwy ond bod y nifer wedi aros yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru

Crynodeb o ystadegau allweddol ar gyfer Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (StatsCymru)

Ar gyfer 2021-22 y mae’r data diweddaraf ar gael ac maent yn dangos bod ychydig o dan 180,000 (179,804) o gleifion yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth, sef gostyngiad bach o 1.6% ers 2020-21.

O’r 179,804 o gleifion cymwys yn 2021-22, roedd ychydig dros 12,500 (7.0%) yn gofrestriadau newydd.

O’r 47,410 o ganlyniadau a gofnodwyd o’r profion sgrinio yn ystod y flwyddyn, canfuwyd bod gan 38.5% rywfaint o retinopathi diabetig. Mae hyn yn cynnwys 9.6% o gleifion a oedd â retinopathi a allai fygwth eu golwg ac 1.1% o gleifion a oedd â retinopathi difrifol.

Mae rhagor o ddadansoddiadau, gan gynnwys yn ôl band oedran a rhywedd, ar gael ar wefan StatsCymru.

Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

Nod Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru yw helpu pobl ag amhariad ar eu golwg i aros yn annibynnol drwy ddarparu cymhorthion golwg gwan iddyn nhw fel chwyddwydrau, a thrwy ddarparu addysg, atgyfeiriadau a hyfforddiant adsefydlu.

Mae ‘golwg gwan’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio problem golwg nad oes modd ei chywiro drwy wisgo sbectol, lensys cyffwrdd neu drwy driniaeth feddygol. Daw atgyfeiriadau gan amrywiaeth o ymarferwyr iechyd a chan unigolion eu hunain.

Ffigur 4: Nifer yr Asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru, 2014-15 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy’n dangos bod nifer yr asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru wedi amrywio dros amser ond bod y nifer wedi cynyddu ers 2020-21.

Ffynhonnell: Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

Asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru (StatsCymru)

Cynhaliodd Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru ychydig dros 8,000 (8,096) o asesiadau yn 2022-23, sef cynnydd o 2.9% ers 2021-22.

Mae ystadegau am asesiadau yn ôl grŵp oedran, cyflwr a gofnodwyd, ethnigrwydd a nodweddion eraill ar gael ar wefan StatsCymru, yn ogystal ag ystadegau sy’n ymwneud â chraffter golwg a gofnodwyd mewn asesiadau ac atgyfeiriadau.

Ffigur 5: Nifer yr Asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru yn ôl grŵp oedran cleifion, 2014-15 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell sy’n dangos bod Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru wedi cynnal y gyfran uchaf o asesiadau ar gyfer cleifion 80 oed neu hŷn. Mae hyn dros ddwbl y gyfran ar gyfer y grŵp oedran 60-79.

Ffynhonnell: Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru

Asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru yn ôl blwyddyn a grŵp oedran (StatsCymru)

Yn 2022-23, roedd dwy ran o dair (66.4%) o’r holl asesiadau gan Wasanaeth Golwg Gwan Cymru ar gyfer cleifion 80 oed neu hŷn; roedd ychydig dros chwarter (26.2%) ar gyfer cleifion rhwng 60 a 79 oed; roedd un o bob pymtheg (6.6%) ar gyfer cleifion rhwng 19 a 59 oed; ac roedd llai nag un o bob cant (0.8%) o gleifion yn 18 oed neu’n iau.

Yn 2022-23, gwnaed mwy o asesiadau ar gyfer cleifion ym mhob grŵp oedran, ar wahân i’r rheini yn y grŵp oedran 80 oed neu hŷn, o’i gymharu â 2021-22.

Mae data ychwanegol ar StatsCymru yn dangos bod ychydig dros bedwar o bob deg (42.5%) o asesiadau ar gyfer cleifion sy’n byw ar eu pennau eu hunain, tra bod ychydig dros draean (37.8%) ar gyfer cleifion a gafodd asesiadau yn eu cartrefi eu hunain.

Roedd dwy ran o dair (66.2%) o asesiadau ar gyfer cleifion benywaidd.

Amhariad ar y golwg

Tystysgrifau Amhariad ar y Golwg

Defnyddir y Dystysgrif Amhariad ar y Golwg i gofnodi bod gan gleifion amhariad difrifol ar eu golwg neu amhariad ar eu golwg. Gyda chaniatâd y claf a phan gaiff ei llofnodi gan offthalmolegydd ymgynghorol, y dystysgrif hon yw’r hysbysiad ffurfiol a roddir i awdurdodau lleol er mwyn iddynt asesu anghenion yr unigolyn am wasanaethau a’i gofrestru fel rhywun sydd ag amhariad ar ei olwg neu amhariad difrifol ar ei olwg.

Ffigur 6: Nifer y Tystysgrifau Amhariad ar y Golwg a roddwyd ledled Cymru yn ôl band oedran, 2013-14 i 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy’n dangos bod nifer y tystysgrifau amhariad ar y golwg a roddwyd ledled Cymru wedi bod ar gynnydd yn y tymor hwy. Achosodd y pandemig ostyngiad mawr yn 2020-21, ond cynyddodd y nifer yn sydyn yn 2021-22 i nifer tebyg i’r hyn a welwyd cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Ysbyty Llygaid Moorfields

Nifer y Tystysgrifau Amhariad ar y Golwg a roddwyd ledled Cymru yn ôl band oedran a blwyddyn ariannol (StatsCymru)

Yn 2021-22, rhoddwyd 1,563 o dystysgrifau newydd. O’r rhain, roedd bron i chwech o bob deg (57.0%) ar gyfer cleifion 80 oed a hŷn; roedd chwarter (25.2%) ar gyfer cleifion rhwng 60 a 79 oed; roedd un o bob deg (11.2%) ar gyfer cleifion rhwng 20 a 59 oed; ac roedd un o bob pymtheg (6.6%) ar gyfer cleifion 19 oed neu iau.

Yn 2021-22, cynyddodd cyfanswm y tystysgrifau bron i hanner (49.1%) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (a effeithiwyd gan y pandemig). Cynyddodd nifer y tystysgrifau a roddwyd ar gyfer pob grŵp oedran, yn fwyaf nodedig yn y grŵp oedran 19 neu iau, lle gwnaeth nifer y tystysgrifau fwy na dyblu (cynnydd o 119.1%).

Cyhoeddir data ychwanegol gan gynnwys achos yr amhariad ar y golwg a grwpiau ethnig ar StatsCymru.

Cofrestrau o bobl ag amhariad difrifol ar eu golwg a phobl ag amhariad ar eu golwg

Tan 2022, roedd awdurdodau lleol yn cynnal cofrestrau gwirfoddol o bobl ag amhariad ar eu golwg yn eu hardal, ar ôl i offthalmolegydd ymgynghorol ardystio’r amhariad ar y golwg. Mae’r trefniant casglu data hwn bellach wedi dod i ben ac mae opsiynau eraill ar gyfer casglu’r data hyn yn cael eu hystyried.

Ffigur 7: Nifer y bobl sydd wedi’u cofrestru ag amhariad ar eu golwg yng Nghymru ar 31 Mawrth, 2018 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far sy’n dangos bod nifer y bobl ag amhariad ar eu golwg sy’n cael eu cofrestru gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gostwng. Ym mhob blwyddyn, roedd bron i hanner y bobl ar y gofrestr wedi’u cofrestru ag amhariad difrifol ar eu golwg.

Ffynhonnell: Cofrestrau anabledd awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Ni chasglwyd unrhyw ddata yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19.

Unigolion sy'n anabl yn synhwyraidd yn ôl awdurdod lleol, anabledd ac ystod oedran (StatsCymru)

Mae ystadegau yn yr adran hon yn seiliedig ar y datganiad ystadegol Cofrestrau awdurdodau lleol o bobl anabl, sy’n darparu gwybodaeth ansawdd ychwanegol.

Ar 31 Mawrth 2022, roedd ychydig yn llai nag 11,000 (10,763) o bobl wedi’u cofrestru ag amhariad ar eu golwg. O’r rhain, roedd 49.5% ohonynt wedi’u cofrestru ag amhariad ar eu golwg ac roedd 50.5% wedi’u cofrestru ag amhariad difrifol ar eu golwg.

Gwasanaeth Llygaid yr Ysby

Atgyfeiriadau

Mae ystadegau atgyfeiriadau’n cyfrif nifer yr atgyfeiriadau a gafodd byrddau iechyd lleol Cymru ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol gydag ymgynghorydd (ni waeth beth yw ardal breswyl y claf).

Ffigur 8: Nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiad offthalmoleg cyntaf claf allanol, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy’n dangos tuedd weddol gyson yng nghyfanswm yr atgyfeiriadau ers 2015-16 hyd nes gostyngiad sydyn yn 2020-21 a achoswyd gan y pandemig. Ers hynny, mae atgyfeiriadau wedi cynyddu i’w lefelau cyn y pandemig ac mae’r mwyafrif helaeth o’r atgyfeiriadau bellach gan ymarferwyr nad ydynt yn feddygon teulu.

Ffynhonnell: Set Ddata Atgyfeirio Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Atgyfeiriadau misol yn ôl bwrdd iechyd lleol (StatsCymru)

Mae Ffigur 8 yn seiliedig ar y data atgyfeiriadau a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin 2023 ar wefan StatsCymru. Mae’n bosibl y bydd y set ddata hon yn cael ei diwygio’n fisol, felly efallai na fydd y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cyfateb yn union i’r data ar wefan StatsCymru yn ystod y misoedd i ddod.

Yn 2022-23, cafodd ychydig yn llai na 110,000 (108,322) o atgyfeiriadau offthalmoleg eu gwneud ar gyfer apwyntiad cyntaf claf allanol, sef cynnydd o 7.1% ers 2021-22. Golyga hyn fod atgyfeiriadau wedi dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig.

Cafodd mwy nag wyth o bob deg (81.9%) o atgyfeiriadau eu gwneud gan bobl nad ydynt yn feddygon teulu yn 2022-23. Mae’r ganran hon wedi cynyddu bob blwyddyn ers i ddata gael eu casglu gyntaf ar y sail hon yn 2012-13.

Ym mis Hydref 2014, cyflwynwyd cod ffynhonnell atgyfeirio newydd i gofnodi atgyfeiriadau offthalmoleg sy’n dod yn uniongyrchol gan optometryddion gofal sylfaenol. Mae’r cynnydd mawr yn nifer yr atgyfeiriadau offthalmoleg nad ydynt gan feddygon teulu yn fuan ar ôl y dyddiad hwn yn debygol o fod yn sgil hyn. Mae angen nodi hyn wrth gymharu atgyfeiriadau offthalmoleg cyn y dyddiad hwn.

Amseroedd aros (rhwng atgyfeirio a thriniaeth)

Y llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth yw’r amser y bydd claf yn aros rhwng cael atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall a dechrau’r driniaeth.

Mae llwybrau agored yn cyfeirio at y llwybrau cleifion pan na fo’r claf wedi dechrau triniaeth eto ac mae ar y rhestr aros am driniaeth.

Mae llwybrau sydd wedi’u cau yn cyfeirio at y llwybrau cleifion pan fo’r claf wedi cael triniaeth neu wedi cael gwybod gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol nad oes angen triniaeth arno mwyach ac yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.

Mae’r ystadegau yn yr adran hon yn seiliedig ar lwybrau cleifion ac nid cleifion. Nid oes modd cymharu’r niferoedd hyn gan y gallai’r un claf fod â sawl llwybr ar gyfer cyflyrau gwahanol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’w nodi mewn perthynas â gofal llygaid, gan y bydd atgyfeiriad ar gyfer pob cyflwr, ym mhob llygad. Er enghraifft, pe bai gan un claf ddau gyflwr yn effeithio ar y ddwy lygad, byddai pedwar llwybr gwahanol yn cael eu hagor.

Mae diffiniad llawn ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Mae dau darged Llywodraeth Cymru yn gysylltiedig ag amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, sef: dylai 95% o gleifion aros llai na 26 wythnos ar ôl cael eu hatgyfeirio; ac ni ddylai unrhyw gleifion aros mwy na 36 wythnos am driniaeth ar ôl cael eu hatgyfeirio.

Mae Ffigur 9 yn dangos nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar gyfer offthalmoleg yn ystod y deng mlynedd ariannol diwethaf, wedi’u grwpio yn ôl faint o amser yr arhosodd y claf rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

Ffigur 9: Nifer y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar gyfer offthalmoleg yn ôl grŵp o wythnosau a dreuliwyd yn aros, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy’n dangos bod gweithgarwch wedi bod yn cynyddu mewn gwasanaethau offthalmoleg gyda nifer y llwybrau cleifion a gaewyd ar gynnydd cyn y pandemig. Achosodd y pandemig ostyngiad mawr yn nifer y llwybrau a gaewyd yn 2020-21. Er bod gweithgarwch wedi cynyddu’n sydyn ers hynny, mae’n parhau i fod yn is na’r lefel cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion ar gau yn ôl mis, y bwrdd iechyd lleol a'r wythnosau aros (StatsCymru)

[Nodyn 1] Er bod data ar amseroedd aros ar gyfer llwybrau sydd wedi’u cau o ansawdd digonol i’w cyhoeddi, nid ydynt yn ddarostyngedig i’r un lefel o ddilysu â llwybrau agored. O ganlyniad, mae data ar lwybrau sydd wedi’u cau yn rhoi syniad o ba mor hir yr arhosodd cleifion cyn i’w llwybr gael ei gau, tra bod data ar lwybrau agored yn rhoi trosolwg mwy pendant o amseroedd aros yn y cyfnod cyfeirio.

Mae Ffigur 9 yn seiliedig ar ddata’r amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin 2023 ar wefan StatsCymru. Mae’n bosibl y bydd y set ddata hon yn cael ei diwygio’n fisol, felly efallai na fydd y data yn y datganiad ystadegol hwn yn cyfateb yn union i’r data ar StatsCymru yn y misoedd i ddod.

Caeodd ychydig dros 100,000 (104,031) o lwybrau cleifion offthalmoleg yn 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o 21.3% ers 2021-22, ond mae’n parhau 10.0% yn is nag yn 2019-20, sef y flwyddyn olaf nad effeithiodd y pandemig yn fawr arni.

Arhosodd y mwyafrif o’r llwybrau cleifion (53.4%) lai na 26 wythnos i’w llwybr gael ei gau yn 2022-23. Fodd bynnag, mae nifer a chanran y llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar ôl mwy na 36 wythnos wedi cynyddu’n sylweddol ers y pandemig, gyda phedwar o bob deg (40.3%) o lwybrau yn cau ar ôl 36 wythnos yn 2022-23.

Roedd y perfformiad yn erbyn y targed o 26 wythnos yn gymharol sefydlog yn ystod y pum mlynedd cyn y pandemig, pan gaewyd bron i ddwy ran o dair o’r llwybrau cyn 26 wythnos. Ers y pandemig, mae perfformiad wedi dirywio ac roedd canran y llwybrau cleifion a gaewyd cyn 26 wythnos 11.6 pwynt canran yn is yn 2022-23 o’i gymharu â 2019-20.

Roedd y perfformiad yn erbyn y targed o 36 wythnos wedi bod yn gwella’n fras yn y blynyddoedd cyn y pandemig, gydag ychydig yn llai nag 16,000 (15,708) o lwybrau cleifion wedi’u cau ar ôl 36 wythnos yn 2019-20. Ers y pandemig, mae perfformiad yn erbyn y targed o 36 wythnos hefyd wedi dirywio ac roedd ychydig yn llai na 42,000 (41,892) o lwybrau wedi’u cau ar ôl 36 wythnos yn 2022-23.

Ffigur 10: Nifer y llwybrau cleifion agored ar gyfer offthalmoleg yn ôl grŵp o wythnosau a dreuliwyd yn aros, mis Ebrill 2013 i fis Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy’n dangos bod nifer y llwybrau agored ar gyfer offthalmoleg wedi cynyddu ers mis Ebrill 2013, gyda chynnydd amlwg ar ôl y pandemig. Cyn y pandemig, roedd y mwyafrif helaeth o’r llwybrau agored wedi bod ar agor am lai na 26 wythnos, ond ers y pandemig mae mwy o lwybrau wedi bod ar agor am fwy na 26 wythnos.

Ffynhonnell: Amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl misoedd, wythnosau wedi'u grwpio a gweithrediad y driniaeth (StatsCymru)

[Nodyn 1] Mae data ar lwybrau agored yn cael eu casglu ar un pwynt mewn amser bob mis.

Yn 2022-23, roedd nifer y llwybrau cleifion agored ar gyfer offthalmoleg yn amrywio rhwng 84,600 ac 89,700 y mis.

Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Mawrth 2023, roedd ychydig o dan 87,000 (86,910) o lwybrau cleifion agored ar gyfer offthalmoleg. Mae hyn yn gynnydd o 3.9% ers mis Mawrth 2022, ac yn gynnydd o 74.8% ers y mis cymharol olaf nad effeithiodd y pandemig yn fawr arno (mis Mawrth 2020).

Mae cyfran y llwybrau cleifion pan fo cleifion yn aros yn hirach am driniaeth wedi cynyddu’n sylweddol ers y pandemig. Ym mis Mawrth 2023, roedd 40.0% o lwybrau gyda chleifion yn aros dros 36 wythnos o’i gymharu â 9.2% ym mis Mawrth 2020.

Roedd nifer y llwybrau pan fo’r claf yn aros llai na 26 wythnos yn uwch ym mis Mawrth 2023 o’i gymharu â mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, gan fod cyfanswm y llwybrau wedi cynyddu, mae canran y llwybrau pan fo’r claf wedi aros llai na 26 wythnos wedi gostwng o 74.5% ym mis Mawrth 2020 i 47.9% ym mis Mawrth 2023.

Cleifion allanol

Mae presenoldeb claf allanol yn golygu claf sy’n mynd i’r ysbyty i gael triniaeth neu ymgynghoriad gyda naill ai ymgynghorydd neu nyrs arbenigol, heb aros yno dros nos. Nid yw apwyntiadau gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a thelefeddygaeth yn cael eu cofnodi.

Ffigur 11: Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol (newydd a dilynol) ar gyfer offthalmoleg, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy’n bod dangos nifer yr apwyntiadau dilynol yn fwy na dwbl nifer yr apwyntiadau newydd dros y gyfres amser. Cyn y pandemig, roedd apwyntiadau dilynol wedi gostwng fymryn tra roedd apwyntiadau newydd wedi aros yn weddol debyg.

Ffynhonnell: Set Ddata Cleifion Allanol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer yr apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer offthalmoleg (StatsCymru)

Yn 2022-23, roedd mwy na 300,000 (304,206) yn bresennol ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer offthalmoleg yn ysbytai Cymru, sef cynnydd o 12.5% ers y flwyddyn flaenorol. Mae gweithgarwch cleifion allanol wedi bron â dychwelyd i’w lefel cyn y pandemig, gyda nifer yr apwyntiadau 3.2% yn is nag yn 2019-20.

Roedd ychydig yn llai na 90,000 (88,156) o apwyntiadau newydd ac roedd ychydig yn llai na 220,000 (216,050) o apwyntiadau dilynol.

Nid yw’r ystadegau cleifion allanol yn y datganiad hwn yn cyfateb i’r data a gyhoeddir ar StatsCymru, gan fod y data a gyflwynir yma yn cael eu cynhyrchu ar sail y gofrestr meddygon teulu yng Nghymru, tra bod data StatsCymru yn seiliedig ar ddarparwyr ysbytai yng Nghymru. Mae’r data yn y datganiad hwn yn cynnwys apwyntiadau ar gyfer yr holl gleifion sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru, y bydd rhai ohonynt yn byw yn Lloegr ac yn cael apwyntiadau gofal eilaidd yn Lloegr. Mae data StatsCymru yn seiliedig ar apwyntiadau a ddigwyddodd ar safleoedd ysbytai yng Nghymru, waeth ble mae’r claf yn byw neu ble mae ei feddyg teulu wedi’i leoli. Mae’n eithrio apwyntiadau i drigolion o Gymru a oedd ag apwyntiadau mewn ysbytai yn Lloegr.

Derbyniadau i’r ysbyty

Caiff cleifion eu diffinio fel cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty os ydynt yn aros am o leiaf un noson (cleifion mewnol), neu os cânt eu derbyn yn ddewisol ar gyfer triniaeth neu ofal nad oes angen aros dros nos yn yr ysbyty ar eu cyfer (achosion dydd).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru.

Ffigur 12: Nifer y derbyniadau (cleifion mewnol ac achosion dydd) ar gyfer gofal llygaid yr ysbyty yng Nghymru yn ôl diagnosis sylfaenol, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell sy’n dangos mai cataract oedd y diagnosis sylfaenol mwyaf cyffredin ar gyfer derbyniadau gofal llygaid dros y deng mlynedd diwethaf. Gostyngodd derbyniadau ar gyfer dirywiad macwlaidd cysylltiedig ag oedran, glawcoma a retinopathi diabetig yn ystod y pandemig ond gan gyfran lawer is na derbyniadau cataract. Mae derbyniadau cataract wedi cynyddu ers hynny ond yn parhau i fod yn is na’u lefel cyn y pandemig.

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Nifer y derbyniadau ar gyfer gofal llygaid yr ysbyty yng Nghymru (StatsCymru)

Cafwyd ychydig dros 16,500 (16,510) o dderbyniadau cataract yn 2022-23, sef cynnydd o 23.7% ers y flwyddyn flaenorol, ond gostyngiad o 18.3% ers y lefel cyn y pandemig (2019-20).

Roedd derbyniadau retinopathi diabetig wedi bod ar gynnydd bach yn y ddwy flynedd cyn y pandemig, ond cynyddodd yn sydyn yn 2022-23 i’r nifer uchaf erioed. Roedd ychydig yn llai na 1,000 (987) o dderbyniadau, sef cynnydd o 80.8% ers y flwyddyn flaenorol a bron i deirgwaith cymaint ag oedd yn 2019-20.

Gostyngodd derbyniadau ar gyfer diagnosisau sylfaenol eraill yn 2022-23 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd derbyniadau ar gyfer dirywiad macwlaidd cysylltiedig ag oedran 13.4% a gostyngodd derbyniadau ar gyfer glawcoma 15.1%.

Mesurau Gofal Llygaid

Mae data misol ar lwybrau cleifion agored a llwybrau cleifion sydd wedi’u cau ar gyfer mesurau gofal llygaid yn cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru ers mis Ebrill 2019. Mae’r data’n cynnwys nifer y cleifion sy’n aros am apwyntiad claf allanol a mesurau gwahanol ar gyfer pa mor hir yr arhosodd y claf neu y mae wedi bod yn aros.

Gellir categoreiddio claf yn Ffactor Risg Iechyd R1 os yw mewn perygl o niwed di-droi’n-ôl neu ganlyniad andwyol sylweddol os bydd ei ddyddiad targed yn cael ei fethu.

Ffigur 13: Nifer y llwybrau cleifion offthalmoleg, a aseswyd yn Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol a nifer yr apwyntiadau a fynychwyd, mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2023 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell cyfres amser sy’n dangos cynnydd yn nifer y llwybrau cleifion agored ar gyfer offthalmoleg a nifer yr apwyntiadau cleifion allanol a fynychwyd ers mis Ebrill 2020.

Ffynhonnell: Mesurau Canlyniadau Gofal Llygaid – Profforma Cyflwyno Misol, Llywodraeth Cymru

Cleifion sy'n aros am apwyntiadau offthalmoleg cleifion allanol (llyw.cymru)

[Nodyn 1] Mae data ar lwybrau agored yn cael eu casglu ar un pwynt mewn amser bob mis.

[Nodyn 2] Data ar apwyntiadau ar gael o fis Ebrill 2020 ymlaen.

Cynyddodd nifer y llwybrau agored lle aseswyd bod y claf yn Ffactor Risg Iechyd R1 yn 2022-23, gan gyrraedd uchafbwynt o ychydig dros 140,000 (140,110) ym mis Mawrth 2023, sef cynnydd o 6.2% ers mis Mawrth 2022.

Roedd gan bron bob un (99.9%) o’r llwybrau cleifion hyn ddyddiad targed wedi’i bennu.

Roedd bron i hanner (49.1%) o lwybrau cleifion, lle aseswyd bod y claf yn Ffactor Risg Iechyd R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed ym mis Mawrth 2023.

Ym mis Mawrth 2023, roedd bron i 24,000 (23,933) o apwyntiadau a fynychwyd lle aseswyd bod y claf yn Ffactor Risg Iechyd R1, sef cynnydd o 10.2% ers mis Mawrth 2022. Roedd gan y mwyafrif helaeth (84.3%) o’r rhain ddyddiad targed wedi’i bennu.

Mewn mwy na chwech o bob deg (61.4%) o apwyntiadau a fynychwyd, lle aseswyd bod y claf yn R1, roedd y claf wedi aros o fewn ei ddyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w ddyddiad targed ym mis Mawrth 2023.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r cyhoeddiad Mesurau Gofal Llygaid.

Gweithlu

Mae’r rhan fwyaf o’r ymarferwyr gofal llygaid yn gweithio ym maes gofal sylfaenol, mewn practisau optegwyr ac yn cael eu cyfrif gan ddefnyddio’r rhestr o berfformwyr. Gall y GIG gyflogi ymarferwyr offthalmig yn uniongyrchol, mewn ysbytai fel arfer a daw’r data hyn o’r Cofnod Staff Electronig.

Ffigur 14: Nifer (cyfrif pen) yr ymarferwyr offthalmig yn y gweithlu gofal sylfaenol, 2014 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 14: Siart linell sy’n dangos bod nifer yr ymarferwyr offthalmig wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2014 a 2019. Newidiodd y dull casglu data yn 2020, felly nid oes modd cymharu’r data ar ôl y pwynt hwn yn uniongyrchol, ond mae’r cynnydd bob blwyddyn wedi parhau.

Ffynhonnell: NHS England, System Ganolog Taliadau Offthalmig, Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG, Rhestr Offthalmig a Rhestr Offthalmig Atodol

[Nodyn 1] Nid oes data cyfwerth ag amser cyflawn ar gael.

[Nodyn 2] Mae data ar gyfer 2014 i 2019 yn cyfeirio at 31 Rhagfyr bob blwyddyn ac fe’u tynnwyd o’r system talu contractwyr gan NHS England. Mae data o 2020 ymlaen yn cyfeirio at 31 Mawrth ac fe’u cesglir o’r rhestr o berfformwyr gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae data o’r ddwy ffynhonnell yn cael eu casglu’n wahanol ac nid oes modd eu cymharu’n uniongyrchol – gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Nifer yr ymarferwyr offthalmig (StatsCymru)

Roedd 1,049 o ymarferwyr offthalmig ar y rhestr o berfformwyr ar 31 Mawrth 2023, sef cynnydd o 4.3% ers y flwyddyn flaenorol a’r nifer uchaf erioed.

Roedd bron i bob ymarferydd yn optometrydd (1,045), gyda 4 ymarferydd meddygol offthalmig wedi’u cofnodi yn 2023.

Mae data cyfres amser yn ôl optometryddion ac ymarferwyr meddygol offthalmig ar gael ar wefan StatsCymru.

Ffigur 15: Meddygon offthalmoleg a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, niferoedd cyfwerth ag amser llawn, 2013 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 15: Siart linell sy’n dangos bod nifer y meddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser llawn a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG wedi aros yn weddol gyson ers 2013, sef yn agos at 140 cyfwerth ag amser llawn.

Ffynhonnell: Cofnod Staff Electronig y GIG

Staff offthalmoleg a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG (niferoedd cyfwerth ag amser llawn) (StatsCymru)

Ar 30 Medi 2022, roedd 140 o feddygon offthalmoleg cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd bach (1.9%) ers y flwyddyn flaenorol.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Fel rhan o’r arolwg a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, gofynnwyd tri chwestiwn ar ofal llygaid. Crynhoir y canlyniadau fel a ganlyn:

1. Pa mor aml y caiff eich llygaid eu profi?

Dywedodd 33% o bobl eu bod wedi cael prawf llygaid o leiaf unwaith y flwyddyn, 34% bob dwy flynedd, 15% yn llai na phob dwy flynedd, a dywedodd 9% nad oeddent erioed wedi cael prawf llygaid.

2. Pwy fyddech chi’n gofyn iddyn nhw am help gyda phoen / cochni yn y llygad?

Dywedodd 49% o bobl y byddent yn gofyn i optometrydd/optegydd, 39% y byddent yn gofyn i feddyg teulu, 8% y byddent yn gofyn i fferyllydd, 3% y byddent yn gofyn i ffrindiau/teulu/cydweithwyr, 2% y byddent yn gofyn i ysbyty a dywedodd 2% y byddent yn gofyn i Galw Iechyd Cymru.

3. Pam nad ydych chi’n cael eich llygaid wedi’u profi yn amlach?

Dywedodd 80% o bobl nad oeddent wedi cael problemau llygaid, 8% nad ydynt wedi meddwl amdano neu heb gael nodyn i’w hatgoffa, 4% eu bod yn rhy brysur, 3% nad oedd apwyntiadau ar gael a dywedodd 2% nad ydynt yn teimlo’n ddiogel i fynd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyhoeddiad Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol

Mae llawer o bobl yn gymwys i gael prawf llygaid Gwasanaeth Offthalmig Cyffredinol y GIG am ddim, gan gynnwys:

  • pobl 60 oed a hŷn
  • plant dan 16 oed (neu dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn)
  • pobl â diabetes
  • pobl 40 oed a hŷn y mae gan aelod agos o’u teulu glawcoma
  • pobl sy’n gymwys i gael budd-daliadau penodol

Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru

Mae cynllun Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru yn cynnig archwiliadau llygaid estynedig am ddim i grwpiau o’r boblogaeth sy’n wynebu mwy o risg o rai clefydau llygaid ac i’r rheini y gallai colli golwg fod yn arbennig o niweidiol iddynt, gan gynnwys pobl sydd:

  • yn gweld ag un llygad yn unig
  • ag amhariad ar eu clyw neu sy’n ddwys-fyddar neu’n ddall
  • â retinitis pigmentosa
  • yn dod o grŵp ethnig Du (sy’n cynnwys Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig neu Ddu arall) neu Asiaidd (sy’n cynnwys Indiaidd/Pacistanaidd/Tsieineaidd/Bangladeshaidd/Asiaidd Prydeinig neu Asiaidd arall)
  • mewn perygl o gael clefyd llygaid oherwydd hanes teuluol
  • yn cael problemau gyda’r llygaid y mae angen rhoi sylw iddynt ar frys

Diffiniad o amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Mae’r ystadegau ar gyfer yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y datganiad hwn yn dangos data am yr amser aros a dreulir rhwng cael atgyfeiriad gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall a mynd i’r ysbyty am driniaeth yn y GIG yng Nghymru. Nid yw data am drigolion o Gymru sydd wedi cael eu trin neu sy’n aros am driniaeth y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y datganiad.

Yn ôl y diffiniad, bydd claf wedi cael ei drin neu bydd ei lwybr wedi’i gau ar ôl iddo gael ymgynghoriad ag arbenigwr mewn ysbyty a bernir nad oes angen triniaeth yn yr ysbyty arno neu pan fydd y driniaeth yn dechrau. Gallai hyn gynnwys:

  • cael ei dderbyn i’r ysbyty am lawdriniaeth neu driniaeth
  • dechrau triniaeth ond nad oes angen aros yn yr ysbyty (er enghraifft, meddyginiaeth)
  • dechrau gosod dyfais feddygol
  • dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf i weld a oes angen triniaeth bellach
  • os penderfynir nad oes angen triniaeth ar y claf neu ei fod wedi marw

‘Llwybrau cleifion’ sy’n cael eu cyfrif yn hytrach na chleifion, oherwydd gall yr un claf gael mwy nag un atgyfeiriad am driniaeth.

Y Gweithlu Optometreg

Mae’r ffigurau ar gyfer y gweithlu optometreg yn cyfeirio at y sefyllfa ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn ar gyfer 2019 a phob blwyddyn cyn hynny, ac maent yn cyfeirio at y sefyllfa ar 31 Mawrth 2020 a phob blwyddyn wedi hynny. Y rheswm dros hyn yw am eu bod yn dod o wahanol systemau.

Am y cyfnod hyd at 2019, daw ffigurau o gyhoeddiad NHS Digital (NHS England erbyn hyn) ac maen nhw’n adlewyrchu’r ymarferwyr sydd wedi’u hawdurdodi gan fyrddau iechyd lleol i gynnal profion llygaid a ariennir gan y GIG, yn seiliedig ar ddata sy’n deillio o’r System Ganolog Taliadau Offthalmig.

Rhoddwyd y gorau i gasglu data o’r ffynhonnell honno, felly ar gyfer 2020 ymlaen, mae data wedi dod o’r rhestr o berfformwyr (Rhestr Offthalmig a Rhestr Offthalmig Atodol), sy’n gofrestr o’r holl ymarferwyr offthalmig sy’n gallu ymarfer yng Nghymru, a gynhelir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG.

Oherwydd y newid yn y ffynhonnell data a’r cyfnod cyfeirio ar gyfer 2020 ymlaen, nid oes modd cymharu’r data ar gyfer 2020 ymlaen yn uniongyrchol â’r blynyddoedd blaenorol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau .

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw’r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau’n cael eu hadfer.

Dynodwyd yr ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru, sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig Thomas
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 59/2023

Image
Ystadegau Gwladol